
Ni chaiff Gwiriwr Allanol ei ddyrannu ichi ond os byddwn naill ai wedi cael y Ffurflen Hysbysu Sefydlu oddi wrth eich ysgol neu, os ydych yn cyflawni cyfnod sefydlu trwy waith cyflenwi, y Ffurflen Hysbysu Sefydlu fel Athro Cyflenwi Byrdymor.
Mae CGA yn gyfrifol am gadw cofnod canolog o’r holl ddyraniadau Gwirwyr Allanol. Ar ôl i Wiriwr Allanol gael ei ddyrannu, bydd ei enw i’w weld ar eich cofnod ymarferydd cofrestredig ar-lein.
Os ydych wedi’ch cyflogi mewn ysgol, bydd eich Gwiriwr Allanol yn cysylltu â’ch ysgol er mwyn trefnu amser cyfleus i gyfarfod â chi a’ch mentor sefydlu.
Os ydych yn cyflawni cyfnod sefydlu trwy waith cyflenwi byrdymor, bydd eich Gwiriwr Allanol yn cysylltu â chi’n uniongyrchol trwy e-bost. Os oes unrhyw newidiadau i’r cyfeiriad e-bost a roesoch ar y ffurflen hysbysu, dylech roi gwybod i’r tîm Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Dyraniadau Gwirwyr Allanol yn ôl Consortia Rhanbarthol
Awdurdod Lleol | Consortiwm | Dyrannu Gwirwyr Allanol |
---|---|---|
Ynys Môn | GwE | Ar ran y consortia, mae CGA yn dyrannu Gwirwyr Allanol i ANG yn unol â’r meini prawf paru y cytunwyd arnynt gyda’r consortiwm. Ar ôl iddo gael ei ddyrannu bydd ei enw i’w weld trwy eich mynediad ar-lein. |
Gwynedd | ||
Conwy | ||
Sir Ddinbych | ||
Sir y Fflint | ||
Wrecsam | ||
Powys | ERW | Ar ran y consortia, mae CGA yn dyrannu Gwirwyr Allanol i ANG yn unol â’r meini prawf paru y cytunwyd arnynt gyda’r consortiwm. Ar ôl iddo gael ei ddyrannu bydd ei enw i’w weld trwy eich mynediad ar-lein. |
Ceredigion | ||
Sir Penfro | ||
Sir Gâr | ||
Abertawe | ||
Castell-nedd Port Talbot | ||
Pen-y-bont ar Ogwr | Consortiwm Canolbarth y De (CCD) | Bydd CCD yn dyrannu Gwiriwr Allanol i gynorthwyo â rhoi cymorth ichi trwy eich rhaglen sefydlu. Bob wythnos mae CGA yn darparu rhestr i’r consortiwm o’r ANG y mae arnynt angen cymorth Gwiriwr Allanol. Ar ôl i Wiriwr Allanol gael ei ddyrannu bydd ei enw i’w weld trwy eich mynediad ar-lein. |
Bro Morgannwg | ||
Rhondda Cynon Taff | ||
Merthyr Tudful | ||
Caerdydd | ||
Caerffili | Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) | Bydd y GCA yn dyrannu Gwiriwr Allanol i gynorthwyo â rhoi cymorth ichi trwy eich rhaglen sefydlu. Bob wythnos mae CGA yn darparu rhestr i’r consortiwm o’r ANG y mae arnynt angen cymorth Gwiriwr Allanol. Ar ôl i Wiriwr Allanol gael ei ddyrannu bydd ei enw i’w weld trwy eich mynediad ar-lein. |
Blaenau Gwent | ||
Torfaen | ||
Sir Fynwy | ||
Casnewydd |
Mae manylion Cydgysylltydd Sefydlu yr Awdurdod Lleol i’w gweld yma.