Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter link@ewc_cga | yt icon mono dark YouTube

meeting
Sefydlu
Sefydlu

 

Welsh Gov cymMae’n ofynnol i bob athrol newydd gymhwyso (ANG) sydd wedi cael Statws Athro Cymwysedig (SAC) o 1 Ebrill 2003 ymlaen gwblhau cyfnod Sefydlu statudol yng Nghymru. Mae’r cyfnod Sefydlu’n broses gefnogol a fydd yn rhoi i ANG gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth y byddant yn adeiladu arnynt drwy gydol eu gyrfa addysgu. Yn ystod y cyfnod Sefydlu mae’n ofynnol i ANG ddangos sut mae eu hymarfer addysgu’n bodloni’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.

Bydd ANG sy’n cyflawni cyfnod Sefydlu mewn ysgol yn cael cymorth mentor sefydlu (MS) sydd fel arfer yn gweithio yn yr un ysgol â’r ANG. Dyrennir i bob ANG sy’n cyflawni cyfnod Sefydlu wiriwr allanol (WA) a fydd yn gweithio gyda’r MS i ddarparu mentora a goruchwyliaeth  ansawdd da.

Gofynion Sefydlu

Er mwyn cyflawni cyfnod Sefydlu yng Nghymru rhaid i ANG fod â SAC a rhaid iddynt fod wedi’u cofrestru gyda CGA yng nghategori athro ysgol. Nid yw unrhyw gyfnodau o gyflogaeth cyn cofrestru yn y categori cywir yn gallu cyfrif tuag at Sefydlu. Cliciwch yma i wneud cais i gofrestru gyda CGA.

Tri thymor ysgol, neu gyfnod cyfwerth, yw’r cyfnod Sefydlu. Rhaid i ANG nad ydynt yn cael eu cyflogi amser llawn, neu sy’n cyflawni cyfnod Sefydlu trwy waith cyflenwi byrdymor, gwblhau 380 o sesiynau o leiaf. Diffinnir sesiwn fel un bore neu brynhawn llawn mewn ysgol. Dim ond cyfnodau o gyflogaeth lle mae’r ANG yn cael ei gyflogi fel athro cymwysedig a all gyfrif tuag at Sefydlu. Nid yw unrhyw gyfnodau o gyflogaeth fel gweithiwr cymorth dysgu / goruchwyliwr cyflenwi mewn ysgol yn gallu cyfrif tuag at Sefydlu.

I gael mwy o wybodaeth am gyflawni cyfnod Sefydlu yng Nghymru edrychwch ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ‘Ymsefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru

Rôl CGA yn y broses Sefydlu

Ar ran Llywodraeth Cymru, rydym yn gyfrifol am nifer o weithgareddau gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r rhaglen Sefydlu, gan gynnwys:

  • cynnal ffynhonnell ddata ganolog ar gyfer athrawon sy'n cyflawni cyfnod Sefydlu, gan gynnwys manylion cyflogaeth wrth iddynt symud drwy gyfnod Sefydlu, cofnod o'u Mentor Sefydlu a’u Gwiriwr Allanol a chofnod o'r sesiynau sefydlu a gwblhawyd
  • rhannu'r wybodaeth hon gyda'r partïon eraill sy’n ymwneud â darparu'r rhaglen Sefydlu. Mae’r rhain yn cynnwys yr ANG, Mentor Sefydlu, Gwiriwr Allanol a’r cydgysylltydd Sefydlu yn yr ALl fel y Corff Priodol ym maes Sefydlu
  • gweinyddu cyllid sefydlu i ysgolion
  • lletya a darparu dull cyrchu'r proffil Sefydlu statudol ar-lein
  • cyhoeddi tystysgrifau Sefydlu ar sail canlyniadau Sefydlu a ddarperir gan y Corff Priodol
  • gwrando ar apeliadau Sefydlu. *Gellir dod o hyd i arweiniad ar wrando ar apeliadau Sefydlu yn yr adran Priodoldeb i Ymarfer ar y wefan hon

Mae canllawiau CGA Sefydlu - trefniadau cyllido, olrhain a chofnodi yn nodi’r camau gweithredu sy’n ofynnol i bob parti er mwyn sicrhau y gall CGA gyflawni’r cyfrifoldebau hyn.

Amserlenni ar gyfer cwblhau cyfnod sefydlu

Bydd gan ANGau sydd wedi cael statws athro cymwys (SAC) ar, neu ar ôl 1 Ebrill 2003, a chyn 7 Tachwedd 2022 a heb ddechrau, neu sydd wedi dechrau ond heb gwblhau sefydlu, bum mlynedd o 7 Tachwedd 2022 i gwblhau sefydlu.

Bydd gan ANGau sy'n cael SAC o 7 Tachwedd 2022 ymlaen, bum mlynedd o ddyddiad y rhoddwyd y SAC i gwblhau’r' sefydlu.

Os na fydd ANG yn gallu cwblhau sefydlu o fewn yr amserlen gofynnol, mae gan y Corff Priodol hawl i ddewis estyn y terfyn amser ar gyfer cwblhau sefydlu ar gyfer y rheiny sydd wedi, a'r rhai sydd heb ddechrau sefydlu, lle mae'n fodlon bod rheswm da dros wneud hynny, a bod yr ANG yn cytuno. Mae mwy o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru Sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru.