Os bydd pwyllgor priodoldeb i ymarfer yn gosod gorchymyn disgyblu ar gofrestriad ymarferwr addysg, bydd hysbysiad yn ymddangos yma. Bydd yr hysbysiad yn parhau am gyfnod o 6 mis o’i ddiwrnod cyhoeddi.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg, fel y’i cyfansoddir o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, fel y’i diwygiwyd, trwy hyn yn hysbysu fod gorchymyn disgyblu wedi’i osod ar gofrestriad y canlynol, yn unol â Rheol 31 ei Weithdrefnau a Rheolau Disgyblu Gorffennaf 2023
Michael Millership - 27 Mawrth 2024
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd rhwng 29 Ionawr a 2 Chwefror a rhwng 25 a 27 Mawrth 2024, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi eu profi yn erbyn yr ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, a'r gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, Michael Millership.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiad canlynol wedi ei brofi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel Goruchwyliwr Sgiliau Ymarferol gyda Grŵp Llandrillo Menai, fe wnaeth Mr Millership:
- rhwng tua 2004 a 2019, arddangos ymddygiad tuag at un neu fwy o gydweithwyr yn yr Adran Adeiladu, gan gynnwys Cydweithiwr 1, oedd yn:
- ddychrynllyd
- tanseilio
- rhwystrol ar fwriad
- o natur bwlio
- rhwng tua 2017 a Mai 2018, ni wnaeth ddilyn gweithdrefnau City & Guilds, a Grŵp Llandrillo Menai o ran asesu, gan ei fod wedi cytuno fod gwaith dysgwyr wedi ei gwblhau, pan nad oedd wedi.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, fe wnaeth y Pwyllgor hefyd benderfynu bod ymddygiad Mr Millership yn anonest a heb hygrededd o ran paragraff 2 uchod.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Cofrestru Amodol ar gofrestriad Mr Millership fel ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith a gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, yn effeithiol o 27 Mawrth 2024.
Mae gan Mr Millership yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Danielle Hamnett - 22 Mawrth 2024
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 21 a 22 Mawrth 2024, wedi canfod bod honiad o ‘drosedd berthnasol’ wedi’i brofi yn erbyn yr athrawes addysg bellach gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, gweithiwr cymorth dysgu ysgol, ac ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, Danielle Hamnett.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef bod Ms Hamnett:
- Ar 19 Tachwedd 2020 fe'i cafwyd yn euog yn Llys Ynadon Canol Gogledd Cymru o dri chyfrif o yrru cerbyd modur gyda chyfran o gyffur rheoledig dros y terfyn penodedig ar 17 Mai 2020, yn gyferbyniol i Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988 s.5A(1)(a). O ganlyniad fe gafodd Ms Hamnett waharddiad rhag gyrru am 24 mis o 19 Tachwedd 2020, a dirwy o £200.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Ms Hamnett fel athro addysg bellach, gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, gweithiwr cymorth dysgu ysgol, ac ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 22 Mawrth 2024 a 22 Mawrth 2026).
O'r herwydd, bydd Miss Hamnett yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro addysg bellach a gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach) sy'n darparu gwasanaethau penodol mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru. Bydd hefyd yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd. Bydd hefyd yn gallu gweithio fel person cofrestredig (ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith), sy'n darparu gwasanaethau ar ran corff dysgu'n seiliedig ar waith (heblaw fel gwirfoddolwr).
Mae gan Ms Hamnett hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Adrian Ferguson - 20 Mawrth 2024
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 18, 19 ac 20 Mawrth 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol a’r athro addysg bellach, Adrian Ferguson.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef bod Mr Ferguson:
- rhwng mis Ebrill 2020 a 4 Tachwedd 2020, mewn perthynas ag Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd (“yr Ysgol”):
- wedi ticio “na” ar ei ffurflen gais pan ofynnwyd iddo a oedd ganddo unrhyw euogfarnau, gan gynnwys materion a oedd yn yr arfaeth ac nad oeddent wedi cael eu datrys ar yr adeg ysgrifennu, er bod ymchwiliad heddlu yn parhau yn ei erbyn ar y pryd;
- wedi darparu unigolyn fel canolwr a heb ddatgelu i’r Ysgol ei fod ef hefyd dan amheuaeth yn yr ymchwiliad heddlu yn ei erbyn;
- heb roi gwybod i uwch reolwyr yr Ysgol am yr ymchwiliad heddlu a oedd yn parhau yn ei erbyn tan 4 Tachwedd 2020.
- ar 27 Ebrill 2020, wedi cyflwyno ffurflen gais Cyngor Caerdydd ar gyfer swydd Athro Gwyddoniaeth yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd. Wrth gwblhau’r adran “Addysg Uwch a Hyfforddiant”, datganodd yn anghywir ei fod wedi cwblhau un neu fwy o’r cyrsiau canlynol:
- “MA Hanes” o “Brifysgol Casnewydd, Campws Caerllion”, rhwng 20 Medi 2003 a 18 Mai 2007; a
- “BA Anrh Hanes” o “Brifysgol Casnewydd, Campws Caerllion”, rhwng 20 Medi 2003 a 18 Mai 2007; a
- "TAR Add” mewn “Addysg Gorfforol Uwchradd gyda SAC – TAR”, o Brifysgol Casnewydd, Campws Caerllion”, rhwng 20 Medi 2003 a 18 Mai 2007.
- ar 16 Awst 2021, wedi cyflwyno ffurflen gais i Ymddiriedolaeth Coleg De Swydd Gaerloyw a Stroud ar gyfer swydd Goruchwyliwr Cyflenwi yn Ysgol Uwchradd Forest. Wrth gwblhau’r adran “Cymwysterau”, datganodd yn anghywir ei fod wedi cwblhau un neu fwy o’r cyrsiau canlynol:
- TAR mewn “Addysg Uwchradd” o “Gasnewydd, Caerllion” oddeutu 14 Medi 2008; ac
- MA mewn Hanes o “Gasnewydd, Caerllion” oddeutu 14 Medi 2008; a
- BA (Anrh) mewn Hanes o “Gasnewydd, Caerllion” oddeutu 7 Medi 2007.
- mewn perthynas â’i gais yn honiad 3 ar gyfer swydd yng Ngholeg De Swydd Gaerloyw a Stroud, heb gynnwys Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn ei gais fel cyflogwr blaenorol.
- mewn perthynas â’i gais yn honiad 3, wedi cyflwyno copi i Ymddiriedolaeth De Swydd Gaerloyw a Stroud o lythyr canlyniad proses ddisgyblu cyflogwr blaenorol, yr oedd wedi’i ddiwygio ac yr oedd yn gwybod ei fod wedi cael ei ddiwygio:
- i newid “rhybudd ysgrifenedig cyntaf” i “rybudd llafar”; ac
- i ddileu pum paragraff o ganfyddiadau’r Panel Disgyblu.
- rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mai 2023, wedi datgan yn anghywir bod ganddo statws athro cymwysedig (SAC) pan nad oedd hyn yn gywir, a heb egluro nad oedd ganddo SAC:
- yn ei gais yn honiad 2; ac
- yn ystod ei gyflogaeth gydag Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd; ac
- wrth gyfathrebu â Chyngor y Gweithlu Addysg ar neu o gwmpas 24 Ionawr 2020 a 12 Mai 2023.
- yn ei gais/ceisiadau i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg dyddiedig 22 Ionawr 2020, 23 Ionawr 2020 a 24 Ionawr 2020, wrth gwblhau’r adran “Cymhwyster/Cymwysterau”, wedi datgan yn anghywir ei fod wedi cwblhau un neu fwy o’r cyrsiau hyn:
- Gradd Meistr Gwyddoniaeth (MSc) mewn Hanes, a ddyfarnwyd yn 2008 o Goleg Prifysgol Cymru, Casnewydd;
- BA (Anrh) gyda TAR ymsang Astudiaethau Academaidd mewn Addysg, a ddyfarnwyd yn 2008 o Goleg Prifysgol Cymru, Casnewydd;
- Baglor Gwyddoniaeth (BSc) gyda SAC mewn Hanes, a ddyfarnwyd yn 2007 o Goleg Prifysgol Cymru, Casnewydd; a
- Thystysgrif Addysg i Raddedigion (Addysg Bellach), a ddyfarnwyd yn 2008 o Goleg Prifysgol Cymru, Casnewydd.
- rhwng mis Ionawr 2020 a mis Mai 2023, wedi cyflwyno un neu fwy o’r tystysgrifau canlynol i Gyngor y Gweithlu Addysg yr oedd yn gwybod, neu y dylai fod wedi gwybod yn rhesymol, nad oeddent yn ddilys:
- Ar 24 Ionawr 2020, tystysgrif yr honnwyd ei bod o Brifysgol Cymru, Casnewydd, dyddiedig mis Medi 2008, yn rhoi Tystysgrif Addysg i Raddedigion; ac
- Ar 24 Ionawr 2020, tystysgrif yr honnwyd ei bod o Brifysgol Cymru, Casnewydd, dyddiedig 14 Medi 2007, yn ymwneud â Baglor Gwyddoniaeth mewn Hanes; ac
- Ar 20 Rhagfyr 2021 a 12 Mai 2023, tystysgrif yr honnwyd ei bod o’r Adran Addysg, yn cadarnhau ei fod wedi cyflawni statws athro cymwysedig (SAC) ar 17 Medi 2008; ac
- Ar 20 Rhagfyr 2021, tystysgrif yr honnwyd ei bod o Edexcel, dyddiedig mis Awst 2014, yn ymwneud ag “Aseswyr Addysg (Fframwaith Credydau a Chymwysterau)” yng Ngholeg Western.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor fod ymddygiad Mr Ferguson ym mharagraffau 1 i 8 uchod (heblaw am 1(b)) yn gamarweiniol ac yn anonest.
Penderfynodd y Pwyllgor hefyd fod ymddygiad Mr Ferguson ym mharagraffau 1 i 8 uchod yn dangos diffyg uniondeb.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr Ferguson o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol ac athro addysg bellach am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mr Ferguson wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 5 mlynedd fynd heibio. Os na fydd Mr Ferguson yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 20 Mawrth 2029, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr Ferguson hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Ceri Ann Ridge - 13 Mawrth 2024
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 12 ac 13 Mawrth 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn yr athro addysg bellach, a'r gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, Ceri Ann RIDGE.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi, bod Miss Ridge:
- Ar neu o gwmpas 20 Mawrth 2023
- wedi gweiddi ar Fyfyriwr A trwy ffenest eu car
- wedi ceisio tynnu allweddi car Myfyriwr A o system danio eu car
- wedi pwyntio eu bys yn agos i wyneb Myfyriwr A
- wedi taflu chwip ceffyl at gar Myfyriwr A
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor bod ymddygiad Miss Ridge yn amhriodol ac yn frawychus.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Miss Ridge fel athro addysg bellach a gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 13 Mawrth 2024 hyd 13 Mawrth 2026). O'r herwydd, bydd Miss Ridge yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro addysg bellach a gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach) sy'n darparu gwasanaethau penodol mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru.
Mae gan Miss Ridge yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Chinwe Obi - 6 Mawrth 2024
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd ar 5 a 6 Mawrth 2024 wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Chinwe Obi.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel gweithiwr cymorth dysgu yn Staffroom Education, bod Mrs Obi:
- ar 21 Mawrth 2023 wedi methu â mynd i'r sesiwn a fwciwyd iddi yng Nghanolfan Blant Trelái a Chaerau.
- Wedi trefnu gydag Unigolyn A y byddai yn mynd fel Mrs Obi i Ganolfan Blant Trelái a Chaerau.
- Ni wnaeth ddweud wrth Staffroom Education na Chanolfan Blant Trelai a Chaerau am y trefniadau ym mharagraff 2.
- Roedd ei gweithredoedd ym mharagraffau 2 a 3 yn mynd i geisio cael ei thalu am waith na wnaethpwyd ganddi.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod gweithredoedd Mrs Obi ym mharagraffau 2, 3 a 4 yn anonest.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mrs Obi fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 6 Mawrth 2024 a 6 Mawrth 2026). O'r herwydd bydd Mrs Obi yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mrs Obi yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Shon Prebble - 29 Chwefror 2024
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol rhwng 27 I 29 Chwefror 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol, Shon Prebble.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel athro yn Ysgol Bryn Alyn, Wrecsam:
- Rhwng Medi a Tachwedd 2022, ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i gysylltu gyda chyn-ddisgybl A, sydd dal yn blentyn
- O ganlyniad i’w ymddygiad ym mharagrafff1, ni wnaeth Mr Prebble gydymffurfio gyda hyfforddiant diogelwch
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Prebble fel athro ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 29 Chwefror 2024 a 28 Chwefror 2026). O'r herwydd bydd Mr Prebble yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Prebble yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Kate Morris - 23 Chwefror 2024
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 20 i 23 Chwefror 2024, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn yr athrawes addysg bellach a’r athrawes ysgol, Kate Morris.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef bod Ms Morris:
- rhwng oddeutu mis Medi 2021 a mis Chwefror 2022, heb sicrhau bod cofrestrau’n cael eu cwblhau’n gywir yn yr ystyr ei bod hi wedi:
- marcio bod dysgwyr wedi mynychu gwers wyneb yn wyneb pan gynhaliwyd y wers ar-lein.
- marcio bod dysgwyr yn bresennol ar-lein pan nad oedd y dysgwr wedi mynychu’r wers.
- marcio bod dysgwyr yn bresennol mewn gwersi pan nad oedd y dysgwyr hyn yn ymgymryd â’r rhaglen.
- heb addysgu’r cwrs Mynediad at Addysg Uwch (AHE) Iechyd am y cyfan a/neu ran o’r cyfnod a amserlennwyd trwy:
- ddechrau gwersi’n hwyr a/neu orffen gwersi’n gynnar.
- newid amserau dechrau a gorffen.
- canslo gwersi.
- symud gwersi ar-lein heb ganiatâd ei rheolwr llinell.
- Heb roi cymorth a/neu adborth digonol i ddysgwyr yn yr ystyr nad oedd hi wedi:
- dychwelyd gwaith i ddysgwyr mewn modd amserol.
- sicrhau bod ffurflenni UCAS yn cael eu cyflwyno mewn modd amserol.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Ms Morris fel athrawes addysg bellach ac athrawes ysgol am gyfnod o 2 flynedd (o 23 Chwefror 2024 tan 23 Chwefror 2026). Fel y cyfryw, bydd Ms Morris yn gallu gweithio fel cofrestrai (athrawes addysg bellach) sy’n darparu gwasanaethau penodol mewn sefydliad addysg bellach yng Nghymru neu ar ei gyfer. Bydd hefyd yn gallu gweithio fel cofrestrai (athrawes ysgol) mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru.
Mae gan Ms Morris hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Teresa Annette Scutt - 22 Chwefror 2024
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 20, 21 a 22 Chwefror 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, Teresa Annette Scutt.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel tiwtor ymgysylltu ieuenctid yn COPA (North Wales Training) fe wnaeth Miss Scutt:
- ar 5 Medi 2022, rannu gwybodaeth sensitif, gyfrinachol gyda Chydweithiwr A ym mhresenoldeb Cydweithiwr B a Dysgwr B.
- ar 24 Chwefror 2021, fynychu Gwrandawiad Llys yn ystod oriau gwaith, heb awdurdod blaenorol ar gyfer yr absenoldeb gan ei rheolwr llinell.
- ar 26 Hydref 2020, yfed alcohol yn ystod oriau gwaith.
- ar 26 Hydref 2020, fethu ag arllwys alcohol i ffwrdd pan ofynnwyd iddi gan Gydweithiwr C.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, fe wnaeth y Pwyllgor hefyd benderfynu bod ymddygiad Miss Scutt ym mharagraff 2 uchod yn anonest.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Miss Scutt oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith. Penderfynodd hefyd na fyddai Miss Scutt yn cael gwneud cais i'w hadfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 3 blynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Miss Scutt wneud cais llwyddiannus i'w hadfer i'r Gofrestr ar ôl 22 Chwefror 2027, bydd wedi ei gwahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Miss Scutt yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Michael Gumm - 7 Chwefror 2024
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 5, 6, a 7 Chwefror 2024, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi eu profi yn erbyn yr ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, a'r gweithwir cymorth dysgu addysg bellach, Michael Gumm.
Fe wnaeth y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer ganfod bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra bod Mr Gumm wedi ei gyflogi fel Asesydd gan Tydfil Training Consortium (TTC) ac yn gweithio yn y Coleg Merthyr Tudful:
- wneud sylwadau o natur rywiol ac amhriodol ar nifer o achosion, ar neu o gwmpas Hydref 2022.
- ar neu o gwmpas 18 Hydref 2022, drafod gwybodaeth bersonol amhriodol gyda Dysgwr B a Dysgwr C.
- ar ddyddiad neu ddyddiadau rhwng 11 Hydref 2022 ac 18 Hydref 2022, wahodd un neu fwy o ddysgwyr i gysylltu ag ef ar Facebook.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Gumm oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, ac ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith. Penderfynnodd hefyd na fyddai Mr Gumm yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 2 blynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Gumm wneud cais llwyddiannus i'w hadfer i'r Gofrestr ar ôl 7 Chwefror 2026, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Gumm yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Isaac Harrison - 1 Chwefror 2024
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol rhwng 29 Ionawr ac 1 Chwefror 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol, Isaac Harrison.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi ei brofi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel athro ysgol Ysgol Gyfun Gatholig yr Archesgob McGrath, fe wnaeth Mr Harrison:
- rhwng Ionawr a Mawrth 2022, roi tampon yn ei drwyn.
- ar neu o gwmpas 10 Mawrth 2022, annog disgybl gydag anghenion dysgu ychwanegol, disgybl C, i anfon neges destun at ddisgybl arall, disgybl D, ynghylch eu perthynas.
- gofynnodd i ddisgybl F dynnu llun ohonyn nhw a'r dosbarth, pan nad oedd rheswm dilys i wneud hynny.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Harrison fel athro ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 1 Chwefror 2024 ac 1 Chwefror 2026). O'r herwydd bydd Mr Harrison yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Harrison yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Michael Walsh - 24 Ionawr 2024
Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 23 a 24 Ionawr 2024, wedi canfod bod honiad o droseddau perthnasol ac ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throsedd berthnasol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Michael Walsh.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd (heb amodau) ar gofrestriad Mr Walsh fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 12 mis (rhwng 24 Ionawr 2024 a 24 Ionawr 2025). O'r herwydd ni fydd Mr Walsh yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Gorchymyn Gwahardd. Ar ôl 24 Ionawr 2025, bydd yn gymwys i gofrestru, cyn belled â'i fod yn cydymffurfio gyda'r amodau a roddwyd.
Mae gan Mr Walsh yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Amy Jane Cunniffe - 16 Ionawr 2024
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 16 Ionawr 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throsedd berthnasol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Amy Jane Cunniffe.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi:
- tra ei bod wedi ei chyflogi fel cynorthwyydd addysgu, bod Miss Cunniffe, ar 31 Hydref 2022, wedi gyrru car o dan ddylanwad alcohol, wnaeth roi eraill mewn perygl.
- ar 15 Tachwedd 2022, cafodd Miss Cunniffe euogfarn o fethu â darparu sampl i'w ddadansoddi (gyrru neu geisio gyrru) ar 31 Hydref 2022, drwy fynd yn erbyn adran 7(6) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988. O ganlyniad i i'r drosedd hon, fe roddwyd gorchymyn gymunedol am 12 mis, gyda gofyniad i weithio'n ddi-dâl, gofyniad gweithgarwch adfer, a'igwahardd rhag gyrru am 36 mis.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd (heb amodau) ar gofrestriad Miss Cunniffe fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 12 mis (rhwng 16 Ionawr 2024 a 16 Ionawr 2025). O'r herwydd ni fydd Miss Cunniffe yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Gorchymyn Gwahardd.
Mae gan Miss Cunniffe yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Nicola Demmer-Evans - 13 Rhagfyr 2023
Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2023
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 12 ac 13 Rhagfyr 2023, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Nicola Demmer-Evans.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel gweithiwr cymorth dysgu yn Ysgol Gynradd Pontyclun, bod Mrs Demmer-Evans:
- Rhwng 23 Mawr 202 10 Mehefin 202, wedi camddefnyddio cronfeydd ariannol o gyfrif banc 'Rhieni ac Athrawon Ysgol Gynradd Pontyclun' at ei defnydd ei hun.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, fe wnaeth y Pwyllgor hefyd benderfynu bod ymddygiad Mrs Demmer-Evans yn anonest a heb hygrededd o ran paragraff 1 uchod.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Cofrestru Amodol ar gofrestriad Mrs Demmer-Evans fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol, yn effeithiol o 13 Rhagfyr 2023.
Mae gan Mrs Demmer-Evans yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Doina Nagy - 24 Tachwedd 2023
Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2023
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), yn eistedd yn rhithiol ar 24 Tachwedd 2023, wedi canfod bod honiad o 'drosedd perthnasol' wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol, Doina NAGY.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiad canlynol wedi ei brofi, fe wnaeth Ms Nagy:
- ar 21 Chwefror 2020, cafodd euogfarn o fethu â darparu sampl i'w ddadansoddi, yn groes i adran 7(6) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988 ac Atodlen 2 Deddf Troseddwyr Traffig y Ffyrdd 1988. O ganlyniad i'r drosedd hon, ar 21 Chwefror 2020, cafodd ddedfryd o orchymyn cymunedol, ei gwahardd rhag gyrru am 24 mis a gofyniad cyrffiw am chwe wythnos gyda thag electronig, yn ddyddiol rhwng 8pm a 6:30am.
- ar 28 Chwefror 2022, cyflwynodd gais i gofrestr fel Athro Addysg Bellach i CGA a nododd nad oedd ganddi unrhyw euogfarnau yn yr adran datganiadau, pan nad oedd hyn yn gywir.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod ymddygiad Ms Nagy yn honiad 2 yn anonest a heb hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Ms Nagy fel athro addysg bellach, gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach a gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 24 Tachwedd 2023 a 24 Tachwedd 2025). O'r herwydd bydd Ms Nagy yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro addysg bellach, gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach a gweithiwr cymorth dysgu ysgol) sy'n darparu addysg mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach, ac mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Ms Nagy yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Vivian Alan Bush - 28 Tachwedd 2023
Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2023
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 21, 22, 23, 24 a 28 Tachwedd 2023, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn yr ymarferydd dysgu seiliedig ar waith, Vivian Alan BUSH.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei gyflogi fel Aseswr yn Connective Care Education, fod Mr Bush:
- Ar y dyddiad(au) canlynol, wedi lanlwytho tystiolaeth i bortffolio(s) dysgwr ar SMART Assessor pan oedd yn gwybod neu y dylai fod wedi gwybod, neu y dylai’n rhesymol fod wedi gwybod, nad gwaith y dysgwr ei hun yn gyfan gwbl oedd y dystiolaeth:
- O ran Dysgwr 1:
- Ar 10 Gorffennaf 2019, mewn perthynas ag Uned 345; ac
- Ar 20 Chwefror 2019, mewn perthynas ag Uned 346; ac
- Ar 20 Chwefror 2019, mewn perthynas ag Uned 392; ac
- Ar 17 Medi 2019, o ran Dysgwr 2; ac
- Ar 25 Chwefror 2019, o ran Dysgwr 3; ac
- Ar 1 Tachwedd 2018, o ran Dysgwr 4; ac
- Ar 25 Ebrill 2019, o ran Dysgwr 5; ac
- dd. Ar 16 Mai 2019, o ran Dysgwr 7; ac
- Ar 2 Rhagfyr 2018, o ran Dysgwr 8.
- O ran Dysgwr 1:
- Ar y dyddiad(au) canlynol, wedi rhoi adborth i un neu fwy o ddysgwyr pan oedd yn gwybod neu y dylai fod wedi gwybod, neu y dylai’n rhesymol fod wedi gwybod, nad gwaith y dysgwr ei hun yn gyfan gwbl oedd y dystiolaeth:
- O ran Dysgwr 1:
- Ar 10 Gorffennaf 2019, mewn perthynas ag Uned 345; ac
- Ar 27 Chwefror 2019, mewn perthynas ag Uned 346; ac
- Ar 27 Chwefror 2019, mewn perthynas ag Uned 392; ac
- Ar 17 Medi 2019, o ran Dysgwr 2.
- O ran Dysgwr 1:
- Ar 31 Ionawr 2020, wedi anfon tasgau dan reolaeth Sgiliau Hanfodol, Canllawiau Marcio Aseswyr, a’r codau i gael mynediad at y rhain, trwy neges e-bost at unigolyn nad oedd ganddo’r hawl i dderbyn y dogfennau hyn.
- Ar 22 Ionawr 2020, yn ystod Tasg Dan Reolaeth, wedi caniatáu i Ddysgwr 5 a Dysgwr 6 weld a/neu gopïo pecyn asesu gorffenedig Dysgwr 18.
- Ar ddyddiad anhysbys, yn ystod Tasg Dan Reolaeth, wedi rhoi pecyn asesu gorffenedig i Ddysgwr 23.
- Ar ddyddiadau anhysbys rhwng mis Tachwedd 2018 a mis Medi 2019, wedi addasu gwaith un neu fwy o’r dysgwyr canlynol a’i lanlwytho i’w portffolios SMART Assessor, heb nodi’r cymorth a roddwyd gennych:
- Dysgwr 3;
- Dysgwr 2;
- Dysgwr 4;
- Dysgwr 5;
- Dysgwr 7;
- Dysgwr 8.
- Yn ystod Tasgau Dan Reolaeth ar ddyddiadau anhysbys rhwng mis Hydref 2019 a mis Ionawr 2020, wedi rhoi cymorth amhriodol i ddysgwyr a/neu heb sicrhau y cydymffurfiwyd ag amodau Tasg Dan Reolaeth, o ran un neu fwy o’r dysgwyr canlynol:
- Dysgwr 14;
- Dysgwr 15;
- Dysgwr 16;
- Dysgwr 17;
- Dysgwr 5;
- Dysgwr 6;
- Dysgwr 19;
- Dysgwr 20;
- Dysgwr 21;
- Dysgwr 22.
- Ar ddyddiadau anhysbys rhwng mis Mehefin 2019 a mis Ionawr 2020, wedi dangos ymddygiad amhriodol tuag at Gydweithiwr A yn y gwaith, yn yr ystyr ei fod:
- wedi ei ffonio pan nad oedd yn rhesymol nac yn angenrheidiol gwneud hynny; ac
- wedi ei dilyn allan o’r ystafell ble bynnag yr oedd hi’n mynd; ac
- ym mis Hydref 2019, wedi ei dilyn i’r tŷ bach ac aros y tu allan.
- Ar un achlysur neu fwy, wedi gwneud sylwadau difrïol ynglŷn â’r Cwmni wrth aelodau staff ac o flaen dysgwyr, yn yr ystyr y dywedodd eiriau i’r perwyl:
- bod CCE yn gwmni ofnadwy i weithio iddo; ac
- na fyddai Cydweithiwr A yn para’n hir iawn yn gweithio i CCE; ac
- y dylai Cydweithiwr A fod yn ofalus.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor fod ymddygiad Mr Bush ym mharagraffau 1, 2, 4, 5, 6, 7, 8, a 9 uchod yn anonest a bod ei ymddygiad ym mharagraffau 1 i 9 uchod yn dangos diffyg uniondeb.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr Bush o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori ymarferydd dysgu seiliedig ar waith am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mr Bush wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 3 blynedd fynd heibio. Os na fydd Mr Bush yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 28 Tachwedd 2026, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr Bush hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Siobhan Deborah Forber - 5 Rhagfyr 2023
Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2023
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 4 a 5 Rhagfyr 2023, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athrawes ysgol, Siobhan Deborah Forber.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer yr honiad canlynol wedi ei brofi, tra ei bod wed ei chyflogi fel athrawes ysgol yn Ysgol Saint Christopher, fe wnaeth Mrs Forber, ar 23 Mehefin 2022, gael cyswllt amhriodol corfforol gyda Disgybl A, trwy ddal Disgybl A wrth eu harddwrn a smacio eu llaw.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd (heb amodau) ar gofrestriad Mrs Forber fel athro ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 5 Rhagfyr 2023 a 5 Rhagfyr 2025). O'r herwydd ni fydd Mrs Forber yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Gorchymyn Gwahardd.
Mae gan Mrs Forber yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Adam Stanley Davies - 10 Tachwedd 2023
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2023
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 6, 7, 8, 9 a 10 Tachwedd 2023, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Adam Stanley DAVIES.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra’r oedd yn cael ei gyflogi fel gweithiwr cymorth dysgu yn Ysgol Uwchradd Darland, fod Mr Davies:
- Wedi peidio â dilyn Polisi Diogelu’r Ysgol sef, ar 5 Tachwedd 2021, bod Mr Davies wedi cael gwybod am fater amddiffyn plentyn gan ddisgyblion a’i fod wedi’u cyfeirio at eu Pennaeth Blwyddyn, pan ddylai fod wedi codi’r pryder â’r Arweinydd Diogelu Dynodedig a’r Pennaeth.
- Ar neu o gwmpas 8 Rhagfyr 2021, bod Mr Davies wedi cipio gwybodaeth bersonol am ddisgybl oddi ar SIMS ar ei ffôn symudol personol.
- Ar ddyddiadau amrywiol rhwng Medi 2021 a Rhagfyr 2021, bod Mr Davies wedi gwrthod dilyn cyfarwyddiadau rhesymol a roddwyd gan ei reolwr heb reswm da, sef:
- ar 3 Tachwedd 2021, bod Mr Davies wedi cael trafodaeth gyda disgybl Blwyddyn 8, pan ddywedwyd wrtho ei fod yn gyfrifol am ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 yn unig; ac
- ar 3 Tachwedd 2021, bod Mr Davies wedi cael trafodaeth gyda Disgybl B, sef disgybl yng Nghyfnod Allweddol 3, pan y dywedwyd wrtho ei fod yn gyfrifol am ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 yn unig a phan y dywedwyd wrtho am beidio â chynnal ymyriadau gyda disgyblion; ac
- ar 4 Tachwedd 2021, bod Mr Davies wedi caniatáu i Ddisgybl C, sef disgybl yng Nghyfnod Allweddol 2, dreulio gwers gydag ef, pan y dywedwyd wrtho ei fod yn gyfrifol am ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 yn unig; a
- bod Mr Davies wedi parhau i gyflwyno ymyriadau i un neu fwy o ddisgyblion pan y dywedwyd wrtho am beidio â gwneud hynny; a
- bod Mr Davies wedi parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu neu weithredu systemau newydd yn yr ysgol pan y dywedwyd wrtho i dreulio’r tymor cyntaf yn ymsefydlu ei hun; a
- bod Mr Davies wedi parhau i weithio ar un neu fwy o gynigion pan roedd ei reolwr llinell wedi dweud wrtho nad oeddent yn ymarferol nac yn briodol.
- Nad oedd Mr Davies wedi rhoi gwybod i gydweithwyr ble’r oedd disgyblion, sef:
- ar 12 Hydref 2021, bod Mr Davies wedi tynnu disgybl o ddosbarth i siarad â nhw heb roi gwybod i’r Pennaeth Blwyddyn ac/neu’r athro dosbarth a’r tîm bugeiliol na chofnodi hynny ar SIMS; ac
- ar 4 Tachwedd 2021, nad oedd Mr Davies wedi rhoi gwybod i Gydweithiwr 1 lle’r oedd Disgybl C.
- ar neu o gwmpas 14 Hydref 2021, bod Mr Davies wedi cyfeirio at Gydweithiwr 1, mewn sgwrs gyda Chydweithiwr 2, fel “an obnoxious b****”.
- Rhwng tua 3 Rhagfyr 2021 a 6 Rhagfyr 2021, bod Mr Davies wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn amhriodol, sef ei fod wedi gwneud un neu fwy o’r postiadau canlynol:
- “Bullying & Abuse at work! Misandry and disingenuous efforts to cover up a witch-hunt following a whistleblowing and raising a grievance … Pathetic, weak & exceptionally sad. Yet shocked at my resignation … beggars belief”; ac
- “If a male was to grab a woman in an intimate area (and in the workplace) it would be a sackable offence of gross misconduct (rightfully so); but when a woman does it to a man: I was told it’s only office banter, cmon…. No, No, No! I have resigned that position and remained professional but the clock is ticking!” ac
- “Is it right that the job description doesn’t match the job? You would expect better from schools surely? Corruption is rife and the message is: you’re not untouchable and the truth will out!”.
- Ar 30 Mehefin 2021, bod Mr Davies wedi cyflwyno cais i’r ysgol a oedd yn anghyflawn ac yn anghywir.
- Bod ymddygiad Mr Davies ym mharagraffau 1 i 6 uchod yn dangos ystyriaeth annigonol i’r canlynol:
- pwysigrwydd dilyn proses a chyfarwyddiadau mewn perthynas â lles disgyblion; a
- chyfarwyddiadau rhesymol; a
- gweithio ar y cyd i sicrhau lles disgyblion.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr Davies o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mr Davies wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 2 flynedd fynd heibio. Os na fydd Mr Davies yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 10 Tachwedd 2025, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr Davies hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Stephen Barrett - 9 Tachwedd 2023
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2023
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol rhwng 7 a 9 Tachwedd 2023, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro addysg bellach, Stephen BARRETT.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiad canlynol wedi ei brofi, fe wnaeth Mr Barrett:
- Rhwng Hydref 2019 a Chwefror 2022, wedi arddangos ymddygiad bygythiol a gelyniaethus tuag at Cydweithiwr A, drwy:
- Anfon un neu fwy o negeseuon testun o natur rywiol.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Barrett fel athro addysg bellach am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 9 Tachwedd 2023 a 9 Tachwedd 2025).O'r herwydd, bydd Mr Barrett yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro addysg bellach) sy'n darparu gwasanaethau penodol mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru.
Mae gan Mr Barrett yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Linda Mary Frame - 27 Hydref 2023
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2023
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 22 – 26 Mai a 23 – 27 Hydref 2023, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn yr athrawes ysgol, Linda FRAME.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei chyflogi fel Pennaeth yn Ysgol Gynradd Llangiwg:
- O ran y ddarpariaeth feithrin gofleidiol Red Dragon Child Care (“y ddarpariaeth gofleidiol”), nad oedd hi wedi sicrhau:
- bod y ddarpariaeth wedi’i chofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGC) fel yr oedd bryd hynny; a
- bod y ddarpariaeth yn cydymffurfio â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.
- O ran rheolaeth ariannol y ddarpariaeth gofleidiol, nad oedd hi wedi sicrhau:
- bod cyfrifon cywir yn cael eu cadw o incwm a threuliau; a
- bod arian parod a dderbyniwyd oddi wrth rieni’n cael ei fancio’n briodol neu o gwbl, ac yn cael ei gofnodi yng nghyllideb yr Ysgol.
- O ran talu staff yn y ddarpariaeth gofleidiol, ei bod hi wedi caniatáu i staff gael eu talu gydag “arian mewn llaw” heb ystyried treth ac yswiriant gwladol.
- Nad oedd Ms Frame wedi sicrhau bod yr ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn yr ysgol yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (2002), yn yr ystyr nad oedd hi’n:
- cadw cofnodion digonol o ddogfennau AAA; ac
- yn sicrhau bod Cynlluniau Addysg Unigol dysgwyr yn cael eu diweddaru;
- Nad oedd Ms Frame wedi sicrhau bod dysgwyr ag Anghenion Addysgol Arbennig yn cael eu cyflwyno ar gyfer asesiad a/neu gymorth mewn modd amserol, gan gynnwys:
- Dysgwr A; a
- Dysgwr C; a
- Dysgwr M; a
- Dysgwr L; a
- Dysgwr D; a
- Dysgwr G; a
- Dysgwr F; a
- Dysgwr E.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod ymddygiad Ms Frame ym mharagraffau 2(a), 2(c) a 3 yn dangos diffyg uniondeb.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Cofrestru Amodol ar gofrestriad Ms Frame fel athrawes ysgol yn effeithiol o 27 Hydref 2023.
Mae gan Ms Frame hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Ar 20 Mawrth 2024, fe wnaeth EAB Lambert yn eistedd fel Barnwr yr Uchel Lys gymeradwyo’r amrywiad canlynol o’r Hysbysiad o Benderfyniad dyddiedig 2023 “Caiff Hysbysiad o Benderfyniad yr Ymatebydd dyddiedig 8 Tachwedd 2023, i roi Gorchymyn Cofrestru Amodol, ei amrywio drwy hyn, lle bydd y Gorchymyn Cofrestru Amodol yn cael ei neilltuo, ac yn ei le caiff yr Ymatebydd Gerydd am gyfnod o 2 flynedd (o 8 Tachwedd 2023 hyd 7 Tachwedd 2025).”
Gareth Warlow - 20 Hydref 2023
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2023
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 17, 18 ac 20 Hydref 2023, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Gareth Warlow.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef:
- Ar 14 Tachwedd 2022, bod Mr Warlow wedi gwneud un neu fwy o sylwadau amhriodol wrth Gydweithiwr 1, yn yr ystyr ei fod:
- wedi gofyn i Gydweithiwr 1 roi gwybod iddo a oedd hi’n adnabod rhywun a oedd yn sengl; ac
- wedi dweud, “Mae fy ngheilliau i mor llawn maen nhw’n taro’r llawr” neu eiriau i’r perwyl hwnnw; ac
- wedi dweud os oedd Cydweithiwr 1 yn gwybod am rywun priodol y dylai hi roi ei enw iddo fel y gallen nhw fod yn ffrindiau â buddion, neu eiriau i’r perwyl hwnnw; ac
- wedi dweud os oedd Cydweithiwr 1 eisiau bod yn ffrindiau â buddion, y dylai hi anfon neges ato yn lle hynny, neu eiriau i’r perwyl hwnnw; ac
- wedi dweud, “Os byddi di erioed yn sengl anfona neges ata i i gael rhyw” neu eiriau i’r perwyl hwnnw; ac
- wedi dweud “Plîs anfona neges ata i os wyt ti eisiau cael rhyw” neu eiriau i’r perwyl hwnnw.
- Bod ymddygiad Mr Warlow yn Honiad 2(c) i 2(h) uchod wedi digwydd tra bod un neu fwy o ddisgyblion yn yr ystafell.
- Bod sylw Mr Warlow yn Honiad 2(h) uchod wedi cael ei wneud ar ôl iddo afael yn llaw Cydweithiwr 1.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod ymddygiad Mr Warlow mewn perthynas â honiadau 1d, 1e, 1f, 1g, ac 1h yn rhywiol a bod cymhelliad rhywiol i ymddygiad Mr Warlow yn 1c, 1d, 1e, 1f, 1g, ac 1h.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Warlow fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod o 2 flynedd (o 20 Hydref 2023 tan 20 Hydref 2025). Fel y cyfryw, bydd Mr Warlow yn gallu gweithio fel unigolyn cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol) mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru ar hyd cyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Warlow hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Lindsay Susan Davies - 25 Hydref 2023
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2023
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 23, 24 a 25 Hydref 2023, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Lindsay Susan Davies.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei chyflogi fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol sy’n hysbys i CGA, fod Miss Davies:
- Ar ddyddiad(au) anhysbys yn ystod neu o gwmpas mis Ionawr neu fis Chwefror 2022, wedi crybwyll materion amhriodol a rhywiol wrth un neu fwy o ddisgyblion 13-14 oed, yn yr ystyr:
- Ar ddyddiad anhysbys yn ystod neu o gwmpas mis Ionawr 2022, fod Miss Davies wedi dweud wrth Ddisgybl A, Disgybl B, Disgybl C a Disgybl D ei bod hi wedi cael rhyw gyda Chydweithiwr 1;
- Ar ddyddiad anhysbys yn ystod neu o gwmpas mis Ionawr neu fis Chwefror 2022, fod Miss Davies wedi dweud wrth Ddisgybl B ei bod hi wedi cael rhyw gyda Chydweithiwr 1 am y tro cyntaf yn yr ystafell staff.
- Ar ddyddiad anhysbys yn ystod neu o gwmpas mis Ionawr neu fis Chwefror 2022, fod Miss Davies wedi dangos neges rywiol amhriodol a chignoeth oddi wrth Gydweithiwr 1 i Ddisgybl B a Disgybl D ar ei ffôn.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Miss Davies o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Miss Davies wneud cais i gael ei hadfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 2 flynedd fynd heibio. Os na fydd Miss Davies yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei hadfer i’r Gofrestr ar ôl 25 Hydref 2025, bydd yn aros wedi’i gwahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Miss Davies hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Siobhan Rowan - 19 Hydref 2023
Dyddiad cyhoeddi:
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 19 Hydref 2023, wedi canfod bod honiad o ‘drosedd berthnasol’ wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Siobhan Rowan.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei chyflogi fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol gan Teacher Active, fod Miss Rowan, ar 3 Mai 2022, wedi cael ei dyfarnu’n euog o’r troseddau canlynol yn Llys y Goron Caerdydd. O ganlyniad i hynny, fe’i dedfrydwyd ar 27 Mai 2022 i gyfanswm o 24 mis o garchar, wedi’i ohirio am 18 mis (dedfrydau i gydredeg), gofyniad gweithgarwch adsefydlu o 8 niwrnod ac i wneud 180 o oriau o waith di-dâl cyn 26 Mai 2023:
- Meddu ar gyffur Dosbarth B a reolir gyda bwriad, yn groes i a5(3) Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971;
- Ymwneud â chyflenwi cyffur Dosbarth B i rywun arall, yn groes i a.4(3)(b) Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971;
- Cynnig cyflenwi cyffur Dosbarth A i rywun arall, yn groes i a.4(3)(a) Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971; a
- Chynnig cyflenwi cyffur Dosbarth B i rywun arall, yn groes i a.4(3)(a) Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Miss Rowan o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Miss Rowan wneud cais i gael ei hadfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 2 flynedd fynd heibio. Os na fydd Miss Rowan yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei hadfer i’r Gofrestr ar ôl 19 Hydref 2025, bydd yn aros wedi’i gwahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Miss Rowan hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Helen Hopkins - 12 Hydref 2023
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2023
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 7 i 9 Mawrth a 10 i 12 Hydref 2023, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn yr athrawes ysgol, Helen HOPKINS.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiad canlynol wedi’i brofi, sef bod Ms Hopkins wedi cyflwyno geirda i Gyngor y Gweithlu Addysg yr honnwyd iddo gael ei ysgrifennu gan ei chyn gyflogwr (Unigolyn A), er:
- nad oedd Unigolyn A wedi ysgrifennu’r geirda;
- bod Ms Hopkins yn gwybod nad oedd Unigolyn A wedi ysgrifennu’r geirda;
- bod Ms Hopkins wedi ysgrifennu’r geirda heb gymeradwyaeth a/neu wybodaeth Unigolyn A.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor fod ymddygiad Ms Hopkins uchod yn dangos diffyg uniondeb.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Ms Hopkins fel athrawes ysgol am gyfnod o ddwy flynedd (o 12 Hydref 2023 tan 12 Hydref 2025). Fel y cyfryw, bydd Ms Hopkins yn gallu gweithio fel unigolyn cofrestredig (athrawes ysgol) mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru ar hyd cyfnod y Cerydd.
Mae gan Ms Hopkins hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Hanna Edwards - 12 Hydref 2023
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2023
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 10, 11 ac 12 Hydref 2023, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athrawes ysgol, Hanna Edwards.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi ei brofi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel athro ysgol yng Nghymuned Ddysgu Abertillery, fe wnaeth Mrs Edwards:
- Ar 4 Hydref 2018:
- yfed alcohol ar safle'r ysgol; a
- adael potel gydag alcohol ynddo mewn ystafell ddosbarth ac o fewn cyrraedd plant.
- Ar un neu fwy achlysur, rhwng 10 Medi 2018 a 5 Hydref 2018, ddod i'r gwaith yn arogli o alcohol.
- Ar 6 Tachwedd 2019 a 7 Tachwedd 2019, fynd i'r gwaith yn arogli o alcohol.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mrs Edwards oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori athro ysgol. Penderfynnodd hefyd na fyddai Mrs Edwards yn cael gwneud cais i'w hadfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 2 blynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mrs Edwards wneud cais llwyddiannus i'w hadfer i'r Gofrestr ar ôl 12 Hydref 2025, bydd wedi ei gwahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mrs Edwards yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.