I gyd-fynd â’r Cod ymddygiad ac ymarfer proffesiynol, rydym yn cyhoeddi canllawiau arfer da i gefnogi cofrestreion mewn amrywiaeth o feysydd allweddol.
Nod pob canllaw yw codi ymwybyddiaeth holl gofrestreion ar draws pob sector i’w cynorthwyo wrth wneud dyfarniadau a phenderfyniadau proffesiynol.
Canllawiau Arfer Da
Iechyd meddwl a lles
Ry'n ni'n gwybod, er mwyn cefnogi ein plant a'n pobl ifanc cystal ag y gallant, bod angen i'n ymarferwyr addysg gymryd gofal am eu iechyd meddwl a'u lles. I'w cefnogi i wneud hyn rydym wedi ymuno gyda'r elusen genedlaethol Education Support, i greu canllaw arfer da ar iechyd meddwl a lles. Mae'r canllaw yn trafod rhai o'r blociau adeiladu craidd sy'n hanfodol i gefnogi iechyd meddwl a lles da, ynghyd ag ystod o declynau, adnoddau a ffynhonellau gwybodaeth defnyddiol. Lawrlwytho fersiwn hawdd ei argraffu
Arweinwyr mewn addysg
Datblygwyd y canllaw hwn yn benodol i arweinwyr addysg a bydd yn ddefnyddiol i bobl mewn rolau arwain uwch a chanol. Lawrlwytho fersiwn hawdd ei argraffu
Mynd i’r afael â hiliaeth
Dylai holl ddysgwyr Cymru deimlo’n hyderus y byddant yn ddiogel, yn cael eu cefnogi ac yn cael eu trin â thegwch a pharch pan fyddant yn mynd i’w lle dysgu. Mae’r canllaw hwn, a gefnogir gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a BAMEed Network Wales, yn cynnig arweiniad ar ffyrdd i sicrhau bod eich ymddygiadau a’ch ymarfer yn gynhwysol ac yn creu awyrgylch lle mae dysgwyr, pobl ifanc a chydweithwyr yn teimlo bod croeso iddynt waeth beth fo’u hil neu ethnigrwydd. Mae hefyd yn cefnogi holl gofrestreion wrth adnabod a mynd i’r afael â hiliaeth. Lawrlwytho fersiwn hawdd ei argraffu | Darllen fersiwn gwe
Proffesiynlodeb ar Waith
Mae llawer o nodweddion pwysig sy’n cyfrannu at eich proffesiynoldeb. Amlyga’r canllaw hwn ei bwysigrwydd i chi fel cofrestrai CGA, yn ogystal â phwysigrwydd eich ymrwymiad at gynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn eich proffesiwn. Lawrlwytho fersiwn hawdd ei argraffu | Darllen fersiwn gwe
Bod yn agored ac yn onest fel gweithiwr proffesiynol addysg
Nod y canllaw hwn yw eich helpu i godi eich ymwybyddiaeth a’ch dealltwriaeth eich hun o feysydd allweddol yn eich bywyd proffesiynol a phersonol lle disgwylir agoredrwydd a gonestrwydd. Lawrlwythwch y canllaw
Perthnasau gwaith cadarnhaol
Er eich bod yn treulio’r mwyafrif o’ch amser, eich gofal a’ch sylw yn meithrin perthnasau cadarnhaol gyda dysgwyr, mae lawn mor bwysig creu perthnasau gwaith da gyda chydweithwyr. Lawrlwythwch y canllaw
Cynnal ffiniau proffesiynol gyda dysgwyr
Dylai’r ffordd rydych yn cysylltu â dysgwyr gynnwys cydbwysedd gofalus rhwng ymgysylltiad proffesiynol a phellter proffesiynol. Ond mae’n bosibl croesi’r ffiniau hynny heb wybod. Sut mae cynnal y cydbwysedd hwnnw? Lawrlwythwch y canllaw
Defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol
Pan gânt eu defnyddio'n gyfrifol ac yn briodol, gall cyfryngau cymdeithasol gynnig nifer o fuddiannau i ymarferwyr addysg. Fodd bynnag, However, gall fod canlyniadau difrifol iawn wrth eu defnyddio mewn modd achlysurol. Sut mae ei hosgoi? Lawrlwythwch y canllaw
Profi, asesu, cynnal arholiadau a goruchwylio
Mae cyfrifoldeb sylweddol ar ymarferwyr i ymddwyn yn gonest wrth fesur cynnydd dysgwyr ac mae hyn yn galw am safon uchel o ran integriti personol a phroffesiynol. Sut mae rheoli’r cyfrifoldeb hwnnw? Lawrlwythwch y canllaw
‘Cyffwrdd priodol’, trin ac atal
Mae cyffwrdd â dysgwyr, eu trin a’u hatal mewn modd priodol yn bwysig pan fo’n angenrheidiol a chymesur, ond mae hefyd yn peri risgiau. Sut mae gwneud y penderfyniad gorau posibl? Lawrlwythwch y canllaw
Cyflwyniadau
Mae CGA yn cynnig cyflwyniadau sy’n canolbwyntio ar y Cod a phriodoldeb i ymarfer. Os hoffech chi neu eich cyflogwr drefnu un o’r rhain, mae croeso i chi e-bostio Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu ffoniwch 029 2046 0099.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein gwaith priodoldeb i ymarfer, e-bostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..