Rydym yn croesawu'r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer categorïau cofrestru newydd.
Rydym yn falch ac wedi'n hannog gan y manylion yn yr ymgynghoriad i estyn cofrestru i nifer o ymarferwyr o fewn y gweithlu addysg yng Nghymru, nad oes gofyn iddynt gofrestru gyda CGA ar hyn o bryd. Roedd yr anghysonderau, a nodwyd yn flaenorol ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn cynrychioli risg diogelu posib, fyddai'n cael ei ddatrys gan yr ychwanegiadau arfaethedig i'r categorïau cofrestru.
Mae ymateb CGA i'r ymgynghoriad, sy'n cefnogi'r categorïau cofrestru newydd, ar gael i'w ddarllen ar ein gwefan .