Yn ddiweddar, cyflwynasom ein hymateb i gais Llywodraeth Cymru am dystiolaeth ar newidiadau posibl i’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau ar gyfer ysgolion annibynnol.
Ers nifer o flynyddoedd rydym wedi codi pryderon ynghylch peidio â rheoleiddio ymarferwyr ysgolion annibynnol a’r risgiau posibl o ran diogelu mae hyn yn eu hachosi.
Rydym yn croesawu’r newidiadau posibl i’r ddeddfwriaeth i fynd i’r afael â hyn ac yn ystyried hwn yn gam pwysig o ran cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.
Darllen ein hymateb i’r ymgynghoriad.