Rydym ni, ynghyd â Llywodraeth Cymru, y Cyd-undebau Llafur a'n partneriaid, rydym ni'n gofyn i gofrestreion gymryd rhan yn arolwg cenedlaethol gweithlu addysg Cymru.
Rydym i gyd am sicrhau bod gennym y system addysg orau bosibl yng Nghymru, lle gall ein dysgwyr ffynnu a chyflawni eu llawn botensial. Mae gwaith y gweithlu addysg yn gwbl hanfodol i wireddu hyn.
Cofrestreion CGA, rhowch eich barn ar faterion sy'n bwysig i chi megis eich baich gwaith, Covid-19, lles, a dysgu proffesiynol.
Os ydych chi wedi'ch cofrestru mewn mwy nag un categori, byddwch yn derbyn gwahoddiad i gwblhau pob arolwg sy'n berthnasol i chi.