Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgynghori ar ddeddfwriaeth ddrafft fyddai'n rhoi pwerau newydd i CGA i osod Gorchmynion Atal Dros Dro ar gofrestreion mewn amgylchiadau arbennig o ddifrifol.
Ar hyn o bryd, CGA yw un o'r unig reoleiddwyr o fewn addysg a phroffesiynnau eraill sydd heb y pwerau hyn.
Mae CGA yn croesawu'r ddeddfwriaeth arfaethedig ac yn ei weld fel rhywbeth all dim ond gwella hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.