Bu i ni gyflwyno ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganllawiau fframwaith ar sefydlu dull ysgol-gyfan o ymdrin ag iechyd a lles meddyliol.
Beth oedd ein hymateb?
Rydym ni’n credu bod iechyd a lles meddyliol dysgwyr a phroffesiynolion addysg fel ei gilydd yn sylfaen i lwyddiant ein hysgolion. Rydym ni’n cefnogi’n gryf y cysyniad o ddull ysgol gyfan o hyrwyddo iechyd meddyliol a lles emosiynol. Yn ein hymateb, rydym hefyd yn codi nifer o bwyntiau ynghylch gweithredu’r dull ysgol gyfan, gan gynnwys:
- pwysleisio pwysigrwydd adeiladu ar arfer dda sy’n bodoli eisoes;
- nodi y bydd yr adolygiad o weithredu sydd wedi’i gynllunio yn cynnig cyfle i adnabod problemau a bylchau mewn darpariaeth, gan gynnwys meysydd lle gallai bod gofyn am adnoddau ychwanegol neu lle bo materion strwythurol ynghylch darparu gwasanaethau; ac
- amlygu’r angen i sicrhau bod y gweithlu ysgolion yn derbyn dysgu proffesiynol priodol er mwyn gallu gweithredu’r dull ysgol gyfan a phwysigrwydd sicrhau cysondeb o ran ansawdd dysgu proffesiynol a’r adnoddau a ddarperir ledled Cymru.
Mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddyliol a lles emosiynol staff a dysgwyr yng Nghymru, ac mae angen rhoi arweiniad priodol i helpu ysgolion i fynd i’r afael â’r mater hwn. Dylid hefyd rhoi cymorth ychwanegol i’r unigolion a grwpiau hynny y mae’r cyfnod hwn wedi bod yn arbennig o heriol iddyn nhw.