Cyhoeddon ni ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2018-19 yn ddiweddar. Noda'r cyhoeddiad ein cyfnod pedair blynedd cyntaf ers ein had-drefniad yn Ebrill 2015 ac mae'n amlygu'n gwaith parhaus wrth roi sicrwydd i’r cyhoedd a diogelu dysgwyr, rhieni, gwarcheidwaid a’r cyhoedd. Amlyga hefyd ehangiad ein gwaith a'n hisadeiledd, gan gynnwys ein gwaith ar achrediad AGA, hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg a bod yn ysgrifenyddiaeth ar gyfer Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru. Gwelwch yr adroddiad llawn.