Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter link@ewc_cga | yt icon mono dark YouTube

plp banner
Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)
Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)

PDPBeth yw’r Pasbort Dysgu Proffesiynol?

Mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn adnodd ar-lein hyblyg a chwbl ddwyieithog sydd ar gael i holl gofrestreion.

Mae eich PDP yn llawn dop o nodweddion a fwriadwyd i’ch cynorthwyo i gofnodi’ch dysgu, myfyrio arno, ei rannu a’i gynllunio, gyda’r nod yn y pen draw o wella’ch ymarfer. Mae pob un ohonom ni’n dysgu mewn ffyrdd gwahanol a lluniwyd y PDP i fodloni amrywiaeth eang o anghenion.

Chi sy’n berchen ar eich PDP: mae’n gyfrinachol ac yn gludadwy. Cyn belled ag y byddwch wedi cofrestru â CGA, gallwch fynd at unrhyw gynnwys rydych chi wedi’i greu yn eich PDP.

Sut gallwch chi fynd at eich PDP?

Mae eich PDP ar gael drwy eich cyfrif ‘Fy CGA’ ar-lein. Mae ein canllaw byr yn amlinellu sut i greu eich cyfrif ar-lein a mynd ato. Os cewch unrhyw anawsterau wrth fynd at eich PDP, Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu ffoniwch 02920 460099.

Cofnodi’ch profiadau

Mae eich diwrnodau gwaith yn llawn profiadau amrywiol, llawer ohonynt yn aml yn brofiadau dysgu a all eich sbarduno chi i ystyried ac, o bosibl, newid eich ymarfer. Gallai’r profiadau hyn fod yn rhan o’ch trefn ddyddiol arferol, yn drafodaeth gyda chydweithwyr neu’n hyfforddiant ffurfiol. Mae eich PDP ar gael i’ch helpu i roi trefn ar y profiadau hyn.

Mae’n bosibl bod llawer o wybodaeth gennych eisoes sydd wedi’i chadw mewn sawl man ac mewn fformatau gwahanol. Gallwch ychwanegu hyn oll yn gyflym ac yn hawdd at eich PDP naill ai trwy ddefnyddio’r dull lanlwytho sydd ar gael yn eich PDP, neu trwy ddefnyddio’r ap pwrpasol, Pebblepocket, sydd ar gael ar gyfer dyfeisiau Android ac Apple. Mae ein canllaw byr yn dangos nodweddion yr ap i chi, a sut i gael ato.

Hefyd, gallwch gysylltu eich PDP â gwasanaethau allanol fel Google Drive neu Dropbox, a chael at y ffeiliau rydych chi eisoes wedi’u cofnodi yno a’u defnyddio.

Myfyrio ar eich profiadau

Myfyrdod yw’r cyfle i oedi a meddwl am eich profiadau, cael gwerth ohonynt a’u defnyddio i ddylanwadu ar eich dysgu, eich datblygiad a’ch ymarfer yn y dyfodol.

Yn eich PDP, mae templedi ar gael sydd wedi’u strwythuro i’ch tywys trwy broses y cylch myfyriol trwy ofyn cyfres o gwestiynau neu anogwyr, gan ganiatáu i chi adolygu effaith eich dysgu ar eich ymarfer ac yna dod yn ôl ato maes o law.

Petaech chi’n dewis gwneud, mae eich PDP hefyd yn caniatáu i chi rannu eich profiadau, cydweithio a chael sgyrsiau proffesiynol gyda’ch cymheiriaid.

Safonau proffesiynol

Yn eich PDP, cewch y safonau proffesiynol ar gyfer athrawon ysgol ac addysg bellach (AB), gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion ac AB, ac ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Mae eich PDP yn caniatáu i chi ddewis unrhyw eitem rydych chi wedi’i chreu neu ei hychwanegu at eich PDP a’i mapio yn ôl y safonau proffesiynol perthnasol.

Bydd unrhyw beth rydych chi’n ei fapio yn ôl y safonau yn ymddangos wedi’i grynhoi yn eich gweithlyfr safonau, sydd ar gael ar ddangosfwrdd eich PDP. Bydd eich gweithlyfr safonau yn rhoi trosolwg i chi o bopeth rydych chi wedi’i gofnodi yn erbyn eich safonau proffesiynol ac mae ein fideo byr yn dangos i chi sut mae’r nodwedd hon yn gweithio.

Sut gall y PDP wella eich ymarfer?

Ry’n ni wedi datblygu cyfres o fideos byr i ddangos buddion defnyddio’r PDP i gefnogi eich datblygiad proffesiynol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y categorïau cofrestru isod.

Athrawon Ysgol ac Addysg Bellach (AB)

Bydd y PDP yn ddefnyddiol i athrawon ysgol ac AB lanlwytho cynlluniau gwersi, dogfennau ac adborth, fel ffordd o arddangos eu datblygiad proffesiynol i gydweithwyr, uwch arweinwyr a darpar gyflogwyr yn y dyfodol.

Yn ogystal ag adnoddau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y dogfennau rheoli perfformiad, mae’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arwain a’r Safonau ar gyfer AB ar gael hefyd yn y PDP.

Gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion ac AB

Gall gweithwyr cymorth dysgu ddefnyddio’r pasbort i fyfyrio ar eu hymarfer, gan ychwanegu syniadau, dolenni i’r we a fideos i gofnodi dulliau cymorth addysgu llwyddiannus a thystiolaeth i gymheiriaid, cyflogwr presennol a darpar gyflogwyr yn y dyfodol.

Yn ogystal ag adnoddau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dogfennau rheoli perfformiad, mae’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu (mewn ysgolion) ar gael yn y PDP hefyd.

Athrawon Newydd Gymhwyso

Mae’n ofynnol i Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) sy’n cwblhau cyfnod Sefydlu statudol ddefnyddio’r PDP. Mae’r PDP yn cynnig man lle y gall ANG gofnodi tystiolaeth sy’n dangos sut maent yn cyflawni’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth drwy ymarfer proffesiynol.

Gweithwyr ieuenctid a chymorth ieuenctid

Mae’r PDP yn caniatáu i chi rannu a chydweithredu â chydweithwyr o’r sectorau ysgol, AB a dysgu seiliedig ar waith; hefyd, cewch yno adnoddau a thempledi i’ch helpu i ddechrau arni.

Gallwch gael at addysg EBSCO, sy’n cynnwys amrediad enfawr o e-lyfrau, cyfnodolion ac ymchwil testun llawn, wedi’u hadolygu gan gymheiriaid.

Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol wrthi’n cael eu llunio’n derfynol a’u cyfieithu ar gyfer gweithlu Cymru, a byddant yn cael eu cynnwys yn eich PDP i chi eu defnyddio.

Mae’r PDP yn caniatáu i chi rannu a chydweithredu â chydweithwyr o’r sector dysgu seiliedig ar waith, a chewch yno hefyd adnoddau a thempledi i’ch helpu i ddechrau arni.

Gallwch gael at addysg EBSCO, sy’n cynnwys amrediad enfawr o e-lyfrau, cyfnodolion ac ymchwil testun llawn, wedi’u hadolygu gan gymheiriaid.

Mae’r safonau proffesiynol ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ar gael yn eich PDP i’ch helpu i ystyried ac adolygu’ch profiadau.

Darllenwch farn cyflogwr am y PDP

O ddiddordeb? Trefnwch sesiwn arddangos, yn rhad ac am ddim!

Rydym yn fodlon ymweld â’ch sefydliad i arddangos y PDP i’ch staff, a dangos sut gallwch chi, eich cydweithwyr a’r sefydliad elwa o’i swyddogaethau a’i amlochredd. Os hoffech drefnu sesiwn arddangos, llenwch ein ffurflen archebu ar-lein neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..

Llyfrgell ymchwil

Os yw ymarfer seiliedig ar dystiolaeth o ddiddordeb i chi, gallwch gael at EBSCO drwy eich PDP. Dyma gronfa ddata fwyaf y byd o ymchwil testun llawn ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol ac mae’n cwmpasu pob lefel addysg ac arbenigedd.

Gall cofrestreion gael at becyn Education Source a chasgliad eLyfrau addysg EBSCO. Mae’r ddau adnodd yn tyfu’n gyson ac yn cynnwys:

  • Bron i 2,000 o gyfnodolion testun llawn
  • Crynodebau ar gyfer dros 3,500 o gyfnodolion
  • Dros 530 o lyfrau testun llawn
  • Dros 2,500 o bapurau cynhadledd testun llawn, sy’n gysylltiedig ag addysg
  • Cyfeiriadau ar gyfer dros 6 miliwn o erthyglau, gan gynnwys adolygiadau o lyfrau

I gael at EBSCO yn eich PDP, cliciwch ar yr opsiwn ‘help ac adnoddau’ ar ddangosfwrdd eich PDP.
Mae cyfres o ganllawiau ar-lein ar gael i’ch cynorthwyo i ddechrau arni a defnyddio’ch cyfrif EBSCO.

Ry’n ni wedi datblygu cyfres o fideos byr i ddangos buddion defnyddio’r PDP i gefnogi eich datblygiad proffesiynol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y categorïau cofrestru isod.

Ariannwyd gan

Ariannwyd gan

Funded by Welsh Government