Jeff Cole, Arweinydd y Rhwydwaith Dyniaethau yng Nghonsortiwm Canolbarth y De
Ar ôl bod yn Arloeswr yn gweithio ar y Cwricwlwm i Gymru 2022, rwyf wedi ymddiddori mwy a mwy yn yr ymchwil y tu ôl i’r diwygiadau addysgol cynhwysfawr sy’n digwydd yng Nghymru. Wrth i mi ddechrau darllen yn ehangach, mae darganfod adnodd addysg EBSCO, sydd ar gael trwy Basbort Dysgu Proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg, wedi bod yn werthfawr tu hwnt i fy ngwaith ymchwil!
Fel Arloeswr, croesewais y cyfle i fynychu’r gynhadledd genedlaethol ResearchEd yn Llundain, lle cefais fy ysbrydoli gan siaradwyr o ysgolion yn Lloegr a oedd wedi’u penodi i swyddi a grëwyd o’r newydd fel “Penaethiaid Ymchwil”. Roedd un o Eton, ac mae’n arwain eu Canolfan Arloesi ac Ymchwil mewn Dysgu – dim ond breuddwydio y gall rhywun ei wneud! Ond roedd y lleill o ysgolion gwladol ac roedd y disgrifiadau a roddwyd ganddynt o’u rolau yn adleisio gyda mi am fod Cymru wedi ymroi i gynorthwyo athrawon i fod yn ymarferwyr sy’n cael eu llywio gan ymchwil, ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Argymhellodd y siaradwyr amryw fanciau ymchwil ar-lein fel BELMAS, BERA, a’r Coleg Addysgu Siartredig, sy’n cynnig EBSCO i’w aelodau. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r sefydliadau hyn yn codi ffi danysgrifio sy’n afrealistig i ysgol wladol ei thalu ar gyfer pob aelod o staff, ac sy’n fuddsoddiad sylweddol i athrawon unigol. Dechreuais golli calon.
Ar yr un pryd â chyfarfod â’r Penaethiaid Ymchwil, dechreuais drawsnewid i rôl Arloeswr Dysgu Proffesiynol i Lywodraeth Cymru, ac fel rhan o’r broses hon roedd yn ofynnol i mi
ymgymryd ag Ymholiad Proffesiynol ffurfiol am y tro cyntaf yn fy ngyrfa. Tynnodd fy mentoriaid dysgu proffesiynol o Brifysgol Metropolitan Caerdydd fy sylw at y ffaith fod EBSCO ar gael drwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol. Roeddent yn siarad yn frwd amdano, nid yn unig am ei fod yn adnodd ag enw da iawn iddo, ond oherwydd ei fod hefyd yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio i bawb sydd wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Wrth i’m rôl barhau i ddatblygu, mae EBSCO wedi dod yn fwyfwy defnyddiol a gwerthfawr i mi. Bellach, rwy’n arwain clwstwr o ysgolion uwchradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf at ymchwil fel rhan o’r Prosiect Ymholiad Proffesiynol Cenedlaethol.
EBSCO oedd yr argymhelliad cyntaf a wnes i’r grŵp hwnnw, fel eu bod yn gallu darparu adnoddau ar gyfer eu dysgu. Yn fwy diweddar, cefais fy mhenodi i arwain cyfres o brosiectau ymchwil ar ran Consortiwm Canolbarth y De, ac eto rwyf wedi sicrhau bod yr holl ymchwilwyr cyfranogol yn defnyddio EBSCO i gynnal adolygiadau o lenyddiaeth ac i lunio’u rhestrau darllen ar gyfer cydweithwyr sydd eisiau dilyn eu hôl troed.
Fel rhan o’r rôl hon, rwyf hefyd yn cynnal Ymholiad Proffesiynol ar fy liwt fy hun ar gyfer CSC. EBSCO yw’r sylfaen i mi allu adeiladu’r ymchwil honno arni. Mae gallu cael mynediad yn rhwydd at ymchwil addysgol ledled Prydain, Ewrop a’r byd ehangach yn fy ngalluogi i ddod o hyd i gyfoeth o wybodaeth am lu o faterion, cyfosod beth a ddysgwyd o bob cwr o’r byd, a’i ddefnyddio i gyflwyno casgliadau newydd i gydweithwyr yn fy rhanbarth. Heb EBSCO, byddai’r un darn o waith yn anoddach i’w gyflawni ac yn gostus i mi a’m hysgol.
Efallai na chawn ni Ganolfan Arloesi ac Ymchwil yn fy ysgol i fyth, ond mae gennym EBSCO. Mae’n adnodd gwych a byddwn i’n ei argymell yn fawr i unrhyw weithiwr proffesiynol sydd eisiau ehangu ei orwelion a gwella ei ymarfer.
Jeff Cole yw Arweinydd y Rhwydwaith Dyniaethau yng Nghonsortiwm Canolbarth y De
Darganfyddwch sut i ddechrau gyda'ch offeryn ymchwil, EBSCO a chychwyn eich Pasbort Dysgu Proffesiynol yma