I sicrhau bod hyfforddeion ac ymarferwyr newydd gymhwyso yn meddu ar ddealltwriaeth lawn o'r hyn y mae angen iddynt ei wneud i allu gweithio yng Nghymru neu wlad arall, rydym yn cyflwyno sesiynau ym mhob sefydliad hyfforddi. Mae'r sesiynau hyn yn:
- cynnig cyflwyniad i CGA a'i rôl o fewn y sector addysg yng Nghymru
- esbonio pam bod cofrestru gyda'r CGA yn ofyniad cyfreithiol i unrhyw athro/athrawes sy’n dymuno gweithio yng Nghymru
- esbonio priodoldeb i ymarfer, gan ganolbwyntio ar yr ymddygiad a ddisgwylir gan ymarferydd cofrestredig yn unol â'r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
- chynnig cyfle holi ac ateb.
Darpar athrawon ysgol yn eu blwyddyn olaf
Sefydliad | Cwrs | Dyddiad yr ymweliad |
---|---|---|
Prifysgol Bangor | BA SAC | 30/04/2021 |
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd |
TAR Uwchradd
|
23/04/2021 |
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd |
TAR Cynradd
|
21/03/2021 |
Prifysgol Bangor |
TAR Cynradd, TAR Uwchradd, BA SAC, Bsc SAC
|
30/04/2021 |
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant |
TAR Cynradd,
TAR Uwchradd |
27/05/2021 |
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant | TAR Cynradd TAR Uwchradd |
01/06/2021 |
Prifysgol Aberystwyth | TAR | 22/06/2021 |
Prifysgol Abertawe | TAR | 30/06/2021 |
Darpar athrawon addysg bellach yn eu blwyddyn olaf
Sefydliad | Cwrs | Dyddiad yr Ymweliad |
---|---|---|
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd | TAR (AB) | Wedi'i gwblhau |
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd | PCE PCET | I'w gyhoeddi |
Coleg Sir Gar (Graig Campus) |
TAr (AB)
PCE PCET |
I'w gyhoeddi |
NPTC Group |
TAR (AB)
|
Wedi'i gwblhau
|
NPTC Group |
PCE PCET
|
I'w gyhoeddi
|
Coleg Cambria | TAR (AB) | 18/05/2021 |
Coleg Cambria | PCE PCET | 25/05/2021 |
Myfyrwyr gwaith ieuenctid
Sefydliad | Cwrs | Dyddiad yr Ymweliad |
---|---|---|
Prifsygol Glyndŵr, Wrecsam | BA (Hons) Gwaith Ieuenctid a Chymdeithasol | Wedi'i gwblhau |
Addysg Oedolion Cymru - amrywiol leoliadau | Dyfarniad mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid Lefel 2 | I'w gyhoeddi |
Rydyn ni'n annog holl fyfyrwyr i fynychu'r sesiwn sydd wedi'i threfnu er mwyn i ni allu ateb unrhyw ymholiadau fydd gennych yn uniongyrchol. Os nad ydych yn gallu mynychu'r sesiwn, darllenwch ein canllaw i gofrestru sy'n sôn am:
• y gofyniad i chi fod wedi'ch cofrestru
• sut i ymgeisio i gofrestru
• Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA.