I sicrhau bod hyfforddeion ac ymarferwyr newydd gymhwyso yn meddu ar ddealltwriaeth lawn o’r hyn y mae angen angen ei wneud i allu gweithio yng Nghymru, rydym yn cyflwyno sesiynau ymhob sefydliad hyfforddiant. Oherwydd y coronafeirws, canslwyd unrhyw sesiynau pellach. Mae ein canllawiau i hyfforddeion yn darparu gwybodaeth hanfodol am gofrestru gyda CGA.
Myfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau hyfforddiant athrawon (ar gyfer athrawon ysgol) yng Nghymru sy'n arwain at ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC)
Unwaith byddwch yn cymhwyso fel athro yng Nghymru byddwch yn derbyn hysbysiad am SAC gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Gwneir y trefniadau canlynol er mwyn i ni allu dosbarthu’r tystysgrifau.
- Pan fyddwn yn cael gwybod eich bod ar fin cwblhau eich cwrs hyfforddiant athro byddwn yn anfon rhif cyfeirnod athro unigryw atoch drwy drwy e-bost i'w cyfrif prifysgol yn ogystal â'u cyfeiriad e-bost personol. Bydd y rhif hwn gennych drwy gydol eich gyrfa addysgu.
- Ar ôl i holl ganlyniadau'r cwrs gael eu gwirio gan y bwrdd arholi perthnasol, mae pob darparwr hyfforddiant athro'n cyflwyno'r canlyniadau atom i gadarnhau y dylid dyfarnu SAC i fyfyrwyr llwyddiannus.
- Bydd CGA yn dosbarthu tystysgrif yn dyfarnu SAC i bob myfyriwr llwyddiannus a chaiff y rhain eu cyhoeddi ar 1 Awst.
Er mwyn ymarfer fel athro ysgol yng Nghymru, mae’n rhaid i chi gofrestru â CGA. Dylech gyfeirio at yr adran Ymgeisio i gofrestru am arweiniad pellach.
Athrawon dan hyfforddiant sy’n ymgymryd â llwybrau seiliedig ar waith trwy’r Brifysgol Agored
Ni sy’n gyfrifol am gadarnhau’r dyfarniad SAC i'r rhai sy'n ymgymryd â llwybrau seiliedig ar waith trwy’r Brifysgol Agored. Os ydych yn bodloni safonau SAC erbyn diwedd y rhaglen, bydd y corff argymell yn cwblhau ffurflen argymhelliad am SAC a’i chyflwyno i ni. Bydd hyn yn ein galluogi i ddosbarthu rhif cyfeirnod athro i chi yn ogystal â thystysgrif sy’n cadarnhau’r dyfarniad SAC.
Er mwyn i chi allu ymarfer fel athro ysgol yng Nghymru, mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda ni. Am ragor o arweiniad, ewch i’r dudalen ‘gwneud cais i gofrestru’.
Myfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau hyfforddiant athrawon ôl-orfodol (eg PCET; TAR (AB)) yng Nghymru
Mae'n bwysig bod myfyrwyr hyfforddiant athrawon Ôl-orfodol sy'n bwriadu addysgu mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru am y tro cyntaf, yn cofrestru gyda'r Cyngor cyn dechrau eu swydd addysgu gyntaf (gan gynnwys gwaith cyflenwi).
Cyfeiriwch at yr adran Ceisio am Gofrestru i gael rhagor o arweiniad.
Myfyrwyr sy'n dilyn cwrs mewn gwaith ieuenctid (e.e. dyfarniad Lefel 2: Diploma Ôl-radd mewn addysg ieuenctid a chymunedol) yng Nghymru
Mae'n bwysig bod myfyrwyr sy'n bwriadu gweithio o fewn y sector ieuenctid yng Nghymru yn cofrestru gyda ni cyn dechrau eu swydd. Er mwyn cofrestru fel gweithiwr ieuenctid neu weithiwr cymorth ieuenctid yng Nghymru mae’n rhaid i chi fod â chymhwyster perthnasol.
Cyfeiriwch at yr adran Ceisio am Gofrestru i gael rhagor o arweiniad.