Pwy sydd angen cofrestru?
Mae gennym saith categori cofrestru. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi gofrestru ar gyfer mwy nag un categori, yn dibynnu ar y gwaith rydych chi’n ei wneud neu’n bwriadu ei wneud, a rhai meini prawf penodol. Un ffi yn unig fydd yn rhaid i chi ei thalu.
Categorïau cofrestru
Ffi | Categori cofrestru | Gofynion |
---|---|---|
£45 | Athro ysgol | Mae SAC yn hanfodol |
Athro addysg bellach (AB) | ||
Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith | ||
Gweithiwr ieuenctid | Gofynion cymwysterau gorfodol | |
£15 | Gweithiwr cymorth dysgu ysgol | |
Gweithiwr cymorth dysgu AB | ||
Gweithiwr cymorth ieuenctid | Gofynion cymwysterau gorfodol |
Gwneud Cais
Wrth wneud cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth a dogfennaeth perthnasol i osgoi unrhyw oedi wrth brosesu’ch cais.
Beth sy’n digwydd pan fyddwn wedi derbyn eich cais?
Ar ôl i ni gael eich cais, byddwn yn cynnal asesiad o’r wybodaeth rydych yn ei chyflwyno. Os byddwch yn ateb 'ie' i unrhyw gwestiwn yn eich datganiad, byddwn yn cynnal asesiad addasrwydd ac efallai'n gofyn am fwy o wybodaeth. Os penderfynwn y gallwn ganiatáu eich cofrestriad, byddwn yn anfon e-bost atoch yn cadarnhau hyn.
Mae gohebiaeth gennym weithiau yn cael ei adnabod fel SPAM felly awgrymwn i chi gadwch lygad ar eich ffolder SPAM.
Rydym yn ceisio prosesu ceisiadau o fewn 5 niwrnod gwaith, ond gall gymryd rhagor o amser gan ein bod yn derbyn nifer sylweddol o geisiadau o bryd i’w gilydd.