Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter link@ewc_cga | yt icon mono dark YouTube

Registration Banner
Buddion cofrestru
Buddion cofrestru

Cyngor y Gweithlu Addysg yw corff rheoleiddio mwyaf Cymru gyda dros 80,000 o athrawon ysgol ac AB, gweithwyr cymorth dysgu ac AB, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Rydym yn falch o gynnig y gwasanaethau canlynol i chi.

Welsh1

Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)

Y PDP yw'r llwyfan gorau ar gyfer eich dysgu proffesiynol. Mae ar gael i bawb sydd wedi cofrestru, a gallwch ei ddefnyddio i gofnodi a myfyrio ar eich datblygiad proffesiynol drwy lanlwytho dogfennau, fideos, cyflwyniadau a ffeiliau sain wrth i chi symud drwy eich gyrfa. Gallwch hefyd rannu arfer gorau gyda chydweithwyr. I gael mynediad i'ch PDP, mewngofnodwch i'ch cyfrif FyCGA.

 

Offeryn ymchwil addysgol - EBSCO

Mae EBSCO yn rhoi mynediad ar-lein i gyfoeth o siwrnalau, phapurau addysgol academaidd ac e-lyfrau sydd ar gael i holl gofrestreion CGA yn rhad ac am ddim. I gael mynediad i EBSCO, mewngofnodwch i'ch cyfrif FyCGA.

 

 

Cymorth ac arweiniad

Code image for web page cyRydym yn cyhoeddi cyfres o ganllawiau arfer da i gyd-fynd â'n Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Darllenwch ein holl ganllawiau arfer da.

Cyflwyniadau a digwyddiadau

Rydym yn hapus i drefnu cyflwyniadau yn eich gweithle. Mae pynciau poblogaidd yn cynnwys y PDP, y Cod a'n gwaith priodoldeb i ymarfer. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau cenedlaethol yn rhad ac am ddim, megis Siarad yn Broffesiynol a'n sesiynau briffio polisi.

Cadwch mewn cysylltiad a chyfranogwch

Rydym yn cynhyrchu e-newyddlen ar gyfer ein holl gofrestreion bob tymor, felly sicrhewch fod gennym eich cyfeiriad e-bost diweddaraf. Gallwch hefyd fynnu'r diweddaraf drwy ein dilyn ar Twitter.