Gweledigaeth llywodraeth Cymru

Ym mis Awst 2016, yn yr Eisteddfod Genedlaethol, lansiodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y strategaeth uchelgeisiol – miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r ymateb i’r cynnig wedi bod yn un dadleuol, ond yr hyn sy’n amlwg yw bod her aruthrol o’n blaenau. A yw cynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg cymaint â hynny o fewn cenhedlaeth wir yn bosibl? A beth yw ystyr hyn ar gyfer y sector addysg yng Nghymru?

Mae’r strategaeth newydd yn nodi 6 maes datblygu strategol:

  • Addysg
  • Normaleiddio
  • Cynllunio a pholisi
  • Cefnogi
  • Pobl
  • Hawliau

Bydd gan y sector addysg rôl hanfodol wrth yrru’r strategaeth hon yn ei blaen, ond er mwyn cynyddu’r potensial i gynyddu nifer y siaradwyr o fewn y gweithlu cymaint â phosibl, rhaid i sgiliau’r gweithlu addysg ar y cyfan gael eu hystyried, a bod ymarferwyr ac arweinwyr yn cael eu cynorthwyo mewn modd effeithiol.

Mewnwelediadau data o’r gofrestr ymarferwyr

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn meddu ar ddata cynhwysfawr ar y gweithlu addysg, gan gynnwys gallu iaith Gymraeg, ac mae’n defnyddio’r adnodd gwerthfawr hwn i helpu Llywodraeth Cymru wrth gynllunio’r gweithlu. Felly beth mae’r gofrestr ymarferwyr yn ei ddweud wrthym am y sefyllfa ar hyn o bryd, a beth yw’r ffactorau allweddol sydd angen eu hystyried wrth ddatblygu polisïau wrth symud ymlaen?

Er syndod mawr, mae nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn y gweithlu addysgu wedi aros yn sefydlog iawn, heb ryw lawer o gynnydd ers 2007. Mae’r data presennol yn dangos bod 33.3% o athrawon ysgol yn gallu siarad Cymraeg (27.4% yn gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg), sy’n awgrymu nad yw’r polisïau a’r tactegau blaenorol a fabwysiadwyd er mwyn cynyddu sgiliau iaith wedi gwneud y camau ymlaen a ddymunwyd. O ran ANGau a phenaethiaid, mae 34.6% a 41.4% yn gallu siarad Cymraeg (a 27.8% a 36.1% yn gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg).

Mae tueddiadau daearyddol i’w gweld yn amlwg o ran cyfran yr athrawon sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, â’r gyfran isaf yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru (Blaenau Gwent 7%, Casnewydd 8%, Sir Fynwy 9%) o gymharu â’r uchaf yng ngogledd a gorllewin Cymru (Gwynedd 93%, Ynys Môn 90%, Ceredigion 80%). Mae gwahaniaeth mor fawr yn dangos yr her sydd o’n blaenau. Sut gellir cynyddu’r awydd i ddysgu Cymraeg, ac a ellir, neu a ddylid, mabwysiadu strategaeth i gyrraedd lefelau tebycach rhwng y rhanbarthau? Beth fydd dyfodol y Gymraeg ar ôl y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, a sut gallwn sicrhau bod yr iaith yn parhau i fod yn berthnasol mewn amgylchedd cyfnewidiol o ran gwleidyddiaeth a busnes?

Heriau

Beth am ddechrau gyda’r derminoleg – beth ydyn ni’n ei feddwl pan ddywedwn ‘siaradwr Cymraeg’?

Mae cynllunio gweithlu mewn modd effeithiol yn gofyn am fan cychwyn cadarn er mwyn mesur cynnydd yn ei erbyn, ac mae hyn yn golygu bod angen eglurhad o’r dechrau un ynghylch diffiniad ‘siaradwr Cymraeg’, gan nad yw hyn yn cael ei gymhwyso’n gyson bob tro yn yr arolygon amrywiol a gynhaliwyd yn y gorffennol. A ddylai pawb fabwysiadu Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd er mwyn1 cael dull mwy safonedig?

Dull holistig o fapio sgiliau’r gweithlu addysg

Er bod y gofrestr ymarferwyr yn rhoi mewnwelediad i ni o allu ieithyddol athrawon, y gellir ei fapio dros amser, ni wyddwn ryw lawer ynghylch proffil sgiliau iaith grwpiau cofrestredig newydd ar hyn o bryd, hynny yw, ymarferwyr Addysg Bellach a gweithwyr cymorth dysgu, a bydd datblygu tuedd ar gyfer y data yn cymryd amser. Fodd bynnag, mae mewnwelediadau dechreuol o’r Gofrestr yn dangos bod 31,500 o staff cymorth dysgu cofrestredig mewn ysgolion ar 1 Mawrth 2017. Mae hyn yn cynrychioli cyfran sylweddol o’r holl gofrestryddion, gan fod nifer y gweithwyr cymorth dysgu bron cymaint â nifer yr athrawon wrth eu gwaith (33,000). Yn yr un modd, ni wyddwn ryw lawer am allu’r grwpiau newydd a fydd yn gorfod cofrestru o fis Ebrill 2017 ymlaen (gweithwyr ieuenctid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith). Os ystyrir addysg i fod yn un o yrwyr creiddiol y polisi, sut gallwn gynllunio mewn modd effeithiol os nad oes gennym drosolwg cynhwysfawr o’r gweithlu? Caiff hyn ei ategu ymhellach gan y ffaith nad ydym yn gwybod rhyw lawer am y sector nas cynhelir a’r blynyddoedd cynnar, er bod darpariaeth blynyddoedd cynnar yn cael ei hystyried yn hanfodol bwysig, ac yn ffactor allweddol wrth ddatblygu sgiliau yn gynnar ym mywydau plant.

Sut gallwn ddatblygu sgiliau'r gweithlu presennol?

Mae’n cael ei gydnabod bod gan ymarferwyr addysg lwyth gwaith trwm yn barod, ac, ar y cyd ag anghenion cystadleuol am gyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus sy’n ymwneud yn benodol â’r swydd, bydd datblygu sgiliau iaith Gymraeg o fewn y gweithlu presennol yn gofyn llawer. Efallai bod awydd o fewn y sector i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg, ond mae gofynion yn bodoli eisoes ar ymarferwyr ac arweinwyr e.e. hyfforddiant gorfodol, y cwricwlwm newydd sydd ar y gweill, y fframwaith cymhwysedd digidol, ysgogiad i gynyddu gallu ymchwil o fewn y gweithlu, a llawer mwy, felly sut gallwn helpu i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg y rheiny sydd, ar hyn o bryd, heb lawer o brofiad, neu ddim profiad o gwbl, o’r iaith? Beth yw’r ffordd orau o gyflawni hyn, fel bod modd i ddysgwyr gael cysondeb?

Sut gallwn sicrhau mynediad a cyfleoedd cyfartal i bobl yn y gweithlu addysg sy’n dymuno dysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau? Heb os, mae angen cysondeb ar draws yr holl sectorau a gofyn am lwybrau hyblyg, cost-effeithiol at ddysgu, mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.

Newydd-ddyfodiaid i’r proffesiwn addysgu – creu cynaliadwyedd

Mae angen i ni sicrhau bod rhaglenni hyfforddi athrawon yn ymateb i’r galw. Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi awgrymu bod mathemateg a Chymraeg yn y grŵp pynciau blaenoriaethol o ran targedau Addysg Athrawon cychwynnol ar gyfer 2017/18. Yn ogystal, er nad yw’r targedau derbyn yn cynnwys targedau ar wahân ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, mae darparwyr yn cael eu hannog i ddatblygu a chynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg lle bo’n bosibl, er mwyn bodloni’r galw am athrawon cyfrwng Cymraeg cymwys mewn ysgolion, sydd wedi cael hyfforddiant o safon.

Felly, beth mae’r ystadegau HCA presennol yn ei ddweud wrthym? Mae data o (2015-2016) yn dangos bod nifer fach o bobl (wedi’u hyfforddi mewn addysg uwchradd) wedi’u hyfforddi yn y Gymraeg. Mewn addysg uwchradd, roedd 464 o fyfyrwyr i gyd, a basiodd o fewn y flwyddyn academaidd, ac roedd 22 ohonynt yn y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau bwriadol yn y blynyddoedd diweddar i gyfyngu ar y lleoedd ar gyrsiau HCA o ganlyniad i orgyflenwad o athrawon o fewn y gweithlu cyfan, ac mae gofynion mynediad llym yn golygu ei fod yn anodd dechrau ar raglen hyfforddi. Fodd bynnag, mae’r data’n dangos nad oedd darparwyr hyfforddiant HCA wedi llwyddo i lenwi eu lleoedd ar gyfer athrawon dan hyfforddiant yn 2015/16 a 2016/17. Bydd cadw llygad barcud ar nifer y newydd-ddyfodiaid sy’n siarad Cymraeg, a’r rhai sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn hollbwysig wrth sicrhau cynaliadwyedd yn y tymor hir. A ddylid ailystyried gofynion mynediad ar gyfer cyrsiau hyfforddi athrawon? A yw’r bar wedi ei osod ar y lefel gywir, neu a ydym o bosibl yn colli athrawon da nad ydynt yn bodloni’r meini prawf? A ddylid rhoi mwy o gymorth i’r rheiny sydd â’r awydd a’r gallu i fod yn athrawon i oresgyn y rhwystrau dechreuol? Yn ogystal, sut fydd unrhyw newid i ddatganoli tâl ac amodau yng Nghymru yn effeithio ymhellach ar recriwtio a hyfforddi athrawon yng Nghymru?

Y tu hwnt i’r dosbarth

Er y bydd gan addysgwyr rôl allweddol wrth ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg dysgwyr, er mwyn creu siaradwyr Cymraeg hyderus a galluog, rhaid i’r dysgu dreiddio i fywydau y tu hwnt i’r dosbarth. Mae dysgu y tu hwnt i’r dosbarth yn helpu i gryfhau sgiliau iaith a thyfu hyder wrth ddefnyddio’r iaith o ddydd i ddydd. Mae angen i’r dysgwyr gael cyfle i ymarfer, ond yn ogystal ag ymarferwyr addysg, mae gan rieni a gofalwyr rôl hanfodol. Sut gellir annog teuluoedd i gynorthwyo eu plant trwy wella eu sgiliau Cymraeg eu hunain, a beth fydd yn cael ei wneud i’w helpu? Mae angen cyfleoedd dysgu hygyrch i bawb. Bydd angen adolygu’r ddarpariaeth Gymraeg i oedolion, yn ogystal ag ystyried sut gall pobl eraill sy’n cynorthwyo plant gyfrannu at y strategaeth – beth am glybiau chwaraeon neu glybiau ieuenctid, er enghraifft?

Beth ydym ni’n ei wneud i’ch helpu chi?

Bellach, mae gennym gylch gwaith ehangach o ran cofrestru sectorau ychwanegol o fewn y gweithlu, felly byddwn mewn sefyllfa well i ddefnyddio’r set data unigryw ac amrywiol i ddylanwadu ymhellach ar bolisïau addysg yng Nghymru. Byddwn yn parhau i ymateb i ymgynghoriadau ac yn galw am dystiolaeth er budd ein cofrestryddion, i sicrhau bod y rhai sy’n creu polisïau yn deall natur amrywiol y gweithlu addysg yng Nghymru.

Yn ddiweddar, mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi darparu tystiolaeth ar lafar i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymwneud â’r strategaeth hon. Gallwch weld y dystiolaeth honno ar archif Senedd TV.

Sut gallwch ein helpu ni i’ch helpu chi?

Mae ein gallu i gynorthwyo ymarferwyr addysg yn dibynnu’n fawr ar gywirdeb y data rydym yn ei dderbyn. Gallwch ein helpu ni trwy sicrhau bod eich cofnod mor ddiweddar â phosibl trwy fynd i www.ewc.wales a mewngofnodi trwy FyCGA.

1 Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd: Dysgu, Addysgu, Asesu (CEFR). http://www.coe.int/t/dg4/linguistic/Cadre1_en.asp 

 

Cwcis

Mae gwefan CGA yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori ein gwefan, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis. Am fwy o fanylion am gwcis a sut i’w rheoli, yna darllenwch ein polisi preifatrwydd.