Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter link@ewc_cga | yt icon mono dark YouTube

meeting
Sôn
Sôn

Cwestiwn Parentkind: beth yw pryderon rhieni am effaith coronafeirws?

Tracey HandleyPan gaeodd ysgolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i helpu arafu ymlediad Coronafeirws (Covid-19), roedd llawer o rieni’n teimlo amrediad o emosiynau. I ddechrau teimlwyd rhyddhad y bydden nhw a’u plant yn gallu hunanynysu a chadw at y cyfyngiadau cymdeithasol a argymhellwyd gan y llywodraeth i ni i gyd. Yma yn Parentkind roedden ni’n llwyr gefnogi cau ysgolion fel cam diogelu angenrheidiol, yn arbennig er mwyn diogelu staff addysgu yr oedd llawer iawn ohonynt eisoes i ffwrdd o’r ysgol oherwydd salwch cyn i’r penderfyniad i gau’r drysau gael ei wneud.

Ond gadawyd pryderon mawr ym meddyliau rhieni. Sut gallan nhw, yn arbennig y rhai hynny sy’n gweithio, ymdopi gartref pan fo angen darparu addysg i’w plant gartref o dan amodau cwarantîn? A beth am y posibilrwydd bod eu plentyn yn mynd i golli tymor academaidd llawn (neu fwy) o ddysgu? Beth am y disgyblion hynny mewn cohortau a oedd i fod i sefyll arholiadau yr haf yma? Sut orau gall rhieni gefnogi dysgu yn y cartref, ac a ydyn nhw’n hyderus i wneud hynny?

Mae’r adeg ddigynsail a hynod bryderus yma wedi peri llawer o heriau ac wedi gofyn i lawer iawn ohonon ni ymdrin â chwestiynau sylfaenol am fywyd teuluol, tywys plant drwy adeg o argyfrwng, a rôl rhieni mewn addysg.

Mae llawer o staff Parentkind yn rhieni ac wedi ymbalfalu gyda’r un cwestiynau. Er mwyn datblygu dealltwriaeth o’r hyn mae rhieni’n mynd drwyddo yn ystod y pandemig hwn, cyhoeddon ni arolwg i’n dilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol i fesur eu hymateb. Cawson ni ein calonogi bod bron i 700 o rieni (691 i gyd) wedi rhannu eu barn gyda ni mewn cwta pum diwrnod, gan gynrychioli 1181 o blant ysgol ar draws y tair gwlad rydyn ni’n gweithredu ynddyn nhw. Mae’r lefel hon o ymgysylltu’n dangos nerth teimladau rhieni. Mae’r canlyniadau wedi rhoi cipolwg i ni o brif bryderon rhieni yn ystod wythnos y cyhoeddiad bod ysgolion yn cau a phan ddaeth y negeseuon ehangach am ‘aros gartref’. Wrth gwrs, mae’r sefyllfa’n newid bob dydd, felly byddwn ni’n holi eto am ymatebion rhieni dros amser ac yn rhannu’r diweddaraf gyda chi. Ond yn y cyfnod cychwynnol ar ôl cyhoeddi cau’r ysgolion, dyma’r hyn a ddywedodd rhieni wrthyn ni:

Ystadegau allweddol

Ar raddfa o 1-10 (lle mae 1 yn golygu nad ydynt yn poeni o gwbl am effaith Coronafeirws ar addysg eu plentyn, a 10 yn golygu eu bod yn pryderu’n ddifrifol), nododd bron chwarter y rhieni (24%) 10/10. Y cyfartaledd ar draws yr holl rieni oedd 6.8/10. Yng Nghymru, y cyfartaledd oedd (6.4/10).

Rhai o brif bryderon rhieni am eu plentyn oedd:

  • syrthio tu ôl neu golli allan ar eu dysgu
  • canslo arholiadau
  • diffyg cymdeithasu
  • iechyd anwyliaid.

Rhai o brif bryderon rhieni amdanyn nhw eu hunain oedd:

  • Ateb ymrwymiadau gwaith
  • Goblygiadau ariannol
  • Yr effaith ar iechyd meddwl a lefelau straen.

Dim ond un o bob deg rhiant (11%) a ddywedodd mai prin, neu ddim effaith y byddai’r argyfwng yn ei chael ar eu bywydau eu hunain tra bod lleiafrif bach (7%) wedi dweud y byddai cau ysgolion yn cael effaith gadarnhaol (gan nodi amser teuluol ac ailgysylltu â’u plant). Roedd llai nag un o bob pum rhiant (19%) yn teimlo’n hyderus iawn i gefnogi dysgu eu plentyn gartref.

 Beth arall ddangosodd ein hymchwil?

Ateb ymrwymiadau gwaith yw prif bryder rhieni am eu dyfodol eu hunain. Pan ofynnwyd am yr effaith y gallai cau ysgolion ei chael ar rieni, yn hytrach na’u plant, soniodd bron hanner y rhieni (49%) am eu gwaith. Roedd hynny mewn perthynas â gorfod cydbwyso gweithio tra’n gofalu am blant, ond roedd pryderon ariannol ac ofni colli eu swyddi hefyd yn themâu cyffredin a nodwyd wrth i bobl roi adborth mewn gofod testun rhydd.

Fodd bynnag, ar yr ochr bositif:

Roedd cyfathrebu rhwng ysgolion a’r cartref wedi bod yn wych. Unwaith iddynt gau, roedd 93% o rieni wedi dweud bod ysgol eu plentyn wedi rhannu manylion trefniadau ar gyfer dysgu gartref yn ystod yr adeg pan fyddai’r ysgolion ar gau. 7% a ddywedodd nad oedd hyn wedi digwydd. O’r 7% hynny, mae’n bosibl bod eu hysgol wedi darparu manylion yn fuan ar ôl iddyn nhw gwblhau ein harolwg.

Am fanylion pellach, gweler dogfen lawn yr Adroddiad Arolwg Rhieni am gau ysgolion a Choronafeirws (Saesneg yn unig).

Byddwn yn monitro barn rhieni’n agos wrth i addysgu plant gartref, hunanynysu, cyfyngiadau cymdeithasol a gweithio gartref (i lawer) ddod yn fwy o arfer cyffredin, a chadwn ni lygad ar y ffordd mae barn rhieni’n newid, os bydd yn newid. Chwiliwch am ddiweddariadau a gwybodaeth bellach yn Parentkind.

 

Tracey Handley

 Tracey Handley yw Pennaeth Parentkind yng Nghymru lle mae hi'n arwain ar ddatblygiad polisi, ymgyrchoedd ac ymchwil.