Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter: @ewc_cga | Linkedin

meeting
Sôn

Y Parch. Dr Philip Manghan - Ydy dimensiwn ysbrydol mewn addysg yn bwysig?

PhillipMangham Am 150 mlynedd, bu’r Eglwys Gatholig yn gweithio mewn partneriaeth â’r Wladwriaeth i ddarparu addysg yng Nghymru, a heddiw, ar y cyd â’r Eglwys yng Nghymru, mae’n cyfrif am 15% o ysgolion y wlad. Ar hyn o bryd, mae 71 o ysgolion cynradd Catholig a 16 o ysgolion uwchradd, wedi’u lleoli ledled Cymru, gyda chyfanswm poblogaeth yr ysgolion o dros 29,000 a gweithlu addysgu o dros 2,500.

Mae’r bartneriaeth wedi bod yn ffynhonnell cyfoeth mawr yng nghymdeithas Cymru, wrth i’r Eglwys Gatholig a, heddiw, Llywodraeth Cymru, weithio ar y cyd i adeiladu cymdeithas gyfiawn, gynhwysol a chydlynus. Un o brif swyddogaethau ysgol Gatholig, fel unrhyw gyfleuster addysgol yng Nghymru, yw gwasanaethu cymdeithas. Mae’r Eglwys Gatholig yn darparu ysgolion a cholegau sy'n cyfrannu at greu cymdeithas sy’n gynhwysol, yn gyfiawn, yn addysgedig, yn fedrus ac yn ddiwylliedig. Mae ysgolion Catholig ledled Cymru yn gwasanaethu amrywiaeth eang o gymunedau: rhai gwledig, rhai trefol, ac yn ôl y Crynhoad o Ddata Cyfrifiad 2016 ar gyfer Ysgolion a Cholegau yng Nghymru, daw dros 25% o ddisgyblion mewn ysgolion Catholig o gymunedau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru , o gymharu â 10% yn genedlaethol (tud. 20).

minority ethnic pupils maintained schools 2011 16

Un agwedd ar natur a phwrpas ysgol Gatholig yw’r ymrwymiad i ddatblygu’r plentyn cyfan, gan sicrhau y bydd pob plentyn yn cael addysg gyfannol sy’n cynnwys pob agwedd ar eu haddysg academaidd, foesol ac ysbrydol. Am y rheswm hwn, mae’r Eglwys Gatholig yn cefnogi’n llawn ddatblygiad y cwricwlwm cenedlaethol Dyfodol Llwyddiannus, gan gydnabod ynddo ddealltwriaeth gydlynol a chyfannol o’r ffordd y mae pob agwedd ar wybodaeth a dealltwriaeth ddynol yn hanfodol gysylltiedig â’i gilydd a’r ffordd y mae plant yn dysgu orau trwy brofiad. Dibenion craidd y cwricwlwm newydd yng Nghymru yw y bydd plant yn ein hysgolion:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau;
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
  • yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a’r byd; ac
  • yn unigolion iach, hyderus, yn barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr y gymdeithas.

Mae gweledigaeth o’r fath yn cydlynu’n dda â dealltwriaeth yr Eglwys Gatholig o’r ‘Cwricwlwm Catholig’ ar gyfer ysgolion Catholig yng Nghymru.

Yr hyn sy’n ganolog i’r ddealltwriaeth Gatholig o’r natur ddynol, yw’r dimensiwn ysbrydol. Ar hyn o bryd, yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, mae’r gofyniad i bob ysgol ddarparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad moesol, ysbrydol a diwylliannol wedi’i gynnwys o fewn y meysydd cwricwlwm ‘Addysg Bersonol a Chymdeithasol’ ac ‘Addysg Grefyddol’. Cyfeirir at y dimensiwn ysbrydol hwn yn ‘Nibenion Craidd’ Dyfodol Llwyddiannus, o ran datblygu ‘Meysydd Profiad Dysgu’.

Mae ymchwilwyr addysgol blaenllaw megis Dr Marian de Souza ((2016), Spirituality in education in a global pluralised world, Llundain ac Efrog Newydd: Routledge); David Hay ((2006), Something there: The biology of the human spirit, Llundain: Dartman, Longman & Todd Ltd), a llawer o rai eraill (gweler, er enghraifft, International Journal of Children’s Spirituality, wedi dadlau bod ysbrydolrwydd yn elfen gynhenid yn y person dynol, ymhlyg yn nimensiwn perthynol bywyd. I de Souza, fe’i canfyddir ‘yn y cysylltiad dwfn â’r Arall’ sydd gan berson. ‘I rai,’ ysgrifenna, ‘mae’r rhyng-gysylltiad hwn wedi’i seilio yn y byd dynol, ond i eraill, mae’n ymestyn y tu hwnt i fyd nad yw’n ddynol lle y gallent ddod ar draws realiti trosgynnol, a ddaw â phrofiad o uniaeth; hynny yw, bod yn rhan o’r cyfan’ (M de Souza, The Spiritual Dimension of Education: Addressing Issues of Identity and Belonging’ yn Discourse and Communication for Sustainable Education, cyfrol 7, rhif 1, tud. 127).

Fel y noda de Souza, mae hyn yn dechrau gyda chydnabyddiaeth bod ‘y plentyn yn fod amlddimensiynol; yn unigolyn sydd â meddwl rhesymegol sy’n ystyried, a meddwl emosiynol sy’n teimlo a meddwl ysbrydol sy’n sythweled, yn dychmygu, yn holi ac yn creu. Ac mae’r meddwl amlddimensiynol hwn wedi’i amwisgo yn y corff ffisegol sy’n galluogi’r plentyn unigol i ymgysylltu, i gyfryngu ac i ryngweithio â’r byd o’u cwmpas trwy eu canfyddiadau a’u synhwyrau.’ (De Souza, 2016, tud. 123). Os yw plentyn yn unigolyn rhesymegol, emosiynol ac ysbrydol, rhaid i bob un o’r tair elfen hyn fod yn bresennol mewn darpariaeth addysgol effeithiol: ‘Mae’r rhyng-gysylltiad y gellir ei weld yn ymateb unigolyn i Arall yn cael ei adlewyrchu yn lefelau’r empathi y mae’r unigol yn eu profi tuag at Arall a gellir mynegi hyn trwy lawenydd, hapusrwydd, heddwch, cyfiawnder, rhyddid, rhyddhad, parch, rhyfeddod, doethineb, tosturi ac yn y blaen. Mae twf ysbrydol yn digwydd pan fydd profiadau cadarnhaol o ryng-gysylltiad yn cael eu meithrin’ (ibid).

Yn ogystal, mae Patricia A. Alexander, Michael J. Furlong, Rich Gilman, E. Scott Huebner yn Measuring and Promoting Hope in Schoolchildren (2014, tud. 39); a Leslie Gutman ac Ingrid Schoon yn The impact of non-cognitive skills on outcomes for young people and others (2014), ymhlith eraill, wedi archwilio sut mae elfennau o’r hyn y gellir ei ganfod mewn datblygiad ysbrydol yn cael effaith gadarnhaol ar gyflawniad academaidd personol ac ar gydlyniant cymunedol.

Mae ystyr ‘dimensiwn ysbrydol’ y person dynol, a ‘datblygiad ysbrydol’ mewn addysg, yn faes trafod a dadlau cyfoethog ac yn un sy’n cyfoethogi’n fawr iawn. Mae datblygiad ysbrydol ein pobl ifanc, yn fy marn i, yn rhan hanfodol o’u datblygiad ac yn gyfrifoldeb yr ysgol gyfan, pa fath bynnag o ysgol ydyw. Efallai y byddai’n werth ystyried a allai dimensiwn a datblygiad ‘ysbrydol’ y person dynol fod yr un mor bwysig o bosibl â’u datblygiad deallusol, corfforol, emosiynol a chymdeithasol.

Y Parch. Dr Philip Manghan
Y Gwasanaeth Addysg Gatholig, Cynghorydd ar gyfer Cymru

Mae'r Parch Dr Philip Manghan wedi addysgu mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru ers dros ddeng mlynedd ar hugain, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth yr ysgol uwchradd Gatholig ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn 2015, daeth Philip yn Gynghorydd cyntaf Cymru ar gyfer y Gwasanaeth Addysg Gatholig (CES). Y CES yw asiantaeth addysg Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr. Cynhadledd yr Esgobion yw cynulliad parhaol esgobion Catholig Cymru a Lloegr ac mae'r CES, fel asiantaeth o Gynhadledd yr Esgobion, yn gyfrifol am hyrwyddo a sicrhau addysg ar ran yr esgobion. Mae Philip, fel swyddog o'r CES, yn cynrychioli'r sector Catholig yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda Llywodraeth Cymru a chydag asiantaethau addysg genedlaethol eraill.