Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter: @ewc_cga | Linkedin

meeting
Sôn

Tim Opie - Sut all cofrestru helpu hyrwyddo manteision gwaith ieuenctid fel proffesiwn?

"Mae pobl ifanc yn treulio tua 85% o'u hamser y tu allan i addysg ffurfiol" Adroddiad Pwyllgor Dethol Addysg yn San Steffan i Wasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc (Mehefin 2011).

"Mae addysg anffurfiol (NFE) a'i gydnabyddiaeth yn elfen hanfodol er mwyn ffurfio cymdeithasau dysgu gydol oes. Fel un o brif ddarparwyr addysg anffurfiol, mae mudiadau ieuenctid yn cyfrannu at ddatblygiad cyfannol pobl ifanc, o'u datblygiad fel unigolion yn ogystal ag aelodau gweithredol o'u cymdeithas, er mwyn eu cynnwys fel aelodau gweithgar o fywyd cymdeithasol a phroffesiynol " Astudiaeth ar Effaith Addysg anffurfiol mewn Mudiadau Ieuenctid ar gyflogadwyedd pobl ifanc, Prifysgol Caerfaddon (2012)

Tim Opie photo1Mae gwaith ieuenctid yn ddarpariaeth unigryw a phenodol sydd ar gael i bobl ifanc rhwng 11-25 oed gwaeth beth yw eu cefndir neu eu gallu. Gydag addysg bersonol a chymdeithasol wrth ei wraidd, mae'n gyfrannwr allweddol i ddatblygiad cynaliadwy a ffyniant cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru a ddylai gael ei chydnabod yn ganolog i ddarparu gwasanaethau gyda'r pwyslais, cefnogaeth ac adnoddau priodol.

Mae gwaith ieuenctid yn newid bywydau er gwell ac yn wir, yn achub bywydau. Er nad yr erthygl hon yw'r amser neu'r lle i wneud datganiadau maith am hyn, mae'r sgiliau sy'n ofynnol mewn gweithiwr ieuenctid da yr un mor heriol â'r rhai ar gyfer proffesiynau eraill. O ystyried natur wirfoddol y gwaith, ynghyd â'r ffaith bod gwaith ieuenctid, trwy ddiffiniad, yn aml yn digwydd mewn amgylcheddau distrwythur, llai ffurfiol e.e. mewn cymunedau ac ar y strydoedd, gan ymgysylltu â rhai o'n pobl ifanc mwyaf difreintiedig a mwyaf heriol ac yn aml ar draws nifer o feysydd polisi (yn ddibynnol ar anghenion presennol y person / pobl ifanc), gall hyn fod yn fwy anodd. Er bod llawer o'r gwaith yn ddigymell (gan greu'r canlyniadau gorau yn aml iawn), mae gweithwyr ieuenctid hefyd yn cael eu hyfforddi i gynllunio, monitro a gwerthuso i ymgysylltu / sesiynau gyda phobl ifanc.

Yn y ddadl ers i Lywodraeth Cymru fwriadu ehangu Cyngor y Gweithlu Addysg, a fyddai hefyd yn cwmpasu gwaith ieuenctid, nid yw'r hollti barn ynglŷn â chynnwys gwaith ieuenctid fel proffesiwn wedi ei reoleiddio gan gorff priodol wedi bod yn amlwg yng Nghymru o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU. Fel yr adlewyrchir yn ymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth Cymru ar gofrestru gweithwyr ieuenctid, "... tra awgrymodd rhai ymatebwyr na ddylai gweithwyr ieuenctid gwirfoddol orfod cofrestru...", mae'r rhan fwyaf a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn 2012 ar 'gynigion i ddiwygio'r gofynion ar gyfer cofrestru'r gweithlu addysg yng Nghymru' o blaid cofrestru. Gyda hyn, y dasg yn awr yw i'r holl randdeiliaid ddod at ei gilydd er mwyn sicrhau bod sylw priodol a chydnabyddiaeth yn cael ei roi i'r sector yn ei hymdrechion parhaus a rôl mewn agendâu ar y cyd megis gwella addysg drwy rymuso ein pobl ifanc i chwalu rhwystrau i ddysgu ffurfiol a thrwy annog cyfranogiad anffurfiol (yn ogystal â ffurfiol) yn y cyfleoedd dysgu sydd ar gael.

Mae gan waith ieuenctid ei gyfres ei hun o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, ynghyd â fframwaith cymwysterau, pwyllgor Safonau Addysg a Hyfforddiant (sy'n sicrhau bod rhaglenni hyfforddi o ansawdd uchel ac addas, ar ran y Cydbwyllgor Negodi dros Weithwyr Ieuenctid a Chymuned (JNC) ac, yng Nghymru, yn cael ei gefnogi ymhellach a'i ddiffinio gan Waith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion. Er, o ystyried newidiadau parhaus yn y sector, mae dyfodol y JNC (a sefydlwyd yn 1961) yn ansicr, ond mae cofrestru gweithwyr ieuenctid yng Nghymru yn darparu rhywfaint o optimistiaeth nid yn unig y bydd ansawdd a phroffesiynoldeb gweithwyr ieuenctid yn cael eu cynnal a'u gwella, ond y bydd statws y proffesiwn yn cael ei gydnabod fel galwedigaeth gan y wladwriaeth. Mae buddion ehangach hefyd yn cynnwys mynediad at y pasbort dysgu proffesiynol (PDP) a Bargen Newydd LlC ar gyfer y Gweithlu Addysg.

Felly, pam nad yw mwy o weithwyr ieuenctid yn mynd ymlaen i swyddi sydd â mwy o ddylanwad a chyfrifoldeb? Gall fod yn braidd yn ffraeth (hyd yn oed os yw'n gynrychiolaeth deg) i ateb hyn drwy ddweud bod pobl yn dod yn weithwyr ieuenctid i beidio â gwneud arian (yn sicr nid i ddod yn gyfoethog) ond yn hytrach i weithio gyda, a gwella bywydau pobl ifanc ac mai dyma yw eu hangerdd. Ond, drwy symud i mewn i 'swyddi gyda mwy o gyfrifoldeb a dylanwad', y tebygolrwydd yw bod cyfleoedd i ymgysylltu â phobl ifanc yn prinhau. Gall hyn fod yn ganlyniad i'r niwed a ddaw wrth i lai o arweinwyr hyrwyddo'r proffesiwn (o'i gymharu â sectorau eraill), ond ni ddylai hyn gael effaith negyddol ar y rôl uchel ei barch a'r gwaith ymyrryd sy'n cael effaith enfawr ar fywydau pobl ifanc.

Mae gan waith ieuenctid gyfle a llwyfan i gydweithio'n agosach â, ynghyd â dysgu gan addysgwyr eraill ac ar gyfer addysgwyr eraill i ddysgu oddi wrth waith ieuenctid, yn ogystal â chyfle i hyrwyddo ei gyfraniad at wella canlyniadau ar gyfer pobl ifanc ac felly cymunedau a chymdeithas yn gyffredinol.

Wrth gymryd gofal i beidio â chreu gweithlu gyda dwy neu dair haen, mae'r cynnig ar gyfer cofrestru gweithwyr ieuenctid mewn awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol sydd wedi cymhwyso i Lefel 6 ac yn uwch a'r rheiny ar Lefel 2 a 3 (Gweithiwr Cefnogi Ieuenctid) yn rhoi cyfle i barhau â'r ddeialog allai arwain at gynnwys gweithwyr ieuenctid eraill yn ddiweddarach. Os yw gwaith ieuenctid am fod mor effeithiol ag y gall fod, mae angen arweinyddiaeth ragorol a gweithlu cymwys a medrus iawn.

Gan Tim Opie
Swyddog Polisi Dysgu Gydol Oes (Ieuenctid), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Mae Tim Opie wedi ei gyflogi gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), y corff sy'n cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru. Mae'n cynrychioli 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac mae'r 3 awdurdod tân ac achub a'r 3 pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.

Mae Tim yn aelod o'r Gyfarwyddiaeth Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth CLlLC ac ef yw'r Swyddog Polisi Dysgu Gydol Oes (Ieuenctid), sy'n ymdrin â materion sy'n ymwneud â phobl ifanc 11-25 oed. Mae hyn yn cynnwys rôl fel hwylusydd a chefnogwr polisi ar gyfer Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru (PYOG), y rhwydwaith o arweinwyr strategol ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid yn yr awdurdodau lleol yng Nghymru.