Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter: @ewc_cga | Linkedin

search cym apply Cym
plp Cym hearings cym

Newyddion diweddaraf

Gweithwyr Ieuenctid a Gweithwyr Cymorth Ieuenctid: Diweddarwch Eich Cofnod

Fe gysyllton ni â holl weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid yn ddiweddar i'w gofyn i chi ddiweddaru eich cofnod...

Nifer y Staff Cefnogi Dysgu Ysgol yng Nghymru yn Rhagori ar y Nifer o Athrawon

Dengys data newydd a gyhoeddwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) fod mwy o staff cefnogi dysgu nag athrawon cofrestredig yn...

Cyflwyno Dull Arloesol i Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru

Mae’r rhaglenni addysg gychwynnol athrawon cyntaf sydd wedi’u hachredu gan Fwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)...

Yr Athro Andy Hargreaves ar Ganol y Llwyfan yn Siarad yn Broffesiynol 2019 CGA

Yr Athro Andy Hargreaves fydd yn cyflwyno pedwaredd ddarlith flynyddol Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), Siarad yn...

Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer ar gyfer 2018-19

Heddiw, cyhoeddwn ein Hadroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer. Mae'r adroddiad yn rhoi crynodeb o waith achosion priodoldeb...

Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol Diwygiedig CGA yn Dod i Rym

Ar 1 Medi 2019, daeth Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol diwygiedig CGA i rym. Mae'r Cod yn penodi'r safonau a ddisgwylir...

CGA yn Penodi Cadeirydd Newydd i’w Fwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wrth ei fodd cael cyhoeddi penodiad Dr Hazel Hagger fel Cadeirydd i’w Fwrdd Achredu Addysg...

Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CGA ar gyfer 2018-19

Cyhoeddon ni ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2018-19 yn ddiweddar. Noda'r cyhoeddiad ein cyfnod pedair blynedd...

Llongyfarchiadau - Tystysgrifau SAC ar eu Ffordd i Athrawon Ysgol Sydd Newydd Gymhwyso

Hoffai Cyngor y Gweithlu Addysg longyfarch holl fyfyrwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon sydd wedi cyrraedd Statws Athro...

tanysgrifiwch in cylchlythyr

Owen Hathway - Her adolygu'r cwricwlwm

Arbenigedd

Owen Hathaway1Heb os, bydd Adolygiad Donaldson, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn peri i'r ffordd mae addysg yng Nghymru'n cael ei gyflwyno gael ei hailwampio'n llwyr. Mae wedi ein gosod ar lwybr ar gyfer newid a fydd yn altro'n radicalaidd y ffordd mae athrawon yn meddwl am addysg ac yn ei chyflwyno.

Bu athrawon yn gweiddi, yn galw ac yn awyddus iawn i gael ymdeimlad cynyddol o ryddid i lywio'r cwricwlwm i weddu i anghenon a chryfderau eu cymunedau lleol a phroffiliau disgyblion. Mae cael eu galluogi i weithredu ar yr hyblygrwydd hwnnw yn her y dylai'r holl athrawon ei groesawu.

Fodd bynnag, mae'r glir ei fod yn rhywbeth nad yw athrawon wedi'u harfer ag ef, ac mewn sawl achos, na fyddant yn teimlo'n gyfforddus ag ef, o leiaf yn y camau cychwynnol. Mae'r heriau'n frawychus ac yn gyffrous ar yr un pryd. Bydd rhaid i ni ystyried o ddifrif y cwestiwn o gapasiti yn y system i fodloni gofynion y chwyldro hwn yn y cwricwlwm.

Mae athrawon wedi dod i arfer ag agwedd ragnodol gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ac efallai eu bod yn aros, ar gam, i gael y diweddariad nesaf ar y cwricwlwm gan y ffynhonnell ganolog honno.

Nid yw'n rhy gryf, yn fy marn i, ddweud bod yr ymagwedd o'r brig i lawr tuag at lunio'r cwricwlwm rydym wedi'i gweld yn y blynyddoedd diweddar wedi datbroffesiynoli athrawon i ryw raddau yn yr agwedd hon ar gynllunio addysg, ac mae wedi cyfyngu syniadau annibynnol a beirniadol ynglŷn â'r cwricwlwm. Mae'n debyg ein bod ni bellach yn symud yn ôl tuag at ryddhau'r llyffetheiriau, ond mae'n rhaid i ni beidio â disgwyl i'r sector redeg cyn ei ganiatáu i gerdded yn annibynnol eto. Bydd rhaid i athrawon ailddysgu'r sgiliau y mae'n rhaid wrthynt i lunio cwricwlwm, bron, sy'n mynd i fod yn faich ar eu datblygiad a'u llwyth gwaith proffesiynol.

Amser

Yn y camau cynnar, mae'n bwysig bod athrawon ac ysgolion yn cael yr amser, y rhyddid a'r gefnogaeth i fodloni'r her hon. Y peth olaf rydym am ei weld yw sefyllfa lle bydd y pwysau i fynd i'r afael â'r broses hon yn arwain yn rhy gyflym at ddatrysiadau "parod" sy'n dihysbyddu'r cyfleoedd creadigol a’r cyllid o ysgolion.

Mae'r Gweinidog Addysg wedi bod yn feiddgar wrth wneud datganiadau cyhoeddus am ei ddymuniad i weld y proffesiwn addysgu'n arwain y gwaith o lunio'r cwricwlwm yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hynny i'w groesawu. Mae synnwyr o weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn hytrach na gwrthdaro â hi, yw'r hyn sydd ei angen yn daer ar y sector addysg ynglŷn â phwnc mor bwysig.

Hefyd, bu'n bositif iawn clywed Llywodraeth Cymru'n bod yn llawer mwy realistig am amserlenni nag y buont, efallai, ar faterion eraill yn y gorffennol.

Calonogol oedd clywed y Gweinidog Addysg yn dweud y canlynol wrth Newyddion ITV Cymru:

“It will take the time that it takes in order to do this carefully and with the proper support for the professionals particularly that we are leaning on so heavily here.“ – Huw Lewis AC, ITV News, Chwefror 25ain

Bydd rhaid i ni weld buddsoddiad sylweddol, o ran cyllid ac amser, i feithrin y sgiliau priodol ar gyfer llunio a chynllunio'r cwricwlwm ymysg ymarferwyr presennol, ond bydd rhaid i ni hefyd ail-ddychmygu’r ffordd mae athrawon yn cael eu hyfforddi. Dyma rywbeth mae adroddiad Furlong eisoes wedi cymryd camau i'w weithredu.

Llythrennedd Digidol

Yn yr argymhellion, mae'r her benodol o hybu rôl TG. Mae llythrennedd digidol yn rhan allweddol o'r diwygiadau hyn i'r cwricwlwm. Yn ei hanfod, mae'r adroddiad yn rhoi cymhwysedd digidol, gan gynnwys rhaglennu cyfrifiaduron a chodio ar yr un gwastad â llythrennedd a rhifedd fel blaenoriaethau y dylid eu hystyried mewn pob gwers, ar draws yr holl bynciau.

Er na ddylai addysg ymwneud â bodloni gofynion sbarduno'r economi'n yn unig - ac yn wir, mae'r adolygiad cwricwlwm yn eithaf eglur am hynny - wrth gwrs, mae angen i ni dderbyn bod dod yn hyddysg mewn TG yn realiti yn y byd sydd ohoni.

Mae'r argraff sydd wedi'i chyfleu erbyn hyn, i mi, o leiaf, yw efallai bod yr amynedd rydym wedi'i weld ar gyfer meithrin gallu yn y cwricwlwm yn ychydig mwy tynn pan ddaw'n fater o gynhwysiant digidol. Dyma rywbeth mae'r Gweinidog am iddo gael ei weithredu'n gynt o lawer.

Y gwir yw bod angen i ni gefnogi’r gwaith o loywi sgiliau'r proffesiwn pe hoffem sicrhau bod yr holl athrawon yn hyderus ac yn greadigol wrth ddefnyddio technoleg fodern er mwyn llunio'r profiadau dysgu gorau ar gyfer eu dosbarthiadau. Mae plant, sydd ond yn adnabod byd o iPads, iPhones a Facebook, yn fwy rhugl na rhai athrawon a anwyd, ac mewn rhai achosion, a fu eisoes yn addysgu, cyn i'r rhyngrwyd gael ei dyfeisio, hyd yn oed. Rwy'n 32 oed, ond er i mi gael fy ffôn symudol cyntaf yn 19 oed, roedd fy mab yn chwilio ei ffordd yn ddidrafferth drwy YouTube erbyn iddo fod yn 20 mis oed.

Unwaith eto, dylai fod buddsoddiad sylweddol mewn datblygiad proffesiynol parhaus yn y maes hwn, yn ogystal â mewn caledwedd ac adnoddau eraill i sicrhau bod gan ysgolion faint ac ansawdd y dechnoleg sydd ei hangen er mwyn gwireddu'r uchelgais.

Asesu ac atebolrwydd

Her fawr bellach i weithredu yw'r newid arfaethedig ym maes asesu ac atebolrwydd. Er bod yr adolygiad yn canolbwyntio ar lunio'r cwricwlwm, mae 22 o'r 68 o argymhellion yn ymwneud yn benodol â'r materion hyn.

Mae her benodol yma i awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol ac Estyn wrth sgwario cylch y system bresennol o fesurau atebolrwydd costus, cosbol (y mae llawer ohonynt yn amherthnasol wrth sicrhau cynnydd ar gyfer y dysgwr unigol), a system y mae'n rhaid iddi symud tuag at ddefnyddio asesu ar gyfer dysgu mewn ffordd sy'n fwy cynnil a pherthnasol.

Casgliad

Y gwir amdani yw bod yr hyn y gofynnir i'r proffesiwn ymgodymu ag ef yn ymrwymiad enfawr. Bydd angen newid sylweddol o ran meddwl ac ymagwedd. Bydd angen ymrwymiad clir i ddatblygiad proffesiynol parhaus o safon. Bydd angen cydnabod na ellir ei wireddu tra bydd cyllidebau'n cael eu torri'n gyson. Ni ellir ei lunio dros nos, ac mae angen amynedd sy'n mynd y tu hwnt i'r cylch etholiadau arferol.

Fodd bynnag, mae'r hyn mae'r proffesiwn yn ei gael hefyd yn gyfle gwirioneddol. Mae cyflawniad dysgwyr a datblygiadau ysgolion ar sail cwricwlwm arloesol a hyblyg o fwy o bwys i athrawon ac arweinwyr ysgolion nag i neb arall. Dyma gyfle iddynt hawlio perchenogaeth eto am yr hyn a ddylai berthyn iddynt, fel rydyn ni gyd yn gwybod.

Owen Hathway yw Swyddog Polisi Cymru yn Undeb Cenedlaethol yr Athrawon. Mae Owen yn cyfrannu'n rheolaidd i'r drafodaeth addysg yng Nghymru, a dechreuodd yn y swydd ym mis Awst 2011, ar ôl gweithio mewn rolau cyfathrebu ac ymchwilio amrywiol i Blaid Cymru. Roedd hyn yn cynnwys rôl Pennaeth Cyfathrebu'r blaid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Ac yntau wedi graddio o adran wleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, mae Owen hefyd wedi astudio ar gyfer cymwysterau gydag Ysgol Newyddiaduraeth Llundain; y Sefydliad Marchnata Siartredig, lle mae'n Farchnatwr Siartredig; y Sefydliad Rheolaeth Siartredig a'r Sefydliad Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig. Mae gan Owen ddiddordeb penodol yn effaith cydweithrediad cymunedol ar gyrhaeddiad addysgol, a sut mae’r broses o alluogi'r proffesiwn addysg yn gallu gweithio fel y prif ysgogydd ym maes perfformiad economaidd a chymdeithasol.