Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter: @ewc_cga | Linkedin

meeting
Sôn

Graham Donaldson - Dyfodol Llwyddiannus

21ain Ebrill 2015 – mae’r Athro Graham Donaldson yn ysgrifennu am ei adolygiad o’r trefniadau cwricwlwm ac asesu yng Nghymru – ‘Dyfodol Llwyddiannus’

Professor Donaldson photoYchydig dros flwyddyn yn ôl, cefais wahoddiad gan Huw Lewis AC, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, i ymgymryd ag adolygiad annibynnol a sylfaenol o'r trefniadau cenedlaethol ar gyfer y cwricwlwm ac asesiadau yng Nghymru. Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, cyhoeddwyd canlyniad yr Adolygiad hwnnw - fy adroddiad, Dyfodol Llwyddiannus - ar 25 Chwefror. Bydd gan ei argymhellion oblygiadau sylfaenol a phellgyrhaeddol i'r holl rheiny sy'n ymwneud ag addysg, ac yn enwedig, i lwyddiant a lles plant a phobl ifanc Cymru yn y dyfodol.

Wrth ymgymryd â'r Adolygiad, roeddwn yn gwbl benderfynol y byddai fy argymhellion ar gyfer newid yn adlewyrchu barn a dyheadau pobl Cymru, yn ogystal â'r syniadau ac ymarferion gorau a welir mewn gwledydd eraill. Bu i'm tîm a minnau ymweld â tua 60 o ysgolion ledled y wlad, gan gynnwys ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg, ysgolion arbennig, unedau cyfeirio disgyblion, sefydliad troseddwyr ifanc a lleoliadau dysgu yn y gweithle. Cawsom dros 700 o ymatebion (yr oedd mwy na 300 o'r rhain gan blant a phobl ifanc eu hunain) i'n cais am dystiolaeth. Buom hefyd yn cysylltu ag ystod eang o unigolion a sefydliadau â diddordeb ledled Cymru.

Roedd y negeseuon o'r gwaith ymgysylltu hwn yn hynod o gyson ac roeddent yn llywio casgliadau ac argymhellion yr Adolygiad. Nodwyd cryfderau pwysig, gan gynnwys yr ymrwymiad i degwch a chynhwysiant, y Cyfnod Sylfaen a phwysigrwydd diwylliant ac iaith Cymru, yn ogystal â llawer o enghreifftiau o ymarfer lleol rhagorol. Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth hefyd yn tynnu sylw at angen anorfod am newid sylfaenol. Roedd y naill ddiwygiad ar ôl y llall yn y cwricwlwm ers 1988 wedi arwain at drefniadau a oedd wedi'u gorlwytho, yn rhy ragnodol, yn ddiangen o gymhleth ac yn ei chael yn anodd i fod yn berthnasol. Yn yr un modd, roedd y trefniadau ar gyfer asesu ac atebolrwydd wedi plethu i'w gilydd mewn ffyrdd nad ydynt yn llesol ac a oedd yn gwanychu gallu y naill broses a'r llall i wasanaethu dysgu gan blant.

Yn aml, roedd yn ymddangos fod yr ymarfer ardderchog sy'n bodoli ledled Cymru yn digwydd er gwaethaf, ac nid oherwydd, y cwricwlwm. Cafwyd awydd clir am newid sylfaenol er mwyn creu'r amodau i ysgolion ac ymarferwyr ganolbwyntio'n fwy uniongyrchol ar addysgu a dysgu, ac i baratoi plant a phobl ifanc yng Nghymru i ffynnu a llwyddo mewn byd sy'n newid yn gyflym. Felly, roedd yr Adolygiad hefyd yn ystyried y graddau yr oedd y cwricwlwm mewn sefyllfa dda i fodloni'r anghenion a'r pwysau sy'n codi o newidiadau pellgyrhaeddol yn y gymdeithas a'r economi. Mae byd 1988 yn wahanol iawn i'r byd heddiw, heb ystyried yfory. Yn gynyddol, mae newidiadau yn y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio yn gofyn am y gallu i ddysgu drwy gydol oes ac i gysylltu'r dysgu hwnnw a'i gymhwyso'n greadigol mewn sefyllfaoedd go iawn, annarogan.

Mae 'Dyfodol Llwyddiannus' yn gwneud cyfanswm o 68 o argymhellion - amcan y rhain yw hybu dysgu gwell a safonau uwch.

Roedd y dystiolaeth yn dangos yn hynod gyson beth oedd y deilliannau yr oedd pobl yn awyddus i'w cael ar gyfer eu plant a'u pobl ifanc. Felly, roedd yr Adolygiad yn gallu datblygu pedwar diben cwricwlwm sydd â'r bwriad o adlewyrchu'r dyheadau hyn mewn ffyrdd sy'n ceisio crisialu gweledigaeth o'r dysgwr sydd wedi'i addysgu'n dda wrth gwblhau ei addysg statudol.

Caiff y pedwar diben cwricwlwm eu hamlinellu a'u datblygu yn yr adroddiad. Maent yn nodi y bydd ein holl blant a'n pobl ifanc:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a'u gwaith
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd
  • yn unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Y dasg nesaf i'r Adolygiad oedd nodi strwythur ar gyfer y cwricwlwm newydd a fyddai'n ategu ac yn gosod sylfaen gadarn i'r dibenion hyn. Dylai'r strwythur hybu dilyniant wrth ddysgu, gan sefydlu sylfeini cadarn ac yn amlygu'r angen am gysylltiadau ymysg yr hyn sydd wedi'i ddysgu, a'i gymhwyso. O gofio hyn, rwyf wedi argymell y dylid seilio strwythur y cwricwlwm ar chwe Maes Dysgu a Phrofiad fel trefnyddion ar gyfer yr ystod oedran gyfan rhwng 3 ac 16 oed. Y Meysydd Dysgu a Phrofiad arfaethedig yw:

  • y Celfyddydau mynegiannol
  • Iechyd a lles
  • Dyniaethau
  • Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • Mathemateg a rhifedd
  • Gwyddoniaeth a thechnoleg

Mae'r Adolygiad hefyd yn cynnig y dylai llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fod yn gyfrifoldeb i bob athro/athrawes. Mae'r ddadl o blaid llythrennedd a rhifedd eisoes wedi'i chyflwyno. Mae'r ddadl o blaid trafod 'cymhwysedd digidol' mewn ffordd debyg i lythrennedd a rhifedd wedi dod yn fwyfwy perswadiol, wrth i'r byd digidol gydblethu â'r ffordd rydym yn byw, yn gweithio ac yn cymdeithasu. Nid opsiwn yw bod yn ddigidol gymwys, ond anghenraid i'r dysgwyr yn yr unfed ganrif ar hugain.

Fy marn hefyd yw y dylid gweld y cyfnod o addysg statudol (o leiaf), yn gyfanwaith cydlynol a dilynol. Dros amser, mae'r strwythur presennol o gyfnodau a chyfnodau allweddol wedi mynd yn dameidiog, ac mae wedi creu pwyntiau trosglwyddo ychwanegol diangen. Felly, rwyf yn cynnig ffocws cryfach ar ddyfnder a dilyniant mewn dysgu drwy greu Camau Cynnydd, a blwch o dair blynedd rhyngddynt, ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad.

Mae'r Adolygiad yn argymell y dylai'r holl blant a phobl ifanc barhau i ddysgu'r Gymraeg hyd at 16 oed, ond gyda mwy o ffocws ar allu plant a phobl ifanc i gyfathrebu'n hyderus yn y Gymraeg mewn cyd-destunau pob dydd, gan gynnwys y gweithle. Dylai ysgolion cyfrwng-Cymraeg weithredu fel canolbwynt ar gyfer y Gymraeg, gan ddarparu cymorth i athrawon ac ymarferwyr eraill mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Beirniadwyd y trefniadau asesu presennol gan lawer yn ystod yr adolygiad ar y sail eu bod yn ddryslyd, yn rhy gymhleth ac yn drwm o dan ddylanwad y broses atebolrwydd. Felly, rwyf yn argymell dull symlach o asesu o dan drefniadau sy'n rhoi blaenoriaeth i asesu gan athrawon ar gyfer cefnogi dilyniant wrth ddysgu.

Mae goblygiadau mawr yn fy argymhellion o ran datblygiad proffesiynol athrawon ac ymarferwyr eraill. Mae Bargen Newydd Llywodraeth Cymru i'r Gweithlu Addysg a'r argymhellion yn adolygiad yr Athro John Furlong ar hyfforddiant athrawon yn amserol iawn o ran ymateb i nifer o'r materion hyn. Yn ogystal, bydd angen hefyd am weithredu mwy uniongyrchol i feithrin hyder a chapasiti athrawon ac arweinwyr ysgol wrth fwrw ymlaen ag argymhellion yr Adolygiad.

Mae fy nghynigion yn cadarnhau pwysigrwydd atebolrwydd ond dylai'r mecanweithiau a ddefnyddir gyfrannu'n adeiladol at y dysgu gan blant a phobl ifanc ac yn hybu canolbwyntio ar y dibenion cwricwlwm gan eu gweld yn nodau i'r dysgu hwnnw. Yn enwedig, mae'n rhaid i ni warchod rhag yr ystumiadau a allai godi pe bai dibenion asesu ac atebolrwydd yn cael eu cymysgu.

Yn eu cyfanrwydd, bwriad yr argymhellion yn fy adroddiad yw hybu dyfodol llwyddiannus i'r holl blant a phobl ifanc yng Nghymru. Maent yn gosod agenda uchelgeisiol, trwyadl a heriol. O'r cyfan rwyf wedi'i weld, a'r holl bobl rwyf wedi cael y fraint o gwrdd â hwy, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth eich bod mewn sefyllfa dda i weithredu'r dyheadau uchel hyn.

I ddangos ei ymrwymiad i weithio yn y ffordd newydd hon, lansiodd y Gweinidog y Sgwrs Fawr ar y weledigaeth ar gyfer dyfodol addysg mewn ysgolion yn fy adroddiad. Hoffwn eich annog chi, eich cydweithwyr, eich disgyblion, eich rhieni ac eraill i barhau i ymwneud â'r Adolygiad drwy gymryd rhan yn y sgwrs hon, a thrwy ymateb i'r holiadur ar fy adroddiad. Bydd yr ymatebion hyn yn llywio ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i'r adroddiad a gyhoeddir yn yr haf - felly mae'n bwysig eich bod yn cymryd rhan!

Dolen gyswllt i'r Sgwrs fawr: http://gov.wales/topics/educationandskills/great-debate/?skip=1&lang=cy 

Graham Donaldson
Mawrth 2015

 Roedd Graham yn athro ysgol uwchradd yn yr Alban cyn iddo ddod yn gloriannydd ar gyfer corff cwricwlwm cenedlaethol yr Alban.

Yn 1983, ymunodd ag Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg (HMIE). Fel pennaeth y sefydliad, fe'i harweiniodd drwy ddiwygio strwythurol mawr wrth iddo ddod yn asiantaeth weithredol i Lywodraeth yr Alban.

Bu iddo hefyd ddiwygio'r dull o arolygu'n helaeth, gan gyfuno atebolrwydd â hunanwerthuso a meithrin gallu. Yn ogystal â gweithio fel y prif gynghorydd proffesiynol i Weinidogion ar bolisi addysg, cymerodd Graham rôl flaenllaw yn bersonol mewn nifer o raglenni diwygio pwysig, ac roedd yn ddylanwadol yn rhaglen diwygio cwricwlwm Llywodraeth yr Alban, sef 'Curriculum for Excellence'.

Ar ôl ymddeol o HMIE, gofynnwyd iddo gan y llywodraeth ymgymryd ag adolygiad personol o addysg athrawon yn yr Alban. Gwnaeth ei adroddiad, 'Teaching Scotland's Future', a gyhoeddwyd yn 2011, 50 o argymhellion, y mae pob un wedi'i dderbyn gan y llywodraeth, ac mae rhaglen weithredu bwysig bellach ar waith. Mae'r adroddiad hefyd wedi denu cryn dipyn o ddiddordeb mewn gwledydd eraill.

Mae Graham yn aelod o Bwyllgor Addysg Cymdeithas Frenhinol Caeredin, ac yn un o Gyfarwyddwyr Grŵp Goodison yn yr Alban. Mae wedi sefydlu proffil rhyngwladol sylweddol drwy ddarlithio'n helaeth, gweithio fel arbenigwr rhyngwladol ar gyfer OECD, cynghori llywodraethau a sefydliadau anllywodraethol ac arwain y sefydliad arolygu rhyngwladol fel ei Lywydd.

Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ym Mhrifysgol Glasgow, lle mae'n Athro Anrhydeddus yng Ngholeg y Gwyddorau Cymdeithasol.

Penodwyd Graham yn Gydymaith Urdd y Baddon yn 2010 gan ei Mawrhydi'r Frenhines.