meeting
Helen Prosser - Y wefr o ddysgu oedolion

Gyda nod Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, Helen Prosser o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg sy’n esbonio rôl tiwtoriaid Cymraeg i oedolion wrth geisio cyrraedd y targed. Darllenwch fwy am gynlluniau’r Llywodraeth yma.

Helen ProsserRwyf yn fy nghyfrif fy hun yn ffodus iawn o fod wedi cael treulio fy ngyrfa yn dysgu Cymraeg i oedolion.  Ac er fy mod bellach yn gweithio mewn swydd strategol, mynnaf gadw’r cysylltiad uniongyrchol yna â’r dysgu, a hynny am reswm hunanol iawn, sef bod yr oedolion y caf y fraint i’w dysgu yn cyfoethogi fy mywyd.

Mae camu i ddosbarth o oedolion ar ddechrau eu taith ddysgu yn brofiad diddorol – gallwch fentro bod canran uchel o’r bobl yn y dosbarth yn teimlo’n nerfus neu’n betrusgar, a hynny am fyrdd o resymau – heb fwynhau dyddiau ysgol, ofn methu am fod y cysyniad o ddysgu iaith newydd yn anodd, neu efallai yn poeni am gwrdd â phobl newydd.  Yn aml iawn, mae drych o amrywiaeth ein cymdeithas yn eistedd o flaen tiwtor.  Ond yr hyn sy’n braf yw bod yr unigolion hynny, am y cyfnod y maen nhw yn y dosbarth, i gyd yn gyfwerth a gwaith y tiwtor yw sicrhau bod pob un yn gwneud cynnydd.

Felly, beth sy’n bwysig mewn tiwtor Cymraeg i oedolion?  Wrth gwrdd â darpar diwtoriaid, yr ateb a geir amlaf yw brwdfrydedd.  Ydy, wrth gwrs bod brwdfrydedd yn hanfodol ond mae rhywun yn cymryd hynny’n ganiataol.  Dyw dysgu iaith ddim yn digwydd ar hap i oedolion, a rhaid i bob tiwtor sylweddoli hynny.  Beth bynnag fo’r dull mae’r tiwtor yn ei ddefnyddio i gyrraedd ei nod o drosglwyddo iaith yn effeithiol, mae angen i bob cam yn y wers fod yn fwriadus ac wedi’i gynllunio’n ofalus.  Ac mae cryn fantais hefyd i ni fel tiwtoriaid os ydyn ni’n egluro wrth yr oedolion yn ein dosbarthiadau pam yr ydym yn dewis gwneud gwahanol weithgareddau ac ymarferion.

A beth am gywiro?  Mae wedi mynd yn dipyn o ffasiwn i beidio â chael ein cywiro am wneud camgymeriadau.  Ond rwyf eto i ddod ar draws dysgwr sy ddim am gael ei gywiro – ond bod amser a lle ar gyfer hynny wrth gwrs.  Achos un o’r gwefrau i’r tiwtor Cymraeg yw clywed dysgwyr yn dod i siarad a sgwrsio yn yr iaith.

Gwefr arall yw defnyddio’r un adnoddau dysgu creiddiol ond cael profiad dysgu hollol wahanol, a hynny oherwydd y bobl yn y dosbarth.  Gyda’r pwyslais ar ddysgu siarad a rhannu profiadau, down i adnabod ein cynulleidfa’n dda iawn ac mae eu hanesion a’u bywydau’n llywio llawer iawn o gynnwys y gwersi.

Gadewch i fi eich cyflwyno i ddwy o’r bobl ryfeddol hyn.  Cwrddais â Julie Macmillan pan ymunodd â’r Cwrs Dwys (tri bore’r wythnos) ym Mhrifysgol De Cymru.  Mae Julie’n byw yn Nhynewydd ym mhen ucha’r Rhondda Fawr a phan gwrddais â hi roedd hi’n gweithio yn swyddfa Cyllid y Wlad yng Nghaerdydd.  Roedd hi’n cael dod i’r dosbarth Cymraeg yn ystod oriau gwaith ond nid oedd yn cael ei rhyddhau – roedd yn rhaid iddi barhau i weithio wythnos lawn.  Sut daeth hi i ben?  Yn fuan iawn, daeth Julie i sylweddoli nad wrth fynychu dosbarth yn unig y daw rhywun yn rhugl.  Mae’r dosbarth yn elfen bwysig yn y broses ond mae rhoi’r iaith ar waith yn bwysicach.  Felly dechreuodd Julie wirfoddoli yn ysgol ei phlant a’i rhoi ei hun mewn sefyllfaoedd heriol.  Aeth Julie yn ei blaen i ennill cystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn’, er iddi gymryd cryn berswâd i’w chael i gystadlu.  Dyw hi ddim yn gweithio yng Nghyllid y Wlad bellach, mae hi’n diwtor Cymraeg i oedolion yn y Rhondda ac yn ysbrydoli cannoedd o oedolion.

A chyn tewi, un arall o’r cannoedd o’r bobl ryfeddol y cefais y fraint o’u dysgu.  Dechreuodd Anna ar yr un Cwrs Dwys â Julie cwta bedair blynedd yn ôl.  Merch o Fwlgaria yw hi a daeth i’r dosbarth gan ddisgwyl dod yn rhugl.  Dyma un o’r problemau i ni yng Nghymru – dyw dysgu iaith ddim yn weithgaredd normal.  Mae’n gwbl normal ar gyfandir Ewrop.  Gweithiodd Anna’n galed ac fel Julie, roedd hi’n gwybod bod angen iddi ymarfer.  Y ffordd y gwnaeth Anna hyn oedd trwy fynychu cymaint â phosib o weithgareddau fel boreau coffi a dramâu Cymraeg.  A phedair blynedd yn ddiweddarach, mae Anna’n gweithio fel cyfieithydd dan hyfforddiant (ie, yn Gymraeg, ddim Bwlgareg).  Newid byd!

Bydda i bob amser yn ddiolchgar i’r diweddar Chris Rees am roi’r cyfle i fi ddysgu ar gwrs preswyl yn Llanbedr Pont Steffan pan oeddwn yn fyfyrwraig yn Aberystwyth.  Ar y cwrs hwnnw y gwelais gymaint o fraint yw cael sefyll o flaen pobl yn trosglwyddo iaith.  Mae’r ffaith mai’r Gymraeg yw’r iaith honno’n fonws ac mae’r cyfle i helpu pobl i wella a newid eu bywydau yn sgil dysgu’r iaith yn wefr.  Beth amdani?

Helen Prosser

Helen Prosser yw Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.