meeting
Cerys Furlong - Dysgu gydol oes ar gyfer Cymru’r dyfodol

Cerys FurlongErs sefydlu ein sefydliad newydd y llynedd (yn dilyn uno NIACE a’r Ganolfan Cynhwysiant Economaidd a Chymdeithasol), rydym wedi bod yn falch o weld ymwybyddiaeth gynyddol o’r angen i edrych yn gyfannol ar anghenion addysg a sgiliau ein dysgwyr a’n heconomi, a’r rhaglenni cyflogadwyedd rydym yn eu cyflwyno i alluogi mwy o bobl i gael mynediad at y farchnad lafur.

Mae’r cyd-destun y mae darparwyr addysg, y rheiny sy’n cynnig cymorth cyflogaeth, a chyflogwyr yn gweithredu ynddo ar hyn o bryd yn newid yn gyflym. Ers penderfyniad y DU i adael yr UE, mae gwerth y bunt eisoes wedi disgyn 20%, a does dim amheuaeth y bydd hyn yn effeithio ar safonau byw pobl. Mae busnesau’n dal yn ôl ar benderfyniadau buddsoddi, neu’n debygol o wneud hynny, sy’n awgrymu y bydd arafwch yn yr economi a chynnydd mewn diweithdra.

Mae angen i ni feddwl yn wahanol am y modd y mae ein heconomi yn newid, am fylchau o ran sgiliau ac anghenion busnesau ar gyfer gwahanol fathau o sgiliau. Ni allwn ddibynnu ar welliannau cyffredinol mewn twf economaidd yn unig i ysgogi newid sylweddol mewn posibiliadau ar gyfer unigolion, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru. Wrth wynebu’r heriau hyn, mae angen i ni edrych ar y dyfodol agos a’i broblemau, a’r modd y mae unigolion a grwpiau amrywiol o bobl yn ymdopi â’r rhain - ond hefyd y dyfodol tymor hwy a ble mae arnom eisiau bod ymhen 5,10, 15, 20 mlynedd. Er ei bod yn hanfodol delio â’r tymor byr, heb synnwyr o’r heriau tymor hwy rydym yn eu hwynebu a ffyrdd i ymdrin â’r rhain, ychydig iawn y byddwn yn ei gyflawni bob amser.

Felly beth yw’r heriau rydym yn eu hwynebu? Wel, yn gyntaf, gwyddom fod her ddemograffig ddifrifol. Cydnabuwyd hyn gan Lywodraeth Cymru o ran Iechyd, ac fe gaiff ei adlewyrchu yn y cyllid ychwanegol sylweddol a roddwyd i’r GIG yn y gyllideb ddrafft ddiweddar. Fodd bynnag, o ran addysg, sgiliau a chyflogaeth, mae’n ymddangos nad ydym yn ymdrin mor ddifrifol â’r her yn sgil y boblogaeth sy’n heneiddio.

Y gwirionedd yw bod Cymru’n heneiddio, ac mae cyfnod ein hymddeoliad yn rhy hir. Nid ydym yn cynnig digon o gyfleoedd dysgu i bobl; mewn gwirionedd, mae hyfforddiant yn y gwaith yn lleihau’n gyflym ar gyfer pobl dros 55 oed. Mae’r pwyslais ar ddibenion economaidd yn ein system addysg a hyfforddiant yn anwybyddu’r angen cynyddol am ddysgu y tu hwnt i waith – mae bellach yn cynnwys cyfnodau digyffelyb o gyfnod ôl-gyflogaeth.

Mae llawer o newidiadau i’n bywydau gweithio gyda disgwyliadau o’n rhychwant oes gweithio yn cynyddu yn unol â disgwyliad oes. Disgwylir y bydd oedran pensiwn y wladwriaeth yn cyrraedd 70 oed erbyn 2063 ar sail amcangyfrifon presennol ac mae gadael cyflogaeth yn rhywbeth sy’n digwydd yn raddol erbyn hyn – hynny yw, mae ein cyfranogiad economaidd yn hir ac amrywiol erbyn hyn. Newidiwyd o batrymau gweithio amser llawn i ran-amser, ac rydym yn newid gyrfaoedd yn amlach erbyn hyn (7 yw nifer cyfartalog y newidiadau gyrfa). Bu newid mewn cyfrifoldebau teuluol hefyd o blant i bobl hŷn (neu’r ddau), ac mae oedolion sy’n gweithio yn debygol o dreulio cryn dipyn o amser yn gofalu am aelodau o’r teulu. Mae cyfranogiad menywod yn y gweithlu wedi cynyddu, ac mae gwahanu rhywiau mewn mathau o rolau yn parhau i fod yn ffactor, ac mae’n ymddangos nad yw’r bwlch o ran cyflogau rhwng dynion a menywod yn newid rhyw lawer.

Nid ydym yn ddigon cynhyrchiol yn ein gweithleoedd,– mae’r DU yn cymharu’n wael â gwledydd eraill, ac mae gormod o bobl sy’n cael eu cyflogi ar gontractau dros dro, contractau asiantaeth neu gontractau dim oriau yng Nghymru, fel rhannau eraill o’r DU. Heblaw’r costau uniongyrchol i’r unigolyn a chyflwr yr arferion hyn, pwy sydd â chyfrifoldeb am yr hyfforddiant sy’n cael ei roi neu nad yw’n cael ei roi yn y swyddi unigol hyn? O ran swyddi gwag, mae gennym oddeutu naw gwaith yn fwy o swyddi cyflenwi yn yr economi na rhai newydd. Mae hyn yn golygu bod angen i ni ganolbwyntio ar hyfforddi pobl sydd gennym yn y gweithle eisoes, a phobl hŷn hefyd.

I’r rheiny ohonom sy’n gweithio, mae heriau hefyd. Mae gennym ormod o bobl sy’n ennill cyflog isel, ac nid yw’n ymddangos bod hyn yn gwella’n gyflym – am bob 4 o bobl oedd yn ennill cyflog isel ddeng mlynedd yn ôl, mae 3 ohonynt yn parhau i ennill cyflog isel heddiw. Yn ôl diffiniadau’r UE, mae rhwng 22% a 25% o swyddi yn y DU yn rhai sydd â chyflog isel. Mae gennym weithlu anghyfartal hefyd: Nid yw’r bwlch cyflogaeth i’r anabl – y mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod arni eisiau ei haneru yn y cylch etholiadol hwn, yn dangos llawer o arwydd o fynd yn llai. Mae ein hamcangyfrifon yn awgrymu, ar sail y cynnydd presennol, y bydd yn cymryd 200 mlynedd i haneru’r bwlch cyflogaeth i’r anabl.

Rhaid i’n gweithleoedd wynebu heriau o ran defnyddio sgiliau ac arloesedd yn y gweithle hefyd, mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod rhyw 30% o gyflogwyr wedi dweud nad oedd o leiaf un cyflogai yn cael ei “ddefnyddio’n ddigonol”. Mae’r diffyg defnydd hwn nid yn unig yn wastraff dawn unigolion ond mae hefyd yn golygu bod cyflogwyr o bosibl yn colli cyfle i gynyddu perfformiad a chynhyrchiant, gwella boddhad mewn swydd a lles cyflogeion, ac ysgogi buddsoddiad, menter ac arloesedd.

Ac yn olaf, o ran dysgu, mae’r newid yn y cyd-destun ariannol ar gyfer y Llywodraeth yn golygu bod llai o gyllid ar gyfer cynlluniau (y DU a Chymru) sy’n targedu oedolion yn y gwaith, neu’r tu allan. Mae angen i gyd-fuddsoddi weithio – i sicrhau bod y cymysgedd cywir o gyfraniadau gan yr unigolyn, y wladwriaeth a’r cyflogwr yn cael eu gwneud at gyllid ar gyfer hyfforddiant ar wahanol adegau, ac ar gyfer gwahanol bobl. Mae’n gymhleth, ond nid oes digon o oedolion yn cymryd rhan mewn dysgu ar hyn o bryd. Mae angen i ni weithio’n galetach i greu (neu ail-greu) synnwyr o ddysgu gydol oes fel rhywbeth arferol, ac yn rhywbeth yr ydym ni (unigolion a chyflogwyr) yn ei werthfawrogi ac yn buddsoddi ynddo.

Felly a yw ein dull presennol yn gweithio? Rwyf wedi bod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru yn y gorffennol am eu diffyg gweledigaeth gydlynus ar gyfer addysg, sgiliau a chyflogaeth ar gyfer oedolion. Ailadroddwyd y pryderon hyn yn adroddiad Hazelkorn a chan eraill. Yn y gorffennol, rydym wedi cael llawer o gynlluniau, polisïau a strategaethau – ond gall fod yn anodd dehongli gweledigaeth gydlynus. Fodd bynnag, rwy’n credu bod hyn yn dechrau newid.

Croesewir y cyhoeddiadau diweddaraf ar bolisi cyflogadwyedd newydd, a bydd y rhain yn cyd-fynd yn dda ag ymrwymiadau presennol i gynyddu nifer y prentisiaethau pob oedran o ansawdd uchel ac yn canolbwyntio ar gyd-fuddsoddi. Ond mae mwy i’w wneud wrth gwrs. Mae angen i ni gydnabod:

Nad yw addysg gychwynnol bob amser yn sylfaen dda ar gyfer dysgu gydol oes. Ni all ddatrys holl ddiffygion cymdeithas chwaith, na pharatoi pobl ifanc ar gyfer holl broblemau’r dyfodol. Am resymau amrywiol, ar wahanol adegau, bydd pobl ifanc yn tynnu’n ôl o’n system addysg a rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd mwy effeithiol o’u cynorthwyo i wneud y mwyaf o’u doniau a’r cyfleoedd sydd gennym yng Nghymru. Nid yw ein system addysg gychwynnol yn gwneud unrhyw beth i ymdrin â’r rheiny sydd eisoes wedi gadael addysg - sydd, fel yr wyf wedi awgrymu uchod, yn angenrheidiol i fynd i’r afael ag wyneb newidiol gwaith yng Nghymru. Mae gormod o bobl ifanc yn gadael yr ysgol o hyd heb y sgiliau sylfaenol neu’r cymwysterau sy’n sylfaen ar gyfer bywyd oedolyn, ac ar gyfer gwaith. Rhaid i ni hefyd ymddiried mewn teuluoedd a rhieni, fel cyd-addysgwyr, gan eu cynorthwyo i alluogi eu plant i gyflawni eu potensial. Yma, mae croeso mawr i’r cyhoeddiadau diweddaraf yn ‘Symud Cymru Ymlaen’ (y rhaglen ar gyfer y Llywodraeth) i gynnal Canolfannau Dysgu Cymunedol a fydd yn cynnwys ffocws ar ddysgu teuluol.

Ni chaiff trosglwyddo a dilyniant eu cydnabod, eu cefnogi na’u gwobrwyo ddigon. Rydym yn rhoi gormod o bwyslais ar gymwysterau, yn hytrach na chymwyseddau. Nid yw’r system yn cydnabod y trosglwyddiadau cynyddol amrywiol i mewn i gyflogaeth, ac allan o gyflogaeth - ac nid ydym yn gwneud digon i gefnogi ein gweithwyr â’r rhain. O amser llawn i ran-amser, ac yn ôl. O absenoldeb rhieni i absenoldeb salwch... i ymddeol. Rydym yn goramcangyfrif gweithwyr amser llawn “ar frig eu gyrfaoedd”.

Bodloni anghenion cyflogwyr
Mae arnom eisiau gweddu’r galw am sgiliau, a’r cyflenwad, ond rydym yn gwneud hyn yn wael yn rhy aml. Nid yw’r wybodaeth am y farchnad lafur bob amser yn wych; mae amseroedd arwain yn hir; sifftiau galw; ac mae pobl yn symudol – yn yr un modd ag y mae sgiliau o un sector i’r llall. Mae hefyd yn anodd trefnu cyflogwyr gyda’i gilydd, nid y lleiaf ynghylch helpu eu hunain o ran creu sgiliau. Felly, mae angen i ni gefnogi ein Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, a buddsoddi ynddynt i’w galluogi i fod yn hynod effeithiol o ran dod â chyflogwyr a darparwyr at ei gilydd. Maent wedi datblygu’n fawr mewn cyfnod byr, rhaid i ni eu cynorthwyo i ddatblygu ymhellach.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn credu mai pobl yw ein caffaeliad mwyaf a’r adnodd gorau sydd gennym yng Nghymru, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn cynllunio ein buddsoddiad mewn pobl yn fwy effeithiol. Os ydym am hybu cynhyrchiant, sicrhau swyddi â chyflog gwell a swyddi mwy cynaliadwy i bobl, sydd hefyd yn eu hysgogi ac yn rhoi boddhad iddynt, yna mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gymryd dysgu gydol oes a sgiliau o ddifrif.

Cerys Furlong yw Prif Weithredwr elusen cydraddoldeb rhyw Chwarae Teg ac roedd gynt yn gyfarwyddwr ar y Sefydliad Dysgu a Gwaith