meeting
Claire Roberts - Ymgysylltu â staff a'u cynorthwyo i integreiddio'r Gymraeg ym maes addysg bellach

Claire Roberts articleRoeddwn yn ddigon ffodus i gymryd rhan mewn ymweliad â Gwlad y Basg y llynedd yn rhan o ddirprwyaeth a arweiniwyd gan Sgiliaith, ac a gyllidwyd gan Erasmus+, ynghyd â nifer o golegau a swyddog o Lywodraeth Cymru. Yna, dysgom lawer gan ardal sydd wedi llwyddo i gynyddu nifer siaradwyr iaith (leiafrifol) y Fasgeg o 26.4% ym 1991 i 36.4% yn 2011. Yn sicr, mae'r modelau amlieithrwydd rhagorol sydd ar waith ym maes addysg yn ogystal ag yn y sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol sy'n darparu 26% o'i ddarpariaeth drwy gyfrwng y Fasgeg yn arloesol iawn. Roedd hefyd yn werth nodi faint o werth economaidd a roddir ar y Fasgeg. Yn ôl adroddiad yn 2015, cyfrannodd y Fasgeg 4.2% at gynnyrch domestig gros Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yng Ngwlad y Basg.

Petai cysylltiad o'r fath rhwng iaith leiafrifol a gwerth economaidd hefyd yn wir yn achos Cymru, rwy'n sicr y byddai hynny'n newyddion i'w groesawu gan y 130,700 o siaradwyr Cymraeg newydd a nodwyd mewn adroddiad diweddar a gyhoeddwyd ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg.

Yn ôl y 14 coleg a sefydliad AB yng Nghymru, gall 22% o'u myfyrwyr amser llawn siarad Cymraeg ac mae'r mwyafrif ohonynt yn meddu ar rywfaint o Gymraeg. Gyda bod 65% o boblogaeth y byd yn siarad dwy iaith o leiaf, mae Cymru, fel gwlad ddwyieithog ddatblygol yn dechrau dal i fyny gyda gweddill y byd.

Mae gan y addysg sector rôl bwysig i'w chwarae yn amlwg o ran normaleiddio dwyieithrwydd, ac yma ystyriaf sut gall y sector addysg bellach fynd ati'n rhagweithiol i annog y defnydd o'r ddwy iaith, ac i werthfawrogi hynny. Y cwestiwn dan sylw yw: sut mae'r sector ôl-16 yn cefnogi staff i sicrhau eu bod yn gyfforddus yn gwneud y cynnig rhagweithiol hwnnw i fyfyrywyr, gan annog dysgwyr i ymgysylltu â'r Gymraeg a defnyddio gwasanaethau Cymraeg bob dydd a pharhau â'u taith sgiliau iaith ar lefel ôl-16?

Cyd-destun polisi a chyfreithio

Ers cyhoeddi Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru yn 2010 a lansio Strategaeth Genedlaethol ColegauCymru ar Ddwyieithrwydd mewn AB yr un flwyddyn, mae colegau wedi cynyddu eu hymdrechion i integreiddio dwyieithrwydd yn eu gweithrediadau. Erbyn 2013/14 roedd colegau eisoes wedi rhagori ar y targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2015. Roedd darpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog wedi cyrraedd 8.5% yn 2013/14 yn y sector AB, i fyny o waelodlin o 6.2% yn 2008/09, fel y nodwyd yn yr adroddiad blynyddol ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn 2014/15. Mae'r maes datblygu hwn yn hanfodol i sicrhau dewis i ddysgwyr a pharhad i sgiliau Cymraeg a ddysgwyd mewn addysg orfodol.

Rhoddwyd statws swyddogol i'r Gymraeg yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'n golygu na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n braenaru'r tir i unigolion arfer eu hawl i dderbyn gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg.

Bydd y Mesur yn golygu y caiff Safonau newydd eu cyflwyno ar gyfer y Gymraeg. Mae'r rheoliadau drafft wedi'u cyhoeddi ar gyfer Grŵp 1 a 2, ac mae ColegauCymru'n rhan o Grŵp 2. Caniateir ar gyfer cyfnod o ymgynghori cyn dyddiad cydymffurfio a gosod ym mis Chwefror 2017. Bu oedi, fodd bynnag, ynghylch cytuno rheoliadau drafft ar gyfer y Gymraeg yng Ngrŵp 3, sy'n cynnwys colegau addysg bellach. Pwysleisir eto bod Colegau Cymru a'r colegau'n gwbl ymrwymedig i'w Cynlluniau Iaith Gymraeg.

 Er mwyn cefnogi colegau i baratoi ar gyfer cyflwyno Safonau'r Gymraeg, trefnodd ColegauCymru weithdy rhyngweithiol ym mis Mawrth 2016 gyda'r nod o rymuso, darparu gwybodaeth a pharatoi mynychwyr i ymdrin â'r Safonau

Adnoddau i staff a dysgwyr

Mae ymgysylltu â staff yn rhan allweddol o rôl ColegauCymru ac mae ein cyfres o rwydweithiau ar gyfer rheolwyr cwricwlwm, penaethiaid adran a rheolwyr swyddogaethau colegau'n ffordd ddelfrydol o rannu syniadau ac arfer gorau ar draws y sector a chyda chynulleidfaoedd ehangach. Mae'r Rhwydwaith Dwyieithrwydd i AB sy'n cael ei weinyddu ar y cyd rhwng ColegauCymru a Llywodraeth Cymru yn ffordd gydweithredol o rannu syniadau ar draws y sector a dod o hyd i atebion i heriau o ran hyrwyddo dwyieithrwydd.

Llofnodwyd Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth gan GolegauCymru ym mis Mawrth 2016 sy'n ffurfioli'r bartneriaeth wrth weithio i hyrwyddo dwyieithrwydd. Corff a gyllidir gan Lywodraeth Cymru yw Sgiliaith sy'n darparu cyngor arbenigol ar fethodoleg a dulliau darparu addysgu dwyieithog ym maes addysg ôl-16.

At hynny, o ganlyniad i weithio'n agos gyda phartneriaid, denodd ColegauCymru gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pedwar prosiect yn 2015 a oedd wedi'u dylunio'n benodol i gefnogi dysgwyr a staff yn y sector AB i ddefnyddio'u sgiliau Cymraeg. Roedd dau o'r prosiectau'n targedu staff AB: adnodd dysgu cyfunol ar ymwybyddiaeth o'r Gymraeg, ac e-lyfrgell i addysgwyr yn y sector iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant.

Adnodd dysgu cyfunol ar ymwybyddiaeth o'r Gymraeg

Gan ystyried y byddai'n anodd tywys staff ar hyd taith o werthfawrogi a defnyddio'u sgiliau Cymraeg:

  1. pe na baent yn deall hanes y Gymraeg, a
  2. phe na baent yn gweld perthnasedd yr iaith i fywyd a dysgu,

aethom ati i greu pecyn codi ymwybyddiaeth iaith. Mae'r adnodd 'Ein Hiaith’ a grëwyd o ganlyniad yn dilyn model o ddysgu cyfunol sy'n cynnwys fideos, cwis rhyngweithiol ac opsiwn i staff ennill achrediad am eu dysgu. Mae'n rhoi cyd-destun i ddefnyddio'r Gymraeg drwy hanes hyd heddiw, gyda chyfweliadau gan amrediad eang o siaradwyr a chyda ffocws arbennig ar y sector addysg bellach. Rydym ar ben ein digon i glywed bod sefydliadau y tu allan i'r sector AB hefyd yn gweld bod y pecyn o ddefnydd iddyn nhw.

E-lyfrgell Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Wedi clywed gan addysgwyr dwyieithog yn y sector gofal eu bod yn ei chael yn anodd dod o hyd i adnoddau arbenigol drwy gyfrwng y Gymraeg, aethom ati i lunio gwefan ddwyieithog http://care.collegeswales.ac.uk sy'n tynnu ynghyd adnoddau addysgu ar gyfer y sector iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant. Nod y cyfeiriadur adnoddau hwn yw darparu siop un cam i helpu athrawon, darlithwyr a dysgwyr gofal plant a gofal cymdeithasol mewn colegau addysg bellach yn ogystal ag yn y sector addysg ehangach a darparwyr gofal.

Roedd gweithio mewn partneriaeth yn allweddol wrth ddatblygu'r adnodd. Roedd aelodau'r bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Gofal Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Mudiad Meithrin a Chymraeg i Oedolion. Yn dilyn adborth gan staff, rydym hefyd wedi cyhoeddi ar y wefan ddogfen sy'n amlinellu'r ddeddfwriaeth sy'n benodol i Gymru yn y sector iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant.

Mae'r holl adnoddau hyn ar gael yn hygyrch i bawb ac ni chodir tâl am eu defnyddio. Ewch i http://gofal.colegaucymru.ac.uk/cy/.

Camau DPP nesaf

Yn ddelfrydol, byddem yn hoffi cyflwyno llyfrgelloedd adnoddau i’r holl sectorau diwydiant a nodwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhai sy'n allweddol ar gyfer datblygiadau dwyieithog. Ar wahân i'r sector gofal, y rhain yw: Amaethyddiaeth; Y Diwydiannau Creadigol; Hamdden a Thwristiaeth; Gwasanaethau Busnes; Adeiladu & Peirianneg.

Rydyn ni yn y sector addysg bellach yn sicr ar drywydd taith, ac wedi ein hymrwymo i wreiddio dwyieithrwydd. Fodd bynnag, mae tipyn o ffordd i fynd i normaleiddio dwyieithrwydd yn llawn yn y sector. Mae angen i ymrwymiad a chymorth pellach gan Lywodraeth Cymru i ddwysáu'r gwaith o wreiddio'r Gymraeg fod yn flaenoriaeth er mwyn cefnogi staff i barhau i ddarparu a datblygu cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'u sgiliau iaith.

Claire Roberts yw Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd ColegauCymru.

Penodwyd Claire yn Gyfarwyddwr Dwyieithrwydd ColegauCymru yn 2013 i arwain ar weithredu Strategaeth Genedlaethol ColegauCymru ar Ddwyieithrwydd mewn Addysg Bellach. Mae'n gweithio'n agos gyda Hyrwyddwyr Dwyieithrwydd y colegau yn ogystal ag aelodau timoedd rheoli’r colegau wrth ymdrechu i ddatblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ac i normaleiddio’r Gymraeg yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-16. Cyn ei phenodi i GolegauCymru, roedd Claire yn gweithio i Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn hyrwyddo dwyieithrwydd ymysg busnesau, ac wedi hynny, bu’n gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg.