meeting
Keith Towler - Dyfodol Gwasanaethau Ieuenctid yng Nghymru: Yr angen am weithredu ar frys.

kTowlerYr adeg hon y llynedd, ysgrifennais fy Adroddiad Blynyddol cyntaf fel Cadeirydd CWVYS. Yn y 12 mis diwethaf mae llawer wedi digwydd, ond mewn ffordd, nid oes llawer wedi newid ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Beth ydw i'n ei olygu wrth hynny? Wel, rydym wedi gweld nifer o ddatblygiadau ers sefydlu Grŵp Cyfeirio Gweinidogol ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, cyhoeddi Siarter i Bobl Ifanc yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar waith ieuenctid mewn ysgolion a'r posibilrwydd o gofrestru gweithwyr ieuenctid gyda Chyngor y Gweithlu Addysg o fis Ebrill 2017. Ac eto, mae'r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yn ymladd yn ddyddiol i oroesi. Sawl rheolwr gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru yn eich barn chi sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn mynd ar drywydd cyfleoedd ariannu neu gwblhau rhagolygon cyllideb ar gyfer eu hymddiriedolwyr? Mae bron pob un ohonynt, yr wyf yn amau.
Mae hyn yn codi rhai cwestiynau enfawr i sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol, i CWVYS, i'n partneriaid awdurdod lleol ac ar gyfer llywodraeth leol a chenedlaethol yng Nghymru.

Gadewch i ni atgoffa'n hunain o bwrpas gwaith ieuenctid a'r effaith mae'n ei gael.

Mae gwaith ieuenctid yn cynnig gwasanaeth mynediad agored ar gyfer holl bobl ifanc Cymru. Mae'n berthynas wirfoddol sy'n darparu'r sylfaen ar gyfer gwasanaethau wedi'u targedu, gwybodaeth a chymorth. Dywedais y llynedd, heb y sylfaen o fynediad agored hwn, byddwn yn adeiladu ar y tywod ac rwy'n cadw at fy ngair.

Rydym am i bobl ifanc i fwynhau eu hieuenctid, i gymryd rhan yn ein cymunedau ac i dyfu fel unigolion a fydd yn cyfrannu fel oedolion yn economaidd ac yn gymdeithasol. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod dau beth. Yn gyntaf, bod gwaith ieuenctid da yn cyflawni ar gyfer pobl ifanc ac yn ail, bod y gwerth y mae pobl ifanc yn ei roi ar y gwasanaeth yn anhygoel o uchel.

Mae Cymru yn wlad sydd wedi ymrwymo i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac yn ganolog i'r ymrwymiad hwnnw yw'r hawl sydd gan bob person ifanc i ddweud eu dweud ym mhob mater sy'n effeithio ar eu bywydau. Yna, mae'n rhaid i bobl ifanc chwarae rhan ganolog yn natblygiad a thwf gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae cymaint o dalent ymhlith ein pobl ifanc. Mae'n rhaid i ni wrando ar eu profiadau a gweithio gyda hwy mewn partneriaeth i adeiladu gwasanaeth ieuenctid i Gymru sy'n darparu ar eu cyfer yn awr ac ar gyfer y blynyddoedd yn y dyfodol.

Yn syml, mae gwaith ieuenctid da yn achub bywydau ifanc. I lawer o bobl ifanc, mae'r berthynas ffyddlon sydd ganddynt gyda'u prosiect ieuenctid lleol yn darparu'r platfform lle maent yn adeiladu gwytnwch, hunan-barch ac yn dod o hyd i ymateb proffesiynol ar adegau o argyfwng. Mae gwaith ieuenctid, wrth gwrs, hefyd yn rhoi cyfle, lle diogel i gwrdd â ffrindiau, archwilio profiadau newydd ac yn helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial llawn.

Am flynyddoedd yng Nghymru, rydym wedi trafod a thrafod strwythurau gwaith ieuenctid, sut y gallwn ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth i bobl ifanc, ac yn hanfodol sut gall pobl ifanc sicrhau ein bod yn gwrando ar eu llais er mwyn helpu i lywio'r ffordd y mae gwaith ieuenctid yn ymateb i'r pethau sy'n bwysig iddyn nhw.

Mae'n teimlo fel ein bod mewn rhyw fath o Groundhog Day. Rwy'n siŵr ein bod wedi bod yma o'r blaen ac rwyf bellach yn credu bod angen rhywbeth eithaf radical i ddigwydd os ydym am dorri ein cylch o ddadlau yng Nghymru, fel bod rhywbeth diriaethol yn digwydd i wella pethau ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. Mae'n rhaid i'r ateb gael ei seilio ar ddull seiliedig ar hawliau sy'n rhyddhau rheolwyr gwaith ieuenctid o ofynion cyfyngiadau ariannu a phryderon am gau'r gwasanaeth fel y gallant gefnogi a grymuso staff gwaith ieuenctid. Os yw pawb yn canolbwyntio cymaint ar oroesi o ddydd i ddydd, sut y gallwn ddisgwyl iddynt gyfrannu at ateb gwaith ieuenctid radical ar gyfer Cymru?

Yr ateb wrth gwrs yw arweinyddiaeth genedlaethol. Arweinyddiaeth sy'n gosod Strategaeth Gwaith Ieuenctid ar gyfer Cymru, sy'n mynd i'r afael â'r cyfyngiadau ariannol, yn cefnogi ac yn datblygu'r gweithlu gwaith ieuenctid, yn sicrhau bod cyfranogiad pobl ifanc yn cael ei brif-ffrydio yn y gymdeithas sifil ac yn gosod agenda ar gyfer diwygio, datblygu a chefnogi. I wneud hynny, mae angen rhyw fath o gorff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru sy'n gosod ac yn monitro dull strategol. Heb hynny, bydd gennym barhad o weithgarwch briwsionllyd heb ei gydlynu a fydd yn cyflawni dim byd mwy na dirywiad gwaith ieuenctid fesul toriad tan iddo ddiflannu yn gyfan gwbl.

Gwn fod y rhain yn eiriau cryf, ond rydym newydd ddewis y 5ed Cynulliad Cenedlaethol i Gymru a Llywodraeth newydd Cymru. Mae'n rhaid i'r llywodraeth hon flaenoriaethu pobl ifanc a gwaith ieuenctid. Mae pwysau ariannol sylweddol ar y sector ac felly nid wyf yn galw am fwy o'r un peth. Y tro hwn, rydym yn galw am newid cadarnhaol, am newid sy'n rhoi pobl ifanc wrth wraidd chwyldro gwaith ieuenctid i Gymru, sydd ddim yn achub gwasanaeth yn unig, ond yn adeiladu dyfodol lle mai Cymru fydd y wlad orau yn y byd i fod yn ifanc.

Gweledigaeth, uchelgais a rhaglen o waith a fydd yn sicrhau ein bod yn cyrraedd y man yr hoffem fod.

Keith Towler
Cadeirydd, CWVYS

Ymgynghorydd annibynnol yw Keith Towler sy'n cynnig gwasanaethau datblygiad ac adolygu mewn meysydd sy'n cynnwys hawliau pobl ifanc plant a CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn) chwarae, gwaith ieuenctid, diogelu, amddiffyn plant, cyfiawnder ieuenctid, diogelwch cymunedol a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sy'n seiliedig ar hawliau. Ef oedd cyn Comisiynydd Plant Cymru rhwng 2008 a 2015. Mae'n Gadeirydd ar CWVYS yn ogystal â bod yn ymddiriedolwr i Chwarae Cymru ac yn Is-Gadeirydd ar Fwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd.