meeting
Meilyr Rowlands – Arolygu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Meilyr RowlandsMae Estyn wedi ymrwymo i sicrhau bod dysgwyr wrth galon addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn credu'n gryf y dylai arolygu fod yn fodd o lywio gwelliant ar hyd a lled y system addysg ac y dylai fod o fudd i'r ysgolion, y colegau a'r sefydliadau eraill rydym yn ymweld â nhw. Mae'r ffocws hwn ar y dysgwr a phwyslais ar gefnogi gwelliant yn ategu'r adolygiad trylwyr rydym yn ymgymryd ag ef ar hyn o bryd, sy'n ystyried y ffordd y byddwn yn arolygu o fis Medi 2017 ymlaen.

Mae nifer o resymau dros gynnal yr adolygiad hwn. Ers cyflwyno arolygiadau rheolaidd i ddarparwyr am y tro cyntaf ym 1992, mae ein trefniadau arolygu wedi'u diwygio bedair gwaith. Mae amseriad yr adolygiad presennol wedi'i ddylanwadu gan y newidiadau mawr sy'n digwydd ar hyn o bryd yn nhirwedd addysg Cymru. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys adolygu'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu yn gyfan gwbl ar gyfer ysgolion a hefyd yr ymagwedd newydd at ddysgu proffesiynol, sef y 'Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg'.

Rydym yn ceisio darparu fframwaith arolygu cyffredin sy'n addas at y diben a gaiff ei ddefnyddio ar draws yr holl ddarparwyr mae Estyn yn eu harolygu bron iawn. Bydd angen i'r fframwaith fod yn ddigon hyblyg i allu cael ei gymhwyso ar draws pob sector, ond hefyd bod yn ddigon cyffredin i fod yn amlwg o gyson. Bydd canlyniadau ein hadolygiad yn cyfrannu at ymdrech barhaus Estyn i wneud arolygu'n fwy cywir, dilys a chost-effeithiol a chynyddu'r hyder sydd gan ddarparwyr, llunwyr polisi a'r cyhoedd yn gyffredinol ym maes addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Egwyddorion arweiniol

Rydym wedi datblygu set o egwyddorion arweiniol a gaiff eu hystyried yn ofalus wrth i ni ddatblygu ein trefniadau newydd.

 Meilyr blog infographic Cym

Mae llawer o'r egwyddorion hyn yn bodoli eisoes yn ein gwaith, ond os ydym am wella effeithiolrwydd arolygu, gallwn gryfhau rhai meysydd.

Mae angen i'n trefniadau newydd weithio ar lefel ymarferol nawr, ond hefyd rhaid eu bod yn ddigon ystwyth i adlewyrchu unrhyw newidiadau i'r dirwedd addysgol yn y dyfodol. Rydym am iddyn nhw fod yn fwy cymesur fel nad ydynt yn gorlethu darparwyr da, ond eto rhaid iddynt ddarparu her a chymorth pwysig i'r rheiny sy'n wynebu'r angen mwyaf. Mae'n bwysig ein bod am annog arloesed a chreadigrwydd drwy arolygu.

Mae rhai nodweddion cadarn iawn yn ein trefniadau presennol. Hoffem adeiladu ar y rhain, yn arbennig cyfranogiad ymarferwyr sydd wrthi ar hyn o bryd, gan gynnwys 'arolygwyr cymheiriaid', a'r ffocws ar hunanarfarniad y darparwr fel man cychwyn. Mae angen hefyd i ni sicrhau bod arolygiadau'n cael eu symleiddio a'u bod yn gost-effeithiol, wrth gwrs.

Mae'n rhaid i'r fframwaith newydd fod yn fwy hydrin a chanolbwyntio ar faterion allweddol ym maes addysg. Yn olaf, rydyn ni am fod yn fwy ataliol, gan sicrhau bod ein gwaith arolygwyr cyswllt, arolygiadau a gweithgarwch dilynol oll yn cyfrannu mewn ffordd amserol at daith ein hysgolion a'n darparwyr eraill o welliant addysgol.

Ymgynghori â rhanddeiliaid

Rydyn ni newydd gwblhau'r gwaith o ddadansoddi barn 2,000 o bobl â diddordeb mewn addysg, a ymatebodd i'n hymgynghoriad ar ddyfodol arolygu. Roedden ni ar ben ein digon bod cynifer o weithwyr proffesiynol wedi ymateb, ynghyd â dysgwyr, rhieni, swyddogion polisi a grwpiau anodd eu cyrraedd. Mae'r dadansoddiad llawn ar gael ar wefan Estyn.

Dangosodd yr adborth fod y mwyafrif o bobl yn fodlon ar y cyfan ar y prosesau arolygu presennol. Ond roedd digon o sylwadau ac awgrymiadau i ni gnoi cil arnynt sydd wedi ein helpu i lywio rhai syniadau newydd ynghylch sut gallem symud arolygu yn ei flaen.

Rhannom ein syniadau cynnar yn ein Fforwm Rhanddeiliaid Cenedlaethol ddiwedd Chwefror ac rydym yn parhau i groesawu adborth yn rhan o'n sgyrsiau ar hyd y flwyddyn sydd i ddod. Felly, beth allai aros yr un fath a beth allai newid?

Sut rydyn ni'n arolygu

Cafwyd cefnogaeth dda ar y cyfan am y canlynol:

  • Cynnal arolygiad craidd cyffredin ond teneuach gyda sampl blynyddol cymharol gynrychioliadol
  • Cadw neu leihau'r cyfnod rhybudd rhywfaint (4 wythnos ar hyn o bryd)
  • Cadw arolygwyr cymheiriaid ac enwebeion ond adolygu rôl arolygwyr lleyg
  • Cadw holiaduron i rieni a dysgwyr a chyflwyno holiaduron i staff a llywodraethwyr

Y Fframwaith Arolygu Cyffredin

Cafwyd sylwadau cymysg am y meysydd rydyn ni'n eu harolygu. Ar sail eich adborth rydym yn ystyried pum prif faes ffocws at y dyfodol:

  • safonau
  • profiadau dysgu ac addysgu
  • llesiant ac agweddau at ddysgu
  • gofal, cymorth ac arweiniad
  • arweinyddiaeth a rheoli

Rydym hefyd yn ystyried cyflwyno chweched ffocws 'thematig' ychwanegol, a fydd yn newid dros amser. Byddai hyn yn ein helpu i sicrhau bod arolygu'n addas at y dyfodol.

Barnau

Rydym yn debygol o gadw pedair barn. Gellid defnyddio'r rhain i farnu pob ffocws, heblaw'r ffocws thematig. Cafwyd rhywfaint o gefnogaeth i gadw barn grynodol hefyd. Cafwyd adborth yn sgil yr ymgynghoriad bod angen i ni adolygu'r disgrifiadau ar gyfer ‘Rhagorol' a 'Digonol', a gwnawn ni hynny.

Adroddiad yr arolygiad

Roedd y mwyafrif o bobl (60%) o'r farn bod adroddiadau arolygiadau'n amserol, yn glir ac yn hawdd eu deall, yn cynnig arwydd clir o gryfderau a gwendidau ac yn helpu darparwyr i wella. Cafwyd awgrymiadau am wella perthnasedd yr adroddiad i bob darparwr a sicrhau bod pawb, gan gynnwys rhieni a dysgwyr, yn gallu deall cynnwys yr adroddiadau'n hawdd.

Camau dilynol ar ôl arolygu

Ar sail adborth mewn perthynas â gweithgarwch dilynol mewn ysgolion, rydym yn ystyried dileu'r categori ‘monitro awdurdod lleol’. Yn fwy cyffredinol, byddwn yn ceisio datblygu dulliau mwy hyblyg a chefnogol i ddarparwyr sy'n wynebu camau dilynol.

Edrych ymlaen

Yn ein fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol cafwyd llawer o drafod cadarnhaol am y syniadau hyn a bydd rhai cwestiynau diddorol a godwyd yn ein helpu i fireinio'r syniadau ymhellach. Er enghraifft:

  • Sut rydym yn sicrhau bod arolygu'n cefnogi arloesedd i ddarparwyr?
  • Sut rydyn ni'n gwybod pa mor dda mae dysgwyr yn cyflawni'r pedwar diben?
  • Sut rydyn ni'n gwneud ein gwaith dilynol yn fwy cefnogol fel ei fod yn ategu gwaith awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol o ran llywio gwelliant ysgolion?
  • Sut rydyn ni'n cwmpasu'n well y cynnydd a wnaiff dysgwyr drwy gydol eu haddysg?
  • Pa weithgareddau arolygu sy'n ein helpu i gwmpasu'n well ansawdd addysgu a dysgu ar draws darpariaeth darparwr?

Hoffem barhau â'n hymgysylltiad â rhanddeiliaid wrth i ni ddatblygu ein syniadau dros y misoedd nesaf. Yn yr Hydref 2016, bydd rhai o'r trefniadau arolygu newydd yn destun cynllun peilot a bydd ymgynghori pellach ar y newidiadau arfaethedig. Byddwn yn sicrhau bod gan randdeiliaid yr wybodaeth ddiweddaraf wrth i ni symud drwy'r broses. Y ffordd orau o dderbyn newyddion yw ymrestru i dderbyn diweddariadau ar wefan Estyn.

Mae Estyn yn falch o fod yn rhan o system addysg gadarn, gydnerth ac optimistaidd yng Nghymru, gan ateb yr her o wella safonau i'n holl ddysgwyr. Bydd addysg yn parhau i esblygu. I'r rhai hynny sy'n gweithio ym maes addysg ar hyn o bryd neu'r rhai hynny sydd ar fin mynd i yrfa addysgu, bydd bob amser syniadau, polisïau, blaengareddau a strwythurau newydd. Mae'n hanfodol bod arolygu'n gyfoes yn unol â'r newidiadau hyn ac erbyn mis Medi 2017 bydd ein trefniadau arolygu newydd ar waith.

Meilyr Rowlands – PAEM

Caiff penodiad, swyddogaethau a phwerau Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (PAEM) eu pennu gan ddeddfwriaeth: yn Neddf Addysg 2005, Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 a Deddf Plant 2004. Mae ei swydd statudol wedi’i hamlinellu yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.

Meilyr Rowlands sy’n gyfrifol am arolygu a rheoleiddio addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn ogystal â rheolaeth, staffio a threfniadaeth Estyn. Mae’n rhoi cyngor annibynnol i’r Gweinidog, sy’n cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau yng Nghymru. Yn ogystal, mae Meilyr yn chwarae rôl allweddol yn gweithio’n agos gyda chyrff arolygu, archwilio a rheoleiddio eraill yng Nghymru, i roi sylfaen i weithio a chynllunio ar y cyd. Yn ogystal, fel Swyddog Cyfrifo Estyn, mae’n sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n gywir a’u bod yn rhoi gwerth am arian. Yn ogystal, mae’r Prif Arolygydd yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar safonau ac ansawdd addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Cafodd Meilyr, sy’n Gymro Cymraeg, ei addysg yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman a Choleg yr Iesu, Rhydychen. Ar ôl cyfnod o ymchwil, bu’n athro gwyddoniaeth mewn ysgolion cyfun yng ngogledd Cymru, cyn darlithio mewn Addysg ym Mhrifysgol Bangor ac yn UWIC, lle’r oedd yn gyfarwyddwr y cwrs TAR uwchradd.

Ymunodd Meilyr ag Estyn ym 1999 ac mae wedi dal nifer o swyddi, gan gynnwys Arolygydd Ardal, AEM Rheoli a Chyfarwyddwr Strategol. Cyn ymuno ag Estyn, roedd yn Arolygydd Cofrestredig ar gyfer y sectorau cynradd ac uwchradd.