meeting
Gareth Newton - Dysgu yn y 21ain Ganrif: Cyfraniad gwaith ieuenctid

Gareth Newton article imageGall pob athro ysgol uwchradd eu henwi: y disgyblion hynny sydd ddim yn cyflawni eu potensial. Weithiau mae ganddynt bresenoldeb isel, neu eu bod yn eistedd yng nghefn y dosbarth gan beidio â thalu sylw mewn gwersi, neu'n gwastraffu gormod o amser yn chwarae'n wirion. Yn y 1970au a'r 1980au, bûm yn addysgu mewn ysgol gyfun ar gyfyl ystâd o dai awdurdod lleol yn ne Cymru a chefais fy siâr o ddisgyblion tebyg i'r rhain. Ar yr un pryd, roeddwn yn gweithio dwy noson yr wythnos fel gweithiwr ieuenctid rhan amser a daeth yn amlwg i mi fod rhai o'r bobl ifanc hyn yn byw bywydau oedd yn gwneud llwyddo yn yr ysgol yn anodd iawn, os nad yn amhosibl iddynt.

Mae athrawon da yn wybodus iawn: un o'r pethau maent yn ei wybod sy'n wir yw bod methu yn yr ysgol yn gallu cael effaith andwyol ar gyfleoedd bywyd disgybl. Ac mae'r genhedlaeth bresennol o bobl ifanc yn wynebu heriau sylweddol wrth iddynt dyfu'n oedolion. Er mwyn llwyddo yn ystod y cyfnod hwnnw o newid, mae angen iddynt fod yn hyderus, gyda'r sgiliau perthnasol o ran meithrin a chynnal perthnasau, ac - yn fwy na dim - dangos cymhelliant a bod yn hydwyth. Ond mae pobl ifanc sydd â chyrhaeddiad addysg isel yn llai tebygol o fod ag iechyd meddwl da, ac yn llai tebygol o allu darparu cefnogaeth i'w plant eu hunain wrth iddynt symud drwy'r ysgol.

Mae cymaint i'w ddisgwyl gan athrawon, ond mae pobl ifanc ond yn treulio hyd at 15% o'u hamser yn yr ysgol. Mae sawl ffactor sefyllfaol yn effeithio ar barodrwydd pobl ifanc i ddysgu sydd y tu hwnt i allu athrawon ac ysgolion i'w dylanwadu yn sylweddol neu eu rheoli. Rhieni anghefnogol neu fywyd teuluol anhrefnus, pwysau gan gyfoedion negyddol, cymunedau sydd ddim yn gweld gwerth addysg: mae'r rhain yn ddylanwadau grymus a dinistriol ar bobl ifanc.

Mae'r 85% o'r amser sy'n weddill yn rhoi cyfle i weithwyr ieuenctid ymgysylltu'n gadarnhaol â phobl ifanc. Mae fy ngwaith fel athro a gweithiwr ieuenctid yn golygu bod gennyf brofiad o lygad y ffynnon o effeithiolrwydd gwaith ieuenctid wrth helpu pobl ifanc i ailgysylltu â dysgu, Ond nid dyma'r unig beth mae gwaith ieuenctid yn ei gynnig, sydd â llawer mwy i'w gynnig i bobl ifanc, ac nid dim ond y rheiny sydd wedi eu datgyweddu.

Ceir tair agwedd neu egwyddor elfennol sy'n gwahaniaethu'r dull gwaith ieuenctid o ffyrdd eraill o weithio â phobl ifanc. Y pwysicaf o'r rhain yw bod pobl ifanc wedi dewis cymryd rhan: maent yn cyfranogi oherwydd eu bod nhw'n ffeindio'r hyn sy'n cael ei gynnig yn ddiddorol, neu eu bod nhw eisiau cwrdd â phobl newydd neu eu bod am gael hwyl. Yr ail egwyddor yw bod gwaith ieuenctid yn broses addysgiadol a bod gweithwyr ieuenctid yn cydnabod pobl ifanc fel partneriaid yn eu dysgu eu hunain. Y drydedd egwyddor yw bod gwaith ieuenctid yn cychwyn o ble daw'r bobl ifanc: golyga hyn y byddwch yn canfod gweithwyr ieuenctid mewn prosiectau celf, o fewn gwaith cyfiawnder troseddol, o fewn cymdeithasau tai, addysg awyr agored, mewn rhaglenni ar y stryd ar wahân, mewn canolfannau ieuenctid a hefyd o fewn ysgolion. Os hoffech ganfod mwy am sgôp gwaith ieuenctid yng Nghymru yna dilynwch y ddolen yma i bamffled gwych a darllenadwy - 'Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion' a gyhoeddwyd gan y Grŵp Adolygu Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Gallwch ei ddarllen yma: http://www.youthworkwales.org.uk/creo_files/upload/files/youth_work_in_wales_principles_and_purposes_march_2014.pdf 

(1) Mae gwaith ieuenctid yn broffesiwn crefftus sydd â hanes blaenorol da o weithio gyda phobl sy'n anodd i'w cyrraedd. Mae gweithwyr ieuenctid yn gwneud hyn drwy feithrin perthynas cefnogol a ffyddlon â phobl ifanc, a'u galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n datblygu eu gwydnwch a'r sgiliau sydd eu hangen mewn bywyd. Cafodd hyn ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru yn y 'Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol i Gymru 2014-2018" ( http://www.youthworkwales.org.uk/creo_files/upload/files/140221-national-youth-work-strategy-ecy.pdf ) drwy ddweud bod gan waith ieuenctid "gyfraniad pwysig iawn i'w wneud wrth gefnogi pobl ifanc i lwyddo mewn addysg, aros yn iach, chwarae rôl bositif yn eu cymunedau a gwneud dewisiadau bywyd gwybodus."

Drwy eu natur a'u gwaith, mae gan weithwyr ieuenctid ragdueddiad i weithio ag eraill i gefnogi pobl ifanc i ddysgu am eu hunain ac eraill, i wneud penderfyniadau ac i gymryd cyfrifoldeb am ganlyniadau'r penderfyniadau hynny. Ond ni all gwaith cydweithredol tebyg ddigwydd mewn gwactod. Y ddau sefydliad cynrychioliadol yng Nghymru sy'n gwneud y mwyaf i ddarparu cefnogaeth i weithwyr ieuenctid a sefydliadau gwaith ieuenctid ynghyd â hyrwyddo gweithio ar y cyd yw Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid a Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS). Daw aelodaeth Grŵp y Prif Swyddogion o uwch reolwyr gwaith ieuenctid o fewn llywodraeth leol, tra bod CWVYS yn gorff annibynnol cynrychioliadol ar gyfer y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru (mae'r sector gwirfoddol yn cynnwys sefydliadau megis y Sgowtiaid, y Guides, yr Urdd a'r Ffermwyr Ifanc ymhlith eraill.) Mae'r ddau grŵp yn cydweithio'n strategol i godi proffil gwaith ieuenctid a thrwy osgoi dyblygu'r gwaith, maent yn uchafu'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer gwaith ieuenctid.

Cynrychiolir y ddau grŵp ar Bwyllgor Safonau Addysgu a Hyfforddiant, lle rwyf hefyd yn Gadeirydd. Mae'r pwyllgor yn gweithio ar ran cyflogwyr i gefnogi rhaglenni hyfforddiant proffesiynol sy'n arwain at statws gweithiwr ieuenctid proffesiynol / gweithiwr cefnogi ieuenctid ac i sicrhau bod rhaglenni o'r fath yn diwallu anghenion cyflogwyr, gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc. Mae pwyllgorau eraill tebyg yn bodoli yng ngwledydd eraill y DU.

Rydym yn cefnogi'r bwriad o ychwanegu gweithwyr ieuenctid proffesiynol / gweithwyr cefnogi gwaith ieuenctid i gofrestr Cyngor y Gweithlu Addysg o Ebrill 2017. Mae aelodau ein pwyllgor yn deall bod gwaith ieuenctid yn broses addysgol yn y bôn sy'n cyfrannu at ddysgu a datblygiad pobl ifanc mewn ffyrdd anffurfiol a heb fod yn ffurfiol. Felly mae'n gwbl briodol bod gweithwyr ieuenctid yn cymryd eu lle ar y gofrestr ochr yn ochr â gweithwyr addysg broffesiynol eraill sydd wedi'u hymrwymo i helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau a'r agwedd sydd eu hangen er mwyn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Ym mhennod 2 o'i adroddiad 'Dyfodol Llwyddiannus' i Lywodraeth Cymru (Chwefror 2015), fe amlygodd Yr Athro Graham Donaldson bod y rhai wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad a gyfrannodd at gasgliadau'r adroddiad wedi dweud wrth ymchwilwyr 'tra bod dysgu llwyddiannus yn ganlyniad a werthfawrogir yn fawr gan gyfranddeiliaid (gan gynnwys plant a phobl ifanc), roedd ystod eang o ganlyniadau hefyd yn cael eu gwerthfawrogi. Ystyriwyd galluoedd cymdeithasol cyffredinol, sgiliau bywyd a hyder personol yn bethau pwysig i'w datblygu mewn ysgol' (2) Galluoedd cymdeithasol, sgiliau bywyd a hyder personol - mae hyn yn destun balchder i weithwyr ieuenctid gan mai dyma yw hanfodion gwaith ieuenctid ers degawdau.

Mae gan waith ieuenctid lais unigryw a nodedig. Gobeithiaf eich bod wedi ei chlywed yn yr erthygl hon. Os gwnaethoch, diolch am wrando.

Gareth Newton, Cadeirydd ETS Cymru

Cyfeirnodau

1. Strategaeth Gwaith Ieuenctid Genedlaethol Cymru 2014–2018 Helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial a byw bywydau bodlon Caerdydd. Llywodraeth Cymru

2. Donaldson, G. Dyfodol Llwyddiannus Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Caerdydd. Llywodraeth Cymru.

Proffil

Yn gyn-athro, gweithiwr ieuenctid a rheolwr o wasanaethau ieuenctid, roedd Gareth yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dysgu Gydol Oes i Rondda Cynon Taf cyn ymddeol yn 2007. Ers ymddeol, mae wedi chwarae rhan flaenllaw mewn sawl sefydliad cyhoeddus yng Nghymru. Daeth yn gadeirydd ar yr ETC ym Medi 2012. Mae penodiadau eraill Gareth yn cynnwys:

Aelodaeth o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
: 2008 - 2012. Ymhlith cyfrifoldebau eraill, roedd y panel yn gosod a chynnal y fframwaith ar gyfer talu pob aelod etholedig yng Nghymru.

Aelodaeth o Bwyllgor Cymru o Gronfa Fawr y Loteri: 2008-2014. Gareth oedd y prif aelod pwyllgor ar gyfer addysg, plant a phobl ifanc a bu'n Gadeirydd ar bwyllgor rhaglen creu grantiau mwyaf y gronfa - "Pobl a Lleoedd"

Gweithio fel aelod lleyg a Chadeirydd pwyllgorau rheoleiddio Cyngor Gofal Cymru (pwyllgor cofrestru, pwyllgor ymchwilio, pwyllgor ymddygiad): 2007-2015

Yn ei amser hamdden, mae Gareth yn wirfoddolwr gweithredol. Yn ddiweddar, fe gwblhaodd cyfnod o ddwy flynedd fel Cadeirydd Bwrdd Clwstwr Cymunedau'n Gyntaf. Mae ar hyn o bryd yn Gadeirydd ar ysgol gynradd mewn ardal Cymunedau'n Gyntaf ac yn llywodraethwr cymunedol ar ysgol gyfun yng nghymoedd de Cymru.

Mae Gareth hefyd yn gwirfoddoli ei amser fel llywodraethwr annibynnol cefnogol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgol sy'n ystyried honiadau amddiffyn plant sy'n ymwneud â staff.