meeting
Gavin Thomas - Datblygiad proffesiynol a hyfforddiant yn y sector AB yng Nghymru: edrych yn ôl

Gavin Thomas - Datblygiad proffesiynol a hyfforddiant yn y sector AB yng Nghymru: edrych yn ôl

Gavin Thomas article imageMae staff sy'n arwain ac yn addysgu ym maes addysg bellach (AB) a'r sector sgiliau yn chwarae rôl allweddol wrth wasanaethu dysgwyr a chyflogwyr yn eu cymunedau, ac yn eu tro yn cefnogi datblygiad economaidd a symudedd cymdeithasol. Mae hyn yn gofyn am y gallu i ysbrydoli, addysgu a hyfforddi ystod eang ac amrywiol o bobl ifanc ac oedolion ar bob lefel - o lefel mynediad a chyn mynediad i lefel gradd a phroffesiynol.

Mae datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) wedi gweld sawl newid i ofynion rheoleiddio sy'n cynnwys perthynas cwbl wahanol â llywodraeth dros y degawdau. Yn gynyddol, mae colegau, sefydliadau hyfforddi seiliedig ar waith, a darparwyr addysg eraill gan gynnwys carchardai, sefydliadau troseddwyr ifanc, gwasanaethau addysg ieuenctid ac oedolion wedi wynebu gwahanol lefelau o reolaeth gan lywodraeth.

Cyn pasio Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, cyfrifoldeb awdurdodau lleol (ALl) a sefydliadau unigol oedd DPP yn y sector AB. Yn ystod y 1970au a 1980au, fe drefnodd Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC), fel y corff oedd yn gyfrifol am gydlynu ALl a chymeradwyo cyrsiau, ystod o rwydweithiau cwricwlwm ledled Cymru. Ond ni fu erioed strategaeth DPP oedd yn diwallu anghenion y sector ôl-16. Ystyriwyd DPP fel cyfres o gyfleoedd hyfforddi undydd mewnol o fewn sefydliadau, gyda chyflenwad o gynadleddau cwricwlwm blynyddol gyda'r bwriad o ddiweddaru athrawon â datblygiadau. Roedd y digwyddiadau yma'n ddefnyddiol o ran codi ymwybyddiaeth a throsglwyddo gwybodaeth ond yn annhebygol o arwain at wella addysgu a dysgu, sef craidd a chrynswth y sector.

Yn y 1990au, fe welsom newid mawr i lywodraethant a statws colegau AB gyda throsglwyddo cyfrifoldeb o ALl i gorfforaethau AB unigol. Ond bu ychydig o newid i'r model DPP. Cynnal diwrnodau HMS oedd y ffordd draddodiadol yn y sector, gyda Fforwm (Colegau Cymru bellach) yn cymryd lle CBAC fel trefnydd cwricwlwm a rhwydweithiau eraill.
Yn y 1990au hwyr, sefydlwyd Sefydliadau Hyfforddiant Cenedlaethol (SHC) i helpu cyflogwyr i ddiwallu eu hanghenion addysgu a hyfforddiant. Daeth y SHC ag ymyrraeth sylweddol yn y farchnad lafur gan y Llywodraeth a'r awydd i:

  • fod yn fwy strategol
  • annog ymrwymiad i hyfforddiant gan gyflogwyr o bob maint
  • sefydlu partneriaethau effeithiol a
  • sicrhau bod adnoddau, staffio a strwythuro yn ddigonol i ddiwallu anghenion y gweithlu yn y dyfodol.

Yn Awst 1999, Sefydliad Hyfforddiant Cenedlaethol Addysg Bellach (FENTO) oedd y corff â'r cyfrifoldeb dros osod safonau ar gyfer y sector AB yn y DU ac am ymchwilio cynlluniau datblygu parthed â darogan anghenion sgiliau'r sector yn y dyfodol.

Un o rolau allweddol FENTO oedd datblygu safonau galwedigaethol yn seiliedig ar swyddogaethau a ddarparwyd yn y sector megis addysgu, rheoli a llywodraethiant. Defnyddiwyd y safonau hyn yn eang o fewn y sector i:

  • gynnig arweiniad ar recriwtio staff
  • gosod disgrifiadau swydd
  • darparu fframwaith ar gyfer gwerthuso staff
  • sefydlu ystod o anghenion DPP
  • cynnig cysondeb ar gyfer datblygu cymwysterau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol at ddibenion sicrhau ansawdd.

Yn 2000 drwy Fforwm, penodwyd rheolwr datblygu cenedlaethol i Gymru. Yn ystod y cyfnod 2000-05, a hynny ar sail ymchwil, cyhoeddwyd nifer o ddogfennau yn benodol ar gyfer Cymru gan gynnwys:

  • A functional analysis of the characteristics, qualifications and skills of the teaching staff in FE colleges (2002)
  • Cynllun Datblygu'r Gweithu ar gyfer Athrawon AB yng Nghymru (2004)
  • Datblygiad Staff mewn Colegau AB ac Anghenion BBaCh yng Nghymru (2001)
  • Adnabod Anghenion Hyfforddiant a Hyrwyddo Ymarfer Da mewn Dysgu Peirianneg yng Nghymru (2004)

Yn 2005, daeth gwaith FENTO i ben a throsglwyddwyd cyfrifoldeb am DPP i'r sector AB i Lifelong Learning UK (LLUK), Cyngor Sgiliau'r sector annibynnol ar gyfer cyflogwyr yn y sector dysgu gydol oes. Roedd yn gyfrifol am ddatblygiad proffesiynol pob staff oedd yn gweithio ym maes dysgu a datblygu cymunedol, AB, llyfrgelloedd addysg uwch, archifau a gwasanaethau gwybodaeth a dysgu seiliedig ar waith ledled y DU.

Bu LLUK yn gyfrifol am y tasgau penodol canlynol:

  • cynyddu'r galw ar gyfer buddsoddi mewn sgiliau
  • cryfhau llais cyflogwyr
  • darparu gwybodaeth o'r farchnad lafur i yrru gweithgareddau datblygu'r gweithlu
  • datblygu datrysiadau i ddiwallu anghenion cyflogwyr
  • a hwyluso rhannu ymarfer da o ran perfformiad a rheoli ansawdd

Arweiniodd LLUK ddatblygiad y Safonau Proffesiynol Trosfwaol Newydd ar gyfer Athrawon, Tiwtoriaid a Hyfforddwyr yn y Sector Dysgu Gydol Oes (2007). Dilynwyd hyn yn 2008 gan gyngor a gyflwynwyd i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y camau nesaf fyddai eu hangen i aildrefnu'r fframwaith cymwysterau ar gyfer y gweithlu athro AB/hyfforddwr/tiwtor/aseswr yng Nghymru ac i arwain datblygiad fframwaith cymwysterau athrawon cydlynol.

Mae'r Rheoliadau Statudol 2002 sydd mewn grym yng Nghymru ond yn cwmpasu tiwtoriaid AB ac yn gofyn am gwblhau TAR/PCET o fewn dwy flynedd ar ôl penodiad. Nid oedd fframweithiau cymwysterau ar gyfer darparwyr dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol i oedolion yn bodoli.

Ffurfiwyd y Fframwaith Cymwysterau Athrawon Cymru arfaethedig i ddiwallu anghenion: hyfforddiant cychwynnol athrawon; hyfforddiant athrawon arbenigol; tiwtoriaid sgiliau sylfaenol/hanfodol; tiwtoriaid cyfrwng Cymraeg/dwyieithog; addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang; technoleg dysgu gwybodaeth; ac opsiynau DPP eraill ar gyfer y gweithlu. Yn anffodus, nid oes y fath fframwaith wedi ei ddatblygu hyd yma.

Yn Ebrill 2015, bu cofrestru athrawon AB â Chyngor y Gweithlu Addysg yn drobwynt yng Nghymru. Mae'r datblygiad hwn yn cynrychioli cam pwysig tuag at ffurfio datblygiad proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg cyfan yng Nghymru.

Tra bod safonau FENTO a LLUK wedi cynnig egwyddorion eang ar gyfer datblygiad ac ymarfer addysgu a dysgu, ni chafwyd llawer o reoleiddio o ran sut y dylid hyfforddi neu ddatblygu athrawon/hyfforddwyr/tiwtoriaid/aseswyr.

Mae'r "Fargen Newydd" ar gyfer y gweithlu addysg yn cynnig cyfle real ar gyfer creu system gydlynol o ddatblygu proffesiynol ar gyfer pob ymarferwr; athrawon (mewn ysgolion a cholegau), hyfforddwyr ac aseswyr, staff cymorth dysgu a rheolwyr. Dylai hyn wella'r broses o leoli a throsglwyddo staff ar draws pob sector.
Mae gan Gymru'r cyfle i ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer gweithlu addysg newydd cyn ac ar ôl 16. Mae angen mapio gofalus o'r gweithlu cymhleth ac amrywiol a manteisio ar gyfleoedd gwella i feysydd arweinyddiaeth a rheoli. Gwobr hyn oll fydd system gydlynol o ddatblygiad proffesiynol sy'n cwmpasu pob agwedd o addysgu, dysgu a rheoli buddiannau enfawr i bobl ac economi Cymru. Nid oes yr un ffactor yn cael mwy o effaith ar berfformiad, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd sefydliadau addysg a hyfforddi nag arbenigedd staff. Mae'n wir, fel y mae wedi bod ers y 1960au, mai'r cyfraniad mwyaf y gellir ei wneud i wella ansawdd a chodi safonau yw trwy ddatblygiad proffesiynol y gweithlu.
Bywgraffiad

Gavin Thomas

Dechreuodd Gavin Thomas MBE ei yrfa'n addysgu mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch ac ysgolion uwchradd yng Nghymru a Lloegr. Am 20 mlynedd, roedd yn AEM ac am 10 mlynedd yn uwch AEM ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru. Mae Gavin ar hyn o bryd yn ymgynghorydd rhan-amser mewn addysg a hyfforddiant gyda Cholegau Cymru a sefydliadau eraill, a gwobrwywyd MBE iddo yn 2012 am wasanaethau i addysg a hyfforddiant yng Nghymru.