meeting
Carys Davies - Cofrestru Athrawon Addysg Bellach – Rhwystrau a Chyfleoedd ar gyfer Datblygu Proffesiynol

Carys Davies article imageFis Ebrill diwethaf, bu chwyldro tawel yn system addysg Cymru wrth i athrawon addysg bellach yng Nghymru gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Drwy gofrestru athrawon AB, mae ganddynt yr un statws ag athrawon ysgol yng Nghymru. Mae pethau'n mynd yn dda, felly. Ond os mai'r unig reswm dros gofrestru athrawon oedd gwaredu ar ymarferwyr drwg, gellid dadlau bod colegau, a'u harbenigedd AD helaeth, â'r gallu i fynd i'r afael â'r problemau eu hunain ac wedi bod yn gwneud hyn yn effeithiol ers cyflwyno Deddf Gorffori 1992. Efallai nad yw effeithiau ehangach cofrestru wedi hawlio'r penawdau cymaint â gwrandawiadau posibl am ymddygiad amhroffesiynol, ond maen nhw'n llawer mwy diddorol. Mae'r newidiadau i'r broses gofrestru yn cynrychioli'r cam cyntaf pwysig o ran ffurfio dyfodol datblygu proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru y tu hwnt i athrawon ysgol.

Ni ddylid tanbrisio gwerth y symudiad ideolegol hwn ar gyfer addysg yng Nghymru. Am dros 20 mlynedd, mae colegau addysg bellach wedi dilyn eu llwybrau annibynnol eu hunain. Nid ydyn wedi bod yn rhwym i adrannau llywodraeth leol neu genedlaethol, gan ffurfio eu gweithlu yn unol â'u hanghenion. Mae safonau Fento a LLUK yn lled-rwymo athrawon i egwyddorion ymarferol, ond ychydig iawn o reoleiddio manwl sydd wedi bod o ran sut ddylid hyfforddi athrawon addysg bellach fel gweithwyr proffesiynol un ai cyn neu ar ôl cwrs TAR. O ganlyniad (ac fel un a ddaeth o gefndir ysgol cyn dechrau gweithio yn y sector AB) mae'n gallu ymddangos yn ddryslyd iawn i'r rheiny ohonom sydd ddim wedi ein trochi ym myd addysg bellach. Ond os bydd Cymru'n gwneud hyn yn iawn, gall cofrestru'r gweithlu addysg bellach gynrychioli cyfle euraid ar gyfer system o ddatblygiad proffesiynol cysylltiedig sy'n cwmpasu pob math o weithwyr addysg proffesiynol o athrawon a hyfforddwyr i aseswyr a gweithwyr cymorth dysgu, gan greu llwybrau gyrfa cydlynol a datblygiad proffesiynol strwythuredig. Fodd bynnag, bydd rhaid ystyried y print mân, fel arfer.

Y rhwystr mwyaf fydd yn rhaid i Gymru ei wynebu wrth wireddu'r weledigaeth o weithlu addysg proffesiynol cyn ac ar ôl 16 fydd sicrhau bod gan y rheiny o fewn y gweithlu ddealltwriaeth o'r anghenion cymhleth ac amrywiol y sector addysg ôl-16. Ni ddylid creu bargen newydd gyda'r bwriad o fwydo'r un wybodaeth i athrawon AB ag athrawon ysgol. Ni ddylai chwaith fod yn achos o ymbalfalu a gobeithio am y gorau drwy ychwanegu dimensiwn ôl-16 i gynlluniau datblygiad proffesiynol. Mae angen mapio clir o sut olwg sydd ar y gweithlu ar draws y sector addysg a sut mae'r gwahanol rolau yma'n datblygu'n rolau arwain a rheoli. Mae hyn yn digwydd ar hyn o bryd ar gyfer ysgolion, ond mae'r map ar gyfer addysg ôl-16 yn fwy cymhleth wrth iddo gynnwys ystod ehangach o rolau.

Rhan allweddol o fapio'r gweithlu fydd dangos sut mae cydraddoldeb o fewn y broses gofrestru yn gallu annog trosglwyddedd i athrawon ar draws pob sector. Mae nifer o ysgolion yn addysgu elfennau o gwricwlwm galwedigaethol ac mae'r rhan fwyaf o golegau yn cynnig pynciau Safon Uwch a TGAU sydd hefyd yn cael eu haddysgu mewn ysgolion. Sut all cofrestru â CGA helpu creu mudiad gwell o weithwyr proffesiynol ar draws sectorau a sut fydd angen alinio hyfforddi athrawon a safonau proffesiynol i hwyluso hyn? A fydd rhaid i golegau yn y dyfodol gyflwyno rhaglenni ANG ar gyfer eu staff sydd newydd gymhwyso i wella'u sgiliau ac ymgymryd â'r rhaglen Meistr Ymarfer Addysg? Mae'r rhain i gyd yn cyflwyno heriau wrth alinio gweithlu addysg proffesiynol ond hefyd yn cynnig cyfleoedd i greu system addysg gysylltiedig gyda gwell ddealltwriaeth rhwng y sectorau.

Yn ddiau, bydd atebolrwydd a datblygiad proffesiynol yn dod â buddion ar gyfer athrawon ym maes addysg bellach. Mae llawer gan y sector addysg bellach ei ddysgu gan y datblygu proffesiynol dwys y mae athrawon ysgolion uwchradd yn ymgymryd ag ef o ran mewnblannu llythrennedd a rhifedd. Yn eu tro, gall ysgolion ddysgu llawer gan sefydliadau addysg bellach am ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd dysgwyr. Ac mae'r ddau sector yn rhannu'r un awydd i wella ansawdd addysgu a dysgu. Byddai rhannu ymarfer proffesiynol ar draws y sectorau o fudd mawr i ddysgwyr Cymreig ac yn brawf o'r berchnogaeth bersonol o ddatblygiad proffesiynol y mae CGA yn ei annog. Gallwn obeithio y bydd rhai o'r anghydraddoldebau presennol, megis yr anawsterau mae athrawon addysg bellach yn eu hwynebu wrth fewngofnodi a chysylltu â'r cymunedau o athrawon eraill yn HWB yn cael eu datrys, gan alluogi cannoedd o athrawon mewn colegau sy'n addysgu TGAU, Safon Uwch a'r Fagloriaeth Gymreig i gael mynediad i gymunedau ymarfer ehangach.

Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau addysgegol sylfaenol o fewn dysgu galwedigaethol sydd angen eu deall gan y rheiny sy'n edrych ar ddatblygiad proffesiynol ôl-16. Mewn sawl ffordd, mae addysg bellach yn gyffinwlad. Mae'r colegau gorau yn gorfod siapio ac addasu eu cwricwlwm i ddiwallu anghenion y farchnad lafur a dysgwyr. Golyga hyn fod yn rhaid i'r gweithlu ôl-16 fod yn hyblyg i newid ac i ail-sgilio'n rheolaidd. Mae diwydiant a'r llywodraeth ar hyn o bryd yn gofyn am fwy o brentisiaid lefel uwch. Bydd angen i'r colegau ddefnyddio staff i addysgu'n hyblyg ar draws addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith a darparu mwy o fodiwlau ar lefel AU. Bydd rhaid i athrawon galwedigaethol a hyfforddwyr ymgymryd â lleoliadau rheolaidd o fewn y diwydiant a hyfforddiant er mwyn ymelwa ar yr ymarfer diwydiannol diweddaraf. Mae'r anghenion proffesiynol hyn yn wahanol i'r rhai sydd eu hangen ar gyfer addysg ôl-16 ond yn greiddiol i'r datblygiad proffesiynol parhaus y sector a llwyddiant economi Cymru yn y dyfodol.

Mae proses gofrestru CGA a'i fwriad o gyflwyno atebolrwydd proffesiynol yn y maes yn gyfle gwych na ddylid ei golli. Drwy edrych ar anghenion proffesiynol y gweithlu ôl-16, mae gan y Llywodraeth cyfle euraid i siapio llwybrau gyrfa addysg galwedigaethol a'i weithlu mewn ffordd sy'n cael ei wneud yn systemau addysg galwedigaethol gorau'r byd, megis y Ffindir. Wrth i'r llywodraeth gofleidio adolygiad cwricwlwm 'Dyfodol Llwyddiannus' ac adolygiad Furlong o hyfforddiant athrawon ysgol, ni ddylai'r hyfforddiant ddod i ben wrth gât yr ysgol. Os yw'r Llywodraeth yn ddifrifol am atebolrwydd proffesiynol a datblygiad ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg bellach, mae angen iddynt hefyd ystyried beth yn union yw'r addysg alwedigaethol gorau a dechrau archwilio rhagoriaeth mewn addysgeg alwedigaethol yn yr un modd ag addysg ôl-16. Gyda fwyfwy o ddysgwyr yn ymgymryd â llwybrau galwedigaethol lefel uwch ac economi sy'n ddibynnol ar ddysgwyr galwedigaethol â sgiliau uwch, a fyddwn yn gallu fforddio peidio â gwneud hyn?

Carys Davies

Dechreuodd Carys Davies ei gyrfa'n addysgu Saesneg mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, cyn gweithio fel arweinydd cwricwlwm mewn ysgol uwchradd yn Seland Newydd. Daeth Carys yn ôl i Gymru yn 2005 ac mae wedi gweithio yn y sector addysg bellach ers hynny, ac mae hi ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Ansawdd, Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr yng Ngholeg Cambria. Mae ei diddordebau proffesiynol yn cynnwys hyfforddi athrawon, mewnblannu llythrennedd ac arweinyddiaeth addysgiadol.