meeting
Linda Wyn - Cadw’r Cydbwysedd – yr Her i Arweinwyr Addysg Bellach

Linda WynYstrydeb bron yw datgan bod y rheiny ohonoch a fu mewn swyddi arweinyddiaeth o fewn y sector Addysg Bellach yng Nghymru yn y blynyddoedd diweddar yn gyfarwydd iawn â newid. Yn wir, gellid dweud mai hyblygrwydd oedd prif nodwedd y sector dros y ddau ddegawd diwethaf. Ers ymgorffori’r colegau AB yn 1993, pan ryddhawyd y colegau o hualau’r awdurdodau lleol, rydym wedi gweld cyfnod o newid aruthrol. Daeth twf ac ymatebolrwydd i fod yn ddwy brif flaenoriaeth i’r sector wrth i AB gael ei chydnabod nid yn unig fel darparwr addysg alwedigaethol i adawyr ysgol, ond hefyd yn bartner allweddol yn y gwaith o gefnogi twf economaidd ac o fynd i’r afael ag amddifadedd ac anweithgarwch economaidd.

Gan i’r drefn gyllidol a fabwysiadwyd wedi’r ymgorfforiad annog twf, yn fuan roeddem yn datblygu ein darpariaeth ar gyfer ein cwsmeriaid craidd er mwyn sicrhau bod ein pobl ifainc yn cael eu harfogi ag ystod eang o gymwysterau “ychwanegol” a fyddai’n ddeniadol i gyflogwyr. Ar yr un pryd, aeth y colegau ati i gynyddu’n sylweddol eu cwsmeriaid o blith cyflogwyr, gan ddatblygu darpariaeth cyrsiau byr arbenigol, pwrpasol yn ogystal ag ystod o raglenni prentisiaethau newydd. Datblygwyd partneriaethau gydag amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol pan ganfuwyd fod gan y colegau AB yr arbenigedd a’r isadeiledd i helpu’r di-waith i ennill y sgiliau oedd eu hangen i’w cael yn ôl i’r byd gwaith.

Roedd lefel y cyllid a dderbyniai’r colegau yn caniatáu iddynt fuddsoddi mewn darpariaeth newydd, cefnogid syniadau newydd ac roedd rhywfaint o risg yn cael ei oddef a hyd yn oed ei annog. Mewn llawer o’r colegau gellid disgrifio’r arddull arwain fel un “gweledigaethol” i lle byddai arloesedd ac agwedd “dos amdani” yn cael eu gwobrwyo drwy gydnabyddiaeth a dyrchafiad.

Ysywaeth, ond tydy’r oes wedi newid? I arweinwyr AB, gellid dadlau bod y ffocws ar dwf ac arloesedd wedi eu disodli yn y blynyddoedd diweddar gan ddwy flaenoriaeth wahanol, sef y cymhelliant i wella safonau ansawdd yn barhaus a’r angen am effeithlonrwydd. Anochel, felly, yw bod y newidiadau hyn yn cael effaith ar arddulliau ac ymddygiad arwain wrth i arweinwyr AB orfod wynebu’r penbleth dyddiol o jyglo blaenoriaethau sy’n gwrthdaro. Mae’r gamp oesol o gadw’r cydbwysedd rhwng gwella safonau ansawdd tra’n cyfarfod â thargedau cyllidol yn awr yn cael ffocws newydd.

Mae’r cynnydd mewn tryloywder a’r craffu allanol ar ein colegau wedi ein harwain i roi llawer mwy o bwyslais ar sicrhau bod ein data a’n systemau perfformiad yn rhoi’r darlun mwyaf cadarnhaol posib o’n sefydliadau. Er mwyn llwyddo, nid yn unig rhaid i ni gael systemau gwybodaeth cadarn, ond hefyd staff sy’n cydymffurfio ac yn glynu wrth ein prosesau gweinyddol. Rhaid sicrhau bod systemau ansawdd yn cael eu gweithredu’n gyson nid yn unig i esgor ar y gwelliannau ansawdd angenrheidiol, ond hefyd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn barod ar gyfer Estyn bob amser.

Yn yr un modd, gyda’r cynnydd yn y pwysau ar ein cyllidebau yng ngoleuni’r toriadau ariannol llym yn y blynyddoedd diweddar, mae monitro cyllidol yn awr ar frig ein hagenda. Mae unrhyw orwario yn cael sylw gofalus a rhaid cyfiawnhau’n ddarbodus unrhyw wariant ychwanegol sydd heb ei gynllunio.

Gellid dadlau bod ffocws arweinyddiaeth wedi symud ei atebolrwydd o fod yn llorweddol i un fertigol. Er i arweinwyr AB hawlio’n huawdl eu bod yn hybu diwylliant sy’n rhoi’r dysgwr yn gyntaf neu “yng nghalon pob dim a wnawn”, mae perygl bod atebolrwydd yn awr yn symud oddi ar ein cwsmeriaid a’n budd-ddeiliaid tuag at ein llywodraethwyr a’n tâl-feistri. Rydym dan bwysau cynyddol nid yn unig i argyhoeddi ein cyrff llywodraethol ein bod yn hyfyw yn ariannol ond rhaid i ni hefyd gyfiawnhau unrhyw newidiadau cwricwlaidd i Lywodraeth Cymru yn nhermau atebolrwydd a gwerth am arian.

O fewn hinsawdd mor gyfnewidiol, mae’n anochel bod arddulliau arwain yn newid o ran y modd y mae staff a systemau’n cael eu harwain a’u rheoli. Mae’r angen am gadw cydbwysedd rhwng cydymffurfiaeth a chreadigrwydd, buddsoddiad mewn adnoddau a chyfyngiadau ariannol a’r cynnydd yn llwyth gwaith ein staff ac hyblygrwydd i arloesi oll yn densiynau y mae’n rhaid eu hwynebu yn rheolaidd.

Gallai arddull arwain ddemocrataidd a fyddai, yn y gorffennol, yn caniatáu llawer o ryddid gweithredu i reolwyr canol, yn awr ymddangos yn rhy fentrus. Lle, o’r blaen, byddai arweinwyr AB yn ymfalchïo yn eu harddulliau arwain trawsnewidiol ii , oedd yn ysbrydoli eraill ac yn annog meddylfryd a gweithredoedd arloesol, gallant yn awr ganfod eu bod yn llithro i mewn i arddull fwy gweithredol. Yn ddiamau y mae ffocws ar fonitro ansawdd a gwella tanberfformiad yn bwysig er mwyn sicrhau bod ein holl darpariaeth yn codi i lefelau derbyniol, ond gallai gor-bwyslais ar ffocws o’r fath fod ar draul meithrin arloesedd a chreadigrwydd. Yr her i arweinwyr yw cael y cydbwysedd yn iawn unwaith eto.

Bydd arddulliau arwain yn sicr o effeithio ar ein systemau gwobrwyo cynhenid a’r hyn y mae’r sefydliad yn rhoi gwerth arno. Bydd ein dangosyddion perfformiad allweddol hefyd yn penderfynu pwy sy’n dod i’r brig. Y rheolwyr hynny a ganfyddir i fod yn berfformwyr uchel fydd y rhai sydd wedi sicrhau cyfraddau llwyddo uchel, bodlonrwydd dysgwyr ac hefyd werth am arian. Fodd bynnag, oni ddylem hefyd wobrwyo’r rhai hynny a ddatblygodd ddulliau newydd o weithio, a arloesodd gyda’u dulliau dysgu ac addysgu, a feddyliodd am syniadau newydd ac a ysbrydolodd a thaniodd ddychymyg ein dysgwyr? Yr hyn a wnaeth ein sector yn wych oedd ein gallu i arloesi, felly beth am roi creadigrwydd yn ôl ar ein hagenda?

Linda Wyn

Wedi gweithio yn y maes Addysg Bellach yng Nghymru ers 1993 gan ddal nifer o swyddi rheolaethol. Yn ei swydd bresennol mae’n Uwch-gyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd Grŵp Llandrillo Menai ac yn Bennaeth Coleg Meirion Dwyfor.

Yn y gorffennol mae wedi gwasanaethu ar fyrddau’r Cyngor Addysgu Cyffredinol ac ACCAC. Mae’n Gyfarwyddwr Annibynnol ac yn Is-gadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac newydd orffen gwasanaethu ar Banel Cynghori’r Gweinidog ar y Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg.


i. Goleman, Daniel, (2000) “Leadership that gets results” Harvard Business Review (March)
ii. Burns J.M (1978) “Leadership” New York, Harper Row