meeting
Mel Ainscow - Ysgolion Cymru yn newid gêr

Mel Ainscow - Ysgolion Cymru yn newid gêr

Mel Ainscow photoMae gan system addysg Cymru nifer o gryfderau, yn enwedig ei chynwysoldeb, gyda'r rhan fwyaf o blant yn mynychu ysgolion yn eu cymdogaeth leol. Mae yna bwyslais cryf hefyd ar gyfranogiad cymunedol a anogir gan awdurdodau lleol. Fodd bynnag, mae yna bryderon am safonau cyffredinol, yn enwedig cynnydd pobl ifanc o deuluoedd â chyflogau isel. Gyda hyn mewn golwg, fe lansiodd Llywodraeth Cymru Her Ysgolion Cymru yn 2014. Drwy dynnu ar ymchwil rhyngwladol am strategaethau effeithiol ar gyfer newid mewn ysgolion, ei fwriad yw cyflymu'r broses o wella ysgolion Cymru.

Her Ysgolion Cymru

Mae deugain ysgol yn sail ar gyfer yr ymdrechion hyn. Cawsant eu dewis oherwydd eu cyfradd gymharol uchel o fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig, ac mae pob un o'r ysgolion hyn yn datblygu'n wahanol. O'r herwydd, mae pob un wedi llunio strategaeth gwelliant ei hun gyda chymorth ein tîm cenedlaethol o Gynghorwyr arbenigol. Mae adnoddau ychwanegol ar gael i gefnogi'r ysgolion wrth iddynt gyflwyno'r strategaethau hyn. Mae ysgolion cynradd hefyd ynghlwm â grwpiau clwstwr lleol yr ysgolion.

Fe brofodd yr ysgolion a gymerodd ran anawsterau sylweddol wrth ddangos gwelliant yn eu perfformiad. Mae hi felly'n addawol i weld y cynnydd a wnaed ar ôl un flwyddyn yn unig. Yn wir, mae cyfradd gwelliant yr ysgolion hyn at ei gilydd yn fwy na'r ysgolion sy'n perfformio orau yng Nghymru. I roi hwn yn ei gyd-destun, nid yw'r rhaglenni cyfatebol yn Llundain neu Fanceinion wedi gwneud yr un cynnydd ar ôl blwyddyn yn unig.

Mae llawer i'w ddathlu felly. Mae'r cynnydd yn cynnig sylfaen ar gyfer ein hymdrechion i gael mwy o effaith ar draws y system addysg yn ystod y flwyddyn gyfredol a thu hwnt. Yn hyn o beth, mae yna nifer o ddatblygiadau addawol, wrth i ysgolion eraill dynnu ar wersi sy'n cefnogi cynyddu capasiti ar draws y system addysg.

Patrymau

Er ei bod hi'n hanfodol i edrych ar gynnydd pob ysgol yn unigol, mae patrymau penodol yn ymddangos parthed yr heriau maent yn eu hwynebu. Er enghraifft, ceir:

  • Ysgolion ynysig – Dyma ysgolion sy'n ymddangos nad ydynt wedi cael mynediad i gefnogaeth ehangach ar gyfer eu hymdrechion ar gyfer gwelliant. Yn ogystal, mewn rhai achosion, ceir tystiolaeth o anawsterau tebyg i'r rheiny a wynebir gan ysgolion arfordirol ar draws y DU. Wrth ymateb i hyn, mae Cynghorwyr wedi annog ysgolion i sefydlu partneriaethau er mwyn ehangu'r adnoddau dynol sydd ar gael i gefnogi eu hymdrechion i wella. Yn barod, mae'r cynnydd yn y rhan fwyaf o achosion yn addawol o ganlyniad i'r trefniadau hyn a rhagwelir y bydd hyn yn parhau yn ystod yr ail flwyddyn.

  • Ysgolion yn gweithio yn erbyn y llif - mae'r ysgolion hyn yn wynebu ystod o rwystrau parthed â'u safle o fewn eu 'marchnad addysg leol'. Fel arfer, nid ydynt yn llawn, ac o'r herwydd, mae'n rhaid iddynt groesawu myfyrwyr a waharddwyd o ysgolion eraill. Maent hefyd yn ei chael hi'n anodd denu athrawon cymwys addas, yn enwedig yn y meysydd pwnc sydd â phrinder o arbenigwyr. Gan ystyried eu henwau gwael yn lleol, maent yn llai tebygol o ddenu teuluoedd dyheadol. Er hynny, mae'n bleser adrodd bod cynnydd eisoes wedi bod yn yr ysgolion hyn o ganlyniad i waith Cynghorwyr wrth helpu magu hyder, codi disgwyliadau a hyrwyddo cyflymu'r broses o ddysgu.

  • Ysgolion mewn argyfwng. Mae nifer fechan o ysgolion yn amlygu heriau sylweddol oherwydd bod eu cefndiroedd hanesyddol wedi gadael etifeddiaeth ddifrifol sy'n rhwystro eu cynnydd. Yn ystod blwyddyn gyntaf yr her, bu'n rhaid gweithio â chydweithwyr i fynd i'r afael â'r problemau strwythurol hyn, oedd yn bennaf oherwydd agweddau o reolaeth, arweinyddiaeth a llywodraethiant. Nid oedd yn syndod darganfod nad oedd llawer o gynnydd o ran canlyniadau arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Fodd bynnag, gan ystyried y newidiadau strwythurol sydd nawr wedi eu cyflwyno, disgwylir i'r canlyniadau wella'n sylweddol yn 2016. Ym mhob achos, ffurfiwyd partneriaeth ag ysgol oedd â pherfformiad rhagorol.

  • Ysgolion sydd angen eu hybu. Ymddengys bod nifer o ysgolion wedi aros yn yr unfan dros gyfnod o flynyddoedd, ond mewn nifer o achosion, cafwyd peth gwelliant cyn Her Ysgolion Cymru. Mae'r Cynghorwyr wedi cydweithio â'r ysgolion hyn i gryfhau agweddau gwahanol o'u gwaith sydd fel arfer yn gysylltiedig â systemau tracio myfyrwyr ac arweinyddiaeth uwch a chanolig. Pwysleisiwyd gwella ymarfer yn yr ystafell ddosbarth drwy ddefnyddio dulliau grymus o ddatblygiad proffesiynol yn yr ysgol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae partneriaethau ag ysgolion eraill ynghlwm â'r datblygiadau hyn. Mae nifer o'r ysgolion yma eisoes wedi gweld cynnydd mawr o ran canlyniadau arholiadau, gyda chynnydd aruthrol mewn nifer o achosion.

Dylid nodi bod modd cysylltu rhai o'r ysgolion â mwy nag un o'r disgrifiadau hyn.

Agweddau cadarnhaol

Yn ystod ail flwyddyn y rhaglen, rydym wedi ychwanegu at y strategaethau mwyaf llwyddiannus yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Mae'r strategaethau fel a ganlyn:

  • Gwaith y tîm Cynghori - dyma'r ysgogiad mwyaf effeithiol o ran cynnydd yn fy marn i. Mae ein pwyslais ar 'ymddiriedaeth dda, atebolrwydd da' wedi golygu bod gan yr aelodau tîm - sydd oll yn gyn-arweinwyr ysgol llwyddiannus - ymreolaeth sylweddol i ddadansoddi cyd-destunau penodol a chefnogi'r rheiny o fewn ysgolion i gyflwyno newidiadau. Mae'n amlwg bod gwahanol aelodau o'r tîm yn dod â sgiliau a phrofiadau gwahanol i'r gwaith. Mae'r cyfarfodydd tîm misol wedi bod yn gyd-destun pwysig ar gyfer rhannu'r arbenigedd yma.

  • Y Byrddau Gwella Carlam – Rwyf wedi fy synnu gan effaith y trefniadau hyn, sy'n cynnwys cynnal cyfarfodydd ym mhob ysgol o grŵp bychan o gyfranddeiliaid i fonitro cynnydd. Ymddengys mai eu gallu i bwysleisio pwysigrwydd penaethiaid yn cymryd cyfrifoldeb am strategaethau gwelliant, drwy ddefnyddio nifer o bobl allweddol tu allan i'r ysgol fel ffynonellau o gefnogaeth a herio. Mae'r ffaith bod y byrddau yn cwrdd yn fisol yn golygu y cynhelir momentwm y cynnydd a bod y bobl ynghlwm â'r rhaglen yn atebol i'w gilydd o ran cyflawni tasgau. Mae nodiadau o'r cyfarfodydd yn ffordd effeithlon o roi gwybod i gyfranddeiliaid eraill mewn modd sydd ddim yn gwastraffu amser gydag adroddiadau ychwanegol. Mae hefyd yn galonogol i weld bod y strategaeth yn cael ei chyflwyno'n ehangach.

  • Dysgu Proffesiynol - Mae'n glir iawn bod y cynnydd aruthrol wedi digwydd mewn nifer o ysgolion yn dilyn cyflwyno dulliau newydd o ddysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr. Mae'r rhain yn seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil rhyngwladol ar beth sy'n gwneud datblygu proffesiynol mor effeithiol fel strategaeth i wella ysgolion. I grynhoi, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod angen i ddatblygiad proffesiynol effeithiol fod yn rhan o broses gydweithredol sydd: wedi ei leoli yn yr ystafell ddosbarth; yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer athrawon i weld cydweithwyr wrth eu gwaith; yn hyrwyddo trafodaethau manwl sy'n arwain at ddatblygiad dulliau ymarfer effeithiol; wedi ei seilio ar ymgysylltu â thystiolaeth fel bod unigolion yn cael eu herio i ailystyried yr hyn maent wedi ei gymryd yn ganiataol o ran beth sy'n bosibl; ac wedi ei hwyluso gan rywun sydd â'r arbenigedd i helpu athrawon ddeall y gwahaniaeth rhwng yr hyn maent yn ei wneud a'r hyn maent yn dyheu am ei gyflawni. Mae'n werth ychwanegu bod y strategaethau hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn pan maent yn cynnwys mwy nag un ysgol.

Ac yn olaf

Yn ddiweddar, mae llawer o'r sylw yn y cyfryngau wedi canolbwyntio ar gymharu perfformiad ysgolion Cymru â'r rheiny yn Lloegr. Gan ystyried y gwahaniaethau sy'n bodoli o ran dulliau asesu'r ddwy wlad, mae hyn yn dod yn fwyfwy amherthnasol. Yr hyn sy'n ddiddorol, fodd bynnag, yw llwyddiant perthnasol y strategaethau gwelliant cenedlaethol sy'n cael eu datblygu yn y ddwy wlad. Maent wedi eu seilio'n glir ar 'theorïau o newid' gwahanol iawn.

Yn syml iawn, mae'r dull Seisnig yn canolbwyntio ar hyrwyddo ymreolaeth ysgol mewn cyd-destun o gystadleuaeth gynyddol, heb lawer neu ddim ymgysylltu â chymunedau, gan gynnwys awdurdodau lleol. O ran ei natur, mae dull tebyg yn debygol o weld rhai yn colli ac eraill ar eu hennill. O'i gymharu, mae'r dull Cymreig yn pwysleisio cyfranogiad sawl partner yn gweithio'n gydweithredol i sicrhau llwyddiant i bob dysgwr.

I mi, mae'n rhaid i Her Ysgolion Cymru brofi bod modd i'r dull Cymreig fod yn llwyddiannus mewn ffyrdd sy'n magu rhagoriaeth a thegwch. Yn hyn o beth, anogwyd fi gan sylw un pennaeth ar ôl gweld cynnydd mawr yng nghanlyniadau arholiadau diweddar pan ddywedodd: 'Mae'n dda, ond nid yw'n ddigon da.'

Mel Ainscow

Mel Ainscow CBE yw Hyrwyddwr Ysgol Her Ysgolion Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn Athro Addysg ac yn Gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ecwiti Addysg ym Mhrifysgol Manceinion. Mae ei lyfrau diweddaraf yn cynnwys: 'Struggles for equity in education: The selected works of Mel Ainscow' (Routledge World Library of Educationalists series), a Towards self-improving school systems: lessons from a city challenge (Routledge), a gyhoeddwyd yn 2015.