meeting
Owen Hathway - Mae addysg yn dechrau yn y cartref

Owen Hathaway1Yn aml iawn, anghofir am rôl rhieni a gwarcheidwaid wrth asesu beth sy'n cael effaith ar addysg plant. Mae'n gwbl naturiol i ganolbwyntio ar athrawon pan ddaw at gyrhaeddiad. Mae'r unigolion hyn wedi eu hyfforddi'n benodol i gefnogi addysg dysgwyr. Mae athrawon yn dangos yr ymrwymiad sydd ei angen i sicrhau cymwysterau, i ymgymryd â chyfnodau sefydlu, ac maent yna ar gyfer eu disgyblion yn feunyddiol. Fodd bynnag, yr hyn a anghofiwn yw bod plant yn treulio'r rhan helaeth o'u hamser y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Hyd yn oed wrth beidio ystyried gwyliau ysgol, mae plant yn treulio mwy o amser i ffwrdd o'r ysgol nag y maent yn yr ysgol  yn ystod y tymor. Mae hyn er gwaetha'r ffaith mai Cymru yw un o wledydd Ewrop sydd â'r diwrnodau ysgol hiraf, gwyliau ysgol fyrraf a'r nifer lleiaf o wyliau cyhoeddus unrhyw le yn y byd.  Dyna pam mai ffocws cwricwlwm 'Donaldson' yw datblygu'r person fel 'unigolion iach a hyderus, sy'n barod i arwain bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas ac nid fel cynnyrch o system addysg gul'.

Mae'n amlwg bod cefnogi cyrhaeddiad addysgiadol y tu allan i'r ysgol yn hanfodol er mwyn iddo wella o'r tu mewn. Ni ddylid anghofio am bwysigrwydd y gefnogaeth y mae disgyblion yn ei chael yn y cartref. Rydym yn ymwybodol bod yr ysgolion mwyaf llwyddiannus wedi llwyddo meithrin perthynas positif â'u cymunedau. Ceir ymdeimlad o berchnogaeth ar gyfer llwyddiant ysgolion sy'n treiddio y tu hwnt i gatiau’r ysgol lle mae rhieni'n cydweithio ag athrawon i ddatblygu'r wybodaeth, sgiliau a'r dyhead am ddysgu yn eu plant a'u pobl ifanc.

Ym mis Ebrill 2014, fe lansiodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen 'Mae addysg yn dechrau yn y cartref'. Mae'n anodd dweud byth yw effaith y rhaglen hon. Byddwn hefyd yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru ei hyrwyddo ymhellach gyda phwrpas newydd. Fodd bynnag, mae'r ffaith bod y fath raglen yn bodoli yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o beth mae pob athro yn gwybod yn barod, sef os na fyddwn yn pontio'r ystafell ddosbarth a'r cartref fel amgylchedd addysgiadol, rydym ond yn rhannol gyflawni potensial disgybl.

Mewn astudiaeth o 2014 a gynhaliwyd ar y cyd gan Brifysgolion Brown a Havard, fe edrychwyd ar effaith y negeseuon rhwng athrawon a rhieni, a thrwy hynny amlygu'r effaith all ymgysylltu â rhieni ei gael.

Bu tri grŵp o ddisgyblion yn rhan o'r astudiaeth. Ni chafodd rieni'r grŵp cyntaf unrhyw negeseuon am berfformiad eu plentyn. Cafodd rhieni'r ail grŵp negeseuon oedd yn bositif yn unig. Cafodd rhieni'r trydydd grŵp negeseuon beirniadol neu 'gwybodaeth am wella'.

Prif ganfyddiad yr arolwg oedd cynnydd yn nhebygolrwydd o'r disgyblion yn llwyddo yn eu harholiadau ar ôl i rieni gael adborth, boed hynny'n gadarnhaol neu'n negyddol. O'i gymharu â'r grŵp aeth heb adborth, bu gostyngiad o 41% o ran myfyrwyr yn methu ag ennill credyd.

Yn ddiddorol ddigon, cafodd y disgyblion o'r grŵp lle rhoddwyd 'gwybodaeth am wella' i'w rhieni fwy o ganlyniadau effeithiol na'r rheiny gafodd adborth positif yn unig. Gallwn felly ddod i'r casgliad nid yn unig bod adborth i rieni yn hanfodol o ran cyrhaeddiad, ond bod natur yr adborth hefyd yn bwysig iawn.

Mae ymchwil yn dangos gwahaniaethau o ran cynnwys rhieni, ac yn cael effaith mwy ar gyrhaeddiad na gwahaniaethau sydd wedi eu cysylltu ag effeithiau ysgol yn yr ystod oedran cynradd. Hefyd, mae'r effeithiau yma'n rhai hirdymor. Mae cynnwys rhieni yn parhau i gael effaith sylweddol wrth i blant dyfu'n hŷn, ond ar gyfer disgyblion hŷn, mae'n fwy pwysig o ran sicrhau  bod plant yn parhau mewn addysg na chanlyniadau academaidd y mae modd i'w mesur.

Mae hefyd yn werth sôn nad yw llwyddiant drwy gynnwys rhieni wedi'i gyfyngu i un grŵp cymdeithasol yn unig. Mae maint yr effaith o gynnwys rhieni yn amlwg ar draws pob grŵp ethnig ym mhob dosbarth cymdeithasol. Felly, mae sefydlu perthynas gref rhwng athrawon a rhieni yn ffordd o wella cyrhaeddiad o fewn ein system addysg ond hefyd yn ffordd o gefnogi disgyblion ar draws pob grŵp cymdeithasol-economaidd, ethnig a diwylliannol.

Mae ymgysylltiad cymunedol yn hanfodol ac mae'r ysgolion gorau ar flaen y gad oherwydd bod ganddynt fintai o rieni sy'n rhannu gweledigaeth. Mae hyn enwedig yn bwysig wrth i ni edrych ar fentrau megis 'Her Ysgolion Cymru.' Seiliwyd ei lwyddiant ar 'London Challenge' a bu ymrwymiad rhieni yn rhan fawr o hyn. Fel mae Simon Burgess o Brifysgol Bryste yn dadlau yn ei adroddiad ar y pwnc, "Mae gan Lundain yr hawl i fod yn blês a'i hun o ran perfformiad gwych ei disgyblion mewn TGAU. Y ddadl yma yw bod sylfaen y llwyddiant hwnnw oherwydd plant a rhieni yn hytrach na llunwyr polisi."

Mae hyn yn codi rhai pryderon am feysydd polisi sy'n bygwth y berthynas rhwng rhieni a disgyblion. Rydym yn gwybod bod y system fandio ysgolion dadleuol wedi creu llawer o broblemau drwy droi rhieni yn erbyn eu hysgolion. Dyna un o'r prif resymau pan oedd y polisi yn fethiant. Yn yr un modd, mae'n rhaid i ni gwestiynu a oedd dirwyon triwantiaeth, all arwain at fuddion yn y tymor byr, wedi bygwth y deialog rhwng athrawon a rhieni.

Dim ond hyn a hyn gall athrawon ei gyflawni wrth addysgu plentyn, ac yn aml mae'r plant yn ennill y cymwysterau gorau yn erbyn ffactorau eraill yn eu bywydau, ond fel rheol, os nad oes  rhwydwaith ehangach o gefnogaeth, mae'n ei wneud yn anodd iawn i sicrhau bod potensial yn cael ei gyflawni.

Mae'n rhaid i ni gefnogi rhieni i ddatblygu eu galluoedd ymhellach a sicrhau mynediad i hyfforddiant lle'n bosibl. Dylai sicrhau bod gennym yr athrawon mwyaf cymwys a chymell fod yn amcan creiddiol i unrhyw Lywodraeth Cymru. Yn yr un modd, dylwn hefyd edrych ar wella adnoddau a chyfleusterau ynghyd ag edrych ar newidiadau polisi sy'n grymuso'r proffesiwn. Fodd bynnag, yn y pen draw, nid yw'n bosibl inni ddianc o'r ffaith fod plant yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Nid yn unig bod yn rhaid i ni feddwl am fewnbwn gan rieni ond hefyd y materion cymdeithasol-economaidd ehangach yn eich cymuned sy'n effeithio ar y gallu i sicrhau'r canlyniadau gorau i bawb. Byddai methu â mynd i'r afael â'r ffactorau allanol hynny yn gwneud hi'n anodd gwella unrhyw berfformiad o fewn yr ysgol. Golyga hyn bod yn rhaid taclo'r heriau a ddaw o dlodi fel blaenoriaeth.

Yn y pen draw, mae angen i ni feithrin system addysg sy'n galluogi athrawon a rhieni i ymgysylltu'n gadarnhaol â'i gilydd; lle ceir ffocws clir nid yn unig ar roi adborth ond wrth lunio pryd, sut, ble a pham mae'r adborth hwnnw'n digwydd; lle mae buddiannau cydnabyddedig ar gyfer y rhyngweithio hwnnw gyda dulliau a chyfrifoldeb wedi eu rhannu am lwyddiant ysgol. Os gallwn wneud hynny, ni fydd angen rhoi terfyn ar ein potensial.

Owen Hathway

Owen Hathway yw Swyddog Polisi Cymru yn Undeb Cenedlaethol yr Athrawon. Mae Owen yn cyfrannu'n rheolaidd i'r drafodaeth addysg yng Nghymru, a dechreuodd yn y swydd ym mis Awst 2011, ar ôl gweithio mewn rolau cyfathrebu ac ymchwilio amrywiol i Blaid Cymru. Roedd hyn yn cynnwys rôl Pennaeth Cyfathrebu'r blaid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Ac yntau wedi graddio o adran wleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, mae Owen hefyd wedi astudio ar gyfer cymwysterau gydag Ysgol Newyddiaduraeth Llundain; y Sefydliad Marchnata Siartredig, lle mae'n Farchnatwr Siartredig; y Sefydliad Rheolaeth Siartredig a'r Sefydliad Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig. Mae gan Owen ddiddordeb penodol yn effaith cydweithrediad cymunedol ar gyrhaeddiad addysgol, a sut mae’r broses o alluogi'r proffesiwn addysg yn gallu gweithio fel y prif ysgogydd ym maes perfformiad economaidd a chymdeithasol.