meeting
Dan Davies - 'Ydy asesu athrawon yn ddigon da ar gyfer Dyfodol Llwyddiannus?'

Wrth gydnabod ei ffaeleddau a'r anfodlonrwydd cyffredinol a arweiniodd at yr adolygiad gan Lywodraeth Cymru, mae Graham Donaldson wedi ategi yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus y dylai asesu gan athrawon 'barhau fel y prif ddull o asesu cyn cymwysterau' (Argymhelliad 39). Bydd hyn yn sicrhau cysondeb â pholisi Llywodraeth Cymru o ymddiried ym marn broffesiynol athrawon cynradd, fel y digwyddodd pan ddiddymwyd profion cenedlaethol gofynnol ar gyfer disgyblion 11 oed yn 2005. Ar y pryd, roedd yn ddechrau ar ddilyn cyfeiriad gwahanol o bolisi asesu yn Lloegr, lle mae TASau mewn Saesneg a Mathemateg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 wedi aros yn eu lle tan fod y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd gael ei gyflwyno'n llawn.

Fodd bynnag, cydnabuwyd hyd yn oed yn Lloegr bod cynnal profion cenedlaethol mewn gwyddoniaeth yn cael effaith andwyol ar addysgu a dysgu ym mlwyddyn olaf yr ysgol gynradd, ac fe ddiddymwyd y profion yno yn 2010. Mae hyn yn adlewyrchu mudiad ehangach tuag at asesu athrawon ar gyfer gwyddoniaeth gynradd mewn sawl gwlad OECD (e,e, Y Ffindir, Awstralia, Seland Newydd, Yr Alban, Gogledd Iwerddon). Mae Sahlberg (2011) yn nodi tri phrif reswm pam mae system addysg y Ffindir yn fwy dibynnol ar asesu gan athrawon na phrofion allanol: 1. Arfarnir ar gynnydd disgybl yn fwy yn sgil ei ddatblygiad a galluoedd yn hytrach na dangosyddion ystadegol; 2. Mae asesu yn greiddiol i'r broses addysgu a dysgu a chaiff ei ddefnyddio i wella gwaith athrawon a disgyblion drwy gydol y flwyddyn academaidd; 3. Ystyrir perfformiad academaidd a datblygu cymdeithasol fel cyfrifoldebau i'r ysgol ac nid aseswyr allanol. Mae'r sail resymegol yma'n adlewyrchu'r rôl ddemocrataidd a phroffesiynol mae addysg yn ei chwarae yng ngwladwriaeth y Ffindir. Er bod rhai amheuon wedi eu codi am ddibynadwyedd barn athrawon, ymddengys bod perfformiad disgyblion Y Ffindir ar brofion TIMMS a PISA yn dangos ffrwyth effeithiolrwydd y system yn gyffredinol, tra bod canologrwydd y cynllun asesu o ran rôl yr athro yn y Ffindir yn sicrhau ei fod yn cael digon o sylw yn natblygiad yr athro a datblygiad proffesiynol.

Mewn mannau eraill, fodd bynnag, mae'r dibynnu cynyddol ar asesu athrawon yn codi nifer o bwyntiau. Y cyntaf yw'r graddau y gellir defnyddio tystiolaeth o ddysgu disgyblion a gesglir yn y dosbarth at ddibenion ffurfiannol o gefnogi eu dysgu yn y dyfodol yn gyfreithlon, a chrynhoi cyrhaeddiad yn erbyn meini prawf allanol.
Elfen arall yw i ba raddau mae 'llythrennedd asesu' athrawon yn ddigonol er mwyn sicrhau bod eu hasesiadau yn cwrdd â meini prawf ar gyfer effeithiolrwydd gan gynnwys dilysrwydd, dibynadwyedd a rheolaeth. Er y gallwn ddadlau bod gan asesu gan athrawon fwy o ddilysrwydd na chynnal profion oherwydd ystod ehangach o dystiolaeth, gall athrawon gael eu heffeithio yn ymwybodol neu'n anymwybodol gan briodweddau disgyblion sy'n 'lluniad-amherthnasol' (e.e. rhyw, ethnigrwydd, statws cymdeithasol economaidd). Y gwendidau mwyaf posibl yw'r dibynadwyedd mewnraddol sy'n ystyried a fyddai'r un casgliadau yn cael eu tynnu ar yr union dystiolaeth gan wahanol athrawon. Gellid dadlau bod defnyddio mesuryddion safonedig yn rhoi canlyniadau mwy cyson ac y gellir mesur eu dibynadwyedd. Er nad oes nifer o astudiaethau wedi ceisio neilltuo cyfernodau dibynadwyedd i farn athrawon, cydnabyddir yn gyffredinol yn y gwledydd a restrir uchod mai'r ffordd fwyaf effeithlon o wella dibynadwyedd asesu gan athrawon yw cymedroli drwy gonsensws.

Er bod gofynion statudol am gymedroli grwpiau clwstwr wrth drosglwyddo gwybodaeth asesu rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru, ymddengys nad yw cymedroli rhwng athrawon cynradd yn arfer cyffredin. Mae rhai awdurdodau fel Queensland sy'n defnyddio cymedroli allanol ac enghreifftio meini prawf i gefnogi barn athrawon drwy astudio'r prosesau cymedroli wedi canfod ei fod yn cymryd hyd at dair blynedd i gyrraedd lefelau derbyniol o ddibynadwyedd mewnraddol drwy ddulliau tebyg.

Ffordd arall fyddai mabwysiadu dull megis Dyfarniad Cymharol gyda'r Gallu i Ymaddasu lle gofynnir i athrawon gymharu parau o samplau o waith disgyblion a phenderfynu pa un sydd yn 'well'. Llwythir y samplau i mewn i 'injan barau' sydd, drwy gyflwyno cyfres o barau i athrawon yn dosbarthu samplau o waith mewn trefn ranc gyda chyfernod dibynadwyedd sy'n fwy na 0.9 (i'w cymharu â phrofion TASau). Dyma ddull rwyf wedi ei ddefnyddio mewn projectau ymchwil sy'n cynnwys athrawon cynradd ac uwchradd sy'n asesu gwyddoniaeth ac sy'n seiliedig ar yr egwyddor seicolegol bod pobl yn well yn penderfynu'n gymharol rhwng dau beth yn hytrach na'u graddio yn erbyn meini prawf allanol.

Pa ddull bynnag a ddefnyddiwn i wella dibynadwyedd asesu athrawon, mae'n anochel y bydd cyfnewidiad rhwng dibynadwyedd a dilysrwydd, oherwydd bod yr ystod ehangach o dystiolaeth sydd ei angen i gynrychioli'r lluniadau o fewn maes dysgu yn anos i'w dyfarnu'n gyson na'r set o ddata gymharol gul a gafwyd drwy offeryn asesu unigol.

Mae'r cyfnewidiad hwn hefyd yn ymwneud â rheolaeth asesu athrawon; mae cynlluniau yn Lloegr megis Asesu Cynnydd Disgyblion (ACD) wedi eu barnu oherwydd y pwysau gwaith ychwanegol a osodir ar athrawon yn anghymesur i ddilysrwydd y data sy'n dod allan, gan arwain at fethiant posibl y system mewn nifer o ysgolion. Yn amlwg, mae gofyn am gydbwysedd rhwng optimeiddiaeth o ddilysrwydd, dibynadwyedd a rheolaeth ar gyfer unrhyw ddull effeithiol o asesu gan athrawon. Ond mae'n bosib, efallai, bod angen i ni roi'r gair olaf ar y mater hwn i'r disgyblion. Mewn arolwg o 1000 o ddisgyblion cynradd ac uwchradd yng Nghymru a Lloegr, canfu Murphy et al (2012) mai'r awgrym mwyaf poblogaidd (30%) ar gyfer asesu gwyddoniaeth 'delfrydol' yn ysgolion Cymru yw 'profion diwedd pwnc a gynhelir yn aml'. Mae hyn yn cymharu ag 17% o ysgolion yn Lloegr, sy'n awgrymu blaenoriaeth annisgwyl dros brofi disgyblion Cymru. Mae Donaldson yn cydnabod bod gan brofion eu lle wrth asesu Dyfodol Llwyddiannus, ond mae'n amlwg bod angen mwy o waith archwilio ar ganologrwydd asesu gan athrawon.

Dan Davies

 

Cyfeirnodau

Murphy, C. Lundy, L., Emerson, L. and Kerr, K. (2012) Children’s perceptions of primary science assessment in England and Wales, British Educational Research Journal, 39(3): 585–606.

Sahlberg, P. (2011) Lessons from Finland, Education Digest, 77(3): 18-24.

 

Bywgraffiad

Dan DaviesDan Davies, Deon Ysgol Addysg Prifysgol Fetropolitan Caerdydd

Ymunodd Dan Davies â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd fel Deon Ysgol Addysg Caerdydd ym mis Ionawr 2015, ar ôl treulio 16 mlynedd ym Mhrifysgol Bath Spa mewn sawl rôl gan gynnwys Pennaeth Ymchwil yn yr Ysgol Addysg, Deon Cynorthwyol a Phennaeth Addysg Gynradd. Fe addysgodd mewn ysgolion cynradd yn Llundain cyn gweithio ar gyfer y Cyngor Dylunio a Choleg Goldsmiths lle cafodd ei PhD. Mae'n Athro ar Addysg Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac wedi cyhoeddi nifer o weithiau yn y maes. Ym maes asesu, fe weithiodd ar broject e-scape (e-ddatrysiadau ar gyfer asesu creadigol ym meysydd portffolio) o 2007-10 a chyfarwyddodd y project TAPS (Asesu Athrawon yng Ngwyddoniaeth Gynradd) o 2013-14.