meeting
Sally Holland - Beth nesaf i addysg yng Nghymru?

sally holland articleCyflwyniad

Ynghyd â bod yn Gomisiynydd Plant Cymru, mae fy swydd hefyd yn golygu dathlu hawliau a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae hynny'n dasg eang iawn ac er mwyn gosod fy mlaenoriaethau dros fy nhymor saith mlynedd, bûm yn rhan o ymgynghoriad mawr o'r enw Beth Nesa ||What Next? Mae hyn wedi cynnwys cynnal sgyrsiau â miloedd o blant, pobl ifanc, rhieni a phobl broffesiynol ynghyd â thrafodaethau ar-lein am y materion pwysicaf sy'n wynebu plant yng Nghymru heddiw. Cefais fy mhenodi fel trydydd Comisiynydd Plant Cymru ym mis Ebrill. Apwyntiwyd y cyntaf, Peter Black, yn 2001 ac mae'n amserol i ofyn cwestiynau am beth rydym wedi ei gyflawni yng Nghymru ar gyfer plant ers datganoli, beth sydd angen ei newid, a beth ddylai a beth allai'r Comisiynydd wneud am y peth.

Nid yw'n syndod bod materion sy'n ymwneud ag addysg wedi bod yn amlwg iawn – mae hyn wedi cynnwys rôl ysgolion wrth hyrwyddo iechyd meddwl a lles, cynnwys cwricwlwm – yn enwedig gwersi ABCh, cynnal profion ac arholiadau, dysgu am wleidyddiaeth a dinasyddiaeth, cyfranogiad myfyrwyr mewn ysgolion, anghenion dysgu ychwanegol a chwrdd ag anghenion grwpiau sy'n cael eu hymyleiddio megis plant sipsiwn a theithwyr a phlant a warchodir.

Mae hon yn rhestr faeth ac yn un sy'n amlygu heriau fy rôl. Sut ydw i'n cynnal cydbwysedd rhwng gweithio ar hawliau sy'n effeithio ar bob plentyn, megis y rheiny sy'n ymwneud â dinasyddiaeth, a gweithio ar hawliau'r rheiny sy'n cael mwy o anhawster i gael mynediad i'w hawliau, gan gynnwys plant anabl a'r rheiny sy'n byw mewn tlodi? Hefyd, mae'n rhaid i mi gydbwyso anghenion gwahanol grwpiau oedran o 0-18 (a'r rheiny sy'n gadael gofal maeth hyd at 25 oed sy'n parhau mewn addysg lawn amser) a sicrhau fy mod i'n cwrdd ag anghenion plant ledled Cymru.

Y prif fframwaith ar gyfer rôl y Comisiynydd Plant yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Dyma'r hawliau sydd eu hangen ar blant i fod yn ddiogel ac yn hapus. Mae'r CCUHP mor berthnasol heddiw ag erioed ac mae wedi ei ymgorffori'n rhannol yng nghyfraith Cymru fel rhan o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2011, sy'n gorfodi Gweinidogion i ystyried hawliau plant ym mhopeth a wnaent yn ogystal â gofyn iddynt hyrwyddo'r CCUHP.

Mae'r CCUHP yn cynnig peth atebion i mi o ran cydbwysedd fy rôl gan fod y 42 erthygl sydd ynddo yn cynnwys nifer o hawliau ar gyfer plant ond hefyd hawliau penodol i blant sydd wedi eu gwahanu o'u rhieni ynghyd â phlant anabl. Wrth i mi ddadansoddi canlyniadau Beth Nesa||What Next, byddaf yn gweithio ar fy nghynllun tair blynedd strategol cyntaf fydd yn amlinellu sut fyddaf yn cydbwyso'r gofynion hyn a cheisio gweithio ar y meysydd lle rwy'n teimlo y byddaf yn gallu cael yr effaith fwyaf ar hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Addysg sy'n seiliedig ar hawliau

Fel Comisiynydd newydd, rwyf wedi bod yn awyddus iawn i gysylltu â phob proffesiwn sy'n gweithio â phlant a phobl ifanc. Mae gan fyd addysg rôl ganolog wrth wireddu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant yng Nghymru.

Yr her i ni gyd yw datblygu dealltwriaeth o beth a olygir drwy 'ddulliau seiliedig ar hawliau' a chraffu ar sut y gall cyflwyno a chymhwyso hawliau dynol yn ymarferol ar draws addysg. Mae athrawon mewn sefyllfa ddelfrydol i ddylanwadu ar hawliau plant, a thrwy wneud hyn, yn arwain at wella cyrhaeddiad addysgiadol.

Rwyf wedi clywed gan athrawon am ba mor wobrwyol yw eu gwaith, ond hefyd yr heriau sylweddol a phwysau sydd arnynt o ddydd i ddydd. Mae rhai yn teimlo nad ydynt yn gallu ymateb yn llawn i'r heriau ehangach ar fywydau'r plant a phobl ifanc maent yn eu haddysgu ac nad yw dull culfrydig i gyrhaeddiad academaidd yn cyfiawnhau rôl addysg i'r eithaf.
Mae'r CE wedi manylu ar amcanion addysg:

Sylw Cyffredinol CCUHP Rhif. 1 – Amcanion Addysg
"Gôl allweddol addysg yw datblygu personoliaeth, talentau a galluoedd plentyn, drwy gydnabod y ffaith fod gan bob plentyn briodweddau unigryw, diddordebau, galluoedd, ac anghenion dysgu...sicrhau bod sgiliau bywyd sylfaenol yn cael eu dysgu gan bob plentyn ac nad oes unrhyw blentyn yn gadael ysgol heb y sgiliau angenrheidiol i wynebu'r heriau y bydd ef neu hi'n eu profi yn eu bywydau."
(Pwyllgor y CE ar Hawliau'r Plentyn, 2001, t.4)

Mae modd cyflawni hyn mewn nifer o ffyrdd, ond mae'r enghreifftiau rwyf wedi eu gweld yng Nghymru yn cynnwys ysgolion lle mae cyngor yr ysgol yn elfen bwysig iawn ar gyfer cynnal deialog cyfranogol yn yr ysgol, ond hefyd bod dulliau cyfranogol yn ymestyn tu hwnt i'r grŵp penodol hwnnw. Mae rhai ysgolion yn cynnwys eu myfyrwyr mewn gweithgareddau datblygu deunydd ac arwain dosbarthiadau a arweinir gan gyfoedion ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw. Mae nifer o ysgolion yn perfformio'n dda o ran sicrhau lles myfyrwyr gyda strategaethau cyfun yn eu lle ar gyfer cefnogaeth grŵp ac unigol, ynghyd â rhaglenni ymyrryd yn gynnar ar gyfer datblygu hydwythedd a lleihau straen a gofid. Mae nifer o ysgolion yn datblygu dinasyddiaeth, talentau a buddion yr holl gymuned fyfyrwyr ac yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn teimlo fel bod ganddynt ran yng nghymuned eu hysgol.

Ond rwy'n ymwybodol bod y cyraeddiadau hyn weithiau'n teimlo fel petaen nhw'n digwydd er gwaethaf yn hytrach nag oherwydd agweddau o'n system. Mae'r pwysau ar athrawon i gyrraedd y lefelau gofynnol o gyrhaeddiad yn cael ei gymhlethu gan natur heriol amgylchiadau eich disgyblion, heb sôn am y lefelau tlodi plant uchel sy'n difetha ein cenedl.

Cyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer hawliau o fewn addysg yng Nghymru

Credaf fod gennym ddau ddatblygiad pwysig all wneud gwahaniaeth mawr i addysg yng Nghymru, os llwyddwn i'w cael nhw'n iawn. Yn gyntaf, mae yna ddeddfwriaeth newydd arfaethedig ar Anghenion Dysgu Ychwanegol. Dylai'n cynigion gywiro rhai o'r rhwystredigaethau'r system bresennol, ond dylai'r rheiny sy'n bwriadu cyfrannu at ymgynghoriadau llywodraethol ar hyn sicrhau ein bod ni'n ei chael hi'n iawn. Mae'r gyfraith ar y maes hwn yn annhebyg o newid eto am genhedlaeth.

Yn ail, cawsom yr adolygiad gan Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus. Fe groesewais bedwar pwrpas addysg Donaldson yn fawr:

  • Uchelgeisiau dysgwyr medrus
  • Cyfranwyr creadigol mentrus
  • Dinasyddion moesol gwybodus
  • Unigolion iach hyderus.

Mae hyn yn cyd-fynd â beth mae plant a phobl ifanc, athrawon a rhieni wedi bod yn dweud wrthyf am y system addysg maent eu heisiau.

Mi fydd y newid yn heriol, ac mae athrawon wedi wynebu llawer o newid yn barod. Os yw athrawon fod â'r gallu i gyflawni ar hyn, bydd angen yr holl gefnogaeth bosibl arnynt ynghyd ag arweinyddiaeth o'r safon uchaf yn wleidyddol ac o fewn ein strwythurau addysg. Mae hyn yn gam enfawr ond hefyd yn gyfle. Dull asesu pwysig i gyrraedd yr amcanion hyn yw'r CCUHP. Mae'n darparu fframwaith holistig ond bydd angen iddo fod yn amlwg yn yr holl a wnawn o fewn byd addysg - o gwricwlwm i asesu. Mae gan y proffesiwn addysgu uchelgais real ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru a dylem ni gyd chwarae ein rhan wrth gyrraedd y nodau cyffredin yr hoffem eu gweld.

Nid fy mwriad i yw dweud wrth athrawon beth ddylent fod yn eu gwneud. Nhw yw'r arbenigwyr. Beth sydd angen i Gymru ei sicrhau, fel a wnaeth Donaldson, yw ein bod ni'n gallu creu gofod ar gyfer deialog. Mae angen fforwm cydweithredol fel ein bod ni'n gallu cyfnewid syniadau newydd a herio ymarfer er mwyn ymdrechu'n barhaus i wella canlyniadau. Gobeithiaf y byddaf yn gallu cyfrannu at y trafodaethau hynny. Ond beth fyddwn i'n ei ddisgwyl hefyd, o fewn y gofod hwnnw yw lle ar gyfer llais arbenigol arall. Llais sydd â'r profiad gorau o ran yr hyn sy'n gweithio – y plant a'r bobl ifanc sy'n cael yr addysg rydym ni'n ei ddarparu.

Comisiynydd Plant Cymru
Sally Holland

Daeth Sally Holland yn drydydd Comisiynydd Plant Cymru ym mis Ebrill 2015.

Mae Sally’n weithiwr cymdeithasol cofrestredig gyda phrofiad yn y sectorau statudol a gwirfoddol, ac yn ddiweddar roedd hi’n Athro yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, lle bu hi’n addysgu gwaith cymdeithasol ac astudiaethau plentyndod ar lefel israddedig, Meistr a Doethuriaeth.

Yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd, sefydlodd CASCADE, Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant, a dod yn gyfarwyddwr arni. Ymhlith ei rhaglen eang o weithgareddau ymchwil, mae CASCADE yn galluogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i graffu ar waith y ganolfan a rhoi cyngor yn ei gylch, ac mae wedi datblygu enw da yn rhyngwladol ar sail galluogi plant a phobl ifanc i gynrychioli eu safbwyntiau eu hunain trwy ddulliau ymchwil cyfranogol.

Mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys hawliau plant, barn plant ar ddinasyddiaeth a hunaniaeth, cymorth i deuluoedd, plant sy’n derbyn gofal, amddiffyn plant a mabwysiadu.

Mae Sally’n dod yn wreiddiol o’r Alban, ond mae hi wedi byw yng Nghymru ers 1992, ac mae hi’n dysgu Cymraeg yn frwd.

Sefydlwyd Comisiynydd Plant Cymru yn 2001, yn sefydliad hawliau dynol annibynnol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Prif nod y sefydliad yw diogelu a hybu hawliau a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Twitter: @complantcymru