meeting
Rhian Huws Williams - Rheoleiddio i sicrhau llwyddiant

Rheoleiddio i sicrhau llwyddiant

Rhian Huws Williams article imageFel hyn y mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi disgrifio ei weledigaeth ar gyfer y trefniadau rheoleiddio ac arolygu newydd ym maes gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru a ddaw i rym drwy’r ddeddfwriaeth yn 2016. Mae am weld system reoleiddio sy’n gallu cefnogi llwyddiant yn hytrach na dim ond nodi methiant. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar reoleiddio i sicrhau gwelliant a llwyddiant. Rwyf wrth fy modd â hynny!

Yn debyg i faes rheoleiddio’r gweithlu addysg, mae’r maes rheoleiddio gofal cymdeithasol yn newid hefyd. Bydd y Bil Rheoleiddio ac Arolygu yn ailgyfansoddi Cyngor Gofal Cymru fel Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd hyn yn arwain at newid sylweddol yn y sector gofal cymdeithasol ac, am y tro cyntaf, bydd un corff yn gyfrifol am reoleiddio’r gweithlu, datblygu’r gweithlu a gwella gwasanaethau.

Mae Cyngor Gofal Cymru (y corff rheoleiddio ar gyfer gwaith cymdeithasol, y gweithlu gofal cymdeithasol a hyfforddiant gwaith cymdeithasol) wedi cynnal yr egwyddor bod rheoleiddio yn cyfrannu at welliant a datblygiad parhaus ers ei sefydlu yn 2001, ac adlewyrchir hwn yn ei gylch gwaith deuol ar gyfer datblygu a rheoleiddio’r gweithlu.

Yr hyn sy’n bwysig yw sut rydym yn dysgu o waith rheoleiddio. Beth mae’r wybodaeth yn ei ddweud wrthym am feysydd pryder a sut rydym yn defnyddio gwybodaeth o’r fath i dargedu a chefnogi dysg a gwelliant? Dyna ein nod does bosibl? I mi, amcanion rheoleiddio’r gweithlu yw:

  • Diogelu’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth
  • Cryfhau a chefnogi proffesiynoldeb y gweithlu
  • Gwella safonau ymarfer

Er mwyn gweithredu yn effeithiol, mae angen gweithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaethau a’r rhai sydd angen bod â hyder yn y gweithlu. Gweithredodd Llywodraeth Cymru mewn ffordd uchelgeisiol a radical wrth sefydlu’r Cyngor Gofal fel corff rheoleiddio tra gwahanol, sef corff a oedd yn rhoi llais i bob grŵp allweddol â buddiant ac a oedd yn sicrhau mai defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a’r cyhoedd oedd mwyafrif y cynrychiolwyr. Glasbrint ar gyfer rheoleiddio dan arweiniad dinasyddion.

Nid model symbolaidd fu hwn. Mae’n fodel gwirioneddol gydweithredol. Mae defnyddwyr gwasanaethau yn bartneriaid yn y gwaith o lunio ein strategaeth a’n prosesau llywodraethu a rheoleiddio, ac ym mhob agwedd ar ein hyfforddiant gwaith cymdeithasol a’n rhaglenni gwaith. Ond ni allwn ni orffwys ar ein rhwyfau. Mae rhagor o waith i’w wneud. Mae ein gwaith yn y Cyngor Gofal yn rhan o awydd cryf i ddarparu gofal o ansawdd uchel sy’n ennill hyder pobl Cymru. Cyfraniad penodol y Cyngor Gofal yw ansawdd y gweithlu sy’n sicrhau canlyniadau da ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau gofal a chymorth. Mae’n rhaid i ni gofio’r darlun mawr.

Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn ceisio datblygu sylfeini llwyddiannus y Cyngor Gofal. Y gwahaniaeth allweddol fydd ei ffocws strategol ar bennu’r agenda gwella ar gyfer gwasanaethau a’r gweithlu, a chynorthwyo partneriaid i roi’r gwelliant hwnnw ar waith ledled y sector gofal cymdeithasol.

Bydd y gwaith hwn yn digwydd yng nghyd-destun diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob gwasanaeth cyhoeddus feddwl mwy am yr hirdymor, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a gyda’i gilydd, ceisio atal problemau a gweithredu mewn ffordd fwy cydgysylltiedig. Wrth wneud penderfyniadau, bydd angen i ni ystyried eu heffaith bosibl ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae yna feysydd rhyngwyneb rhwng addysg a gofal cymdeithasol. Rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd dulliau gweithredu cyson wrth ddiogelu a chydweithio â phlant a theuluoedd sy’n wynebu heriau, ac rydym yn gwybod bod gweithlu’r blynyddoedd cynnar yn cwmpasu gwaith addysg a gofal cymdeithasol.

Gan gofio mai gwella canlyniadau a chryfhau camau diogelu ar gyfer plant yng Nghymru yw ein nod pendant, y cwestiwn rwyf am ei ofyn ar ddiwedd y blog hwn yw a oes modd sicrhau cydweithio rhwng Cyngor y Gweithlu Addysg o dan ei gyfansoddiad newydd a Gofal Cymdeithasol Cymru (y Cyngor Gofal wedi’i ailgyfansoddi o 2017 ymlaen) fel yr unig ddau gorff rheoleiddio datganoledig ar gyfer gweithwyr proffesiynol, fel bod rheoleiddio yn sicrhau llwyddiant gwirioneddol?

Rhian Huws Williams
Prif Weithredwr, Cyngor Gofal Cymru

Mae Rhian wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers dros 35 mlynedd, gan ddechrau ei gyrfa fel gweithwraig gymdeithasol ac yna fel swyddog hyfforddi ar strategaethau ar gyfer anabledd dysgu ac iechyd meddwl. Yn 1988, cafodd ei hapwyntio gan y Cyngor Canolog ar gyfer Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol i arwain eu rhaglen yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar iechyd meddwl, arfer dysgu a datblygiad eu polisi iaith Gymraeg. Daeth yn bennaeth ar eu Swyddfa Genedlaethol yng Nghymru yn 1994 ac roedd hi hefyd yn aelod o’u Tîm Rheoli Uwch. Yn 2001, apwyntiwyd hi’n Brif Swyddog Gweithredol ar Gyngor Gofal Cymru, y corff rheoleiddio gweithlu a datblygu ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol.

Mae Rhian yn credu’n gryf ym mhwysigrwydd buddsoddi yn y gweithlu a meithrin dysgu parhaus. Mae hi’n gefnogwr brwd o werth dysgu a chymwysterau galwedigaethol, yr angen am bartneriaethau rhwng cyflogwyr a darparwyr addysg a’r angen am fwy o gyfleoedd dysgu galwedigaethol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi hefyd yn aelod o Fwrdd Gweithredol Sgiliau ar gyfer Gofal a Datblygu'r pedair gwlad ac wedi cyfrannu at nifer o gynadleddau rhyngwladol ar hyfforddiant gwaith cymdeithasol ac ar y model o reoleiddio gwaith cymdeithasol.

Mae Rhian wedi gwasanaethu ar ddau Gomisiwn Gweinidogol, y Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru o 2009-11 a’r Grŵp Adolygu Cymraeg i Oedolion fu’n ystyried sut orau i ddatblygu sgiliau Cymraeg dysgwyr 2012-13. Mae hi’n aelod o’r Grŵp Gorchwyl Gweinidogol ar yr iaith Gymraeg, a sefydlwyd yn 2010 i wella’r defnydd o’r Gymraeg o fewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn eistedd ar Fwrdd Cynghorol Academi Wales (Uned Arweinyddiaeth Gwasanaethau Cyhoeddus), ac yn aelod o’r Grŵp Arwain Gwasanaethau Cymdeithasol Cenedlaethol. Mae hi hefyd wedi bod yn aelod o grwpiau gwirfoddol ar lefelau cenedlaethol a lleol dros y blynyddoedd. Cafodd Rhian ei derbyn i Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014. Mae’r orsedd yn gyfrifol am wasanaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn anrhydeddu pobl sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r iaith Gymraeg ac i Gymru.