meeting
Sheila Drayton - Y Daith Anodd tuag at Reoleiddio

Sheila Drayton blogMae grwpiau proffesiynol wedi cydnabod manteision rheoleiddio statudol iddyn nhw eu hunain a’u grwpiau cleientiaid ers tro: boed nhw’n gleifion, yn ddisgyblion, neu’n ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae rheoleiddio yn rhoi sicrwydd i’r defnyddiwr gwasanaeth fod y gweithiwr proffesiynol wedi’i gofrestru ac felly’n gymwys a bod gofyn iddo gynnal safonau penodol. Mae’r gweithiwr proffesiynol yn elwa ar y ffaith fod y rôl yn cael ei chadw i’r rheiny sydd wedi eu cofrestru gyda’r rheoleiddiwr statudol. Er enghraifft, y gofyniad i ysgolion a gynhelir a cholegau AB yng Nghymru gyflogi athrawon a darlithwyr sydd wedi eu cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Roedd y proffesiwn meddygol yn un o’r proffesiynau cyntaf yn y DU i gyflawni rheoleiddio statudol, a hynny ym 1858. Ond mae’r ffordd at reoleiddio wedi bod yn llawer mwy heriol i lawer o grwpiau, ac mae llawer yn dibynnu ar agwedd y llywodraeth ar y pryd.

Roedd Nodiadau Nyrsio o fis Ionawr 1891 yn llawn gobaith “y byddai’r Ddeddf Bydwragedd sydd ei hangen ar frys i ddiogelu menywod ar eu gwely esgor yn cael ei phasio” yn ystod y flwyddyn. Mewn gwirionedd, byddai 11 mlynedd arall yn mynd heibio cyn pasio’r Ddeddf Bydwragedd ym 1902. Bu’n rhaid i nyrsys aros tan 1919 am y Ddeddf Cofrestru Nyrsys, ac ni sefydlwyd y Cyngor Deintyddol Cyffredinol tan 1956. Sefydlwyd y Cyngor Addysgu Cyffredinol ar gyfer Yr Alban ym 1965 yn dilyn pryderon bod gofynion mynediad ar gyfer addysgu wedi gostwng ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Yn y mileniwm newydd, gwelwyd diddordeb cynyddol mewn codi safonau trwy reoleiddio statudol, ac yn 2000, sefydlwyd Cynghorau Addysgu Cyffredinol Cymru a Lloegr. Dilynodd y Cynghorau Addysgu Cyffredinol ar gyfer Gogledd Iwerddon ac Iwerddon yn 2002 a 2006 yn y drefn honno. Sefydlwyd y Cynghorau Gofal Cymdeithasol Cyffredinol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol yn 2001, a daeth y Cyngor Proffesiynau Iechyd i fodolaeth yn 2002, sef y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) erbyn hyn, ac mae’n rheoleiddio 16 proffesiwn, gan gynnwys ffisiotherapyddion a seicolegwyr.

Mae grwpiau proffesiynol yn parhau i geisio sicrhau manteision rheoleiddio statudol. Ymhlith pethau eraill, cyflwynodd y Gwyddonwyr Gofal Iechyd eu hachos, ac argymhellwyd y dylent gael eu rheoleiddio gan HCPC. Fodd bynnag, roedd gan y darpar lywodraeth glymbleidiol agwedd wahanol tuag at reoleiddio, ac yn 2011, dywedodd y llywodraeth y bydd rheoleiddio statudol yn cael ei ystyried mewn ‘amgylchiadau eithriadol’i yn unig yn y dyfodol. Hefyd, yn 2012, caewyd y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol a’r Cyngor Addysgu Cyffredinol yn Lloegr gan Lywodraeth y DU. Llwyddodd y tair gwlad arall yn y DU i gadw eu Cynghorau Addysgu a Gofal Cymdeithasol.

Rôl gyffredinol y rhan fwyaf o reoleiddwyr statudol yw sicrhau bod y cyhoedd yn cael gwasanaeth diogel a chymwys gan y bobl sydd wedi eu cofrestru. Mae nodau Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cynnwys; ‘cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd a gwarchod lles dysgwyr, rhieni a’r cyhoedd’.

Er mwyn cyflawni hyn, mae mwyafrif y rheoleiddwyr,

  • Yn gosod safonau ar gyfer Addysg a Hyfforddiant
  • Yn gosod safonau cymhwysedd neu hyfedredd
  • Yn cynnal Cofrestr
  • Yn gosod safonau ymddygiad
  • Yn gosod safonau datblygiad proffesiynol parhaus
  • Yn ymchwilio i gŵynion yn erbyn pobl sydd wedi eu cofrestru

Mae’r rhain yn brosesau craidd. Maent yn sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol gymwysterau addas, eu bod yn cynnal y wybodaeth a’r sgiliau, ac yn cadw at safonau ymddygiad. Ymchwilir i’r nifer fach iawn o bobl wedi eu cofrestru sy’n tanseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiwn, ac os bydd angen, caiff eu henwau eu dileu oddi ar y gofrestr. Fel hyn, mae’r cyhoedd yn parhau i ddangos hyder yn y proffesiwn, sydd yn ei dro yn ategu statws y proffesiwn mewn cymdeithas. Ar hyn o bryd, nid yw CGA yn cyflawni pob un o’r swyddogaethau hyn, ond mae’r Gweinidog Addysg yn ystyried rôl ehangach ar gyfer y cyngor.

Yn y 1990au, nid oedd yn anarferol i gynghorau rheoleiddio gael mwy na 50 o aelodau; y mwyafrif o’r proffesiwn. Mor ddiweddar â 2006, roedd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) dros 30 o aelodau. Fodd bynnag, bu tuedd gyson tuag at gynghorau llai, tebycach i gynghorau bwrdd, gyda chynrychiolaeth leyg gynyddol. Mae gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) a’r HCPC 12 aelod yr un erbyn hyn, ac mae chwech ohonynt yn aelodau lleyg a chwech yn bobl sydd wedi eu cofrestru. Caiff pob aelod ei benodi trwy gystadleuaeth agored yn unol â chymwyseddau penodol. Mae’r aelodau lleyg yn cynnig ystod eang o sgiliau ychwanegol i waith y cyngor yn rheolaidd.

Mae’r cynghorau yn gweithio fel byrddau, gan alw ar is-grwpiau i fynd i’r afael â materion penodol. Mae’r HCPC yn cofrestru 16 proffesiwn felly ni chaiff pob un ohonynt eu ‘cynrychioli’ ar y Cyngor. Fodd bynnag, mae mewnbwn proffesiynol da (a lleyg) yn ganolog i’r penderfyniadau a wna. Er enghraifft, galwodd weithgor yn cynnwys gweithwyr proffesiynol, yn ogystal â grwpiau rhanddeiliaid eraill i adolygu ei safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg.

Cost ymchwilio i gŵynion a chynnal gwrandawiadau Addasrwydd i Ymarfer (FtP) yw’r costau mwyaf i reoleiddwyr gan amlaf. Mae’n rhaid i’r gweithdrefnau fod yn deg i’r unigolyn sydd wedi cofrestru ac i’r achwynydd, a rhaid iddynt gael eu gweld yn deg. Mae hwn yn weithgarwch proffil uchel i reoleiddwyr, ac mae’n ganolog i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd.

Yn hanesyddol, roedd y proffesiynau yn gwerthfawrogi rheoleiddio statudol, ac yn ei ariannu eu hunain. Mae hynny’n parhau heddiw ac mae mwyafrif y proffesiynau yn ariannu eu corff rheoleiddio eu hunain trwy ffioedd. Yn y sector cyhoeddus, mae hyn yn cynnwys nyrsys, bydwragedd, yr 16 proffesiwn sydd wedi eu cofrestru gan HCPC, meddygon esgyrn, ceiropractyddion, meddygon a deintyddion. Caiff ffioedd eu talu’n flynyddol gan amlaf. Caiff lefel y ffi ei dylanwadu gan gostau’r rheoleiddiwr a nifer y bobl sydd wedi eu cofrestru. Mae gan yr NMC dros 600,000 o bobl wedi eu cofrestru ac mae’r ffi flynyddol yn £120. Mae nyrsys yn gyfrifol am dalu’r ffi eu hunain yn syth i’r NMC. Mae gan yr HCPC dros 300,000 o bobl wedi eu cofrestru sy’n talu £80 bob blwyddyn, tra bod y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol sydd ag oddeutu 3,000 o bobl wedi eu cofrestru yn talu ffi o £800 bob blwyddyn.

Mae un neu ddau reoleiddiwr sy’n cael eu hariannu’n rhannol gan y llywodraeth, ac yn wir, dyma yw’r model ar gyfer CGA. Mae athrawon ysgol yng Nghymru sy’n gweithio mewn ysgolion a gynhelir hefyd yn cael cymhorthdal tuag at eu ffi gofrestru. Fodd bynnag, mae arferion o’r fath yn brin, ac mae’r rheiny a fyddai’n dadlau bod cefnogaeth y llywodraeth yn amharu ar annibyniaeth y corff rheoleiddio, ond nid yw’r drafodaeth honno wedi cael ei chynnal yn y proffesiwn addysgu eto.

Gan droi yn awr at Gyngor y Gweithlu Addysg a’r dyfodol: mae angen llawer o ymdrech i sicrhau rheoleiddio statudol, felly dylai gael ei werthfawrogi gan y proffesiwn, gan eu cynrychiolwyr, a chan y rheiny sy’n cyflogi athrawon. Trwy gydweithio, bydd y grwpiau hyn yn dylanwadu ar ansawdd rheoleiddio ac ymestyn rheoleiddio i grwpiau eraill yn y gweithlu addysg. Bydd CGA yn cael ei groesawu gan y cyhoedd sydd bellach yn disgwyl bod gweithwyr proffesiynol wedi eu cofrestru, ac yn gwerthfawrogi’r sicrwydd a ddaw yn sgil rheoleiddio.

Sheila Drayton

Mae Sheila Drayton yn gyn-gyfarwyddwr gwasanaethau iechyd ac ymgynghorydd datblygiad proffesiynol a sefydliadol. Yn gyfochrog â hyn, mae gan Sheila 20 mlynedd o brofiad o weithio fel aelod cyngor gyda chyrff rheoleiddio ar gyfer gweithwyr proffesiynol nyrsio, addysgu a gofal iechyd, ac mae’n parhau i gadeirio achosion Addasrwydd i Ymarfer ar gyfer Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Mae Sheila wedi darparu hyfforddiant mewn rheoleiddio ac mewn gweithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer ar gyfer rheoleiddwyr eraill gan gynnwys Cynghorau Gofal Cymdeithasol.

 


 i. Galluogi Rhagoriaeth: Ymreolaeth ac Atebolrwydd ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd, Gweithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Gofal Cymdeithasol, yr Adran Iechyd, Chwefror 2011.