meeting
Ken Jones - 'Datblygiad Proffesiynol' neu 'Ddysgu Proffesiynol'... ac oes ots?

Ken Jones photo for EWC blogYdych chi wedi sylwi ar y newid cynnil yn yr iaith? Yn gynharach eleni, roedd dogfennau Llywodraeth Cymru'n cyfeirio at 'Ddatblygiad Proffesiynol'; bellach, mae'r sôn i gyd am 'Ddysgu Proffesiynol'.  Mae'r Fargen Newydd yn cyfeirio at y Model Dysgu Proffesiynol (gweler Dysgu Cymru, 2015). Nid newid sydyn oedd e - mae'r ddau derm wedi'u defnyddio yn nogfennau Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae llawer wedi'u benthyg o fodel Dysgu Proffesiynol Gydol Gyrfa (CLPL) yr Alban (Education Scotland, 2015), ond nawr mae'r term Dysgu Proffesiynol yn dod yn fwy amlwg.

Rydym wedi dod yn gyfarwydd â'r term 'DPP' ers iddo gymryd lle 'datblygiad staff', a, chyn hynny, 'HMS', ac mae rhesymau da pam mae rhaid i ni newid eto.  Mae'n gyffredin i newidiadau ddigwydd mewn terminoleg i adlewyrchu ffyrdd newydd o feddwl a gweithio ond lle bu'r termau 'datblygiad proffesiynol' a 'dysgu proffesiynol' yn cael eu defnyddio’n bron fel petaent yn gyfystyr â’i gilydd, maent bellach yn dod yn wahanol yn iaith a llenyddiaeth ymarfer proffesiynol.

Yr union reswm na allwn ddibynnu ar ddatblygiad proffesiynol yn unig yw achos nad yw sefyllfaoedd proffesiynol yn sefydlog. Mae addysg yn newid; mae technoleg yn newid; mae'r gymdeithas yn newid; mae ysgolion yn newid; mae arweinwyr yn newid; mae ymagweddau at ddysgu disgyblion yn newid. Felly, nid yw "hyfforddiant" yn ddigonol; mae hyblygrwydd yn hanfodol; mae meddwl dargyfeiriol ac ochrol yn ganolog; mae angen critigoldeb, yn hytrach na chydymffurfiaeth. Mae 'dysgu proffesiynol' yn cynnwys dysgu gweithredol; mae'n broses barhaus; mae'n canolbwyntio ar holi, dadansoddi, adfyfyrio, gwerthuso, camau pellach; dylai fod yn broffesiynol feirniadol; ar ei wedd orau, mae'n gydweithredol; ac mae'n galluogi ymagwedd nad yw wedi'i chyfyngu i ddehongliad llinellol o ddigwyddiadau yn y dyfodol a ffyrdd o weithio. Mae James a McCormick (2009) yn nodi'r angen i'r dysgu hwn gael ei strwythuro. Er bod angen cyngor ymarferol ar athrawon, maent yn dadlau bod ymarferion yn y dosbarth yn gallu mynd yn ddefodoledig ac yn fecanyddol os nad yw athrawon yn cael eu hysgogi i feddwl mewn ffyrdd gwahanol am sut maent yn dysgu, a sut mae eu disgyblion yn dysgu.

Yn hollbwysig, mae hanfod dysgu proffesiynol yn canolbwyntio'n llai ar ansoddau neu ddiffygion athrawon ac yn fwy ar yr angen i wneud gwahaniaeth i ddysgwyr. Yn rhy aml, mae'r broses o ddatblygiad proffesiynol wedi canolbwyntio ar beth sydd angen i'r athro ei wneud yn hytrach na beth sydd angen i ddisgyblion ei ddysgu, a sut. Felly, i greu dysgu effeithiol gan ddisgyblion, mae'n rhaid i ni sicrhau dysgu pwrpasol gan athrawon ac yna droi hyn yn ymarfer effeithiol. I gyflawni hyn a'i gynnal, mae'n hanfodol cael uwch arweinyddiaeth ac arweinyddiaeth ganol effeithiol oherwydd ei bod yn debyg y bydd athrawon yn newid ar sail ad hoc ac unigolyddol heb eu hymyrraeth, ac mae'n debyg y bydd mwy o amrywiaeth mewn sefydliadau, yn hytrach na llai.

Mae Timperley (2011) yn esbonio'r gwahaniaeth rhwng datblygiad proffesiynol a dysgu proffesiynol, ac rwyf wedi cymryd pedwar o'i phwyntiau hi i'w defnyddio fel ysgogiadau ar gyfer adfyfyrio. Ond nid yw adfyfyrio'n ddigonol; mae'n rhaid i ni i gyd gynhyrchu gwaith mesuradwy. Felly rwyf hefyd wedi defnyddio'r pwyntiau i osod heriau i uwch arweinwyr ac arweinwyr canol mewn dwy ffordd:
Yn gyntaf, sut mae'r pwyntiau hyn yn cydweddu â'r diwylliant dysgu proffesiynol yn eich ysgol neu'ch coleg?
Yn ail, os ydych yn arweinydd canol neu'n uwch arweinydd, rwyf wedi gosod rhai heriau efallai y byddwch am eu gosod i'ch hunan i drawsnewid y diwylliannau dysgu proffesiynol yn eich tîm eich hunan. Dylech adfyfyrio ar y rhain, eu trafod gyda'ch cydweithwyr a'u defnyddio gyda'ch timau eich hunan i sbarduno newid.

  1. “… the term ‘professional development’ has taken on connotations of delivery of some kind of information to teachers … whereas ‘professional learning … challenges previous assumptions and creates new meanings. … Solving entrenched educational problems requires transformative rather than additive change to teaching practice” (t4-5)

    Cwestiwn diwylliannol: Sut rydych chi a'ch cydweithwyr yn dysgu? Drwy drosglwyddo gwybodaeth a syniadau? Ydych chi a'ch cydweithwyr yn derbyn gwybodaeth yn oddefgar pan fyddwch yn mynychu gweithgareddau datblygiad proffesiynol?

    Her arweinyddiaeth: gwnewch weithgareddau dysgu proffesiynol yn drawsffurfiadol. Gosodwch dargedau realistig ar gyfer newid. Heriwch eich syniadau eich hun a heriwch eraill i wneud newidiadau bach yn eu hymarfer.

  2. “Improvements in pupil learning and well-being are not a by-product of professional learning but rather its central purpose” (t5).

    Cwestiwn diwylliannol: Ydy'ch disgwyliadau gan ddisgyblion yn ddigon uchel? Ydy'ch disgwyliadau gennych chi eich hunan yn ddigon uchel? Ydych chi'n gwybod digon am y ffyrdd y mae eich disgyblion yn dysgu? Pa wybodaeth a allai fod ei hangen arnoch chi i gefnogi dysgu disgyblion yn fwy effeithiol? Nid yw'n ddigonol rhoi'r bai ar ddisgyblion neu'r system am gyflawniad isel.

    Her arweinyddiaeth: darganfyddwch faint mae athrawon yn ei wybod am eu disgyblion. Pam mae rhai disgyblion yn perfformio'n waeth nag eraill? Sut gall disgyblion unigol, gyda'u help, gyflawni mwy? Pam y gallai disgybl unigol fod yn cyflawni mwy mewn un pwnc neu gydag un athro na gydag athro arall?

  3. “… the knowledge and skills developed through professional learning must … [be] both practical and … be used to solve teaching and learning challenges encountered in the future” (t 7)

    Cwestiwn diwylliannol: ydy'ch gwybodaeth a'ch sgiliau'n debygol o'ch arfogi ar gyfer newidiadau yn y dyfodol? Sut gallwch chi gael gwybod? Beth allwch ei wneud os nad ydynt?

    Her arweinyddiaeth: Trafodwch gydag arweinwyr eraill i gael gwybod pwy yw eu hathrawon gorau. A ellir defnyddio'r bobl hyn fel 'ymarferwyr arweiniol' i rannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd gyda chydweithwyr yn yr ysgol a chyda chydweithwyr o ysgolion eraill? Sefydlwch sefyllfaoedd rhwydweithio, hyfforddi neu fentora i ymestyn gwybodaeth a sgiliau athrawon yn eich tîm.

  4. “… teachers must reference their learning to both themselves and their pupils … they generate information about the progress they are making so that they can monitor and adjust their learning [and that of the pupils]” (p 7)

    Cwestiwn diwylliannol: Mae hyn yn debyg i asesu ar gyfer dysgu disgyblion. I ba raddau yr ydych chi'n gwerthuso'ch addysgu eich hun? Pa feini prawf yr ydych yn eu defnyddio i ddweud a ydych yn effeithiol ai peidio? Pa gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i gynnal ymchwiliad systemataidd i'ch ymarfer eich hunan? Pe gefnogaeth sydd gennych wrth gymryd ymagweddau trawsffurfiadol a radical tuag at broblemau taer?

    Her arweinyddiaeth: Darparwch gefnogaeth i'ch athrawon edrych yn systemataidd ac yn onest ar eu haddysgu eu hunain, gan ddefnyddio cyflawniadau disgyblion unigol fel dangosydd allweddol. Crëwch gyfleoedd iddynt arsylwi ymarfer a chael eu harsylwi. Crëwch amgylcheddau diogel lle y gellir ymgymryd ag adfyfyrio critigol a chymryd risgiau.

 

Yng Nghymru, mae gennym gyfle i fod yn drawsffurfiadol yn y ffordd rydym yn cynllunio'n cwricwlwm (Donaldson), yn y ffyrdd rydym yn paratoi ein hathrawon i ddod yn broffesiynolion (Furlong), ac yn y ffyrdd y mae'n hathrawon mewn swydd yn aros ar eu huchelfannau (y Fargen Newydd). Mae'n rhaid i ni drawsnewid yr iaith rydym yn ei defnyddio er mwyn i ni osgoi defnyddio termau darfodedig pan fyddwn yn cyflwyno cysyniadau newydd.    

Donaldson, G, (2015) Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu yng Nghymru – Llywodraeth Cymru

Education Scotland (2015) What is Career Long Professional Learning?
http://www.educationscotland.gov.uk/professionallearning/clpl/clpl.asp Wedi'i chyrchu 20 Mawrth 2015

Furlong, J. (2015) Addysgu Athrawon Yfory: Opsiynau ynglŷn â dyfodol addysg gychwynnol
athrawon yng Nghymru; Caerdydd – Llywodraeth Cymru
James, M. and McCormick, R. (2009) Teachers Learning How to Learn Teaching and Teacher Education Vol 25 p 973-982

Learning Wales (2015) Professional Learning
http://learning.wales.gov.uk/yourcareer/?lang=en Wedi’i chyrchu 20 Mawrth 2015

Timperley, H.S. (2011) Realizing the Power of Professional Learning  Maidenhead: Open University Press

Yr Athro Ken Jones

Bu Ken yn addysgu yn Llundain am 13 mlynedd cyn dychwelyd i Gymru i weithio ym maes Addysg Uwch ac ef yw'r Uwch ymgynghorydd ar gyfer Dysgu a Datblygiad Proffesiynol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sydd wedi'i leoli yn Abertawe. Bu'n ymwneud yn lleol â hyfforddiant ac addysg barhaol athrawon a phenaethiaid, yn genedlaethol fel ymgynghorydd ym maes arweinyddiaeth ysgol a thrwy weithio i adrannau'r llywodraeth, ac yn rhyngwladol yn rhinwedd ei swydd yn Rheolwr Olygydd y cyfnodolyn Professional Development Education ac yn un o aelodau sefydlol y Gymdeithas Datblygiad Proffesiynol Rhyngwladol (IPDA).

Mae wedi gwasanaethu ar weithgorau'r llywodraeth yng Nghymru mewn meysydd megis sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar a diwygio'r safonau arweinyddiaeth broffesiynol. Mae ei waith gyda ChyngACC, fel yr oedd, wedi cynnwys cynghori ar osod Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Athrawon yng Nghymru ac wrth gydbeilota'r llwybr achredu ar gyfer statws Athro Siartredig. Mae ei waith rhyngwladol wedi cynnwys trefnu symposia ar Ddysgu Proffesiynol mewn sawl gwlad Ewropeaidd, yn yr Unol Daleithiau ac yn India.

Mae ei gyhoeddiadau diweddar yn cynnwys:
Jones, K. (2011) Central, local and individual continuing professional development (CPD) priorities: changing policies of CPD in Wales Professional Development in Education Vol 37 No 5 November 2011, 759-776

Jones, K. and O’Brien, J. (Eds) (2014) European Perspectives on Professional Development in Teacher Education London: Routledge

Jones, K. (2015)  “Oh no … not another good idea!” Motivating teachers through optimistic professional learning in Fleming, M., Martin, C.R. and Smith, H. (2015) Mental Health and Wellbeing in the Learning and Teaching Environment   Glasgow: Swan and Horn