meeting
Nick Hudd: Ymateb y Sector Ieuenctid i’r Agenda Ddigartrefedd yng Nghymru

Nick Hudd: Ymateb y Sector Ieuenctid i’r Agenda Ddigartrefedd yng Nghymru

NHudd

Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei huchelgais fentrus i roi terfyn ar ddigartrefedd ieuenctid yng Nghymru erbyn 2027, gan ddyrannu £10 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi'r nod, mae'r sector gwaith ieuenctid, y gellid dadlau iddo gael ei ddal allan gan ei rôl amlwg ac annisgwyl, wedi bod yn gorfod dal i fyny. Mae'n cymryd amser i ddiffinio'r diben penodol, deall sut mae'r agenda newydd hon yn cyd-fynd â rhaglenni gwaith eraill sydd wedi bwrw eu gwreiddiau, asesu adnoddau a recriwtio staff. Er bod rhai pobl yn feirniadol o lefel yr ymgysylltu rhwng y llywodraeth a'r sector cyn hyn, mae pwyslais ar yr elfennau hyn yn hytrach nag ar y dasg sydd ohoni'n tynnu'r llygad yn ddiangen oddi ar y bêl ac yn peri oedi yn y newid o fod yn ymatebol i fod yn rhagweithiol.   Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar y rôl gadarnhaol y gall y sector ei chwarae wrth helpu i fynd i'r afael â'r mater ac yn ystyried rhai o'r heriau sy'n peri rhwystrau mawr. Fodd bynnag, cyn symud ymlaen, rwy'n teimlo'i bod yn bwysig i mi ddatgan diddordeb; wedi bod yn ymarferydd ieuenctid a chymunedol sydd wedi cymhwyso'n broffesiynol dros y 16 mlynedd diwethaf, rwyf wedi symud yn ddiweddar i Dîm Digartrefedd Ieuenctid sydd newydd ei sefydlu, ac sy'n rhan o Wasanaeth Ieuenctid yr un awdurdod lleol. Wedi gweithio bellach yn y rôl hon ers 5 mis, rwy'n teimlo fy mod i'n ddigon gwybodus i gyfrannu at drafodaeth helaethach yn ymwneud â'r agenda benodol hon ac yn ddigon profiadol i fyfyrio am bersbectif ehangach. Am y rheswm hwn rwy'n defnyddio ymadroddion fel 'ni', 'ein', 'ein dull gweithredu’ drwy'r erthygl hon, a does gen i ddim cywilydd gwneud hynny.

Mae pobl yn y maes gwaith ieuenctid a meysydd proffesiynol eraill fel ei gilydd a allai fod yn cwestiynu pam mae'r sector ieuenctid wedi cael cynnig rôl mor amlwg wrth helpu i fynd i'r afael â'r agenda benodol hon. Gydag adrannau tai awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac elusennau digartrefedd penodedig yn cyflogi ymarferwyr cymwys sy'n hynod brofiadol yn y materion cysylltiedig a'r ddeddfwriaeth berthnasol, pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud y peth syml o roi'r holl arian ychwanegol i'r sefydliadau hyn? Er mwyn ateb hyn, mae'n bosibl y byddai’n fuddiol archwilio'r hyn mae'r sector gwaith ieuenctid yn ei gynnig nad yw'r lleill yn ei gynnig, gan roi cyd-destun yn y lle cyntaf i hynny gyda sylw cychwynnol; nid yw'r cyllid ychwanegol yn peri unrhyw gost i'r sefydliadau hyn na'r gwasanaethau maent yn eu darparu. Mae Llamau (2019) yn nodi ystod o resymau sy'n gallu arwain at y posibilrwydd y daw person ifanc yn ddigartref, gan gynnwys; plentyndod difreintiedig neu Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs); y ffaith bod yr unigolyn mewn gofal; perthynas deuluol yn chwalu; anawsterau iechyd meddwl; troseddu ieuenctid; pobl ifanc LGBTQ+; eithrio o'r ysgol a diffyg cyfleoedd cyflogaeth. Mae'r sector ieuenctid yn fedrus iawn am roi cymorth i bobl ifanc sy'n cael profiad o faterion o'r fath. Mae hyn yn elfen allweddol; am fod y rhesymau dros ddigartrefedd yn gymhleth, yn rhyng-gysylltiedig ac yn aml yn dechrau'n gynnar mewn bywyd, mae'n gwneud synnwyr mabwysiadu strategaeth hir dymor o ymyrraeth gynnar a chamau atal. Mae hyn yn un elfen yn unig o’r hyn mae'r sector ieuenctid yn ei darparu; ymgysylltu yn yr hirdymor â phobl ifanc rhwng 11-25 oed, a’u cefnogi i gymryd y cam i fod yn oedolion. Mae hyn oll wedi'i seilio ar sefydlu perthynas o ymddiriedaeth rhwng y gweithiwr a'r person ifanc. Bydd y rhai hynny yn y sector sy'n poeni i weld cam i ffwrdd o waith ieuenctid yn ei ffurfiau mwy traddodiadol yn cydnabod y dull gweithredu hwn fel continwwm o'r fethodoleg a ddefnyddiwyd gennym erioed; datblygu a defnyddio'n perthnasau o ymddiriedaeth gyda phobl ifanc, cynnig cymorth, cefnogaeth ac arweiniad gwybodus, cyfeirio at asiantaethau eraill lle y bo'n briodol a gweithredu fel gwasanaeth atgyfeirio i eraill. Nid achos o 'naill ai/neu' mohono, felly; mae'r asiantaethau, y sefydliadau a'r gwasanaethau hynny y cyfeiriwyd atynt ynghynt, sy'n meddu ar arbenigedd penodol ym maes tai a digartrefedd, yn parhau i fod ar flaen yr agenda. Serch hynny, dim ond gwella'r deilliannau i bobl ifanc wnaiff cydweithio, defnyddio'r perthnasau sydd gan weithwyr ieuenctid a phobl ifanc i gynyddu ymgysylltu, dealltwriaeth a chapasiti.

Yn sgil archwilio achosion digartrefedd ieuenctid fel y soniwyd amdanynt yn flaenorol yn agosach, awgrymir bod angen cynnwys llu o unigolion, asiantaethau, sefydliadau a gwasanaethau i ddod o hyd i atebion, sef ymateb gan y gymuned gyfan; mae'r rhain yn deimladau ac yn derminoleg a ategir gan Homeless.org.uk (2019) wrth nodi camau gweithredu effeithiol i roi terfyn ar ddigartrefedd.   Fel ymarferwyr, mae gweithiwyr ieuenctid a chymunedol yn fedrus iawn unwaith eto am fapio a defnyddio asedau cymunedol, mynd i'r afael â diffygion a hyrwyddo cydweithio. Mae In Defence of Youth Work (2019) yn ymhelaethu ar y pwyntiau hyn ac yn myfyrio am y ffaith bod y sector ieuenctid, er gwaethaf mewnbwn ariannol isel, wedi cynhyrchu gwerth o leiaf £10 o amser gwirfoddol yn cyflawni gwaith cymunedol lleol am bob £1 a wariwyd ar y sector. Mae'r ddogfen hefyd yn myfyrio am y budd ychwanegol o ran costau a deimlir gan wasanaethau eraill, boed y rheiny ym maes iechyd meddwl neu gyfiawnder troseddol. Gallai hyn hefyd gynnwys y sector tai.   Dylai'r sector gwaith ieuenctid gydnabod a hyrwyddo'r ffaith bod gennym y sgiliau, y profiad a'r cyfalaf cymdeithasol a fydd yn sicrhau, o'u defnyddio'n gywir, bod y £10 miliwn o arian ychwanegol yn prynu mwy drwy ddefnyddio'n methodoleg datblygu cymunedol.

Gan droi nôl at bryderon y rhai hynny yn y sector sy'n teimlo bod gwyro i ffwrdd o ffurfiau gwaith ieuenctid mwy traddodiadol ar droed, awgrymaf fod yr agenda hon yn caniatáu i ni, ymarferwyr gwaith ieuenctid, ymarfer ein sgiliau a'n profiad mewn ffordd sy'n gallu cael effaith go iawn. Mae Gwaith ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion (YWWRG: 2018) yn nodi bod gwaith ieuenctid

“ ...yn darparu ffordd rymus o ymgysylltu â phobl ifanc a gwrando arnynt. Yng Nghymru, mae ‘Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2011’ yn cryfhau a meithrin dull seiliedig ar hawliau Llywodraeth Cymru o lunio polisïau ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i’r hawliau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wrth wneud penderfyniadau am bolisïau neu ddeddfwriaeth newydd neu wrth adolygu neu newid polisïau sy’n bodoli’n barod.”

Boed mewn perthynas â'r sefydliad gwleidyddol, neu'r asiantaethau, y sefydliadau a'r unigolion y cyfeirir atynt uchod, mae gan y sector gwaith ieuenctid rôl bwysig i'w chwarae wrth sicrhau bod pobl ifanc nid yn unig yn ymwybodol ac yn wybodus am eu hawliau, ond eu bod hefyd yn meddu ar y mecanweithiau a'r sgiliau, ac yn cael y cyfleoedd i'w rhoi ar waith. Mae gennym rôl i'w chwarae hefyd wrth sicrhau bod y partneriaid hyn sy'n rhanddeiliaid yn ymwybodol o hawliau o'r fath. Hyd nes bod pob parti'n meddu ar lefel ddigonol o wybodaeth a dealltwriaeth, gall y sector gwaith ieuenctid wneud defnydd o elfen allweddol arall o'n gwaith; sef eirioli ar ran y bobl hynny rydym yn ceisio'u cynorthwyo.

Mae'n amlwg bod rhai pobl yn bryderus am symud i faes ymarfer sy'n ymddangos yn newydd, sydd i weld yn symud i ffwrdd o waith ieuenctid yn ei ffurfiau traddodiadol, ac sy'n haeddu lefel o arbenigedd sy'n mynd y tu hwnt i'r set sgiliau sydd wedi'i sefydlu. I'r bobl hyn, hoffwn eich atgoffa mai dull gweithredu, methodoleg, ethos yw gwaith ieuenctid. Mae ein dull gweithredu yr un peth, ac mae wedi'i seilio ar y perthnasau sy’n bodoli rhwng gweithwyr a phobl ifanc. Er bod y problemau a'r anawsterau mae pobl ifanc yn eu hwynebu'n newid, mae'r ffyrdd mae'r sector yn mynd i'r afael â nhw yn aros yr un peth. Mae’n rhaid i ni wrthod y demtasiwn i ailddyfeisio'n hunain a herio'r camenw mai agenda 'newydd' yw hon. Os yw'r sefydliad gwleidyddol yn gallu ymddiried yr holl arian ychwanegol yma yn nwylo'r sector, mae hynny'n awgrymu eu bod yn credu y gall gael effaith go iawn ar helpu i fynd i'r afael â'r mater. Am sector sy'n helpu pobl ifanc i gynyddu eu hunan-effeithiolrwydd, mae angen, o bosib, i ni gredu yn ein galluoedd ein hunain ein hunain.

Nick Hudd

Uwch Ymarferwr Gwaith Ieuenctid i Gyngor Sir Benfro yw Nick Hudd sydd wedi gweithio fel gweithiwr ieunctid amser llawn i sefydliadau statudol a gwirfoddol dros y 16 mlynedd diwethaf. Mae Nick yn weithiwr ieuenctid sydd â chymhwyster a gyndnabyddir gan JNC yn ogystal â BA (Anrhydedd) Gwaith Ieuenctid a Chymuned gan PCDDS.