Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter link@ewc_cga | yt icon mono dark YouTube

meeting
Sôn
Sôn

Ken Jones - 'Datblygiad Proffesiynol' neu 'Ddysgu Proffesiynol'... ac oes ots?

Ken Jones photo for EWC blogYdych chi wedi sylwi ar y newid cynnil yn yr iaith? Yn gynharach eleni, roedd dogfennau Llywodraeth Cymru'n cyfeirio at 'Ddatblygiad Proffesiynol'; bellach, mae'r sôn i gyd am 'Ddysgu Proffesiynol'.  Mae'r Fargen Newydd yn cyfeirio at y Model Dysgu Proffesiynol (gweler Dysgu Cymru, 2015). Nid newid sydyn oedd e - mae'r ddau derm wedi'u defnyddio yn nogfennau Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae llawer wedi'u benthyg o fodel Dysgu Proffesiynol Gydol Gyrfa (CLPL) yr Alban (Education Scotland, 2015), ond nawr mae'r term Dysgu Proffesiynol yn dod yn fwy amlwg.

Rydym wedi dod yn gyfarwydd â'r term 'DPP' ers iddo gymryd lle 'datblygiad staff', a, chyn hynny, 'HMS', ac mae rhesymau da pam mae rhaid i ni newid eto.  Mae'n gyffredin i newidiadau ddigwydd mewn terminoleg i adlewyrchu ffyrdd newydd o feddwl a gweithio ond lle bu'r termau 'datblygiad proffesiynol' a 'dysgu proffesiynol' yn cael eu defnyddio’n bron fel petaent yn gyfystyr â’i gilydd, maent bellach yn dod yn wahanol yn iaith a llenyddiaeth ymarfer proffesiynol.

Yr union reswm na allwn ddibynnu ar ddatblygiad proffesiynol yn unig yw achos nad yw sefyllfaoedd proffesiynol yn sefydlog. Mae addysg yn newid; mae technoleg yn newid; mae'r gymdeithas yn newid; mae ysgolion yn newid; mae arweinwyr yn newid; mae ymagweddau at ddysgu disgyblion yn newid. Felly, nid yw "hyfforddiant" yn ddigonol; mae hyblygrwydd yn hanfodol; mae meddwl dargyfeiriol ac ochrol yn ganolog; mae angen critigoldeb, yn hytrach na chydymffurfiaeth. Mae 'dysgu proffesiynol' yn cynnwys dysgu gweithredol; mae'n broses barhaus; mae'n canolbwyntio ar holi, dadansoddi, adfyfyrio, gwerthuso, camau pellach; dylai fod yn broffesiynol feirniadol; ar ei wedd orau, mae'n gydweithredol; ac mae'n galluogi ymagwedd nad yw wedi'i chyfyngu i ddehongliad llinellol o ddigwyddiadau yn y dyfodol a ffyrdd o weithio. Mae James a McCormick (2009) yn nodi'r angen i'r dysgu hwn gael ei strwythuro. Er bod angen cyngor ymarferol ar athrawon, maent yn dadlau bod ymarferion yn y dosbarth yn gallu mynd yn ddefodoledig ac yn fecanyddol os nad yw athrawon yn cael eu hysgogi i feddwl mewn ffyrdd gwahanol am sut maent yn dysgu, a sut mae eu disgyblion yn dysgu.

Yn hollbwysig, mae hanfod dysgu proffesiynol yn canolbwyntio'n llai ar ansoddau neu ddiffygion athrawon ac yn fwy ar yr angen i wneud gwahaniaeth i ddysgwyr. Yn rhy aml, mae'r broses o ddatblygiad proffesiynol wedi canolbwyntio ar beth sydd angen i'r athro ei wneud yn hytrach na beth sydd angen i ddisgyblion ei ddysgu, a sut. Felly, i greu dysgu effeithiol gan ddisgyblion, mae'n rhaid i ni sicrhau dysgu pwrpasol gan athrawon ac yna droi hyn yn ymarfer effeithiol. I gyflawni hyn a'i gynnal, mae'n hanfodol cael uwch arweinyddiaeth ac arweinyddiaeth ganol effeithiol oherwydd ei bod yn debyg y bydd athrawon yn newid ar sail ad hoc ac unigolyddol heb eu hymyrraeth, ac mae'n debyg y bydd mwy o amrywiaeth mewn sefydliadau, yn hytrach na llai.

Mae Timperley (2011) yn esbonio'r gwahaniaeth rhwng datblygiad proffesiynol a dysgu proffesiynol, ac rwyf wedi cymryd pedwar o'i phwyntiau hi i'w defnyddio fel ysgogiadau ar gyfer adfyfyrio. Ond nid yw adfyfyrio'n ddigonol; mae'n rhaid i ni i gyd gynhyrchu gwaith mesuradwy. Felly rwyf hefyd wedi defnyddio'r pwyntiau i osod heriau i uwch arweinwyr ac arweinwyr canol mewn dwy ffordd:
Yn gyntaf, sut mae'r pwyntiau hyn yn cydweddu â'r diwylliant dysgu proffesiynol yn eich ysgol neu'ch coleg?
Yn ail, os ydych yn arweinydd canol neu'n uwch arweinydd, rwyf wedi gosod rhai heriau efallai y byddwch am eu gosod i'ch hunan i drawsnewid y diwylliannau dysgu proffesiynol yn eich tîm eich hunan. Dylech adfyfyrio ar y rhain, eu trafod gyda'ch cydweithwyr a'u defnyddio gyda'ch timau eich hunan i sbarduno newid.

  1. “… the term ‘professional development’ has taken on connotations of delivery of some kind of information to teachers … whereas ‘professional learning … challenges previous assumptions and creates new meanings. … Solving entrenched educational problems requires transformative rather than additive change to teaching practice” (t4-5)

    Cwestiwn diwylliannol: Sut rydych chi a'ch cydweithwyr yn dysgu? Drwy drosglwyddo gwybodaeth a syniadau? Ydych chi a'ch cydweithwyr yn derbyn gwybodaeth yn oddefgar pan fyddwch yn mynychu gweithgareddau datblygiad proffesiynol?

    Her arweinyddiaeth: gwnewch weithgareddau dysgu proffesiynol yn drawsffurfiadol. Gosodwch dargedau realistig ar gyfer newid. Heriwch eich syniadau eich hun a heriwch eraill i wneud newidiadau bach yn eu hymarfer.

  2. “Improvements in pupil learning and well-being are not a by-product of professional learning but rather its central purpose” (t5).

    Cwestiwn diwylliannol: Ydy'ch disgwyliadau gan ddisgyblion yn ddigon uchel? Ydy'ch disgwyliadau gennych chi eich hunan yn ddigon uchel? Ydych chi'n gwybod digon am y ffyrdd y mae eich disgyblion yn dysgu? Pa wybodaeth a allai fod ei hangen arnoch chi i gefnogi dysgu disgyblion yn fwy effeithiol? Nid yw'n ddigonol rhoi'r bai ar ddisgyblion neu'r system am gyflawniad isel.

    Her arweinyddiaeth: darganfyddwch faint mae athrawon yn ei wybod am eu disgyblion. Pam mae rhai disgyblion yn perfformio'n waeth nag eraill? Sut gall disgyblion unigol, gyda'u help, gyflawni mwy? Pam y gallai disgybl unigol fod yn cyflawni mwy mewn un pwnc neu gydag un athro na gydag athro arall?

  3. “… the knowledge and skills developed through professional learning must … [be] both practical and … be used to solve teaching and learning challenges encountered in the future” (t 7)

    Cwestiwn diwylliannol: ydy'ch gwybodaeth a'ch sgiliau'n debygol o'ch arfogi ar gyfer newidiadau yn y dyfodol? Sut gallwch chi gael gwybod? Beth allwch ei wneud os nad ydynt?

    Her arweinyddiaeth: Trafodwch gydag arweinwyr eraill i gael gwybod pwy yw eu hathrawon gorau. A ellir defnyddio'r bobl hyn fel 'ymarferwyr arweiniol' i rannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd gyda chydweithwyr yn yr ysgol a chyda chydweithwyr o ysgolion eraill? Sefydlwch sefyllfaoedd rhwydweithio, hyfforddi neu fentora i ymestyn gwybodaeth a sgiliau athrawon yn eich tîm.

  4. “… teachers must reference their learning to both themselves and their pupils … they generate information about the progress they are making so that they can monitor and adjust their learning [and that of the pupils]” (p 7)

    Cwestiwn diwylliannol: Mae hyn yn debyg i asesu ar gyfer dysgu disgyblion. I ba raddau yr ydych chi'n gwerthuso'ch addysgu eich hun? Pa feini prawf yr ydych yn eu defnyddio i ddweud a ydych yn effeithiol ai peidio? Pa gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i gynnal ymchwiliad systemataidd i'ch ymarfer eich hunan? Pe gefnogaeth sydd gennych wrth gymryd ymagweddau trawsffurfiadol a radical tuag at broblemau taer?

    Her arweinyddiaeth: Darparwch gefnogaeth i'ch athrawon edrych yn systemataidd ac yn onest ar eu haddysgu eu hunain, gan ddefnyddio cyflawniadau disgyblion unigol fel dangosydd allweddol. Crëwch gyfleoedd iddynt arsylwi ymarfer a chael eu harsylwi. Crëwch amgylcheddau diogel lle y gellir ymgymryd ag adfyfyrio critigol a chymryd risgiau.

 

Yng Nghymru, mae gennym gyfle i fod yn drawsffurfiadol yn y ffordd rydym yn cynllunio'n cwricwlwm (Donaldson), yn y ffyrdd rydym yn paratoi ein hathrawon i ddod yn broffesiynolion (Furlong), ac yn y ffyrdd y mae'n hathrawon mewn swydd yn aros ar eu huchelfannau (y Fargen Newydd). Mae'n rhaid i ni drawsnewid yr iaith rydym yn ei defnyddio er mwyn i ni osgoi defnyddio termau darfodedig pan fyddwn yn cyflwyno cysyniadau newydd.    

Donaldson, G, (2015) Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu yng Nghymru – Llywodraeth Cymru

Education Scotland (2015) What is Career Long Professional Learning?
http://www.educationscotland.gov.uk/professionallearning/clpl/clpl.asp Wedi'i chyrchu 20 Mawrth 2015

Furlong, J. (2015) Addysgu Athrawon Yfory: Opsiynau ynglŷn â dyfodol addysg gychwynnol
athrawon yng Nghymru; Caerdydd – Llywodraeth Cymru
James, M. and McCormick, R. (2009) Teachers Learning How to Learn Teaching and Teacher Education Vol 25 p 973-982

Learning Wales (2015) Professional Learning
http://learning.wales.gov.uk/yourcareer/?lang=en Wedi’i chyrchu 20 Mawrth 2015

Timperley, H.S. (2011) Realizing the Power of Professional Learning  Maidenhead: Open University Press

Yr Athro Ken Jones

Bu Ken yn addysgu yn Llundain am 13 mlynedd cyn dychwelyd i Gymru i weithio ym maes Addysg Uwch ac ef yw'r Uwch ymgynghorydd ar gyfer Dysgu a Datblygiad Proffesiynol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sydd wedi'i leoli yn Abertawe. Bu'n ymwneud yn lleol â hyfforddiant ac addysg barhaol athrawon a phenaethiaid, yn genedlaethol fel ymgynghorydd ym maes arweinyddiaeth ysgol a thrwy weithio i adrannau'r llywodraeth, ac yn rhyngwladol yn rhinwedd ei swydd yn Rheolwr Olygydd y cyfnodolyn Professional Development Education ac yn un o aelodau sefydlol y Gymdeithas Datblygiad Proffesiynol Rhyngwladol (IPDA).

Mae wedi gwasanaethu ar weithgorau'r llywodraeth yng Nghymru mewn meysydd megis sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar a diwygio'r safonau arweinyddiaeth broffesiynol. Mae ei waith gyda ChyngACC, fel yr oedd, wedi cynnwys cynghori ar osod Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Athrawon yng Nghymru ac wrth gydbeilota'r llwybr achredu ar gyfer statws Athro Siartredig. Mae ei waith rhyngwladol wedi cynnwys trefnu symposia ar Ddysgu Proffesiynol mewn sawl gwlad Ewropeaidd, yn yr Unol Daleithiau ac yn India.

Mae ei gyhoeddiadau diweddar yn cynnwys:
Jones, K. (2011) Central, local and individual continuing professional development (CPD) priorities: changing policies of CPD in Wales Professional Development in Education Vol 37 No 5 November 2011, 759-776

Jones, K. and O’Brien, J. (Eds) (2014) European Perspectives on Professional Development in Teacher Education London: Routledge

Jones, K. (2015)  “Oh no … not another good idea!” Motivating teachers through optimistic professional learning in Fleming, M., Martin, C.R. and Smith, H. (2015) Mental Health and Wellbeing in the Learning and Teaching Environment   Glasgow: Swan and Horn

Jacquie Turnbull - Her Arweinyddiaeth ym maes Addysg

'Effective management will lead to incremental improvement that is useful but may not be sufficient. Leadership, by contrast, offers the possibilities of transformation'i

JTurnballBu arweinyddiaeth bob tro'n gysyniad sy'n bwysig i'n cymdeithas. Ond ar yr un pryd, mae hefyd yn un o'r pethau anghyffwrddadwy hynny sy'n gwrthsefyll cael eu diffinio'n benodol. Yn ôl Warren Bennis, roedd yn anodd ei ddiffinio, yn yr un modd â harddwch, ond rydym yn ei adnabod pan fyddwn yn ei weld.

Mae'r dyfyniad rwyf wedi'i ddefnyddio ar ben yr erthygl hon yn un enghraifft yn unig o ddiddordeb cynyddol mewn arweinyddiaeth. Er ein bod bob tro wedi dibynnu ar arweinyddiaeth fel elfen bwysig yn ein cymdeithas, mae cyflymder y newid a'r cymhlethdod yn y byd sydd ohoni wedi herio syniadau traddodiadol o sut beth a ddylai arweinyddiaeth fod. Yn yr un modd ag y mae syniadau o beth mae harddwch yn ei olygu'n newid, bu rhaid i ni gydnabod bod angen addasu ein syniadau am arweinyddiaeth er mwyn iddynt fod yn addas at eu diben yn ein byd modern.

Mae cymhlethdod unigryw sefydliadau wedi arwain at gydnabyddiaeth na allwn ddibynnu mwyach ar un unigolyn i reoli sefydliad fel y brif ffynhonnell arweinyddiaeth. Yn ystod oes CyngACC, cydnabuwyd bob amser bod pob athro ac athrawes yn arweinydd o ryw fath. Yna yn 2008 clywyd y neges o du Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru fod angen arweinyddiaeth ddosranedig; sef model lle roedd pob rhan o'r gymuned addysg yn creu rhwydweithiau dylanwadol o gydweithredu.

Ond er y bu llawer o drafod ynghylch arweinyddiaeth, rhywbeth llawer llai amlwg oedd yr enghreifftiau o arweinyddiaeth a oedd yn amlygu potensial trawsnewidiol. Am un peth, er i ni fyw yng nghanol ton o newid technolegol a chymdeithasol, rydyn ni'n dal ein gafael ar arferion oes ddiwydiannol a fu. Oes oedd honno pan oedd y gwyddonydd cymdeithasol Max Weber yn damcaniaethu bod goruchafiaeth cynhyrchiant peirianyddol yn cael dylanwad dros ein syniadau ynghylch beth ddylai sefydliad effeithlon a rheoli gwaith edrych fel. Rhoddwyd pwyslais ar fanwl gywirdeb, cyflymder, eglurder, rheoleidd-dra, dibynadwyedd ac effeithlonrwydd; a phob un yn cael ei gyflawni drwy ddosrannu tasgau, goruchwyliaeth hierarchaidd a rheolau a rheoliadau manwl.ii Mae'r gwyddonydd cymdeithasol o'r ugeinfed ganrif George Ritzer wedi ymestyn syniadau Weber gyda'r syniad bod 'rhoi gwedd McDonalds ar bopeth' – sef y ffordd y caiff bwytai prydau parod eu trefnu fel llinell ffatri – yn cael dylanwad ar gymdeithas ar gyfradd gynyddol, gan effeithio hyd yn oed ar ofal iechyd ac addysg.iii

Ac, wrth gwrs, bu trosiad sy'n benodol i'r byd addysg: mae Guy Claxton yn dadlau bod y model 'llinell ffatri' wedi'i ymwreiddio'n ddwfn yma hefyd. Tybir mai rhywbeth a 'wneir' y mae addysg, yn yr un modd â rhoi cynnyrch at ei gilydd. Caiff myfyrwyr eu hanfon i lawr y llinell ffatri mewn setiau o'r un oedran, ac mae amrywiaeth o 'dechnegwyr' yn ychwanegu cydrannau penodol o ran gwybodaeth - sef eu 'pwnc'. Mae'n rhaid wrth reoli ansawdd, er mwyn i'r 'cynhyrchion' gael eu profi a'u graddio. Mae'n rhaid i'r gweithlu gael ei fonitro am effeithiolrwydd, hefyd, felly bob hyn a hyn, gosodir rheoli ansawdd allanol, ac mae arolygyddion yn ymweld â'r llinell ffatri i wneud yn siŵr bod popeth yn cael ei gyflawni yn ôl y cyfarwyddiadau.iv Nid yw'r model yn gweithredu'n ymreolus; yn hytrach, mae'n dibynnu ar gael ei 'reoli' i sicrhau bod popeth yn parhau i redeg yn rhwydd. Felly, prif rôl y person uwch mewn 'ffatri' addysg yw rheoli'r broses.

Yn anffodus, os derbyniwn y dadansoddiadau, ac os derbyniwn hefyd y ddadl bod angen arweinyddiaeth arnom i dramwyo cyfnodau cythryblus byd sy'n prysur newid, mae cymhwyso model o arweinyddiaeth drawsnewidiol ar ben system draddodiadol sydd wedi bwrw gwreiddiau dwfn yn troi'n her. Mae'r ffaith bod arweiniad Llywodraeth Cymru ar arweinyddiaeth addysgolv yn clystyru rhinweddau arweinwyr o dan bennawd 'safonau' yn awgrymu bod yma ymgais i 'safoni' syniad nad oes modd ei grisialu'n syml mewn rhestr o gymwyseddau. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i arweinyddiaeth, sy'n rhywbeth y gall pob un ohonom ei gydnabod ar ryw lefel uwch neu lefel fwy anghyffyrddadwy, ond eto sy'n ymddangos mewn gwahanol ffurfiau mewn gwahanol bobl ac mewn gwahanol gyd-destunau.

Y perygl wrth geisio 'safoni', yw nad oes modd cyfyngu arweinyddiaeth i ymddygiad yn unig. Yn ôl Daniel Goleman, er enghraifft, mae arweinyddiaeth wych yn gweithio drwy'r emosiynau.vi Mae'r gallu i ddiffinio gweledigaeth sy'n ysbrydoli ac yn annog pobl i weithio tuag at nod heriol yn gweithio ar lefel fwy emosiynol na'r hyn sy'n gysylltiedig â ffocws ar dargedau lefel isel.

Mae seicolegydd arall, Robert Sternberg, yn cyflwyno model o arweinyddiaeth addysgol fel cyfuniad o ddoethineb, deallusrwydd a chreadigrwydd.vii Wrth gwrs, mae doethineb yn nodwedd anghyffyrddadwy arall: gallai awgrymu rhinwedd sy'n gwella gydag oedran; ond eto mae yna rai pobl yn eu hoed a'u hamser nad ydynt erioed wedi cydio ynddo, tra bod eraill yn cael eu hystyried yn 'ddoeth' cyn pryd er eu bod yn ifanc. Ac o ran deallusrwydd, gall hwnnw rychwantu'r deallusrwydd dadansoddol sy'n ategu crebwyll cadarn, a'r deallusrwydd ymarferol i wybod sut i roi strategaethau ar waith yn effeithiol.

Wrth gwrs, cymhwyso'r syniad o greadigrwydd i arweinyddiaeth sydd wir yn amlygu'r cyd-dynnu rhwng ymgorffori model o arweinyddiaeth drawsnewidiol mewn system hierarchaidd a strwythuredig megis addysg. Ac eto, mae'r hyn sy'n cael ei alw'n 'greadigrwydd' gyda llythyren fach yn cyfeirio at y creadigrwydd 'bob dydd' sy'n amlwg mewn sgiliau datrys problemau lefel uchel, a welir mewn perthnasau cynhyrchiol sy'n sbarduno syniadau newydd, a welir mewn dyfeisgarwch dynol yn ei holl ffurfiau,viii sydd oll yn rhinweddau o werth mewn arweinyddiaeth.

Yn ymarferol, arweinyddiaeth, yn hytrach na rheolaeth, sy'n gallu ysgogi pobl i gyflawni'n uchel ac i gyflawni amcanion sefydliadol; arweinyddiaeth, yn hytrach na rheolaeth, sy'n ymdrin ag unigolion yn agored ac mewn ffordd syml, gan roi gwerth ar bobl fel unigolion, arweinyddiaeth, yn hytrach ne rheolaeth, sy'n annog pobl i ddeall a rhoi lle i'r newid sydd ei angen.

Nid peth hawdd yw crisialu'r rhinweddau hyn mewn rhestr o gymwyseddau. At hynny, mae'r cyfuniad o werthoedd personol, hunanymwybyddiaeth, hunanreolaeth ac empathi sy'n ategu arweinyddiaeth ar waith yn bethau nad oes modd eu bachu ar gwrs hyfforddi'n unig. Sicrhau'r ewyllys a'r gallu i fagu'r math iawn o arweinwyr at y dyfodol er mwyn sicrhau cyrhaeddiad addysgol uwch yw'r her i addysg o hyd, nid dim ond cydnabod rhinweddau arweinyddiaeth drawsnewidiol a fydd yn sicrhau gwell perfformiad.

Jacquie Turnbull

 


 

i John West-Burnham & Dave Harris 2015:7
ii Gareth Morgan 1997:12
iii George Ritzer 2004
iv Guy Claxton 2008 pp.51-52
v Llywodraeth Cymru 2011 Safonau Proffesiynol Diwygiedig ar gyfer Ymarferwyr Addysg yng Nghymru
vi Daniel Goleman 2002:3
vii Robert Sternberg 2005
viii Jacquie Turnbull 2012:154 Creative Educational Leadership

 


 

Mae profiad Jacquie Turnbull fel addysgwraig yn cynnwys addysgu mewn ysgolion ac yn y brifysgol, a hyfforddiant yn y gweithlu ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol. Mae ei phrofiad o arweinyddiaeth yn cynnwys tymhorau fel Dirprwy Gadeirydd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ac fel Cadeirydd Bwrdd Corfforaethol Coleg Glan Hafren yng Nghaerdydd. Mae ysgrifennu Jacquie yn tynnu ar sylfaen academaidd gadarn, a'i phrofiad helaeth o addysgu a hyfforddi mewn lleoliadau addysgol a chymunedol. Mae ei llyfrau wedi'u cyfieithu i sawl iaith, ac mae'n gweithio ar ei hail lyfr am arweinyddiaeth mewn addysg ar hyn o bryd. Dyfarnwyd MBE i Jacquie yn 2011 am ei gwaith fel addysgwraig.

John Furlong - 'Addysgu Athrawon Yfory'

1 Ebrill 2015 - John Furlong yn cyflwyno'i adroddiad ar opsiynau ar gyfer dyfodol addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru – 'Addysgu Athrawon Yfory'

JFurlong

Ar ddechrau mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fy adroddiad ar ddyfodol addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru – 'Addysgu Athrawon Yfory'. Mae'r adroddiad yn un o blith nifer o fesurau gwahanol sy'n cael eu hystyried gan y Llywodraeth er mwyn gwella ansawdd addysg yng Nghymru.
Gwyddom o dystiolaeth ryngwladol mai'r un peth pwysicaf y gellir ei wneud i wella ansawdd yw buddsoddi yn y proffesiwn addysgu. Mae hynny'n golygu gwneud tri pheth. Yn gyntaf, denu'r ymgeiswyr gorau posibl i'r proffesiwn– pobl sy'n abl yn academaidd ac sy'n meddu ar y natur a'r tueddfryd cywir ar gyfer addysgu. Yn ail, cynnig yr addysg a'r hyfforddiant cychwynnol gorau posibl i athrawon. Ac yn drydydd, cynnig cymorth parhaus fel y gall athrawon adfywio a datblygu trwy gydol eu gyrfaoedd. Mae fy adroddiad yn canolbwyntio ar y ddau gyntaf o'r gorchmynion hyn ond mae'n amlwg fod cysylltiadau clir â datblygiad proffesiynol parhaus hefyd.

Felly mae addysg gychwynnol i athrawon yn bwysig iawn, ond yng Nghymru, mae angen ei newid am ddau reswm. Yn gyntaf, gan ein bod yn gwybod o adroddiadau Estyn ac adroddiadau eraill a gynhaliwyd yn y ddwy flynedd ddiwethaf nad yw ansawdd y ddarpariaeth bresennol cystal ag y dylai fod; nid yw'n bodloni'r safon o ran yr hyn y mae tystiolaeth ryngwladol yn ei ddangos yn arfer da o bell ffordd. Yn ail, gan fod Adolygiad Donaldson o'r Cwricwlwm ac Asesu yng Nghymru a gyhoeddwyd ym mis Chwefror yn codi'r safonau o ran yr hyn a fydd yn ddisgwyliedig o athrawon yn y dyfodol.
Mae'r Athro Donaldson yn cynnig rhoi mwy o reolaeth i athrawon dros beth i'w addysgu, sut i addysgu a sut i asesu eu myfyrwyr; bydd hyn, mae'n dadlau, yn rhyddhau creadigrwydd y proffesiwn ac yn gwella ansawdd yn ein hysgolion. Yn bersonol, mae ei gynigion wedi fy nghyffroi, ond byddant yn anorfod yn codi lefel yr hyn sy'n cael ei fynnu gan athrawon. Os oes amodau llai manwl gan y llywodraeth, yna bydd angen i bob athro wybod 'pam' addysgu a 'sut, nid yn unig 'beth' i'w addysgu.

Felly, sut mae angen i addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru newid? Mae fy adroddiad yn awgrymu bod angen i ni gryfhau cyfraniad prifysgolion ac ysgolion a'r modd y mae'r naill bartner a'r llall yn gweithio gyda'i gilydd. Mae gan brifysgolion lawer iawn i'w gynnig o bosibl, ond nid wyf yn meddwl bod y trefniadau presennol yn manteisio ar hynny'n briodol. Yn rhy aml, mae prifysgolion yn canolbwyntio ar hyfforddiant ymarferol sydd mewn gwirionedd yn gallu cael ei wneud yn llawer gwell mewn ysgolion. Mae angen i brifysgolion ychwanegu rhywbeth gwahanol, gan ddefnyddio gwaith ymchwil, ar theori, a defnyddio eu gwybodaeth am arfer gorau mewn ysgolion ledled Cymru ac yn rhyngwladol.
Ar yr un pryd, rwyf am i ni gryfhau cyfraniad ysgolion. Rwyf am iddynt allu cymryd y prif gyfrifoldeb am rannau allweddol o raglenni ac rwyf am i'w cyfraniad gael ei gydnabod yn llawn. Pan fydd ysgolion yn cymryd cryn dipyn o gyfrifoldeb mewn addysg athrawon, fel y mae rhai ohonynt eisoes yn ei wneud, yna rwyf am weld hynny'n cael ei gydnabod gan lywodraethwyr, gan awdurdodau lleol ac yn fwyaf penodol gan Estyn.

Er mwyn gwella ansawdd y ddarpariaeth, rwyf wedi nodi 9 argymhelliad penodol i'w Llywodraeth eu hystyried. Mae'r rhain yn cynnwys cynnig i ddatblygu set newydd o 'safonau' proffesiynol ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon. Mae angen i'r rhain fod yn fwy cyfoethog na'r safonau presennol – nid yn canolbwyntio ar yr hyn y mae athrawon newydd gymhwyso yn 'gallu gwneud' yn unig – ond yr hyn y mae'n rhaid iddynt ei wybod a'i ddeall hefyd. Wedyn, mae angen i'r safonau newydd hyn gael eu cysylltu'n glir â safonau proffesiynol eraill er mwyn cefnogi dilyniant.

Rwyf hefyd wedi cynnig sefydlu gweithdrefn achredu newydd gyda Bwrdd Achredu Addysg Athrawon a sefydlwyd o fewn Cyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru. Bydd angen i brifysgolion a'u hysgolion partner wneud cais am achrediad, a chael eu hailachredu bob pum neu chwe blynedd, yn union fel hyfforddiant prifysgol ar gyfer meddygon neu gyfreithwyr neu gyfrifwyr. Bydd hyn yn galluogi'r Bwrdd Achredu i nodi'n annibynnol yr hyn y dylai hyfforddiant da ei gynnwys yn ei farn ef - o ran cwricwlwm eang ac o ran yr hyn y mae angen i brifysgolion a'u hysgolion partner ei ddarparu. Bydd hyn yn golygu y bydd y proffesiwn ei hun, yn y dyfodol, yn yr un modd â'r Alban, yn cymryd rhan flaenllaw mewn goruchwylio'r addysg gychwynnol i athrawon.

Safonau newydd a gweithdrefnau achredu newydd sydd wrth wraidd fy nghynigion ond mae rhai eraill hefyd. Rwyf wedi cynnig hefyd y dylid ymestyn y llwybr israddedig ar gyfer athrawon cynradd o dair i bedair blynedd. Byddai hyn yn golygu ei fod yn debyg i gyrsiau ar gyfer israddedigion yn Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon sydd i gyd yn denu ymgeiswyr o safon gryn dipyn yn uwch yn gyson na'r hyn a geir yng Nghymru ar hyn o bryd. Ac yn olaf, rwyf wedi cynnig y dylai'r llywodraeth gryfhau ymchwil addysgegol yng Nghymru trwy fuddsoddi mewn rhwydwaith o grwpiau ymchwil ledled y wlad mewn meysydd allweddol sydd eu hangen i ategu gwaith addysg athrawon. Ar hyn o bryd, does bron dim capasiti ymchwil yng Nghymru mewn meysydd allweddol fel addysg ddwyieithog, addysgu Mathemateg a Gwyddoniaeth neu'r Cyfnod Sylfaen. Hebddo, sut gall y sector ddilyn hynt a helynt datblygiadau yn rhyngwladol heb sôn am system 'hunanwella'?

Mae'n gyfnod tyngedfennol heddiw o ran addysg yng Nghymru. Os yw'r proffesiwn addysgu am gyfrannu'n briodol at godi safonau yn ein hysgolion, yna mae angen math o addysg gychwynnol i athrawon sy'n eang yn hytrach na chyfyngedig, un sy'n rhoi i athrawon eu hunain y sgiliau, y wybodaeth a'r tueddiadau i arwain y newidiadau sydd eu hangen. Yn ffodus i Gymru, mae ganddi nifer fawr o unigolion a sefydliadau sydd wedi ymrwymo'n fawr i addysg gychwynnol i athrawon o ansawdd da. Pan fydd yn glir pa un o'r opsiynau rwyf wedi'u nodi y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno'i mabwysiadu, yna rwy'n siŵr y bydd y sector yn manteisio ar y cyfleoedd y maent yn eu darparu, gan gydweithio i roi i Gymru ansawdd yr addysg athrawon sy'n angenrheidiol ar gyfer y dyfodol.

Mae John Furlong yn Athro Emeritws Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae ei adroddiad ar gael yn http://gov.wales/docs/dcells/publications/150309-teaching-tomorrows-teachers-final.pdf 

John Furlong
Emeritus Professor of Education, University of Oxford

Dechreuodd John Furlong ar ei yrfa fel athro mewn ysgol gyfun yng nghanol Llundain, gan astudio ar gyfer PhD ar yr un pryd. Symudodd wedyn i faes addysg uwch ac mae wedi gweithio mewn saith prifysgol wahanol; bu'n athro mewn pedair o'r prifysgolion hynny ac yn bennaeth adran mewn tair ohonynt. Ei swydd olaf oedd Cyfarwyddwr Adran Addysg Prifysgol Rhydychen, swydd a ddaliodd am ddeng mlynedd bron. Yn ystod ei yrfa, mae John wedi arwain nifer fawr o brosiectau ymchwil addysgol, wedi addysgu'n helaeth ar bob lefel o'r system ac wedi cyhoeddi mwy na 100 o erthyglau a llyfrau. Enillodd ei lyfr diweddaraf 'Education - an anatomy of the discipline' wobr gyntaf gan Gymdeithas Astudiaethau Addysgol y Deyrnas Unedig yn ddiweddar.

Mae John wedi bod ag amrywiaeth o rolau cenedlaethol a rhyngwladol ym maes addysg: pwyllgor gwaith cenedlaethol UCET (1992-7); Llywydd BERA (2003-5); Cadeirydd ymchwiliad BERA/RSA i ymchwil ac addysg athrawon (2014). Bu'n aelod o banelau addysg RAE/REF y Deyrnas Unedig yn 2008 a 2014 ac yn gynullydd panel Addysg RAE Hong Kong 2014. Addysg broffesiynol athrawon yw un o themâu allweddol ei waith ac mae wedi cadeirio a chymryd rhan mewn pum adolygiad cenedlaethol o addysg athrawon ar ran gwahanol lywodraethau (Cymru 2006; Brunei 2008; Iwerddon 2012; Gogledd Iwerddon 2014). Mae'n Gymrawd o'r Academi Gwyddorau Cymdeithasol ac ar hyn o bryd yn gynghorydd ar addysg athrawon i lywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd ei adroddiad 'Addysgu Athrawon Yfory: opsiynau ynglŷn â dyfodol addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru' gan Lywodraeth Cymru mis Mawrth eleni.

 

Graham Donaldson - Dyfodol Llwyddiannus

21ain Ebrill 2015 – mae’r Athro Graham Donaldson yn ysgrifennu am ei adolygiad o’r trefniadau cwricwlwm ac asesu yng Nghymru – ‘Dyfodol Llwyddiannus’

Professor Donaldson photoYchydig dros flwyddyn yn ôl, cefais wahoddiad gan Huw Lewis AC, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, i ymgymryd ag adolygiad annibynnol a sylfaenol o'r trefniadau cenedlaethol ar gyfer y cwricwlwm ac asesiadau yng Nghymru. Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, cyhoeddwyd canlyniad yr Adolygiad hwnnw - fy adroddiad, Dyfodol Llwyddiannus - ar 25 Chwefror. Bydd gan ei argymhellion oblygiadau sylfaenol a phellgyrhaeddol i'r holl rheiny sy'n ymwneud ag addysg, ac yn enwedig, i lwyddiant a lles plant a phobl ifanc Cymru yn y dyfodol.

Wrth ymgymryd â'r Adolygiad, roeddwn yn gwbl benderfynol y byddai fy argymhellion ar gyfer newid yn adlewyrchu barn a dyheadau pobl Cymru, yn ogystal â'r syniadau ac ymarferion gorau a welir mewn gwledydd eraill. Bu i'm tîm a minnau ymweld â tua 60 o ysgolion ledled y wlad, gan gynnwys ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg, ysgolion arbennig, unedau cyfeirio disgyblion, sefydliad troseddwyr ifanc a lleoliadau dysgu yn y gweithle. Cawsom dros 700 o ymatebion (yr oedd mwy na 300 o'r rhain gan blant a phobl ifanc eu hunain) i'n cais am dystiolaeth. Buom hefyd yn cysylltu ag ystod eang o unigolion a sefydliadau â diddordeb ledled Cymru.

Roedd y negeseuon o'r gwaith ymgysylltu hwn yn hynod o gyson ac roeddent yn llywio casgliadau ac argymhellion yr Adolygiad. Nodwyd cryfderau pwysig, gan gynnwys yr ymrwymiad i degwch a chynhwysiant, y Cyfnod Sylfaen a phwysigrwydd diwylliant ac iaith Cymru, yn ogystal â llawer o enghreifftiau o ymarfer lleol rhagorol. Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth hefyd yn tynnu sylw at angen anorfod am newid sylfaenol. Roedd y naill ddiwygiad ar ôl y llall yn y cwricwlwm ers 1988 wedi arwain at drefniadau a oedd wedi'u gorlwytho, yn rhy ragnodol, yn ddiangen o gymhleth ac yn ei chael yn anodd i fod yn berthnasol. Yn yr un modd, roedd y trefniadau ar gyfer asesu ac atebolrwydd wedi plethu i'w gilydd mewn ffyrdd nad ydynt yn llesol ac a oedd yn gwanychu gallu y naill broses a'r llall i wasanaethu dysgu gan blant.

Yn aml, roedd yn ymddangos fod yr ymarfer ardderchog sy'n bodoli ledled Cymru yn digwydd er gwaethaf, ac nid oherwydd, y cwricwlwm. Cafwyd awydd clir am newid sylfaenol er mwyn creu'r amodau i ysgolion ac ymarferwyr ganolbwyntio'n fwy uniongyrchol ar addysgu a dysgu, ac i baratoi plant a phobl ifanc yng Nghymru i ffynnu a llwyddo mewn byd sy'n newid yn gyflym. Felly, roedd yr Adolygiad hefyd yn ystyried y graddau yr oedd y cwricwlwm mewn sefyllfa dda i fodloni'r anghenion a'r pwysau sy'n codi o newidiadau pellgyrhaeddol yn y gymdeithas a'r economi. Mae byd 1988 yn wahanol iawn i'r byd heddiw, heb ystyried yfory. Yn gynyddol, mae newidiadau yn y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio yn gofyn am y gallu i ddysgu drwy gydol oes ac i gysylltu'r dysgu hwnnw a'i gymhwyso'n greadigol mewn sefyllfaoedd go iawn, annarogan.

Mae 'Dyfodol Llwyddiannus' yn gwneud cyfanswm o 68 o argymhellion - amcan y rhain yw hybu dysgu gwell a safonau uwch.

Roedd y dystiolaeth yn dangos yn hynod gyson beth oedd y deilliannau yr oedd pobl yn awyddus i'w cael ar gyfer eu plant a'u pobl ifanc. Felly, roedd yr Adolygiad yn gallu datblygu pedwar diben cwricwlwm sydd â'r bwriad o adlewyrchu'r dyheadau hyn mewn ffyrdd sy'n ceisio crisialu gweledigaeth o'r dysgwr sydd wedi'i addysgu'n dda wrth gwblhau ei addysg statudol.

Caiff y pedwar diben cwricwlwm eu hamlinellu a'u datblygu yn yr adroddiad. Maent yn nodi y bydd ein holl blant a'n pobl ifanc:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a'u gwaith
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd
  • yn unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Y dasg nesaf i'r Adolygiad oedd nodi strwythur ar gyfer y cwricwlwm newydd a fyddai'n ategu ac yn gosod sylfaen gadarn i'r dibenion hyn. Dylai'r strwythur hybu dilyniant wrth ddysgu, gan sefydlu sylfeini cadarn ac yn amlygu'r angen am gysylltiadau ymysg yr hyn sydd wedi'i ddysgu, a'i gymhwyso. O gofio hyn, rwyf wedi argymell y dylid seilio strwythur y cwricwlwm ar chwe Maes Dysgu a Phrofiad fel trefnyddion ar gyfer yr ystod oedran gyfan rhwng 3 ac 16 oed. Y Meysydd Dysgu a Phrofiad arfaethedig yw:

  • y Celfyddydau mynegiannol
  • Iechyd a lles
  • Dyniaethau
  • Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • Mathemateg a rhifedd
  • Gwyddoniaeth a thechnoleg

Mae'r Adolygiad hefyd yn cynnig y dylai llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fod yn gyfrifoldeb i bob athro/athrawes. Mae'r ddadl o blaid llythrennedd a rhifedd eisoes wedi'i chyflwyno. Mae'r ddadl o blaid trafod 'cymhwysedd digidol' mewn ffordd debyg i lythrennedd a rhifedd wedi dod yn fwyfwy perswadiol, wrth i'r byd digidol gydblethu â'r ffordd rydym yn byw, yn gweithio ac yn cymdeithasu. Nid opsiwn yw bod yn ddigidol gymwys, ond anghenraid i'r dysgwyr yn yr unfed ganrif ar hugain.

Fy marn hefyd yw y dylid gweld y cyfnod o addysg statudol (o leiaf), yn gyfanwaith cydlynol a dilynol. Dros amser, mae'r strwythur presennol o gyfnodau a chyfnodau allweddol wedi mynd yn dameidiog, ac mae wedi creu pwyntiau trosglwyddo ychwanegol diangen. Felly, rwyf yn cynnig ffocws cryfach ar ddyfnder a dilyniant mewn dysgu drwy greu Camau Cynnydd, a blwch o dair blynedd rhyngddynt, ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad.

Mae'r Adolygiad yn argymell y dylai'r holl blant a phobl ifanc barhau i ddysgu'r Gymraeg hyd at 16 oed, ond gyda mwy o ffocws ar allu plant a phobl ifanc i gyfathrebu'n hyderus yn y Gymraeg mewn cyd-destunau pob dydd, gan gynnwys y gweithle. Dylai ysgolion cyfrwng-Cymraeg weithredu fel canolbwynt ar gyfer y Gymraeg, gan ddarparu cymorth i athrawon ac ymarferwyr eraill mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Beirniadwyd y trefniadau asesu presennol gan lawer yn ystod yr adolygiad ar y sail eu bod yn ddryslyd, yn rhy gymhleth ac yn drwm o dan ddylanwad y broses atebolrwydd. Felly, rwyf yn argymell dull symlach o asesu o dan drefniadau sy'n rhoi blaenoriaeth i asesu gan athrawon ar gyfer cefnogi dilyniant wrth ddysgu.

Mae goblygiadau mawr yn fy argymhellion o ran datblygiad proffesiynol athrawon ac ymarferwyr eraill. Mae Bargen Newydd Llywodraeth Cymru i'r Gweithlu Addysg a'r argymhellion yn adolygiad yr Athro John Furlong ar hyfforddiant athrawon yn amserol iawn o ran ymateb i nifer o'r materion hyn. Yn ogystal, bydd angen hefyd am weithredu mwy uniongyrchol i feithrin hyder a chapasiti athrawon ac arweinwyr ysgol wrth fwrw ymlaen ag argymhellion yr Adolygiad.

Mae fy nghynigion yn cadarnhau pwysigrwydd atebolrwydd ond dylai'r mecanweithiau a ddefnyddir gyfrannu'n adeiladol at y dysgu gan blant a phobl ifanc ac yn hybu canolbwyntio ar y dibenion cwricwlwm gan eu gweld yn nodau i'r dysgu hwnnw. Yn enwedig, mae'n rhaid i ni warchod rhag yr ystumiadau a allai godi pe bai dibenion asesu ac atebolrwydd yn cael eu cymysgu.

Yn eu cyfanrwydd, bwriad yr argymhellion yn fy adroddiad yw hybu dyfodol llwyddiannus i'r holl blant a phobl ifanc yng Nghymru. Maent yn gosod agenda uchelgeisiol, trwyadl a heriol. O'r cyfan rwyf wedi'i weld, a'r holl bobl rwyf wedi cael y fraint o gwrdd â hwy, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth eich bod mewn sefyllfa dda i weithredu'r dyheadau uchel hyn.

I ddangos ei ymrwymiad i weithio yn y ffordd newydd hon, lansiodd y Gweinidog y Sgwrs Fawr ar y weledigaeth ar gyfer dyfodol addysg mewn ysgolion yn fy adroddiad. Hoffwn eich annog chi, eich cydweithwyr, eich disgyblion, eich rhieni ac eraill i barhau i ymwneud â'r Adolygiad drwy gymryd rhan yn y sgwrs hon, a thrwy ymateb i'r holiadur ar fy adroddiad. Bydd yr ymatebion hyn yn llywio ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i'r adroddiad a gyhoeddir yn yr haf - felly mae'n bwysig eich bod yn cymryd rhan!

Dolen gyswllt i'r Sgwrs fawr: http://gov.wales/topics/educationandskills/great-debate/?skip=1&lang=cy 

Graham Donaldson
Mawrth 2015

 Roedd Graham yn athro ysgol uwchradd yn yr Alban cyn iddo ddod yn gloriannydd ar gyfer corff cwricwlwm cenedlaethol yr Alban.

Yn 1983, ymunodd ag Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg (HMIE). Fel pennaeth y sefydliad, fe'i harweiniodd drwy ddiwygio strwythurol mawr wrth iddo ddod yn asiantaeth weithredol i Lywodraeth yr Alban.

Bu iddo hefyd ddiwygio'r dull o arolygu'n helaeth, gan gyfuno atebolrwydd â hunanwerthuso a meithrin gallu. Yn ogystal â gweithio fel y prif gynghorydd proffesiynol i Weinidogion ar bolisi addysg, cymerodd Graham rôl flaenllaw yn bersonol mewn nifer o raglenni diwygio pwysig, ac roedd yn ddylanwadol yn rhaglen diwygio cwricwlwm Llywodraeth yr Alban, sef 'Curriculum for Excellence'.

Ar ôl ymddeol o HMIE, gofynnwyd iddo gan y llywodraeth ymgymryd ag adolygiad personol o addysg athrawon yn yr Alban. Gwnaeth ei adroddiad, 'Teaching Scotland's Future', a gyhoeddwyd yn 2011, 50 o argymhellion, y mae pob un wedi'i dderbyn gan y llywodraeth, ac mae rhaglen weithredu bwysig bellach ar waith. Mae'r adroddiad hefyd wedi denu cryn dipyn o ddiddordeb mewn gwledydd eraill.

Mae Graham yn aelod o Bwyllgor Addysg Cymdeithas Frenhinol Caeredin, ac yn un o Gyfarwyddwyr Grŵp Goodison yn yr Alban. Mae wedi sefydlu proffil rhyngwladol sylweddol drwy ddarlithio'n helaeth, gweithio fel arbenigwr rhyngwladol ar gyfer OECD, cynghori llywodraethau a sefydliadau anllywodraethol ac arwain y sefydliad arolygu rhyngwladol fel ei Lywydd.

Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ym Mhrifysgol Glasgow, lle mae'n Athro Anrhydeddus yng Ngholeg y Gwyddorau Cymdeithasol.

Penodwyd Graham yn Gydymaith Urdd y Baddon yn 2010 gan ei Mawrhydi'r Frenhines.

 

Ruth Rowe - Entrepreneuriaeth mewn addysg bellach

'Os yw'r entrepreneur yn amharu ac yn anhrefnu' (Drucker), beth yw rôl yr addysgwr entrepreneuriaeth ym maes Addysg Bellach?'

Ruth roweYn ‘Innovation and Entrepreneurship: Practice and Principles ’ daw'r awdur Peter Drucker i'r casgliad bod 'yr entrepreneur yn amharu ac yn anhrefnu.' Os ydy hyn yn wir, onid hwyluso a hybu amharu ac anhrefn ddylai rôl yr addysgwr entrepreneuriaeth o fewn addysg bellach (AB) fod? Yn wir, fel delfryd ymddwyn cadarnhaol, oni ddylent fod yn weithredol yn eu gwaith drwy geisio amharu â'r status quo? Os felly, sut mae hynny'n cyd-fynd â diffiniad Llywodraeth Cymru o addysg entrepreneuriaeth a sut fyddai'r holl benaethiaid a chyfranddeiliaid yn teimlo am yr hafog mentrus yma?

Yn ôl strategaeth entrepreneuriaeth Ieuenctid (YES- 2004):

'Mae addysg entrepreneuriaeth yn golygu datblygu agweddau a sgiliau pobl ifanc i'w helpu i wireddu eu potensial eu hunain. Mae hefyd yn golygu meddu ar yr awch i wireddu syniadau a chyfleon, gan alluogi pobl ifanc i fod yn fwy cadarnhaol, blaenweithgar a llwyddiannus yn eu hagwedd at fywyd a gwaith.'

Yn ddiau, pwy all ddadlau yn erbyn y syniad grymus hwn sy'n fy nghodi o'r gwely bob bore? Mae'n siŵr y byddai Drucker wedi cymeradwyo bwriad Strategaeth YES i 'ddatblygu a meithrin pobl ifanc hunanddigonol, mentrus ym mhob cymuned ar draws Cymru, fydd yn cyfrannu'n gadarnhaol i lwyddiant economaidd a chymdeithasol? Oni fyddai?

Os felly, y cwestiwn sy'n fy niddori i ar wahân i 'A fydda' i byth yn ateb unrhyw un o fy nghwestiynau fy hun?' yw, 'a ddylid rhoi'r awen lawn i amharu a diffyg trefn er mwyn cyflawni'r nod nobl uchod? 'Wel ydw, mi fyddaf yn cael fy atebion cyn bo hir, a 'dylid' yw fy ateb i'r ail gwestiwn.

Datblygu sgiliau ac agweddau pobl ifanc er mwyn eu paratoi ar gyfer bywyd a gyrfa lawn yw raison d'être AB. Datganiad o fwriad Coleg Pen-y-bont yw 'Byddwch oll y gallwch fod' sy'n dangos yn glir ei fod yn ganolog iawn i bopeth y mae'r Coleg yn ei wneud ac nid wyf yn cofio unrhyw un o fy nghydweithwyr yn awgrymu bod creu hinsawdd o aflonyddwch ac anhrefn yn angenrheidiol i ddysgwyr ffynnu. Yr hyn mae fy nghydweithwyr yn ei wneud yn wych wrth addysgu sgiliau galwedigaethol yw sicrhau eu bod ar flaen y gad yn eu meysydd pwnc penodol, gan gofleidio a dod yn gwbl gyfarwydd â syniadau newydd a thechnolegau cynyddol sy'n deillio o 'anhwylder' Drucker neu 'ddinistrio creadigol' Shumpeter.

Mae angen i bob dysgwr ddeall beth yw entrepreneuriaeth a pham ei fod yn hanfodol ar gyfer twf economaidd cryf a chynaliadwy, a gall y lefel yma o ddealltwriaeth gael ei hymgorffori yn llwyddiannus iawn yn y mwyafrif helaeth o feysydd pwnc galwedigaethol. Er mwyn meithrin talent entrepreneuraidd eginol ymhlith y torwyr rheol a'r rhai sy'n cymryd risg, sef entrepreneuriaid y dyfodol. Fodd bynnag, credaf fod yn rhaid i addysgwyr entrepreneuriaeth fynd gam ymhellach. Mae angen cofleidio newid a sicrhau bod arloesedd yn cael ei drafod a'i ddadansoddi yn yr ystafell ddosbarth yn wych, ond nid yw'n ddigon os ydym am i'n dysgwyr i greu newid ar gyfer eu hunain, eu cymunedau a'r byd ehangach. Er mwyn gwneud pobl ifanc sydd â gwir ddiddordeb mewn rhedeg eu busnes eu hunain un diwrnod, rhaid rhoi'r cyfle iddynt i gael gwybod pa mor fentrus ac entrepreneuraidd y gallant fod mewn ffordd mor ddilys â phosibl.

Nid yw darllen am wneud omled neu wylio fideo o gogydd enwog yn ei wneud ar YouTube yr un fath â thorri'r wyau eich hun. Bydd methu i'w gael allan o'r badell ffrio mewn un darn yn dysgu llawer mwy am beth i beidio â'i wneud y tro nesaf na dim ond darllen y rysáit eto neu wrando ar rywun yn egluro'r wyddoniaeth o goginio wyau chi. Yn yr un modd, ni ddylai addysg entrepreneuriaeth ymwneud â theithiau entrepreneuraidd pobl eraill yn unig - er y gall hynny fod yn werthfawr - mae'n rhaid iddo gynnwys elfen o ddysgu trwy brofiad i fod yn wirioneddol bwerus gyda'r posibilrwydd o newid bywydau.

Ni fydd unrhyw beth yn dweud mwy wrthych am ansawdd a gwerthadwyedd cynnyrch neu wasanaeth na'r ymdrech i geisio ei werthu i chi. Bydd prynwyr posibl yn hapus i dynnu sylw os yw'n rhy fawr, yn rhy fach, yn rhy rhad, yn rhy ddrud, heb oeri digon neu'n anaddas ar eu cyfer. Byddant hefyd yn dweud wrthych os mae'n wych ond mewn gwirionedd, dim ond pan maent yn gwario eu harian prin i brynu rhywbeth yr ydych yn gwybod y gallech chi fod ar eich ennill.

Mae darparu cyfleoedd i ddysgwyr greu a gwerthu cynnyrch neu arddangos eu gwaith celf neu sgiliau masnachol posibl eraill yn hanfodol, yn fy marn i, oherwydd dim ond drwy wneud rhywbeth 'go iawn' y gallant wir ddeall sut mae'n teimlo i fod yn entrepreneur. Mae entrepreneuriaid yn risgio llawer iawn mwy nag arian bob tro y byddant yn dod ag arloesedd i farchnad, maent mewn perygl o niweidio eu perthnasau ac enw da, chwalu eu gobeithion a'u breuddwydion, a hyd yn oed gwawd (Rhywun yn cofio'r Sinclair C5?) Mae cytuno bod hunangred a dycnwch yn hanfodol i unrhyw entrepreneur yn hollbwysig ac nid yw'r un peth â gorfod ei ddarganfod drosoch eich hun, boed ar raddfa lai neu mewn amgylchedd cefnogol i ddechrau.

Felly, ble mae hynny'n ein gadael ni o ran rôl yr addysgwr entrepreneuriaeth? Cyn i mi dynnu unrhyw gasgliadau pendant roeddwn yn meddwl y byddai'n syniad da i ofyn i rai o gyn-ddysgwyr Coleg Penybont sydd bellach yn rhedeg eu busnesau eu hunain am yr hyn y maent yn credu y dylai addysgwr entrepreneuriaeth ardderchog ei wneud neu fod.

Daeth un i'r casgliad y dylai addysgwr entrepreneuriaeth effeithiol fod yn 'gadarnhaol, yn greadigol ac yn angerddol ac yn gwybod sut i ddod â'r gorau allan o bobl.' Dywedodd un arall yn gryno y dylent 'arwain darpar-entrepreneuriaid yn y cyfeiriad cywir gydag amynedd, caredigrwydd a gonestrwydd.'

Roedd y trydydd yr un mor ddiamwys a huawdl gan ddweud bod, yn ei farn ef, 'Mae angen addysgwr entrepreneuriaeth dda fod â'r gallu i arfogi dysgwyr gyda'r sgiliau a'r cymhelliant sydd eu hangen arnynt i hyrwyddo arloesedd.' Roedd hefyd o'r farn mai rhan bwysicaf y rôl yw 'gofyn y cwestiynau caled ac weithiau lletchwith heb i chi (entrepreneur uchelgeisiol) golli golwg ar y darlun ehangach.'

Efallai eich bod wedi sylwi nad yw'r un o'r safbwyntiau diddorol hyn hyd yn oed yn cyfeirio at bwysigrwydd dysgu drwy brofiad neu 'fasnachu prawf,' felly, a ydy hynny'n golygu ei fod yn gwbl amherthnasol wedi'r cyfan? Gan fy mod yn adnabod y tri pherson ifanc yn dda iawn, ac wedi bod yno pan maent wedi dweud 'ie' i bob cyfle a gynigiwyd iddynt, yr wyf yn siŵr nad yw hynny'n wir. Mewn gwirionedd, rwyf yn meddwl bod y tri ohonynt yn gweld dysgu trwy brofiad fel rhan mor annatod o'u haddysg entrepreneuraidd fel ei fod yn cael ei ystyried yn hanfodol. O ganlyniad, mae'r hyn yr amlygwyd ganddynt fel rôl yr addysgwr entrepreneuriaeth yn seiliedig yn bennaf ar y sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen i gefnogi dysgwyr pan eu bod yn 'masnachu ar brawf.' Mae'r ffaith y bydd y person hwnnw hefyd yn darparu ac yn hyrwyddo cyfleoedd perthnasol yn rhy amlwg i sôn amdano.

Beth yw rôl yr addysgwr entrepreneuriaeth mewn AB, felly? Yn fy marn i, ei rôl yw ysbrydoli a hwyluso cymaint o anhrefn ac aflonyddwch ag sy'n bosibl trwy fod yn gadarnhaol, creadigol, amyneddgar, caredig ac angerddol er mwyn hyrwyddo arloesedd.

Digon hawdd pan fyddwch yn ei rhoi hi fel yna!

Ruth Rowe B.A. (Hons), M.A., F.I.E.E.P.

Bywgraffiad

Cyn dod yn Swyddog Entrepreneuriaeth yng Ngholeg Pen-y-bont ym mis Medi 2010, Ruth Rowe yn gynghorydd busnes achrededig SFEDI arobryn am saith mlynedd yn dilyn amrywiaeth o rolau rheoli a rheoli prosiectau yn y sectorau manwerthu elusennol. Mae'n angerddol am DPC a daeth yn gymrawd o Raglen Addysgwyr Entrepreneuriaeth Rhyngwladol (IEEP) yn 2012 a chwblhaodd ei MA mewn Addysg Mentergarwch ac Entrepreneuriaeth y flwyddyn ganlynol. Enillodd Ruth 'Gwobr Pencampwr AB' yn 2014 am ei gwaith yng Ngholeg Pen-y-bont ac unwaith eto yn 2015 fel rhan o'r tîm a greodd y prosiect 'Cyfnewid Lleoedd'

Pan nad yw'n ymgysylltu dysgwyr ag entrepreneuriaeth, mae Ruth wrth ei bodd yn darllen, coginio, addurno a siopa. Mae hi hefyd yn un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Fairwood, un o lywodraethwyr Coleg Pen-y-bont ac mae wedi bod yn adolygydd papur newydd rheolaidd ar gyfer Good Morning Wales er 2010.