Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter link@ewc_cga | yt icon mono dark YouTube

meeting
Sôn
Sôn

Tegwen Ellis - Yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth mewn Addysg: Dechreuad newydd i Gymru?

Tegwen EllisDwi wedi bod yn Brifathro yng Nghymru am bron i 20 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw dwi wedi gweld, yn eu tro, 5 Gweinidog Addysg gwahanol, sef Jane Davidson, Jane Hutt AC, Leighton Andrews, Huw Lewis a Kirsty Williams AC. Er bod yna lawer wedi newid o fewn addysg yng Nghymru yn ystod y cyfnod yma gyda chyflwyniad y Cyfnod Sylfaen, Bagloriaeth Cymru, diddymu TASau a Phrofion Cenedlaethol i enwi ond ychydig o’r mentrau sydd wedi eu cyflwyno ers datganoli, nid oes llawer iawn wedi digwydd i ddatblygu a chefnogi arweinyddiaeth yng Nghymru... hyd yma.

Wedi dweud hynny, mae'n deg dweud y bu rhai ymdrechion i gefnogi arweinyddiaeth a dylem sôn am y Rhaglen Sefydlu Broffesiynol i Benaethiaid a gyflwynwyd yn ystod gwasanaeth Jane Davidson ynghyd â’r Rhaglen Arweinyddiaeth i Benaethiaid mewn Swydd – y ddau yn cynnig cefnogaeth i Benaethiaid newydd a phresennol, ond serch hynny, mae’r rhaglenni yma wedi hen fynd. Fodd bynnag, mae cyflwyno'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP), sydd wedi'i gynllunio i baratoi athrawon ar gyfer y rôl heriol o brifathrawiaeth, wedi goroesi, a daeth yn orfodol yng Nghymru yn 2004. Er bod y CPCP yn parhau i fod yn ofyniad gorfodol, dim ond ychydig o gefnogaeth sydd ar gael i benaethiaid presennol neu i’r rheini sydd yn cael eu hunain yn arwain ysgolion mewn yn absenoldeb pennaeth parhaol.

Yn anffodus, derbynnir llai a llai o ymgeiswyr ar gyfer rolau arweinyddiaeth mewn ysgolion ledled Cymru ac mae hyn yn bryder mawr yn arbennig ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion uwchradd sydd fel petaent yn dioddef fwyaf. Mae rhai uwch arweinwyr o fewn yr ysgol yn mwynhau eu rôl ac nid ydynt eisiau’r pwysau o ddod yn Brifathrawon yn enwedig pan y gallant weld y lefelau cynyddol o atebolrwydd personol a'r pwysau cynyddol ar arweinwyr ysgol. Mae yna rhai dirprwyon nad ydynt yn mynd ymlaen i ddal swydd fel Prifathro hyd yn oed ar ôl cwblhau'r CPCP. Felly sut ydym am fynd i'r afael â hyn? Sut ydym yn cymell ein athrawon i fod yn arweinwyr uchelgeisiol? Sut ydym yn annog ein hathrawon i ddod yn 'arweinwyr ysbrydoledig' fel yr anelir amdano yn 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl’ (2017), a sut ydym am sicrhau bod athrawon ac arweinwyr yn aros yn y proffesiwn ac yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a'u cefnogi? Wel o'r diwedd, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod angen i rywbeth gael ei wneud ac mae Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn sicr wedi mynd i'r afael â’r mater yma wrth gyflwyno’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (AGAA). Mae hyn yn gam yn y cyfeiriad cywir.

Ers mis Gorffennaf 2016, pan gyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn rhoi blaenoriaeth i greu a sefydlu AGAA, mae llawer wedi digwydd. Mae grŵp gorchwyl a gorffen sy'n gweithredu fel bwrdd cysgodol wedi cael ei greu ac yn cael ei gadeirio gan cyn Brif Arolygydd Estyn Ann Keane. Mae'r grŵp yma hefyd yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor y Gweithlu Addysg, Estyn, yr undebau dysgu ac arbenigwyr fel Mick Waters, sydd wedi helpu i lunio'r Safonau Proffesiynol newydd ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru. Mae’r bwrdd wedi gofyn am safbwyntiau a barn rhanddeiliaid eraill o Gymru ben baladr mewn nifer o sioeau teithiol ac ar hyn o bryd yn cynnal gweithdai pellach i sicrhau bod y bwrdd cysgodol yn deall beth yn union mae’r proffesiwn yn ei geisio o’r Academi. Mae Ann Keane wedi ei gwneud hi’n gwbl glir bod y bwrdd cysgodol yn ‘dymuno parhau i gyd-weithio gyda'r holl bartneriaid a rhanddeiliaid er mwyn ein bod yn creu AGAA a fydd yn gweithio ar gyfer, a gyda chi, i helpu i gynnal a gwella ansawdd y profiadau a’r canlyniadau ar gyfer dysgwyr ar draws Gymru’.

Bu i adolygiad addysg yng Nghymru gan Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac Estyn (yr arolygwr addysg a hyfforddiant yng Nghymru) bwysleisio bod angen cynyddu capasiti ymhob lefel o arweinyddiaeth er mwyn galluogi i ddysgwyr i gyrraedd eu llawn potensial. Felly sut y mae’r Academi yn bwriadu cyflawni hyn? Mae angen i ni edrych ar wledydd eraill i weld sut y mae nhw’n datblygu a chefnogi arweinyddiaeth. Mae angen i ni weld yr hyn y maent yn ei wneud a gwerthuso gwahanol fodelau i ystyried os ydynt yn addas ar gyfer cyd-destun Cymreig. Mae angen i ni ystyried beth y mae tystiolaeth rhyngwladol mewn perthynas ag arweinyddiaeth yn ei ddweud? Sut y mae’r gwledydd hynny sy'n perfformio'n dda yn PISA yn cefnogi a datblygu arweinyddiaeth? A beth am y strwythurau arweinyddiaeth mewn gwledydd eraill lle mae addysg wedi ei ddatganoli?
Ym mis Mehefin eleni fe ymwelais ag Ontario yng Nghanada ar daith astudio ac roeddwn yn ffodus iawn i siarad a gwrando ar nifer o weithwyr proffesiynol ynghylch eu system addysg, ac roedd hi’n amlwg bod arweinyddiaeth yn cael ei gydnabod fel sbardun wrth ddylanwadu ar ddysgu myfyrwyr. Mae eu fframwaith (Fframwaith Arweinyddiaeth Ontario) wedi ei ddylunio i hwyluso, hyrwyddo, adnabod, arwain a gweithredu dysgu proffesiynol drwy gydol y broses. Mae yna fodel glir ar gyfer arweinyddiaeth o fewn y proffesiwn sy'n caniatáu ar gyfer datblygu gyrfa. Maent yn canolbwyntio ar bum dimensiwn o arweinyddiaeth effeithiol, ond maent hefyd yn cydnabod bod angen arweinwyr da ac effeithiol sydd yn barod ar gyfer newid a bod cynyddu capasiti er mwyn cyflawni hyn yn hanfodol. Mae cynyddu capasiti yn broblem yn Ontario hefyd. Mae Gweinyddiaeth Addysg Ontario yn parhau i werthuso’r maes yma o’u gwaith ac yn cydnabod bod y Fframwaith Arweinyddiaeth yn parhau i esblygu o ganlyniad i ymchwil parhaol yn Ontario ac awdurdodaethau rhyngwladol, a hefyd ymgynghoriadau parhaol gyda thrawsdoriad o randdeiliaid. Nid yw hyn yn annhebyg i Gymru. Ond mae un peth yn sicr, mae Ontario yn gosod pwyslais mawr ar ddatblygiad proffesiynol parhaol a gyda’n Safonau Proffesiynol newydd ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, gallwn sicrhau bod Cymru yn gwneud yr un peth.

Yn eu hadroddiad ar Sut y Mae’r Systemau Addysg Mwyaf Amgen yn y Byd yn Cadw i Wella, mae McKinsey and Company yn datgan bod y systemau mwyaf llwyddiannus yn meithrin datblygiad y genhedlaeth nesaf o arweinyddiaeth system o'r tu fewn. Mae eu hadroddiad yn cyfeirio at sut mae 20 ysgol o wahanol rannau o’r byd wedi cofrestru cynnydd myfyriwr sylweddol, parhaus ac eang. Felly efallai mai hyn yw’r ateb ar gyfer Cymru, i sicrhau bod arweinwyr yn deall eu rôl fel 'arweinwyr system' gyda phwyslais cryf ar gydweithio, gwella drwy gydweithio gyda chyfoedion, ac arloesi. Mae'n sicr yn destun ystyriaeth i Gymru.

Gan ddefnyddio fy ngwybodaeth o'r ymweliad i Ontario a fy mhrofiad helaeth fel pennaeth ysgol, rwy’n awyddus i roi hyn ar waith er mwyn ceisio canfod ffyrdd o gefnogi arweinwyr y dyfodol. Ers mis Hydref 2017, dwi wedi ymuno gyda’r Bwrdd Cysgodol fel cynrychiolydd rhanddeiliaid ac rwy’n croesawu’r cyfle i gymryd rhan yng ngwaith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Mae’r weledigaeth a'r gwerthoedd sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru a’i hymrwymiad i adnabod, cefnogi ac ysbrydoli arweinwyr ar draws y system (Cenhadaeth ein Cenedl) yn eu hun yn arloesol. Mae’n amser cyffrous ar gyfer Cymru wrth i ddiwygiad y cwricwlwm, y safonau proffesiynol newydd a’r AGAA gael eu datblygu. Dyma ein cyfle i arwain y ffordd yn yr arena ryngwladol wrth i’n harweinwyr ysbrydoledig gyd-weithio, wedi eu hymrwymo i godi safonau a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer pawb.

Tegwen Ellis

Mae Tegwen Ellis wedi bod yn bennaeth ar Ysgol Cynwyd Sant, Maesteg ers 19 mlynedd. Yn dilyn arolygiad Estyn ym 2016 nodwyd ei harweinyddiaeth yn ‘ flaengar ac arloesol....sy’n sichau ei bod yn rhannu ei gweledigaeth a’u hathroniaeth yn llwyddiannus’. Mae Cynwyd Sant yn ysgol arloesol dysgu proffesiynol, ysgol arloesol cwricwlwm ac hefyd ysgol arweiniol greadigol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae Tegwen yn gadeirydd ar Ffederasiwn Penaethiaid Cymraeg Consortiwm Canolbarth y De, yn arolygydd cymheiriad gydag Estyn, yn aelod o weithgor arweinyddiaeth yr Athrofa Y Drindod Dewi Sant ac ers mis Hydref yn aelod o fwrdd cysgodol yr Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol. Mae hi’n angerddol ynglŷn â darparu profiadau celfyddydol a diwylliannol i blant a phobl ifanc ac yn 2017 roedd hi’n Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Eisteddfod Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái .

Helen Prosser - Y wefr o ddysgu oedolion

Gyda nod Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, Helen Prosser o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg sy’n esbonio rôl tiwtoriaid Cymraeg i oedolion wrth geisio cyrraedd y targed. Darllenwch fwy am gynlluniau’r Llywodraeth yma.

Helen ProsserRwyf yn fy nghyfrif fy hun yn ffodus iawn o fod wedi cael treulio fy ngyrfa yn dysgu Cymraeg i oedolion.  Ac er fy mod bellach yn gweithio mewn swydd strategol, mynnaf gadw’r cysylltiad uniongyrchol yna â’r dysgu, a hynny am reswm hunanol iawn, sef bod yr oedolion y caf y fraint i’w dysgu yn cyfoethogi fy mywyd.

Mae camu i ddosbarth o oedolion ar ddechrau eu taith ddysgu yn brofiad diddorol – gallwch fentro bod canran uchel o’r bobl yn y dosbarth yn teimlo’n nerfus neu’n betrusgar, a hynny am fyrdd o resymau – heb fwynhau dyddiau ysgol, ofn methu am fod y cysyniad o ddysgu iaith newydd yn anodd, neu efallai yn poeni am gwrdd â phobl newydd.  Yn aml iawn, mae drych o amrywiaeth ein cymdeithas yn eistedd o flaen tiwtor.  Ond yr hyn sy’n braf yw bod yr unigolion hynny, am y cyfnod y maen nhw yn y dosbarth, i gyd yn gyfwerth a gwaith y tiwtor yw sicrhau bod pob un yn gwneud cynnydd.

Felly, beth sy’n bwysig mewn tiwtor Cymraeg i oedolion?  Wrth gwrdd â darpar diwtoriaid, yr ateb a geir amlaf yw brwdfrydedd.  Ydy, wrth gwrs bod brwdfrydedd yn hanfodol ond mae rhywun yn cymryd hynny’n ganiataol.  Dyw dysgu iaith ddim yn digwydd ar hap i oedolion, a rhaid i bob tiwtor sylweddoli hynny.  Beth bynnag fo’r dull mae’r tiwtor yn ei ddefnyddio i gyrraedd ei nod o drosglwyddo iaith yn effeithiol, mae angen i bob cam yn y wers fod yn fwriadus ac wedi’i gynllunio’n ofalus.  Ac mae cryn fantais hefyd i ni fel tiwtoriaid os ydyn ni’n egluro wrth yr oedolion yn ein dosbarthiadau pam yr ydym yn dewis gwneud gwahanol weithgareddau ac ymarferion.

A beth am gywiro?  Mae wedi mynd yn dipyn o ffasiwn i beidio â chael ein cywiro am wneud camgymeriadau.  Ond rwyf eto i ddod ar draws dysgwr sy ddim am gael ei gywiro – ond bod amser a lle ar gyfer hynny wrth gwrs.  Achos un o’r gwefrau i’r tiwtor Cymraeg yw clywed dysgwyr yn dod i siarad a sgwrsio yn yr iaith.

Gwefr arall yw defnyddio’r un adnoddau dysgu creiddiol ond cael profiad dysgu hollol wahanol, a hynny oherwydd y bobl yn y dosbarth.  Gyda’r pwyslais ar ddysgu siarad a rhannu profiadau, down i adnabod ein cynulleidfa’n dda iawn ac mae eu hanesion a’u bywydau’n llywio llawer iawn o gynnwys y gwersi.

Gadewch i fi eich cyflwyno i ddwy o’r bobl ryfeddol hyn.  Cwrddais â Julie Macmillan pan ymunodd â’r Cwrs Dwys (tri bore’r wythnos) ym Mhrifysgol De Cymru.  Mae Julie’n byw yn Nhynewydd ym mhen ucha’r Rhondda Fawr a phan gwrddais â hi roedd hi’n gweithio yn swyddfa Cyllid y Wlad yng Nghaerdydd.  Roedd hi’n cael dod i’r dosbarth Cymraeg yn ystod oriau gwaith ond nid oedd yn cael ei rhyddhau – roedd yn rhaid iddi barhau i weithio wythnos lawn.  Sut daeth hi i ben?  Yn fuan iawn, daeth Julie i sylweddoli nad wrth fynychu dosbarth yn unig y daw rhywun yn rhugl.  Mae’r dosbarth yn elfen bwysig yn y broses ond mae rhoi’r iaith ar waith yn bwysicach.  Felly dechreuodd Julie wirfoddoli yn ysgol ei phlant a’i rhoi ei hun mewn sefyllfaoedd heriol.  Aeth Julie yn ei blaen i ennill cystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn’, er iddi gymryd cryn berswâd i’w chael i gystadlu.  Dyw hi ddim yn gweithio yng Nghyllid y Wlad bellach, mae hi’n diwtor Cymraeg i oedolion yn y Rhondda ac yn ysbrydoli cannoedd o oedolion.

A chyn tewi, un arall o’r cannoedd o’r bobl ryfeddol y cefais y fraint o’u dysgu.  Dechreuodd Anna ar yr un Cwrs Dwys â Julie cwta bedair blynedd yn ôl.  Merch o Fwlgaria yw hi a daeth i’r dosbarth gan ddisgwyl dod yn rhugl.  Dyma un o’r problemau i ni yng Nghymru – dyw dysgu iaith ddim yn weithgaredd normal.  Mae’n gwbl normal ar gyfandir Ewrop.  Gweithiodd Anna’n galed ac fel Julie, roedd hi’n gwybod bod angen iddi ymarfer.  Y ffordd y gwnaeth Anna hyn oedd trwy fynychu cymaint â phosib o weithgareddau fel boreau coffi a dramâu Cymraeg.  A phedair blynedd yn ddiweddarach, mae Anna’n gweithio fel cyfieithydd dan hyfforddiant (ie, yn Gymraeg, ddim Bwlgareg).  Newid byd!

Bydda i bob amser yn ddiolchgar i’r diweddar Chris Rees am roi’r cyfle i fi ddysgu ar gwrs preswyl yn Llanbedr Pont Steffan pan oeddwn yn fyfyrwraig yn Aberystwyth.  Ar y cwrs hwnnw y gwelais gymaint o fraint yw cael sefyll o flaen pobl yn trosglwyddo iaith.  Mae’r ffaith mai’r Gymraeg yw’r iaith honno’n fonws ac mae’r cyfle i helpu pobl i wella a newid eu bywydau yn sgil dysgu’r iaith yn wefr.  Beth amdani?

Helen Prosser

Helen Prosser yw Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Caroline Daly ac Emmajane Milton - Mae mentora athrawon yn anoddach nag mae llawer o bobl yn ei feddwl!

EjMMae mentora athrawon yn anoddach nag mae llawer o bobl yn ei feddwl! Mae mentora gan ymarferwyr profiadol yn ganolog i ddatblygiad athrawon newydd. Mae hyn wedi cael ei gydnabod ers amser maith ac wedi denu llawer o sylw yn y blynyddoedd diwethaf, er enghraifft trwy argymhellion yr Athro Donaldson ar gyfer mentora yn nilyniant cynnar athrawon (Donaldson, 2011) ac yng nghyhoeddiad y Fargen Newydd gan Lywodraeth Cymru ar Hyfforddi a Mentora (Llywodraeth Cymru, 2015). Fodd bynnag, mae tystiolaeth sylweddol bod yna lawer o anawsterau wrth sicrhau mentora effeithiol gan fentoriaid mewn ysgolion. Un broblem a nodwyd yw ‘anwiredd’i – y duedd i athrawon newydd gymhwyso (ANG) gelu problemau maent yn eu cael oherwydd bod arnynt ofn canlyniadau negyddol . . . un arall yw ‘mentora beirniadol’ – yr anawsterau i fentoriaid sefydlu wrth wahaniaethu rhwng eu rôl cefnogi a’u rôl asesu, sydd yn aml yn arwain at sgyrsiau mentoriaid yn cynnwys gormod o bryderon sy’n ymwneud ag asesu.

Problem arall gyda mentora mewn ysgolion yw’r nod mynych o sefydlu athrawon newydd yn unol â’r ‘ffordd mae pethau’n cael eu gwneud yma’ fel eu bod yn ffitio i’r trefnau arferol sy’n bodoli eisoes yn yr ysgol. Gall hyn fod ar draul eu helpu i werthuso eu haddysgu yn feirniadol o safbwyntiau ehangach a gall achosi iddynt osgoi’r risgiau angenrheidiol sy’n helpu i ddatblygu arferion effeithiol. Yn wyneb heriau o’r mathau hyn, mae potensial i fentora allanol – a gyflawnir gan ymarferwyr nad ydyn nhw’n cael eu cyflogi yn yr ysgol – ddarparu profiad amgen o ran datblygiad proffesiynol. Gall mentoriaid allanol alluogi athrawon newydd i drafod eu pryderon yn agored a darparu cyfleoedd i edrych ar arferion eraill, wedi’u llywio gan wybodaeth helaeth am ddysgu ac addysgu mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae hyn yn cynnwys helpu athrawon newydd i feddwl yn feirniadol am arferion y maen nhw’n dod i gysylltiad â nhw ac y disgwylir iddyn nhw eu mabwysiadu yn eu hamgylchedd presennol, fel y byddan nhw’n dod yn weithwyr proffesiynol â gwybodaeth helaeth sy’n gallu meddwl yn annibynnol. Mae hyn yn hanfodol wrth ddatblygu gweithlu sy’n feirniadol wybodus ac yn gallu dod yn ‘llythrennog mewn ymchwil’.

Caroline DalyRoedd mentora allanol yn un o strategaethau allweddol y Radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol (MYA), rhaglen achrededig lefel gradd meistr mewn dysgu proffesiynol i athrawon newydd yng Nghymru. Nod mentora allanol oedd goresgyn problemau ac anghysonderau mewn mentora mewn ysgolion trwy gynnig cyfleoedd cyfoethog o ran datblygiad proffesiynol gyda’r nod o wella deilliannau i ddysgwyr. Sefydlwyd rhwydwaith cenedlaethol yr MYA o hyd at 150 o fentoriaid rhwng 2012 a 2017 i gynorthwyo â dysgu a datblygiad ANG ledled Cymru yn nhair blynedd gyntaf eu gyrfa. Roedd gan y mentoriaid hyn rôl ddeuol, sef cynorthwyo ANG i gyrraedd y Safonau Addysgu Proffesiynol (SAP) a’u helpu i ddatblygu meddwl beirniadol ac ymarfer sy’n cael ei lywio gan ymchwil y gellid ei achredu ar lefel gradd meistr.

O gofio’r uchelgeisiau hyn, roedd yr heriau i fentoriaid allu darparu cymorth o’r math hwn dros gyfnod tair blynedd yn sylweddol. Darparwyd rhaglen ddi-dor o ddysgu a datblygu i fentoriaid trwy gydol y cylch mentora tair blynedd. Mae ein hastudiaeth ddiweddar (Daly a Milton, 2017) wedi disgrifio’r nodweddion allweddol oedd yn sylfaen i’r gwaith o hyfforddi mentoriaid allanol i gyflawni’r nodau hyn. Mae’r canfyddiadau’n cadarnhau y dylai hyfforddiant i fentoriaid fod yn orfodol a’i fod yn galw am ymrwymiad ac ymgysylltiad di-dor sy’n sicrhau dysgu proffesiynol parhaus i garfan sydd eisoes yn arbenigwyr. O’r herwydd dylai recriwtio mentoriaid fod yn broses drwyadl. Roedd y mentoriaid allanol yn cynnwys athrawon ystafell ddosbarth profiadol, penaethiaid, ymgynghorwyr awdurdodau lleol, addysgwyr athrawon ac athrawon prifysgol, gan alluogi llawer iawn o gyfnewid a her rhwng gweithwyr proffesiynol. Mae wyth egwyddor yn dod i’r amlwg o’r astudiaeth ar gyfer diwallu anghenion mentoriaid o ran dysgu a datblygiad er mwyn cynyddu, cymaint ag sy’n bosibl, eu gallu i gynorthwyo athrawon newydd i gyflawni eu potensial. Mae’r egwyddorion yn galluogi mentoriaid i ‘fentora ei gilydd’ fel un o’r agweddau hanfodol ar eu dysgu proffesiynol, i gyrraedd nodau uchelgeisiol ar gyfer datblygiad athrawon a all gyfrannu at wella ysgolion. Mae’r egwyddorion yn berthnasol yn helaeth a gallan nhw lywio’r gwaith o ddatblygu rhaglenni datblygu mentoriaid.

Wyth egwyddor ar gyfer dysgu a datblygiad mentoriaid

  1. Harneisiwch yr amrywiaeth profiad ymysg mentoriaid – nerth cymuned dysgu mentoriaid yw amrywiaeth cefndiroedd ac arbenigedd ei haelodau – mae gwahaniaeth yn hanfodol.

  2. Deialog yw sylfaen dysgu a datblygiad mentoriaid, i alluogi mentoriaid i siarad am eu profiadau, eu cyfnewid, ac edrych arnyn nhw a’u dehongli’n fanwl er mwyn dysgu ohonyn nhw.

  3. Mae cynhwysiant yn hanfodol – nid yw unrhyw fentoriaid yn cael eu hystyried yn uwch eu statws nag eraill, ystyrir bod arbenigedd yn gymhleth ac yn amlochrog.

  4. Problemeiddiwch gysyniad ‘cysondeb’ mewn sgyrsiau rhwng mentoriaid a mentoreion – mae pob achos o fentora’n unigryw ac mae angen ‘mentora yn y foment’.

  5. Hybwch ymddiddan sy’n rhoi pethau ben i waered ymysg mentoriaid trwy ‘siarad llawn risg’ er mwyn ymarfer sgyrsiau ag athrawon newydd sy’n cyfreithloni bod yn feirniadol ac yn meithrin hyder.

  6. Gochelwch rhag datrysiadau syml ac ‘atebion parod’ i ddysgu a gwella – mae ymarfer effeithiol yn gymhleth ac yn unigryw i gyd-destunau athrawon a dysgwyr – nid yw’r un peth yn gwneud y tro i bawb.

  7. Mae dysgu a datblygiad mentoriaid yn waith caled ac mae’n cymryd amser i feithrin ymddiriedaeth ac i ymestyn cydweithredu ag eraill.

  8. Cwestiynwch ‘yr hyn sy’n gweithio’ – heriwch arferion addysgu arferol a chanolbwyntiwch ar ddysgu’r disgyblion fel sylfaen i’r gwaith o gynorthwyo athrawon newydd i ddatblygu.

Cynigir yr egwyddorion hyn er mwyn herio’r amodau a’r cyfyngiadau sydd mor aml yn llesteirio cyfleoedd i athrawon newydd ddatblygu fel ymarferwyr ardderchog. Mae eu hangen er mwyn datblygu mentoriaid fel y gallan nhw feddu ar bersbectifau cwestiynu sy’n troi ben i wared y rhagdybiaethau a gymerir yn ganiataol ynghylch ymarfer addysgu sy’n gallu rhwystro arloesi gwirioneddol.

Cafodd yr ymchwil ei chyhoeddi ym mis Awst 2017 yn yr International Journal of Mentoring and Training in Education dan y teitl '‘External mentoring for new teachers: mentor learning for a change agenda’.

Caroline Daly ac Emmajane Milton
Cydgyfarwyddwyr MYA

Daly, C. and Milton, E., (2017) "External mentoring for new teachers: mentor learning for a change agenda", International Journal of Mentoring and Coaching in Education, Vol. 6 Issue: 3, pp.178-195, https://doi.org/10.1108/IJMCE-03-2017-0021

Y Parch. Dr Philip Manghan - Ydy dimensiwn ysbrydol mewn addysg yn bwysig?

PhillipMangham Am 150 mlynedd, bu’r Eglwys Gatholig yn gweithio mewn partneriaeth â’r Wladwriaeth i ddarparu addysg yng Nghymru, a heddiw, ar y cyd â’r Eglwys yng Nghymru, mae’n cyfrif am 15% o ysgolion y wlad. Ar hyn o bryd, mae 71 o ysgolion cynradd Catholig a 16 o ysgolion uwchradd, wedi’u lleoli ledled Cymru, gyda chyfanswm poblogaeth yr ysgolion o dros 29,000 a gweithlu addysgu o dros 2,500.

Mae’r bartneriaeth wedi bod yn ffynhonnell cyfoeth mawr yng nghymdeithas Cymru, wrth i’r Eglwys Gatholig a, heddiw, Llywodraeth Cymru, weithio ar y cyd i adeiladu cymdeithas gyfiawn, gynhwysol a chydlynus. Un o brif swyddogaethau ysgol Gatholig, fel unrhyw gyfleuster addysgol yng Nghymru, yw gwasanaethu cymdeithas. Mae’r Eglwys Gatholig yn darparu ysgolion a cholegau sy'n cyfrannu at greu cymdeithas sy’n gynhwysol, yn gyfiawn, yn addysgedig, yn fedrus ac yn ddiwylliedig. Mae ysgolion Catholig ledled Cymru yn gwasanaethu amrywiaeth eang o gymunedau: rhai gwledig, rhai trefol, ac yn ôl y Crynhoad o Ddata Cyfrifiad 2016 ar gyfer Ysgolion a Cholegau yng Nghymru, daw dros 25% o ddisgyblion mewn ysgolion Catholig o gymunedau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru , o gymharu â 10% yn genedlaethol (tud. 20).

minority ethnic pupils maintained schools 2011 16

Un agwedd ar natur a phwrpas ysgol Gatholig yw’r ymrwymiad i ddatblygu’r plentyn cyfan, gan sicrhau y bydd pob plentyn yn cael addysg gyfannol sy’n cynnwys pob agwedd ar eu haddysg academaidd, foesol ac ysbrydol. Am y rheswm hwn, mae’r Eglwys Gatholig yn cefnogi’n llawn ddatblygiad y cwricwlwm cenedlaethol Dyfodol Llwyddiannus, gan gydnabod ynddo ddealltwriaeth gydlynol a chyfannol o’r ffordd y mae pob agwedd ar wybodaeth a dealltwriaeth ddynol yn hanfodol gysylltiedig â’i gilydd a’r ffordd y mae plant yn dysgu orau trwy brofiad. Dibenion craidd y cwricwlwm newydd yng Nghymru yw y bydd plant yn ein hysgolion:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau;
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
  • yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a’r byd; ac
  • yn unigolion iach, hyderus, yn barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr y gymdeithas.

Mae gweledigaeth o’r fath yn cydlynu’n dda â dealltwriaeth yr Eglwys Gatholig o’r ‘Cwricwlwm Catholig’ ar gyfer ysgolion Catholig yng Nghymru.

Yr hyn sy’n ganolog i’r ddealltwriaeth Gatholig o’r natur ddynol, yw’r dimensiwn ysbrydol. Ar hyn o bryd, yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, mae’r gofyniad i bob ysgol ddarparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad moesol, ysbrydol a diwylliannol wedi’i gynnwys o fewn y meysydd cwricwlwm ‘Addysg Bersonol a Chymdeithasol’ ac ‘Addysg Grefyddol’. Cyfeirir at y dimensiwn ysbrydol hwn yn ‘Nibenion Craidd’ Dyfodol Llwyddiannus, o ran datblygu ‘Meysydd Profiad Dysgu’.

Mae ymchwilwyr addysgol blaenllaw megis Dr Marian de Souza ((2016), Spirituality in education in a global pluralised world, Llundain ac Efrog Newydd: Routledge); David Hay ((2006), Something there: The biology of the human spirit, Llundain: Dartman, Longman & Todd Ltd), a llawer o rai eraill (gweler, er enghraifft, International Journal of Children’s Spirituality, wedi dadlau bod ysbrydolrwydd yn elfen gynhenid yn y person dynol, ymhlyg yn nimensiwn perthynol bywyd. I de Souza, fe’i canfyddir ‘yn y cysylltiad dwfn â’r Arall’ sydd gan berson. ‘I rai,’ ysgrifenna, ‘mae’r rhyng-gysylltiad hwn wedi’i seilio yn y byd dynol, ond i eraill, mae’n ymestyn y tu hwnt i fyd nad yw’n ddynol lle y gallent ddod ar draws realiti trosgynnol, a ddaw â phrofiad o uniaeth; hynny yw, bod yn rhan o’r cyfan’ (M de Souza, The Spiritual Dimension of Education: Addressing Issues of Identity and Belonging’ yn Discourse and Communication for Sustainable Education, cyfrol 7, rhif 1, tud. 127).

Fel y noda de Souza, mae hyn yn dechrau gyda chydnabyddiaeth bod ‘y plentyn yn fod amlddimensiynol; yn unigolyn sydd â meddwl rhesymegol sy’n ystyried, a meddwl emosiynol sy’n teimlo a meddwl ysbrydol sy’n sythweled, yn dychmygu, yn holi ac yn creu. Ac mae’r meddwl amlddimensiynol hwn wedi’i amwisgo yn y corff ffisegol sy’n galluogi’r plentyn unigol i ymgysylltu, i gyfryngu ac i ryngweithio â’r byd o’u cwmpas trwy eu canfyddiadau a’u synhwyrau.’ (De Souza, 2016, tud. 123). Os yw plentyn yn unigolyn rhesymegol, emosiynol ac ysbrydol, rhaid i bob un o’r tair elfen hyn fod yn bresennol mewn darpariaeth addysgol effeithiol: ‘Mae’r rhyng-gysylltiad y gellir ei weld yn ymateb unigolyn i Arall yn cael ei adlewyrchu yn lefelau’r empathi y mae’r unigol yn eu profi tuag at Arall a gellir mynegi hyn trwy lawenydd, hapusrwydd, heddwch, cyfiawnder, rhyddid, rhyddhad, parch, rhyfeddod, doethineb, tosturi ac yn y blaen. Mae twf ysbrydol yn digwydd pan fydd profiadau cadarnhaol o ryng-gysylltiad yn cael eu meithrin’ (ibid).

Yn ogystal, mae Patricia A. Alexander, Michael J. Furlong, Rich Gilman, E. Scott Huebner yn Measuring and Promoting Hope in Schoolchildren (2014, tud. 39); a Leslie Gutman ac Ingrid Schoon yn The impact of non-cognitive skills on outcomes for young people and others (2014), ymhlith eraill, wedi archwilio sut mae elfennau o’r hyn y gellir ei ganfod mewn datblygiad ysbrydol yn cael effaith gadarnhaol ar gyflawniad academaidd personol ac ar gydlyniant cymunedol.

Mae ystyr ‘dimensiwn ysbrydol’ y person dynol, a ‘datblygiad ysbrydol’ mewn addysg, yn faes trafod a dadlau cyfoethog ac yn un sy’n cyfoethogi’n fawr iawn. Mae datblygiad ysbrydol ein pobl ifanc, yn fy marn i, yn rhan hanfodol o’u datblygiad ac yn gyfrifoldeb yr ysgol gyfan, pa fath bynnag o ysgol ydyw. Efallai y byddai’n werth ystyried a allai dimensiwn a datblygiad ‘ysbrydol’ y person dynol fod yr un mor bwysig o bosibl â’u datblygiad deallusol, corfforol, emosiynol a chymdeithasol.

Y Parch. Dr Philip Manghan
Y Gwasanaeth Addysg Gatholig, Cynghorydd ar gyfer Cymru

Mae'r Parch Dr Philip Manghan wedi addysgu mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru ers dros ddeng mlynedd ar hugain, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth yr ysgol uwchradd Gatholig ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn 2015, daeth Philip yn Gynghorydd cyntaf Cymru ar gyfer y Gwasanaeth Addysg Gatholig (CES). Y CES yw asiantaeth addysg Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr. Cynhadledd yr Esgobion yw cynulliad parhaol esgobion Catholig Cymru a Lloegr ac mae'r CES, fel asiantaeth o Gynhadledd yr Esgobion, yn gyfrifol am hyrwyddo a sicrhau addysg ar ran yr esgobion. Mae Philip, fel swyddog o'r CES, yn cynrychioli'r sector Catholig yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda Llywodraeth Cymru a chydag asiantaethau addysg genedlaethol eraill.

Dr. Phil Dixon - Pa fath o gi ddylai CGA fod?

Y diwrnod o’r blaen, roeddwn yn sôn wrth ffrind am ddigwyddiad gan Gyngor y Gweithlu Addysg yr oeddwn yn ei fynychu. Cyfeiriais at y cyngor fel ‘EWC’. Gan mai Sais ydyw, edrychodd braidd yn ddryslyd ac yna, gan ei fod yn ymwybodol o fy niddordebau eithaf ecsentrig, gofynnodd: ‘Ewc’  - ai rhyw fath o gi yw hwnna?’

Dechreuais feddwl. Pe byddem yn cymharu Cyngor y Gweithlu â chi, sut fath o gi fyddai? Sut byddem yn ei ddisgrifio yng nghyd-destun cŵn? Pa fath o nodweddion ddylai fod yn eu harddangos? Nawr, dwi’n meddwl y byddai rhai eisiau i’r cyngor fod yn rhyw fath o Alsation. Dylai fod yn gi gwarchod, yn effro o hyd er mwyn gwarchod y cyhoedd, ac wedi ymroi i gael gwared ar athrawon a staff gwael mewn ysgolion a cholegau. Efallai y byddai eraill yn dymuno i’r cyngor fod yn Rottweiler yn gweithio ar ran y proffesiwn, yn cnoi unrhyw un sy’n mentro dod yn agos ato neu’n ei feirniadu mewn unrhyw ffordd. Eto, efallai y byddai eraill yn dibrisio’r cyngor a pheidio â’i weld fel unrhyw beth ond pwdl Llywodraeth Cymru, yn hapus i eistedd ar gôl y Prif Weinidog a gwneud triciau yn ôl y galw.

Nawr, mae yna rywfaint o wirionedd yn y rhain i gyd. Un o brif bwrpasau’r cyngor yw cynnal safonau, un arall yw hyrwyddo’r proffesiwn, ac o dro i dro caiff wahoddiad i wneud tasgau penodol ar ran Llywodraeth Cymru. Ond wrth i'r cyngor dyfu o fod yn gi bach i fod yn oedolyn, ni ddylai gael ei rwystro gan y nodau craidd hyn. 

Efallai mai cwestiwn gwell fyddai gofyn pa fath o gi ddylai'r Cyngor fod. Mai sawl opsiwn y dylem eu hystyried. Ar adegau, mae angen iddo fod yn gi defaid, yn cadw athrawon a staff gyda’i gilydd o fewn y maes safonau ac ymddygiad proffesiynol. Mae gwedd gymunedol i unrhyw broffesiwn wedi’r cwbl. I’r rheini sydd yn mynd ar grwydr, mae angen iddo fod yn Adargi Melyn sy’n dod â nhw nôl at y pac. Ar adegau eraill, bydd rhaid iddo fod fel Jack Russell, daeargi sy’n barod i ddatgelu’r gwir ynglŷn â phynciau sydd o bryder i’r proffesiwn, fel recriwtio a chadw. Gwnaeth waith ardderchog yn y maes hwn yn ddiweddar gyda llaw, pan ddangosodd na ddylem boeni’n ormodol na llaesu dwylo yn yr achos hwn.

Nawr ac yn y man, efallai y bydd angen iddo fod yn Chihuahua a pharhau i gyfarth ar endidau sydd lawer yn fwy nag ef, fel y llywodraeth a rhieni, er mwyn tynnu sylw at broblemau y mae angen eu datrys. Ac os nad yw cyfarth yn ddigon, yna fel Doberman, gallai fod adegau prin pan fydd angen iddo ddangos ei ddannedd mewn amddiffyniad o bopeth sy’n dda o ran addysg.

Mae ganddo waith i’w wneud ar adegau ac felly bydd angen iddo fod yn rhyw fath o hysgi yn tynnu sled y proffesiwn trwy fannau gwahanol. Ni ddylid byth ei weld yn gi ar ei ben ei hun fel blaidd, ond yn gi hela ac yn rhan o dîm gydag asiantaethau eraill ym myd addysg a phobl ifanc. Mae hi’n gyfnod o galedi ac felly mae’n rhaid iddo fod yn filgi heb amheuaeth, yn slic a chwim a heb fodfedd o fraster.

O ystyried yr hyn y mae ei aelodau yn ei wneud, dylai fod yn dipyn o Labrador, yn dda gyda phlant a heb fodd o’i ddrysu na’i aflonyddu’n hawdd. Ni all fforddio bod yn gi bach. Mae’n ysgwyddo cyfrifoldebau mawr felly byddai corff fel y Great Dane yn dda. Ar adegau, bydd rhaid iddo ddarparu cysur ac, er na fydd yn dod â brandi drwy’r eira, dylai’n sicr fod fel St Bernard a rhoi anogaeth a lluniaeth i’w aelodau. Ar adegau, efallai bod angen iddo fod yn ddeniadol fel Dalmatian, gan annog pobl i ddangos diddordeb ynddo.

O fwrw golwg yn ôl ar y darn hwn, efallai mai’r peth mwyaf diogel i’w ddweud yw bod angen i’r cyngor fod yn gyfuniad o’r holl nodweddion hyn a mwy. Mae’n unigryw yn yr ynysoedd hyn os nad yn y byd. Mae’n sefydliad nad oes ei debyg ar gael. Yn yr ystyr hwnnw, mae’n debyg i hoff gi’r wlad: y mwngrel. Does dim byd yn fawreddog amdano ac nid yw o bedigri arbennig. Mae’n eithaf cyffredin a chynnil. Mae’n gymysgedd, gobeithio, o’r holl bethau a ddisgrifiwyd uchod. Efallai ein bod yn dyfalu sut y bydd yn tyfu a datblygu. Ond rhaid i ni obeithio y bydd, ymhen amser, yn cael ei drysori gan y staff, ei garu gan blant, ei barchu gan y llywodraeth ac y bydd gwledydd eraill yn eiddigeddus ohono.

Yr hyn fydd yn allweddol yn hyn i gyd fydd yr ateb y byddwn yn gallu ei roi i gwestiwn arall: pwy sydd berchen ar EWC? Ymhen amser, o raid, yr ateb fydd y proffesiwn ei hun. Nhw yw’r rhai sy’n rhoi bwyd a dŵr iddo. Ond fel maen nhw’n ei ddweud, does mo’r fath beth â chŵn gwael, dim ond perchnogion gwael a rhaid iddyn nhw ddod yn gyfrifol am Gyngor y Gweithlu Addysg a’i ymddygiad. 

Dr. Phil Dixon

Cyn-gyfarwyddwr ATL yw Phil Dixon ac awdur y gyfrol ‘Testing Times’.