
Robin Hughes - OMB! A oes yna athro yn y tŷ?
Pan fydd rhywun yn dweud bod ‘addysgu yn broffesiwn’, prin iawn yw'r bobl a fyddai'n meddwl bod hynny'n beth rhyfedd i'w ddweud.
Mae'n bosibl y byddai mwy o bobl yn meddwl ei bod yn rhyfedd dweud rhywbeth tebyg i, 'ymarferwyr proffesiynol mewn amgylchedd dysgu', gan fod y jargon yn chwithig. Ond mae'n annhebygol y byddai'r hyn a ddywedir yn cael ei herio.
Beth yw ystyr 'bod yn broffesiynol', yn ein barn ni?
Meini prawf ac ymddygiadau proffesiynol
Mae bod yn weithiwr proffesiynol – yn feddyg, yn nyrs, yn blismon – yn golygu bod yn rhan o grŵp o weithwyr sy'n cael ei gydnabod am fod yn rhan o sector sy'n cael ei reoleiddio, sydd â gofynion mynediad, a lle mae yna oruchwyliaeth swyddogol.
Mae'r diffiniad hwn yn berthnasol i athrawon a nifer cynyddol o ymarferwyr eraill sy'n ymwneud â dysgwyr.
Ond mae bod yn broffesiynol yn golygu mwy na bodloni cyfres o feini prawf clinigol, amhersonol.
Mae gweithwyr proffesiynol yn ysbrydoli disgwyliadau ymhlith eraill. Mae arferion a safonau ymddygiad yn creu disgwyliadau.
Mae diwylliant unrhyw broffesiwn yn bwysig o ran y disgwyliadau sydd gan bobl o'r gweithwyr proffesiynol.
Ymddygiadau proffesiynol
Cefais lawdriniaeth ar fy mhen-glin o dan anaesthetig cyffredinol mewn theatr llawdriniaeth ryw 17 mlynedd yn ôl. Rhoddais fy hun yn llwyr yn nwylo'r llawfeddygon, yr anaesthetegyddion a'r nyrsys.
Pe byddwn i neu chi yn cael llawdriniaeth yn yr un theatr honno yfory, sut fydden ni’n teimlo pe byddai'r gweithwyr proffesiynol yn gwneud yr un pethau, yn yr un ffordd, ac o dan yr un amodau, ag yr oeddent flynyddoedd yn flaenorol?
Byddem yn cael ein synnu, ac yn teimlo'n bryderus.
Rydym yn disgwyl bod gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd yn diweddaru eu sgiliau a'u gwybodaeth yn barhaus. Rydym hefyd yn disgwyl eu bod yn cael eu hannog a'u cefnogi i wneud hynny gan y system y maent yn gweithredu ynddi.
Athrawon
Mae safonau ‘proffesiynol’ newydd ar gyfer athrawon yng Nghymru yn nodi'n glir fod addysgeg wych o'r pwys mwyaf, a bod yr "athro yn sicrhau’n gyson y deilliannau gorau i ddysgwyr drwy fireinio dulliau addysgu’n raddol, dylanwadu ar ddysgwyr a hybu dysgu."
Yn yr adran ar ddysgu proffesiynol, mae’r canlynol yn cael ei ddatgan: "Mae’r athro yn cynyddu ei wybodaeth, ei sgiliau a’i ddealltwriaeth yn gyson a gall ddangos sut mae myfyrio a bod yn barod i gael ei herio a’i gefnogi yn gallu cyfrannu at ddysgu proffesiynol er mwyn datblygu addysgeg yn raddol."
Annog ymddygiadau proffesiynol
Mae'r safonau proffesiynol ar gyfer athrawon yn cael eu hanfon i ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae hyn yn ddatblygiad pellach yn y gwaith o gyflawni 'bargen newydd' i athrawon o ran dysgu proffesiynol, bargen a lansiwyd yn 2014 gan y Gweinidog Addysg ar y pryd, Huw Lewis.
Mae'r Coleg Addysgu Siartredig, sydd wedi ymrwymo i'r Siarter Brenhinol, yn ehangu fel corff proffesiynol dan arweiniad yr aelodau ar gyfer athrawon.
Un o'r pethau cyntaf a wnaed gan y Coleg oedd ymrwymo i ddatganiad ar y cyd â chyrff meddygol a phlismona proffesiynol. Mae'r datganiad yn mynegi:
“Evidence of what works and what doesn’t has become, through formal trial and error across all professions and public services, a foundation of professional practice ... Therefore, medical Royal Colleges, the College of Policing and the Chartered College of Teaching as leaders of our professions, declare that our institutions expect all members to take full account of evidence and evidence-informed guidance in their daily decisions and advice to individuals and organisations.”
Mae dros 12,000 o'r rhai sydd wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg wedi defnyddio'r offeryn Pasbort Dysgu Proffesiynol ar-lein, rhad ac am ddim – rhan o'r 'Fargen Newydd' – i gofnodi eu dysgu proffesiynol ffurfiol ac anffurfiol. Mae nifer y defnyddwyr yn cynyddu fesul 500 y mis.
Mae'r cyfeiriad yn eglur.
Her
Ond mae yna rwystrau ar hyd y ffordd.
Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cymru ei adroddiad ar yr ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon. Cyflwynwyd tystiolaeth gan lawer o sefydliadau. Gwnaethpwyd 25 o argymhellion gan y pwyllgor, a oedd yn gysylltiedig â phedwar canlyniad.
Mae newidiadau sylweddol o ran y cwricwlwm a dulliau asesu, pwysau cyllidebol, yn ogystal â phwysau o ddydd i ddydd, yn ei gwneud hi'n anodd dod o hyd i'r adnoddau a'r amser i gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol; mae hynny'n wir hyd yn oed os ydych yn llwyddo i ddod o hyd i'r hyfforddiant a all wneud gwahaniaeth yn y lle cyntaf.
Canfu arolwg y Pwyllgor o athrawon fod 61% yn anghytuno â'r datganiad bod eu "rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus presennol yn darparu’r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar staff yr ysgol i wneud eu gwaith yn effeithiol."
Mae diwylliant yn bwyta strategaeth i frecwast
Mae yna ddyfyniad enwog iawn yn bodoli, sy'n cael ei briodoli ar gam i'r 'gwrw' rheoli o’r Almaen, Peter Ducker, sef bod "diwylliant yn bwyta strategaeth i frecwast” (“Culture eats strategy for breakfast”). Mae'n awgrymu y bydd yr hyn y mae pobl mewn sefydliad yn ei gredu yn cael mwy o effaith ar y ffordd y maent yn ymddwyn, a'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd, nag unrhyw gynllun strategol (hyd yn oed y rhai da).
Nid yw hyn yn golygu nad yw cynllunio a chymryd camau strwythurol yn bwysig.
Mae ar bob diwylliant angen amgylchedd i dyfu, a gall strategaethau sy'n effeithio ar amgylchedd sefydliad naill ai annog neu rwystro'r ymddygiadau sydd eu hangen.
Os ydym am weld mwy o amser yn cael ei dreulio ar ddysgu proffesiynol, mae angen i ni wneud y cyswllt rhwng dysgu a'r pethau y mae pobl yn eu gwerthfawrogi yn llawer cliriach.
Mae darparu a hwyluso datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon yn helpu i wella deilliannau dysgwyr, yn helpu i ddenu a chadw staff, yn gwella morâl staff, ac yn lleihau'r angen am ymyraethau costus.
Pan fydd y buddion hyn yn cael eu gwireddu, a hynny dro ar ôl tro, bydd arferion da yn ymwreiddio.
Yn rhan o'i dystiolaeth ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor, dywedodd Cyngor y Gweithlu Addysg:
“...without central governance, it is difficult to maintain a CPD system which is robust and responsive enough to meet the challenges of a modern education system...It is also necessary to ensure that there is equality of access/opportunity for all schools/practitioners across consortia areas.”
Mewn sesiynau llafar, dywedodd Cyngor y Gweithlu Addysg fod trefniant monitro cenedlaethol ar gyfer rhaglenni datblygiad proffesiynol yn bosibilrwydd ac yn opsiwn, ac yn rhywbeth a welir mewn nifer o broffesiynau eraill.
Mae yna raglen achredu ar gyfer rhaglenni arweinyddiaeth ysgolion ar waith. Os yw'n briodol ar gyfer arweinwyr ysgolion, pam nad yw'n briodol ar gyfer athrawon?
Er mis Ebrill 2016, mae angen i nyrsys ailddilysu eu cofrestriad gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth bob tair blynedd. Yn rhan o'r broses honno rhaid iddynt gyflwyno tystiolaeth o werth 35 awr o ddatblygiad proffesiynol, gan gynnwys 20 awr o ryngweithio ag un gweithiwr proffesiynol neu ragor.
Mae yna strategaethau a all annog y diwylliannau iawn. Yn ein hysgolion, mae hyn yn golygu annog dysgu ymhlith ein hymarferwyr, yn ogystal ag ymhlith ein myfyrwyr. Dylai diwylliant ar gyfer dysgu proffesiynol sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn wrthsefyll gwyntoedd cryfion.
Robin Hughes
Mae Robin Hughes yn ymgynghorydd addysgiadol sy'n gweithio gydag Eteach, GL Assessment a sefydliadau eraill. Roedd ganddo amryw o rolau mewn corff dyfarnu am dros 15 mlynedd ac mae'n gyn-Ysgrifennydd Cymru ar gyfer y sefydliad sy’n cynrychioli arweinwyr ysgol, ASCL.