
Tim Opie: Lles Emosiynol a Meddyliol a thrawma - Beth yw cyfraniad Gwaith Ieuenctid?
Er ei bod hi’n drueni ei fod wedi dod yn flaenoriaeth genedlaethol, ar hyn o bryd mae ffocws mawr ar les plant a phobl ifanc, yn sgil tystiolaeth gynyddol bod cenhedlaeth o’n pobl ifanc ni’n profi anawsterau wrth ymdopi ag amrywiol heriau eu bywydau.
Mae’n cael ei dderbyn yn gyffredinol fod pobl ifanc heddiw’n profi bywydau llawer mwy cymhleth a chyflym - ac mae disgwyl iddyn nhw ymdopi â nhw - na chenedlaethau’r gorffennol, ac mae dyfodiad diweddar y cyfryngau cymdeithasol yn golygu bod bron popeth sy’n cael ei gofnodi neu ei ysgrifennu ar gael ar unwaith. Gall hyn wrth gwrs gael effaith gadarnhaol neu negyddol a’r allwedd i oresgyn yr ymosodiad anferth hwn ar y synhwyrau a’r dewis eang hwn yw addysg - deall canlyniadau a dysgu sut i wneud dewisiadau gwybodus.
Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod
I rai, mae lefel gyffredinol o arweiniad a chymorth yn ddigon i ddygymod â’r pwysau hwn ar fywyd. I eraill (sy’n profi digwyddiadau mwy difrifol a thrawmatig), mae angen lefelau uwch o gymorth a hyd yn oed ymyraethau therapiwtig. Fel rhan o’r ymateb i hyn, mae’r sector Gwaith Ieuenctid wedi bod yn gweithio’n agos gyda nifer o randdeiliaid ac arbenigwyr eraill er mwyn gwella sgiliau’r gweithlu Gwaith Ieuenctid wrth iddynt gynorthwyo pobl ifanc sydd wedi cael profiadau niweidiol mewn plentyndod (ACE) a thrawma. Ochr yn ochr â’r sector tai ac ysgolion, mae’r Gweithlu Ieuenctid wedi ei bennu gan Cymru Well Wales (mudiad o sefydliadau llawn cymhelliant sydd wedi ymrwymo i weithio gyda’i gilydd heddiw i sicrhau iechyd gwell i bobl Cymru fory) yn sector blaenoriaeth i fynd i’r afael â chodi ymwybyddiaeth a derbyn hyfforddiant gan Ganolfan ACE. Mae’r sector wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chanolfan ACE i gynllunio a chyflwyno hyfforddiant cychwynnol ac, ym mis Hydref, ddigwyddiadau hyfforddi’r hyfforddwr.
Gwella o Drawma
Yn ddiweddar hefyd, mae Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru (PYOG), ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), wedi comisiynu hyfforddiant dau ddiwrnod dwys ar gyfer dros 100 o Weithwyr Ieuenctid awdurdod lleol yn y Trauma Recovery Model, sef ymagwedd sy’n “cyflwyno cyfres o haenau o ymyrraeth sy’n cael eu trefnu yn unol â’r angen o ran datblygiad ac iechyd meddwl”.
Yn sgil hyn, maent wedi datblygu mwy o ymwybyddiaeth o’r dulliau ac ymchwil mwyaf diweddar o ran adnabod ymddygiad a rheoli ymddygiad yn ogystal â lefel uwch o ddealltwriaeth o’r dystiolaeth ddiweddaraf gan wyddorau niwrolegol, yn enwedig datblygiad meddwl plentyn a pherson ifanc a sut y gall trawma effeithio arno. Mae tair agwedd i’r hyfforddiant:
- Mae’r nodwedd ganolog sydd yng nghanol triongl y model yn ymwneud â sut mae’r person ifanc o dan sylw yn ymddwyn.
- Mae’r model hefyd yn tynnu sylw at yr angen datblygiadol sylfaenol a’r...
- Math o ymyrraeth sydd fwyaf addas wrth fynd i’r afael â’r angen o fewn y lleoliad preswyl
Yn yr un modd ag athrawon, mae ymarferwyr Gwaith Ieuenctid ar y ‘llinell flaen’ o ran ymgysylltu â phobl ifanc, gwrando arnyn nhw, eu haddysgo a’u meithrin. Er bod nifer o ddulliau gwerthfawr o ymgysylltu â phobl ifanc yn dod o dan y term cyffredinol Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid, mae gwaith ieuenctid ar gael i bob person ifanc rhwng 11-25 oed a’i brif bwrpas yw:
“galluogi pobl ifanc i ddatblygu’n gyfannol, gan weithio gyda nhw i hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, er mwyn eu galluogi i ddatblygu eu llais, dylanwad a lle mewn cymdeithas a chyrraedd eu llawn botensial.” (Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Ieuenctid).
Mae’n seiliedig ar ymgysylltiad gwirfoddol a chaiff ei gyflwyno trwy ddulliau addysg ffurfiol ac anffurfiol yn ystod y cyfnod o drawsnewid o blentyn i oedolyn.
Hunan-barch, hunan effeithiolrwydd, gwytnwch a thwf emosiynol
Mae gwasanaethau ieuenctid yn gweithredu fel gwasanaeth ataliol pwysig gan yn aml rwystro person ifanc rhag cyrraedd sefyllfa ddifrifol ble bydd angen ymyraethau pellach e.e. pan fydd angen gwasanaethau cymdeithasol, tai, CAMHS, yr heddlu ac ati. Drwy weithio’n agosach gyda pherson ifanc, a’i helpu i gael pen ffordd drwy ei anawsterau a’i brofiadau, bydd yr angen am ymyraethau mwy dwys a drud yn cael eu hosgoi yn aml.
Caiff nifer o alluoedd cymdeithasol, ffactorau gwytnwch a ffactorau hunanreoleiddio eu dysgu wrth weld a gwneud, trwy brofi a thrwy fethu yn ogystal â llwyddo - y gallu i ymdopi â methiant, dod yn ôl yn dalog a dysgu o’r profiad. Mae gwaith ieuenctid nid yn unig yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 11-25 oed i adeiladu ac ailadeiladu agweddau ar eu bywydau, myfyrio a gwerthuso, mae hefyd yn darparu rhaglenni dysgu yn eu rhinweddau eu hunain gan ddefnyddio technegau mewn amgylcheddau cefnogol sy’n cynnig dewis arall i bobl ifanc wrthi iddyn nhw geisio cyflawni eu llawn botensial. “...mae cael cyfleoedd sy’n gadarnhaol yn gymdeithasol i arddangos dewrder - trwy chwaraeon, drama, ymgysylltu dinesig neu gefnogi cyfiawnder cymdeithasol - yn debygol o fod wedi cynyddu effeithiau cadarnhaol yn ystod y cyfnod datblygu (llencynnaidd) hwn. Efallai y bydd profiadau o’r fath nid yn unig yn atal llwybrau gwrthgymdeithasol a hunan-niweidio, ond efallai’n hyrwyddo llwybrau iach a datblygu hunaniaeth yn ogystal.”1
Fodd bynnag, mae nifer o bobl ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau ieuenctid eisoes wedi dadgysylltu oddi wrth wasanethau prif ffrwd ac maent yn aml yn agored i niwed. Mae rhai dan ofal gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) neu’r gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd, efallai bod angen i eraill fod felly ond nid oes ganddyn nhw’r ysgogiad na’r gallu i chwilio am help. Yn ogystal â chynorthwyo pobl ifanc i ddod yn hunangynhaliol ac yn gyd-ddibynnol, mae gweithwyr ieuenctid hefyd yn eiriolwyr cymwys, yn gweithredu er lles gorau’r person ifanc wrth gynorthwyo datblygu sgiliau’r unigolyn hwnnw.
Tim Opie, Swyddog Polisi Dysgu am Oes (Ieuenctid), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru