Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter link@ewc_cga | yt icon mono dark YouTube

meeting
Sôn
Sôn

Cwestiwn Parentkind: beth yw pryderon rhieni am effaith coronafeirws?

Tracey HandleyPan gaeodd ysgolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i helpu arafu ymlediad Coronafeirws (Covid-19), roedd llawer o rieni’n teimlo amrediad o emosiynau. I ddechrau teimlwyd rhyddhad y bydden nhw a’u plant yn gallu hunanynysu a chadw at y cyfyngiadau cymdeithasol a argymhellwyd gan y llywodraeth i ni i gyd. Yma yn Parentkind roedden ni’n llwyr gefnogi cau ysgolion fel cam diogelu angenrheidiol, yn arbennig er mwyn diogelu staff addysgu yr oedd llawer iawn ohonynt eisoes i ffwrdd o’r ysgol oherwydd salwch cyn i’r penderfyniad i gau’r drysau gael ei wneud.

Ond gadawyd pryderon mawr ym meddyliau rhieni. Sut gallan nhw, yn arbennig y rhai hynny sy’n gweithio, ymdopi gartref pan fo angen darparu addysg i’w plant gartref o dan amodau cwarantîn? A beth am y posibilrwydd bod eu plentyn yn mynd i golli tymor academaidd llawn (neu fwy) o ddysgu? Beth am y disgyblion hynny mewn cohortau a oedd i fod i sefyll arholiadau yr haf yma? Sut orau gall rhieni gefnogi dysgu yn y cartref, ac a ydyn nhw’n hyderus i wneud hynny?

Mae’r adeg ddigynsail a hynod bryderus yma wedi peri llawer o heriau ac wedi gofyn i lawer iawn ohonon ni ymdrin â chwestiynau sylfaenol am fywyd teuluol, tywys plant drwy adeg o argyfrwng, a rôl rhieni mewn addysg.

Mae llawer o staff Parentkind yn rhieni ac wedi ymbalfalu gyda’r un cwestiynau. Er mwyn datblygu dealltwriaeth o’r hyn mae rhieni’n mynd drwyddo yn ystod y pandemig hwn, cyhoeddon ni arolwg i’n dilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol i fesur eu hymateb. Cawson ni ein calonogi bod bron i 700 o rieni (691 i gyd) wedi rhannu eu barn gyda ni mewn cwta pum diwrnod, gan gynrychioli 1181 o blant ysgol ar draws y tair gwlad rydyn ni’n gweithredu ynddyn nhw. Mae’r lefel hon o ymgysylltu’n dangos nerth teimladau rhieni. Mae’r canlyniadau wedi rhoi cipolwg i ni o brif bryderon rhieni yn ystod wythnos y cyhoeddiad bod ysgolion yn cau a phan ddaeth y negeseuon ehangach am ‘aros gartref’. Wrth gwrs, mae’r sefyllfa’n newid bob dydd, felly byddwn ni’n holi eto am ymatebion rhieni dros amser ac yn rhannu’r diweddaraf gyda chi. Ond yn y cyfnod cychwynnol ar ôl cyhoeddi cau’r ysgolion, dyma’r hyn a ddywedodd rhieni wrthyn ni:

Ystadegau allweddol

Ar raddfa o 1-10 (lle mae 1 yn golygu nad ydynt yn poeni o gwbl am effaith Coronafeirws ar addysg eu plentyn, a 10 yn golygu eu bod yn pryderu’n ddifrifol), nododd bron chwarter y rhieni (24%) 10/10. Y cyfartaledd ar draws yr holl rieni oedd 6.8/10. Yng Nghymru, y cyfartaledd oedd (6.4/10).

Rhai o brif bryderon rhieni am eu plentyn oedd:

  • syrthio tu ôl neu golli allan ar eu dysgu
  • canslo arholiadau
  • diffyg cymdeithasu
  • iechyd anwyliaid.

Rhai o brif bryderon rhieni amdanyn nhw eu hunain oedd:

  • Ateb ymrwymiadau gwaith
  • Goblygiadau ariannol
  • Yr effaith ar iechyd meddwl a lefelau straen.

Dim ond un o bob deg rhiant (11%) a ddywedodd mai prin, neu ddim effaith y byddai’r argyfwng yn ei chael ar eu bywydau eu hunain tra bod lleiafrif bach (7%) wedi dweud y byddai cau ysgolion yn cael effaith gadarnhaol (gan nodi amser teuluol ac ailgysylltu â’u plant). Roedd llai nag un o bob pum rhiant (19%) yn teimlo’n hyderus iawn i gefnogi dysgu eu plentyn gartref.

 Beth arall ddangosodd ein hymchwil?

Ateb ymrwymiadau gwaith yw prif bryder rhieni am eu dyfodol eu hunain. Pan ofynnwyd am yr effaith y gallai cau ysgolion ei chael ar rieni, yn hytrach na’u plant, soniodd bron hanner y rhieni (49%) am eu gwaith. Roedd hynny mewn perthynas â gorfod cydbwyso gweithio tra’n gofalu am blant, ond roedd pryderon ariannol ac ofni colli eu swyddi hefyd yn themâu cyffredin a nodwyd wrth i bobl roi adborth mewn gofod testun rhydd.

Fodd bynnag, ar yr ochr bositif:

Roedd cyfathrebu rhwng ysgolion a’r cartref wedi bod yn wych. Unwaith iddynt gau, roedd 93% o rieni wedi dweud bod ysgol eu plentyn wedi rhannu manylion trefniadau ar gyfer dysgu gartref yn ystod yr adeg pan fyddai’r ysgolion ar gau. 7% a ddywedodd nad oedd hyn wedi digwydd. O’r 7% hynny, mae’n bosibl bod eu hysgol wedi darparu manylion yn fuan ar ôl iddyn nhw gwblhau ein harolwg.

Am fanylion pellach, gweler dogfen lawn yr Adroddiad Arolwg Rhieni am gau ysgolion a Choronafeirws (Saesneg yn unig).

Byddwn yn monitro barn rhieni’n agos wrth i addysgu plant gartref, hunanynysu, cyfyngiadau cymdeithasol a gweithio gartref (i lawer) ddod yn fwy o arfer cyffredin, a chadwn ni lygad ar y ffordd mae barn rhieni’n newid, os bydd yn newid. Chwiliwch am ddiweddariadau a gwybodaeth bellach yn Parentkind.

 

Tracey Handley

 Tracey Handley yw Pennaeth Parentkind yng Nghymru lle mae hi'n arwain ar ddatblygiad polisi, ymgyrchoedd ac ymchwil.

 

Mae gwneud pawb yn gyfrifol am addysg yn allweddol i hybu cynhyrchedd Cymru

Ffotograff-Ian-Price-Rheolwr-Cyfarwyddwr-CBI-WalesMae hyrwyddo ymgysylltiad rhwng busnes a’r sector addysg yn fwy na rhywbeth braf i’w wneud. Mae’n flaenoriaeth hollbwysig os ydym am wireddu potensial llawn economi Cymru. Mae busnesau’n dweud wrthym bob dydd mai mynediad at bobl a sgiliau yw un o’u pryderon mwyaf, felly mae datblygu cronfa o dalent ar gyfer y dyfodol yn bwysicach nag erioed.

Felly, pwy sy’n gyfrifol am sicrhau bod pobl ifanc yn dysgu’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw a’u cyflogwyr yn y dyfodol? Nid dim ond ysgolion, colegau a phrifysgolion yw’r ateb. Mae gan fusnes rôl allweddol i’w chyflawni hefyd. Mae angen i ni weld cwmnïau’n camu i’r adwy ac yn helpu ein hysgolion a’n darparwyr addysg uwch ac addysg bellach i ddatblygu pobl ifanc a’u paratoi ar gyfer byd gwaith sy’n newid yn gyflym.

Un o’r pethau gorau y gall busnesau ei wneud i helpu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr yw cynnig amrywiaeth o ddewisiadau gyrfaol o ansawdd da iddynt, a’u hysbrydoli gyda phrofiad ymarferol. Ond nid dim ond pobl ifanc sy’n elwa.

Mae cwmnïau’n elwa hefyd trwy ymwreiddio’n ddyfnach mewn cymunedau a chael cyfle i ddod yn gyfarwydd â’r bobl ifanc fwyaf dawnus sydd ar gael yn lleol. Ac ni ddylem anghofio am athrawon, darlithwyr a chynghorwyr gyrfaoedd ychwaith. Sawl un ohonom sydd wedi clywed am wasanaethau gyrfaoedd sydd dan bwysau ac addysgwyr o bob math sy’n gorfod siarad am yrfaoedd nad ydynt yn gyfarwydd iawn â nhw? Mae gan fusnesau’r profiad a’r arbenigedd i roi help llaw.

Ond gorau oll, fe all helpu economi Cymru, oherwydd er bod buddsoddi mewn addysg a sgiliau yn gallu rhoi’r argraff o fynd ‘yn ôl i’r hanfodion’, mae’n un o’r pethau y profwyd ei fod yn hybu cynhyrchedd. Ac rydym ni’n sicr yn gwybod bod angen hwb ar gynhyrchedd ledled Cymru.

Felly, beth mae cwmnïau’n ei wneud nawr? Yn ffodus, yr ateb yw eithaf tipyn. Mae rhai rhaglenni gwych yn cael eu cynnal ledled Cymru sy’n cyflawni ar gyfer busnesau, pobl ifanc ac addysgwyr. Ar lefel ysgolion, mae’r rhain yn aml ar ffurf sgyrsiau mewn ysgolion, profiad gwaith ac ymweliadau safle. Ond i’r rhai mewn colegau a phrifysgolion, mae lleoliadau, cynlluniau hyfforddiant galwedigaethol a phrentisiaethau gwych ar gael.

Gadewch i mi roi un enghraifft i chi mewn ysgol, sef SPTS yng Nghasnewydd a’u gwaith gydag Ysgol Gynradd Sant Julian, sydd mewn ardal lle y gwyddom fod llawer o amddifadedd. Mae SPTS yn ymweld â’r ysgol i siarad am yr hyn maen nhw’n ei wneud a’r mathau o swyddi y gallant eu cynnig, ac yna’n mynd â’r plant i’w cyfleuster lleol lle maen nhw’n gweithgynhyrchu offer cyfalaf ar gyfer y diwydiant lled-ddargludyddion.

Mae mynd â phlant i’r ystafell lân a gwisgo’r siwtiau amddiffynnol yn llawer o hwyl – crwydro o amgylch y safle fel cymeriadau o ffilm gwyddoniaeth ffuglen. Ac nid dim ond y plant sy’n mwynhau’r profiad, mae’r athrawon a staff SPTS yn cymryd rhan hefyd, ar yr un pryd â chreu argraff gadarnhaol o’r hyn y gallai gyrfa ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu ei gynnig.

Un enghraifft yn unig yw honno. Fe allwn i fod wedi sôn yn rhwydd am gynllun Dosbarth Busnes BITC, y fenter Ymrwymiad Caerdydd a gynhelir gan Gyngor Caerdydd neu’r amryw brentisiaethau a rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol gwych ledled y wlad. Er bod gennym ni lawer o enghreifftiau o arfer da iawn, mae angen cysondeb.

Os ydych chi’n cynnal busnes ac eisiau dechrau sefydlu cysylltiadau ffurfiol ag ysgolion neu golegau lleol, i ble rydych chi’n mynd am wybodaeth? Ydych chi’n dechrau siarad â nhw a gobeithio y dewch chi ar draws rhywbeth sy’n gweithio? Ond beth os nad ydych chi’n gwybod beth mae arnyn nhw, neu’r bobl ifanc, ei angen mewn gwirionedd neu sut gallai rhaglen gydweddu â chwricwlwm sydd eisoes wedi’i ymestyn? Oni fyddai’n wych petai ryw fath o ‘siop un stop’ ar gael i chi ar gyfer gwybodaeth a chyngor?

Rwy’n credu y gallwn ni ateb y cwestiynau hynny, ac un o’n hasedau mwyaf yw ein maint. Ydy, mae Cymru’n lle eithaf bach, ond mae hynny’n rhoi’r cyfle i ni fod yn fentrus a rhoi cynnig ar bethau na fyddent yn ymarferol mewn economïau mwy. Beth am i ni ymrwymo i ymgysylltu ar y cyd rhwng busnes ac addysg, dysgu oddi wrth ein gilydd a rhannu arfer gorau?

Byddai ychydig o gydlynu cenedlaethol o gymorth mawr i fusnesau sy’n ceisio cyflawni eu rhwymedigaethau cymdeithasol ac addysgol, yn ogystal â dod o hyd i gyflogeion addawol ar gyfer y dyfodol. Nid breuddwyd amhosibl yw hynny, yn fy marn i. Byddem wrth ein bodd yn gweld asiantaethau Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yn fwy rheolaidd â busnesau, ysgolion, colegau a phrifysgolion i wireddu hynny. Yn CBI, rydym ni’n fwy na pharod i weithredu fel cyfryngwr.

Felly, beth ydw i wir eisiau ei gyfleu am ymgysylltiad rhwng busnes ac addysg? Gall busnesau, ni waeth beth fo’u maint neu eu sector, gael effaith fawr ar fywyd person ifanc a dylent chwarae rôl bwysicach. Felly, os ydych yn credu y gallech chi neu eich busnes helpu i ysbrydoli gweithwyr y dyfodol, peidiwch ag ofni codi’ch llaw. Efallai ein bod ni’n parhau i weithio ar seilwaith gwell ar gyfer ymgysylltu, ond, fel y mae eraill wedi’i ddangos, mae’n bosibl gwneud gwahaniaeth ac mae’r buddion yn enfawr i bawb.

Ian Price

Ian Price yw Rheolwr Gyfarwyddwr CBI Wales, sef llais busnesau yng Nghymru. Decrheuodd ei rôln yn Ionawr 2017 ar ôl 11 mlynedd o fod yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Cymru a de-orllewin Lloegr. 

Sophie Howells Ed Support

Hwyrach bod y rhan fwyaf ohonom yn cydnabod pwysigrwydd diogelu ein hiechyd meddwl a'n llesiant, ond beth mae hyn yn edrych fel mewn gwirionedd?

Fel yr unig elusen yn y DU sy'n gweithio'n benodol i wella iechyd meddwl a llesiant y gweithlu addysg cyfan, rydym yn gwybod bod athrawon ac eraill sy'n gweithio ym maes addysg yn aml yn rhoi eu hunain yn olaf.

Ond eto i gyd, mae ein hiechyd emosiynol o'r pwys pennaf i'n perfformiad a'n gallu i reoli straen, gorbryder neu'r teimlad bod popeth yn ormod.

Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn gweithlu sy'n adrodd lefelau anghymesur o uchel o straen.

Bob blwyddyn mae ein hymgynghorwyr arbenigol yn ymdrin â mwy na 14,000 o achosion ymysg pobl o bob rhan o'r proffesiwn. Y rhai sydd wedi bod yn gweithio ym maes addysg ers llai na phum mlynedd sydd fwyaf tebygol o gysylltu â ni. Datgelwyd yn ein Mynegai Llesiant Athrawon fod y grŵp hwn 38% yn fwy tebygol o gael profiad o broblem iechyd meddwl o'u cymharu â'u cydweithwyr sydd â mwy na chwe blynedd o brofiad.

Mewn amgylchedd lle mae pwysau a lle mae perthnasau'n gyrru popeth, mae straen emosiynol yn gadael ei ôl am mai'r athrawon ieuengaf yn eich plith sydd fwyaf tebygol o adael y proffesiwn.

Mae ein hymgynghorwyr yn clywed gan athrawon a staff cymorth sy'n cysylltu cyn i ddosbarth ddechrau, a hynny am eu bod yn cael pwl o banic. Mae eraill yn ffonio i adrodd am salwch corfforol, oherwydd trallod. Pan fydd pobl yn ffonio ein llinell gymorth, mae bron fel cyfle olaf. Maen nhw'n anobeithio ac fel arfer mae pethau wedi bod yn cynyddu ers peth amser.

Mae angen i ni newid ein perthynas ag iechyd ar draws y sector, a dysgu adnabod y rhybuddion dros ein hunain a cheisio cymorth cyn i ni gyrraedd sefyllfa o argyfwng.

Mewn ystafell ddosbarth bydd rhyngweithgarwch gydag athro nad yw'n cael cefnogaeth ac nad yw'n teimlo'n ymlaciedig neu sy'n isel ei egni yn wahanol iawn i sefyllfa gydag athro sy'n cael cefnogaeth ac sy'n meddu ar ymdeimlad cadarn o hunanymreolaeth broffesiynol a llesiant cadarnhaol, gyda chefnogaeth briodol a hygyrch yn ei lle i bawb.

Felly beth gallwch chi ei wneud dros eich hun?

  • Perthnasau - Fel yn ein bywydau personol, mae'n bwysig creu rhwydwaith cadarnhaol yn y gweithle. Mae Adriane Bethune, athrawes gynradd a sylfaenydd teachappy.co.uk yn cynghori cadw rhyngweithgarwch mor gadarnhaol, mor eglur ac mor uniongyrchol ag sy'n bosibl, boed hynny drwy siarad â chydweithwyr, myfyrwyr, disgyblion neu rieni. Mae bod yn bositif yn symud unrhyw faterion yn eu blaen i raddau helaeth iawn, ac weithiau gall hyn ddarparu egni ffres i sefyllfa negyddol.  
  • Rheoli galwadau - cydnabyddir yn eang bod galwadau'n drwm mewn gweithle addysg. I lawer ohonom ni, nid oes hanner digon o oriau yn y dydd. Mae dysgu dewis y pethau na allwch eu cwblhau yn gallu helpu cydbwyso'r teimlad o fod o dan bwysau cyson. Fel grŵp sy'n eithriadol o agored i niwed, rydym ni am weld gwell cefnogaeth i hyfforddeion ac ANG i ddatblygu eu crebwyll a'u gwytnwch eu hunain.
  • Deallusrwydd emosiynol - Gall datblygu lefel ddyfnach o hunanymwybyddiaeth eich helpu i ffeindio'ch ffordd drwy sefyllfaoedd o straen. Cymerwch foment i feddwl amdanoch chi'ch hun a gofynnwch am adborth wrth bobl rydych yn ymddiried ynddyn nhw: Pryd ydw i ar fy ngorau? Pryd ydw i'n teimlo o dan straen neu'n orbryderus? Oes unrhyw ffactorau neu batrymau cyffredin? Beth sy'n fy egnïo? Beth sy'n fy ymdawelu? Pan fydda i wedi gorflino, beth sy'n fy ymadfer?
  • Ymarfer hunanofal - Pa weithgareddau sy'n ymadferol i chi? Nid peth anghyfrifol yw blaenoriaethu eich llesiant eich hun: buddsoddi ydych chi yn eich gallu i fod yn athro ymlaciedig, hapus a phresennol yfory. Nid rhywbeth 'neis i'w gael' yw hyn; mae'n rhan hanfodol o fod yn weithiwr proffesiynol effeithiol.

Mae'r llinell gymorth gyfrinachol ar gael yn rhad ac am ddim gan Education Support 24/7 i bawb sy'n gweithio ym maes addysg yng Nghymru.

QW logo RGB bigPhilip Blaker - Profi'r Dyfodol

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn gyfle i feddwl yn wahanol am addysg. Wrth i Cymwysterau Cymru lansio ei ymgynghoriad cyhoeddus cyntaf ar gymwysterau i gefnogi'r cwricwlwm, mae'r Prif Weithredwr Philip Blaker yn dweud bod angen y ddarpariaeth gywir ar bobl ifanc 16 oed yfory.

Wrth i gwricwlwm newydd uchelgeisiol Cymru symud yn nes at fod yn realiti, mae'n anorfod y bydd cwestiynau'n codi ynglŷn â sut y bydd y cwricwlwm yn cael ei ddeddfu.

Fel rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol, rydym yn gwybod bod y newid mewn dull a fwriadwyd gan y cwricwlwm yn cynnig cyfle i ailystyried sut rydym yn disgwyl i bobl ifanc 16 oed ddangos eu cyrhaeddiad.

Sut ydyn ni'n mesur llwyddiant mewn dysgu? Beth ydym am i'n pobl ifanc ei wybod erbyn iddyn nhw adael yr ysgol? Beth ddylen nhw allu ei wneud? Sut allwn roi'r cyfle gorau i ddysgwyr Cymru lwyddo? Ni all cymwysterau ateb yr holl gwestiynau hyn. Yn wir, ddylen ni ddim gofyn iddyn nhw wneud hynny – dim ond rhan o brofiad addysgol rhywun all cymwysterau fod ac ni ddylid eu hystyried yn lle cwricwlwm crwn a phrofiad addysgol eang.

Fodd bynnag, rydym wedi lansio ein hymgynghoriad cyntaf i ddechrau chwilio am atebion i rai o'r cwestiynau hyn, gan gynnig egwyddorion allweddol i'n helpu i lunio'r dyfodol. Rydym hefyd yn holi am ddiben, dewis a sut mae sgiliau'n cyd-fynd â'r agenda addysg newydd hon. Dyma un o'r cwestiynau rydym yn eu profi drwy'r ymgynghoriad hwn: a ddylem barhau i alw cymwysterau newydd a gynlluniwyd ar gyfer y cwricwlwm newydd yn TGAU?

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi cwestiynu rôl cymwysterau yn 16 oed yn ddiweddar, gyda chyhoeddi'r adroddiad Addysg Addas i'r Dyfodol yng Nghymru mewn cydweithrediad â'r Athro Calvin Jones. Roedd y penawdau’n canolbwyntio ar alwad i ddileu TGAU a symud i ffwrdd o obsesiwn gydag arholiadau. Mae'n her amlwg i'r status quo ac yn ddadl iach i'w chael.

Heb amheuaeth, TGAU yw'r cymhwyster y mae pobl ifanc 16 oed yng Nghymru yn ei adnabod heddiw. Rydym yn gwybod o'n gwaith yn mesur hyder y cyhoedd bod TGAU yn fesur cadarn, y gellir ymddiried ynddynt a'u deall. Oherwydd hynny, maent yn teithio'n dda er gwaethaf gwahaniaethau nodedig ar draws awdurdodaethau a gyflwynwyd dros y blynyddoedd diwethaf.

Gan roi brand o'r neilltu am ennyd, cwestiwn arall y mae pobl yn ei ofyn yw pam mae angen cymwysterau arnom yn 16 oed o gwbl? Mae'n gwestiwn teg. Mae arweinwyr meddwl sy'n cwestiynu a yw 16 oed yn rhy ifanc i brofi pwysau arholiadau, ac a oes ar bobl wir angen cymwysterau yr oedran hwnnw?

Credaf fod angen cymwysterau yn 16 oed o hyd. Mae addysg yng Nghymru yn orfodol hyd at yr oedran hwnnw, yn wahanol i Loegr lle mae addysg yn orfodol hyd at 18 oed. Er bod y rhan fwyaf o bobl ifanc 16 oed yn dewis parhau â'u haddysg, nid yw pob un yn gwneud hynny. Hyd yn oed ymhlith y rhai sy'n gwneud hynny, ni fydd pob un yn cyflawni ymhellach. Felly, mae'n hanfodol bod gan bawb sy'n mynd drwy addysg ffordd o ddangos yr hyn y maent yn ei wybod a'r hyn y gallant ei wneud.

Mae rhai arweinwyr meddwl hefyd yn rhagweld y bydd pobl yn newid gyrfa lawer gwaith yn yr economi yn y dyfodol, yn wir mae pobl wedi gwneud hynny ers blynyddoedd lawer eisoes. Yn fy marn i, mae hyn yn gwneud cofnod cyffredinol o gyrhaeddiad yn bwysicach fyth yn 16 oed gan fod y cymwysterau a enillir ar ôl yr oedran hwn yn mynd i fod yn fwy penodol ac efallai na fydd yn galluogi pontio rhwng gyrfaoedd yn nes ymlaen yn eu bywydau.

A yw arholiadau TGAU heddiw yn addas ar gyfer yfory? Byddai rhai'n dadlau nad ydynt yn addas o gwbl. Ond mae perygl o golli'r pwynt yma. Mae'n anochel mai oes silff gyfyngedig sydd i gymwysterau, felly mae angen eu diwygio dros gyfnod o amser er mwyn bod yn berthnasol. Ond nid yw hynny'n golygu dweud eich bod yn cael gwared ar yr enw – gallant esblygu ond parhau i fod â’r un teitl o hyd.

Wrth inni edrych ar y ffordd orau o ddatblygu ein cymwysterau heddiw, byddwn yn edrych y tu hwnt i'r manylion technegol. Mewn byd lle mae'r hyn y gall pobl ei wneud yr un mor bwysig â'r hyn a wyddant, byddwn yn defnyddio lens sgiliau ar gyfer cymwysterau lle y gallwn. Rydym eisoes yn gwneud hyn ar gyfer TGAU diwygiedig mewn meysydd pwysig y 'byd go iawn' fel technoleg ddigidol a'r amgylchedd adeiledig, a gallwn weld glasbrint defnyddiol a allai weithio ar gyfer cymwysterau eraill.

Os ydym am i'n pobl ifanc gael y cyfle gorau mewn bywyd wrth iddynt groesi i fyd oedolion, rhaid inni wneud popeth a allwn i sicrhau bod y ddarpariaeth yn 16 oed y gorau posibl. Wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer Cymru, gan ysbrydoli uchelgais a pharch y tu hwnt i'n ffin genedlaethol.

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn gyfle rhy dda i'w golli ar gyfer cymwysterau. Mae arnom angen i bobl Cymru ddefnyddio ein hymgynghoriad i'n helpu i lunio'r dyfodol.

Mae ymgynghoriad ar-lein Cymwysterau Cymru Cymwys ar gyfer y Dyfodol ar agor tan 5pm ar 7 Chwefror.

 

 

 

Philip Blaker

Philip Blaker yw Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, y corff sy'n rheoleiddio cymwysterau, ac eithrio graddau, yng Nghymru.

Nick Hudd: Ymateb y Sector Ieuenctid i’r Agenda Ddigartrefedd yng Nghymru

NHudd

Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei huchelgais fentrus i roi terfyn ar ddigartrefedd ieuenctid yng Nghymru erbyn 2027, gan ddyrannu £10 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi'r nod, mae'r sector gwaith ieuenctid, y gellid dadlau iddo gael ei ddal allan gan ei rôl amlwg ac annisgwyl, wedi bod yn gorfod dal i fyny. Mae'n cymryd amser i ddiffinio'r diben penodol, deall sut mae'r agenda newydd hon yn cyd-fynd â rhaglenni gwaith eraill sydd wedi bwrw eu gwreiddiau, asesu adnoddau a recriwtio staff. Er bod rhai pobl yn feirniadol o lefel yr ymgysylltu rhwng y llywodraeth a'r sector cyn hyn, mae pwyslais ar yr elfennau hyn yn hytrach nag ar y dasg sydd ohoni'n tynnu'r llygad yn ddiangen oddi ar y bêl ac yn peri oedi yn y newid o fod yn ymatebol i fod yn rhagweithiol.   Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar y rôl gadarnhaol y gall y sector ei chwarae wrth helpu i fynd i'r afael â'r mater ac yn ystyried rhai o'r heriau sy'n peri rhwystrau mawr. Fodd bynnag, cyn symud ymlaen, rwy'n teimlo'i bod yn bwysig i mi ddatgan diddordeb; wedi bod yn ymarferydd ieuenctid a chymunedol sydd wedi cymhwyso'n broffesiynol dros y 16 mlynedd diwethaf, rwyf wedi symud yn ddiweddar i Dîm Digartrefedd Ieuenctid sydd newydd ei sefydlu, ac sy'n rhan o Wasanaeth Ieuenctid yr un awdurdod lleol. Wedi gweithio bellach yn y rôl hon ers 5 mis, rwy'n teimlo fy mod i'n ddigon gwybodus i gyfrannu at drafodaeth helaethach yn ymwneud â'r agenda benodol hon ac yn ddigon profiadol i fyfyrio am bersbectif ehangach. Am y rheswm hwn rwy'n defnyddio ymadroddion fel 'ni', 'ein', 'ein dull gweithredu’ drwy'r erthygl hon, a does gen i ddim cywilydd gwneud hynny.

Mae pobl yn y maes gwaith ieuenctid a meysydd proffesiynol eraill fel ei gilydd a allai fod yn cwestiynu pam mae'r sector ieuenctid wedi cael cynnig rôl mor amlwg wrth helpu i fynd i'r afael â'r agenda benodol hon. Gydag adrannau tai awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac elusennau digartrefedd penodedig yn cyflogi ymarferwyr cymwys sy'n hynod brofiadol yn y materion cysylltiedig a'r ddeddfwriaeth berthnasol, pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud y peth syml o roi'r holl arian ychwanegol i'r sefydliadau hyn? Er mwyn ateb hyn, mae'n bosibl y byddai’n fuddiol archwilio'r hyn mae'r sector gwaith ieuenctid yn ei gynnig nad yw'r lleill yn ei gynnig, gan roi cyd-destun yn y lle cyntaf i hynny gyda sylw cychwynnol; nid yw'r cyllid ychwanegol yn peri unrhyw gost i'r sefydliadau hyn na'r gwasanaethau maent yn eu darparu. Mae Llamau (2019) yn nodi ystod o resymau sy'n gallu arwain at y posibilrwydd y daw person ifanc yn ddigartref, gan gynnwys; plentyndod difreintiedig neu Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs); y ffaith bod yr unigolyn mewn gofal; perthynas deuluol yn chwalu; anawsterau iechyd meddwl; troseddu ieuenctid; pobl ifanc LGBTQ+; eithrio o'r ysgol a diffyg cyfleoedd cyflogaeth. Mae'r sector ieuenctid yn fedrus iawn am roi cymorth i bobl ifanc sy'n cael profiad o faterion o'r fath. Mae hyn yn elfen allweddol; am fod y rhesymau dros ddigartrefedd yn gymhleth, yn rhyng-gysylltiedig ac yn aml yn dechrau'n gynnar mewn bywyd, mae'n gwneud synnwyr mabwysiadu strategaeth hir dymor o ymyrraeth gynnar a chamau atal. Mae hyn yn un elfen yn unig o’r hyn mae'r sector ieuenctid yn ei darparu; ymgysylltu yn yr hirdymor â phobl ifanc rhwng 11-25 oed, a’u cefnogi i gymryd y cam i fod yn oedolion. Mae hyn oll wedi'i seilio ar sefydlu perthynas o ymddiriedaeth rhwng y gweithiwr a'r person ifanc. Bydd y rhai hynny yn y sector sy'n poeni i weld cam i ffwrdd o waith ieuenctid yn ei ffurfiau mwy traddodiadol yn cydnabod y dull gweithredu hwn fel continwwm o'r fethodoleg a ddefnyddiwyd gennym erioed; datblygu a defnyddio'n perthnasau o ymddiriedaeth gyda phobl ifanc, cynnig cymorth, cefnogaeth ac arweiniad gwybodus, cyfeirio at asiantaethau eraill lle y bo'n briodol a gweithredu fel gwasanaeth atgyfeirio i eraill. Nid achos o 'naill ai/neu' mohono, felly; mae'r asiantaethau, y sefydliadau a'r gwasanaethau hynny y cyfeiriwyd atynt ynghynt, sy'n meddu ar arbenigedd penodol ym maes tai a digartrefedd, yn parhau i fod ar flaen yr agenda. Serch hynny, dim ond gwella'r deilliannau i bobl ifanc wnaiff cydweithio, defnyddio'r perthnasau sydd gan weithwyr ieuenctid a phobl ifanc i gynyddu ymgysylltu, dealltwriaeth a chapasiti.

Yn sgil archwilio achosion digartrefedd ieuenctid fel y soniwyd amdanynt yn flaenorol yn agosach, awgrymir bod angen cynnwys llu o unigolion, asiantaethau, sefydliadau a gwasanaethau i ddod o hyd i atebion, sef ymateb gan y gymuned gyfan; mae'r rhain yn deimladau ac yn derminoleg a ategir gan Homeless.org.uk (2019) wrth nodi camau gweithredu effeithiol i roi terfyn ar ddigartrefedd.   Fel ymarferwyr, mae gweithiwyr ieuenctid a chymunedol yn fedrus iawn unwaith eto am fapio a defnyddio asedau cymunedol, mynd i'r afael â diffygion a hyrwyddo cydweithio. Mae In Defence of Youth Work (2019) yn ymhelaethu ar y pwyntiau hyn ac yn myfyrio am y ffaith bod y sector ieuenctid, er gwaethaf mewnbwn ariannol isel, wedi cynhyrchu gwerth o leiaf £10 o amser gwirfoddol yn cyflawni gwaith cymunedol lleol am bob £1 a wariwyd ar y sector. Mae'r ddogfen hefyd yn myfyrio am y budd ychwanegol o ran costau a deimlir gan wasanaethau eraill, boed y rheiny ym maes iechyd meddwl neu gyfiawnder troseddol. Gallai hyn hefyd gynnwys y sector tai.   Dylai'r sector gwaith ieuenctid gydnabod a hyrwyddo'r ffaith bod gennym y sgiliau, y profiad a'r cyfalaf cymdeithasol a fydd yn sicrhau, o'u defnyddio'n gywir, bod y £10 miliwn o arian ychwanegol yn prynu mwy drwy ddefnyddio'n methodoleg datblygu cymunedol.

Gan droi nôl at bryderon y rhai hynny yn y sector sy'n teimlo bod gwyro i ffwrdd o ffurfiau gwaith ieuenctid mwy traddodiadol ar droed, awgrymaf fod yr agenda hon yn caniatáu i ni, ymarferwyr gwaith ieuenctid, ymarfer ein sgiliau a'n profiad mewn ffordd sy'n gallu cael effaith go iawn. Mae Gwaith ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion (YWWRG: 2018) yn nodi bod gwaith ieuenctid

“ ...yn darparu ffordd rymus o ymgysylltu â phobl ifanc a gwrando arnynt. Yng Nghymru, mae ‘Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2011’ yn cryfhau a meithrin dull seiliedig ar hawliau Llywodraeth Cymru o lunio polisïau ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i’r hawliau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wrth wneud penderfyniadau am bolisïau neu ddeddfwriaeth newydd neu wrth adolygu neu newid polisïau sy’n bodoli’n barod.”

Boed mewn perthynas â'r sefydliad gwleidyddol, neu'r asiantaethau, y sefydliadau a'r unigolion y cyfeirir atynt uchod, mae gan y sector gwaith ieuenctid rôl bwysig i'w chwarae wrth sicrhau bod pobl ifanc nid yn unig yn ymwybodol ac yn wybodus am eu hawliau, ond eu bod hefyd yn meddu ar y mecanweithiau a'r sgiliau, ac yn cael y cyfleoedd i'w rhoi ar waith. Mae gennym rôl i'w chwarae hefyd wrth sicrhau bod y partneriaid hyn sy'n rhanddeiliaid yn ymwybodol o hawliau o'r fath. Hyd nes bod pob parti'n meddu ar lefel ddigonol o wybodaeth a dealltwriaeth, gall y sector gwaith ieuenctid wneud defnydd o elfen allweddol arall o'n gwaith; sef eirioli ar ran y bobl hynny rydym yn ceisio'u cynorthwyo.

Mae'n amlwg bod rhai pobl yn bryderus am symud i faes ymarfer sy'n ymddangos yn newydd, sydd i weld yn symud i ffwrdd o waith ieuenctid yn ei ffurfiau traddodiadol, ac sy'n haeddu lefel o arbenigedd sy'n mynd y tu hwnt i'r set sgiliau sydd wedi'i sefydlu. I'r bobl hyn, hoffwn eich atgoffa mai dull gweithredu, methodoleg, ethos yw gwaith ieuenctid. Mae ein dull gweithredu yr un peth, ac mae wedi'i seilio ar y perthnasau sy’n bodoli rhwng gweithwyr a phobl ifanc. Er bod y problemau a'r anawsterau mae pobl ifanc yn eu hwynebu'n newid, mae'r ffyrdd mae'r sector yn mynd i'r afael â nhw yn aros yr un peth. Mae’n rhaid i ni wrthod y demtasiwn i ailddyfeisio'n hunain a herio'r camenw mai agenda 'newydd' yw hon. Os yw'r sefydliad gwleidyddol yn gallu ymddiried yr holl arian ychwanegol yma yn nwylo'r sector, mae hynny'n awgrymu eu bod yn credu y gall gael effaith go iawn ar helpu i fynd i'r afael â'r mater. Am sector sy'n helpu pobl ifanc i gynyddu eu hunan-effeithiolrwydd, mae angen, o bosib, i ni gredu yn ein galluoedd ein hunain ein hunain.

 

Nick Hudd

Uwch Ymarferwr Gwaith Ieuenctid i Gyngor Sir Benfro yw Nick Hudd sydd wedi gweithio fel gweithiwr ieunctid amser llawn i sefydliadau statudol a gwirfoddol dros y 16 mlynedd diwethaf. Mae Nick yn weithiwr ieuenctid sydd â chymhwyster a gyndnabyddir gan JNC yn ogystal â BA (Anrhydedd) Gwaith Ieuenctid a Chymuned gan PCDDS.