Ar hyn o bryd, mae gan y Cyngor 14 o aelodau, gan gynnwys y Cadeirydd. Mae'r aelodau'n cynrychioli ystod o ddiddordebau'r gweithlu addysg yng Nghymru.
Penodir saith aelod yn uniongyrchol drwy broses penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru, a phenodir saith aelod yn dilyn enwebiadau a wnaed gan sefydliadau a enwir yn Atodlen 2 o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014.
Cychwynnodd y Cyngor presennol ar eu swyddi ar 1 Ebrill 2019.