Rydym wedi ein hymrwymo i ddarparu'r safonau uchaf o wasanaeth ar gyfer ein cofrestreion, rhanddeiliaid, a'r cyhoedd. Ymdrechwn i ddarparu proses hygyrch a thryloyw ar gyfer archwilio cwynion am ein gwasanaeth ac yn anelu at ymateb i achwynwyr cyn gynted ag sy'n bosibl.
Rydym yn croesawu eich adborth, gan ei fod yn ein helpu i wella ein gwasanaeth ac i sicrhau na fydd problemau'n codi eto yn y dyfodol.
Sut ydw i'n rhoi adborth?
Os hoffech roi adborth ar unrhyw un o'n gwasanaethau, a fyddech cystal ag e-bostio Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg neu'r Saesneg.
Yr iaith Gymraeg
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn cynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog ac mae'n ddarostyngedig i Safonau'r Gymraeg. Gallwch ddarllen copi o'r safonau yma .
Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ar ein darpariaeth ddwyieithog a'n gwasanaethau Cymraeg. Gallwch roi adborth i ni yma neu drwy e-bostio Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Anhapus?
Rydym yn delio â phob cwyn yn ddifrifol ac yn anelu at ymateb i unrhyw adborth cyn gynted â phosibl.
Gallwch ddarllen mwy am y math o gwynion y byddwn yn eu hystyried, sut i gwyno a'n prosesau yn ein dogfen safonau gwasanaeth .
Priodoldeb i ymarfer
Os hoffech wneud cwyn ynghylch priodoldeb i ymarfer, dylech ddarllen canllaw cwynion priodoldeb i ymarfer yn gyntaf. Mae’n gosod pryd, a sut gallwch wneud cwyn o ran ein prosesau priodoldeb i ymarfer.