Mae Llywodraeth Cymru yn gosod targedau derbyn blynyddol ar gyfer recriwtio myfyrwyr i raglenni AGA cynradd ac uwchradd yng Nghymru. Mae’r targedau hyn yn ystyried y galw amcangyfrifedig am athrawon newydd yng Nghymru.
Gan ddefnyddio’r targedau cyffredinol ar gyfer rhaglenni AGA cynradd ac uwchradd, mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn neilltuo targedau derbyn i bob Partneriaeth.
Yn ogystal â gwahaniaethu rhwng targedau ar gyfer rhaglenni AGA cynradd ac uwchradd, rhennir targedau ymhellach yn niferoedd israddedig a TAR. O fewn y targedau uwchradd, mae targedau penodol ar gyfer pob pwnc.
Wrth neilltuo targedau i Bartneriaethau, mae CGA yn ystyried ffactorau fel:
- y tebygolrwydd y bydd y rhaglen yn gallu denu digon o fyfyrwyr o safon uchel i gyflawni ei rhifau targed
- cynaliadwyedd y rhaglen
- polisi a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
- y targedau derbyn cenedlaethol ar gyfer AGA a’r dadansoddiad o’r galw rhanbarthol
- ystyried data recriwtio ar gyfer y partneriaethau
- maint y garfan fel ei bod yn hyfyw ac i sicrhau profiad y myfyriwr.
Mae’r targedau derbyn ar gyfer rhaglen AGA y'n 2020-21 i’w gweld yma:
Targedau Derbyn AGA Cynradd 2020-21
Targedau Derbyn AGA Uwchradd 2020-21
Mae’r targedau derbyn ar gyfer rhaglen AGA y'n 2019-201 i’w gweld yma: