Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn addysgu yng Nghymru, o fis Medi 2019 bydd angen i chi gael statws addysgu cymwysedig (SAC) trwy astudio ar raglen addysg gychwynnol athrawon (AGA), wedi'i achredu gennym trwy ein Bwrdd Achredu AGA.
Mae rhaglenni AGA yn darparu addysg a datblygiad proffesiynol athrawon dan hyfforddiant, yn eu paratoi ar gyfer gwaith mewn ysgolion yng Nghymru ac yn gosod sylfaen ar gyfer dysgu proffesiynol yn yr hirdymor. Mae'r rhaglenni hyn yn seiliedig ar ddysgu sydd yn gwbl ymarferol ac yn ddeallusol heriol ar yr un pryd ac yn ceisio sicrhau bod athrawon wedi eu hymrwymo i ragoriaeth, proffesiynoldeb ac addysgu o ansawdd uchel.
Dysgwch bwy sydd ynghlwm â phartneriaethau sy'n cynnal rhaglenni AGA yng Nghymru.
Rhaglenni sydd ar gael o 2019/20
Gweler isod rhestr o'r rhaglenni AGA achrededig sy'n cael eu cynnig gan bartneriaethau yng Nghymru o Fedi 2019.
Cynradd – Israddedig
Enw'r bartneriaeth | Teitl y rhaglen | Dyddiad dod i ben yr achrediad |
Partneriaeth Caerdydd | BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC | Awst 2024 |
Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol | BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC | Awst 2024 |
Cynradd - Ôlraddedig
Enw'r bartneriaeth | Teitl y rhaglen | Dyddiad dod i ben yr achrediad |
Partneriaeth AGA Aberystwyth | TAR | Awst 2024 |
Partneriaeth Caerdydd | TAR: Cynradd | Awst 2024 |
Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol | TAR gyda SAC | Awst 2024 |
Uwchradd - Ôlraddedig
Enw'r bartneriaeth | Teitl y rhaglen | Dyddiad dod i ben yr achrediad |
Partneriaeth AGA Aberystwyth | TAR | Awst 2024 |
Partneriaeth Caerdydd | TAR: Uwchradd | Awst 2024 |
Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol | TAR gyda SAC | Awst 2024 |
Rhaglenni sydd ar gael o 2020/21
Amlinellir isod restr o'r rhaglenni achrededig a gynigir gan Bartneriaethau yng Nghymru o Fedi 2020.
Cynradd – Israddedig
Enw'r bartneriaeth | Teitl y rhaglen | Dyddiad dod i ben yr achrediad |
Partneriaeth AGA Prifysgol De Cymru | BA (Anrh) AGA Cynradd gyda SAC | Awst 2025 |
Uwchradd - Ôlraddedig
Enw'r bartneriaeth | Teitl y rhaglen | Dyddiad dod i ben yr achrediad |
Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe | TAR Uwchradd | Awst 2025 |
Llwybrau Amgen
Enw'r bartneriaeth | Teitl y rhaglen | Dyddiad dod i ben yr achrediad |
Partneriaeth y Brifysgol Agored | TAR (Rhan amser) cynradd ac uwchradd | Mawrth 2025 |
Partneriaeth y Brifysgol Agored | TAR (llwybr â chyflog) cynradd ac uwchradd | Mawrth 2025 |
Rhaglenni sydd ar gael o 2021/22
Cynradd – Israddedig
Enw'r bartneriaeth | Teitl y rhaglen | Dyddiad dod i ben yr achrediad |
Partneriaeth Gogledd Cymru CaBan Bangor | BA Cynradd | Awst 2026 |
Cynradd –Ôlraddedig
Enw'r bartneriaeth | Teitl y rhaglen | Dyddiad dod i ben yr achrediad |
Partneriaeth Gogledd Cymru CaBan Bangor | TAR Cynradd | Awst 2026 |
Uwchradd - Ôlraddedig
Enw'r bartneriaeth | Teitl y rhaglen | Dyddiad dod i ben yr achrediad |
Partneriaeth Gogledd Cymru CaBan Bangor | TAR Uwchradd | Awst 2026 |
Rhaglenni sydd ar gael o 2022/23
Cynradd –Ôlraddedig
Enw'r bartneriaeth | Teitl y rhaglen | Dyddiad dod i ben yr achrediad |
Partneriaeth AGA Prifysgol De Cymru | TAR AGA Cynradd gyda SAC* | Awst 2027 |
Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe | TAR Cynradd* | Awst 2027 |
*mae achrediad yn ddarostyngedig i amodau
Monitro rhaglenni AGA
Mae holl raglenni AGA a gynigir gan bartneriaethau yng Nghymru yn cael eu hasesu, gwerthuso a monitro yn erbyn meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru.
Mae’r canllawiau monitro a ddarparwyd i bartneriaethau gan y CGA yn amlinellu’r dull a ddefnyddiwyd cyn, yn ystod, ac ar ôl unrhyw weithgarwch monitro.
Mae Estyn wedi arolygu’r holl ddarpariaeth AGA yng Nghymru yn ddiweddar o dan y trefniadau achredu blaenorol. Gellir gweld adroddiadau ar yr arolygiadau hynny ar wefan Estyn. Bydd rhaglenni AGA sy’n dechrau ym mis Medi 2019 yn cael eu monitro gan y Bwrdd Achredu AGA a’u harolygu gan Estyn.