Mae Llywodraeth Cymru yn gosod dyhead cenedlaethol o ran derbyn recriwtio myfyrwyr i raglenni AGA cynradd ac uwchradd yng Nghymru. Mae hyn yn ystyried y galw amcangyfrifedig am athrawon newydd yng Nghymru. Mae’n ddisgwyliad gan Lywodraeth Cymru i bartneriaethau AGA weithio tuag at sicrhau bod 30% o'r myfyrwyr a dderbynnir yn paratoi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gan ddefnyddio’r dyhead cenedlaethol cyffredinol ar gyfer rhaglenni AGA cynradd ac uwchradd, mae CGA yn neilltuo targedau derbyn i bob partneriaeth.
Yn ogystal â gwahaniaethu rhwng y dyraniadau ar gyfer rhaglenni AGA cynradd ac uwchradd, rhennir dyraniadau ymhellach yn niferoedd israddedig a TAR. O fewn y dyraniadau uwchradd, mae dyraniadau penodol ar gyfer pob pwnc.
Wrth neilltuo dyraniadau i bartneriaethau, rydym yn ystyried ffactorau fel:
- y tebygolrwydd y bydd y rhaglen yn gallu denu digon o fyfyrwyr o safon uchel i gyflawni ei rhifau dyranedig
- cynaliadwyedd y rhaglen
- polisi a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
- y dyhead cenedlaethol a’r dadansoddiad o’r galw rhanbarthol
- ystyried data recriwtio ar gyfer y partneriaethau
- maint y garfan fel ei bod yn hyfyw ac i sicrhau profiad y myfyriwr
Dyraniadau derbyn cynradd ac uwchradd 2023-24
Mae'r dyraniadau ar gyfer 2022-23 i’w gweld yma:
Dyraniadau Derbyn Cynradd 2022-23
Dyraniadau Derbyn Uwchradd 2022-23
Mae'r dyraniadau ar gyfer 2021-22 i’w gweld yma:
Dyraniadau Derbyn Cynradd 2021-22
Dyraniadau Derbyn Uwchradd 2021-22
Mae’r dyraniadau ar gyfer 2020-21 i’w gweld yma: