Cyn ymgeisio
Mae'n rhaid i holl raglenni sy’n cael eu cyflwyno am achrediad fodloni meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru. Fodd bynnag, cyn iddynt ymgeisio, efallai y bydd partneriaethau eisiau cyflwyno ffurflen mynegiant o ddiddordeb i’r Bwrdd Achredu AGA.
Mae'n rhaid holl raglenni gael eu cymeradwyo gan brifysgol cyn iddynt gael eu cyflwyno.
Mae'n rhaid cyflwyno’r pro fforma ar gyfer cyflwyno rhaglenni AGA ar gyfer pob rhaglen sy’n cael ei chyflwyno am achrediad.
Pryd i ymgeisio
Dylai partneriaethau sicrhau bod unrhyw raglenni AGA newydd yn cael eu cyflwyno o leiaf 18 mis cyn eu dyddiad dechrau arfaethedig gan ddefnyddio'r pro fforma angenrheidol. Ee. dylid cyflwyno rhaglenni sy’n dechrau ym Medi 2022 erbyn Mawrth 2021.
Y broses achredu
Mae ein proses fewnol ar gyfer achredu rhaglenni AGA fel a ganlyn.
Achredu: cam wrth gam
Cam 1 – Asesiad bwrdd gwaith
Mae’r Pwyllgor Achredu, yn unigol ac ar y cyd, yn cynnal adolygiad cychwynnol o’r cais.
Cam 2 – Ymweliadau safle
Mae’r ymweliadau safle’n rhoi cyfle i’r Pwyllgor:
- siarad â’r staff sy’n gysylltiedig â’r rhaglen
- mynd am dro o gwmpas cyfleusterau’r bartneriaeth (Sefydliad Addysg Uwch (SAU) a’r ysgolion partner)
- adolygu dogfennau sy’n gysylltiedig â’r rhaglen
Cam 3 – Cyfarfod achredu rhaglen
Diben y cyfarfod achredu rhaglen yw i’r Pwyllgor Achredu ganfod tystiolaeth ychwanegol i gefnogi’r honiadau a wneir yng nghais y bartneriaeth.
Fel arfer, mae’r cyfarfod yn cynnwys dwy elfen: cyflwyniadau gan dîm y bartneriaeth ac yna cyfleoedd am ddeialog proffesiynol rhwng y tîm a’r Pwyllgor.
Mae dyddiad y cyfarfod yn cael ei drefnu mor agos i’r ymweliad safle â phosibl.
Cam 4 – Hysbysiad am y canlyniad
Bydd partneriaethau AGA yn derbyn llythyr sy’n eu hysbysu am ganlyniad eu hasesiad o fewn 15 diwrnod gwaith wedi i’r Pwyllgor wneud ei benderfyniad.
Am wybodaeth bellach darllenwch y canllawiau ar gyfer cyflwyno rhaglen .
Gwneud newidiadau i raglen
Os dymuna bartnerniaeth wneud newidiadau sylweddol i ragleni achrededig, mae'n rhaid iddi ein hysbysu'n ysgrifenedig. Mae'n rhaid iddynt ddefnyddio'r pro fforma newid mawr i raglen AGA.
Dysgwch fwy am wneud newidiadau mawr i raglen .
Ffioedd achredu
Rhaid i unrhyw Bartneriaeth sy'n cyflwyno rhaglen ar gyfer achredu, neu sydd â rhaglen achrededig sy'n gofyn am ymweliad adolygu neu fonitro, dalu'r ffi briodol i ni.
Darllenwch ein polisi ffioedd achredu .